Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Cyng. Elin Hywel (Gwynedd), Clare Britton (Rheilffordd Ffestiniog), David Crunkhorn (Trenau Arriva Cymru), Lorraine Simkiss (Rheilffordd Tal-y-llyn) a Clare Williams (Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian) 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 134 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1af o Ragfyr 2023 fel rhai cywir

 

5.

CYMDEITHAS CYNGHORAU LLEOL GOGLEDD A CHANOLBARTH CYMRU NODIADAU CYFARFOD A GYNHALIWYD 17eg TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 166 KB

 

 

Er gwybodaeth, cofnodion yn cynnwys arolwg mis Awst o'n gwasanaethau trên lleol

(Saesneg yn unig)

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod a gynhaliwyd 17 Tachwedd 2023. Mynegodd y Cyng. Trevor Roberts (Cynrychiolydd Pwyllgor Rheilffordd Amwythig/Aberystwyth) bod arolwg o wasanaethau wedi ei gwblhau lle canmolwyd staff lleol sydd yn gwasanaethu’r daith rhwng Pwllheli a Machynlleth - cyfeiriwyd yn benodol at enghreifftiau o benderfyniadau lleol yn cael eu gwneud gan bobl leol yn hytrach na gorfod aros am benderfyniad o Gaerdydd. Ategwyd bod gwersi wedi eu dysgu yma.

 

Nodwyd unwaith eto bod diffyg lle ar y trenau

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chymryd rhan yn yr arolwg, nodwyd mai gwirfoddolwyr sydd yn cynnal yr arolwg a bod bwriad cynnal un arall yn fuan. Cyng Trevor Roberts i rannu’r dyddiad gyda LHE

 

6.

DIWEDDARIAD GAN GYNRYCHIOLWYR

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr

 

·        Priffyrdd, Peirianneg a YGC

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

·        Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

Cofnod:

PRIFFYRDD, PEIRIANNEG a YGC (Cyngor Gwynedd)

Diweddariad o sefyllfa ffordd y clogwyn ar y A493 ger Y Friog.

 

Derbyniwyd ymddiehuriadau gan Mr Steffan Jones (Pennaeth Priffyrdd, Peirianeg a YGC) nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod gan na fu i’r ddolen Zoom weithio iddo ac felly yn methu rhoi diweddariad ar lafar i aelodau’r Pwyllgor. Ategodd mewn ebost i’r Cadeirydd y byddai yn rhannu adroddiad o’r sefyllfa gyda’r Aelodau.

 

Mynegwyd siom nad oedd Steffan Jones yn gallu mynychu’r cyfarfod a bod diffyg symud ymlaen ar y sefyllfa. Nodwyd:

 

·         Bod rhaid datrys y sefyllfa

·         Bod rhaid datrys perchnogaeth yr ased a chydweithio i symud ymlaen

·         Bod y ffordd yn un dosbarth A - yn ffordd brysur, gysylltiol

·         Bod rhan o’r wal wedi ei diddymu – angen datrys y rhwystr

·         Bod digon o addewidion ond dim newid

·         Bod Network Rail yn adrodd nad oeddynt wedi derbyn ymateb i lythyrau a anfonwyd i'r’ Cyngor

 

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Charlotte Harries (Rheolwyr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod. Mynegodd bod y gwasanaeth yn parhau i weithio i wella profiadau teithwyr. Nid oedd diweddariadau penodol ar waith rhwng Machynlleth a Pwllheli, ond cyfeiriwyd at welliannau i orsaf Y Drenewydd.

 

Diolchwyd am y diweddariad. Diolchwyd hefyd am y gwaith mae Network Rail yn ei wneud i sicrhau bod y cyswllt rheilffordd yn effeithiol i deithwyr.

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Croesawyd Gail Jones (Rheolwr Rhanddeiliaid (Canolbarth a Gogledd Cymru) i’r cyfarfod. Nododd bod canfyddiadau’r arolwg wedi eu cyflwyno i Trafnidiaeth Cymru a bod gwaith yn cael ei wneud i ymateb i’r canfyddiadau hynny. Ategodd bod yr arolwg yn darparu gwybodaeth werthfawr am brofiadau’r teithwyr ac yn unol â chais gan yr aelodau, cytunwyd bod modd rhannu gwybodaeth am y nifer teithwyr sydd yn defnyddio Rheilffordd Arfordir y Cambrian. GJ i rannu’r wybodaeth gyda LHE i’w ddosbarthu yn y cyfarfod nesaf. (Gwnaed sylw, wrth ddehongli’r wybodaeth, bydd angen ystyried bod y rheilffordd wedi cau am rai misoedd yn ystod y tair blynedd diwethaf tra bod gwaith yn cael ei wneud ar y draphont yn Abermaw).

 

Hysbyswyd yr aelodau bod Cyfarfod Grŵp Cyswllt Trafnidiaeth yn cael ei gynnal ym Mis Ebrill ac y byddai mwy o wybodaeth i ddilyn.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol.

·         Bod angen cadarnhad o ddefnydd trenau pedwar cerbyd ar y Cambrian i’r  dyfodol - ar hyn o bryd ymddengys mai dwywaith y diwrnod fydd y trenau hyn yn rhedeg ac yn ystod gwyliau’r haf yn unig - nid yw hyn yn ymateb i’r angen.

·         Bod cais am drenau pedwar cerbyd wedi ei gwneud ers sawl blwyddyn, ond dim byd yn digwydd. Er yr addewid am drenau newydd nid yw hyn yn golygu mwy o drenau. Er ceisio gwybodaeth / diweddariad am y sefyllfa, bod swyddogion yn newid yn rheolaidd – angen sicrhau un pwynt cyswllt.

·         Bod gormod o deithwyr yn gorfod sefyll ar y teithiau sydd o ganlyniad yn atal y casglwr ticedi rhag casglu arian. Hyn yn golled ariannol i’r gwasanaeth

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Swyddog Trafnidiaeth Cymru nad oedd trenau sbâr a’r  gael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 54 KB

 

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd.

 

Roger Goodhew (Cynrychiolydd Cymdeithas Teithwyr Amwythig -   Aberystwyth)

Cyngor Cymuned Llanbedr

Cyngor Tref Criccieth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyngor Tref Criccieth

 

Cwestiwn: A oes modd paentio stesion Criccieth? Mae Criccieth yn ei Blodau yn gweithio’n galed ar welliannau a chynnal y tiroedd yno a byddai’n hwb mawr cael cot o baent i’r stesion er mwyn gwella golwg a chroesawu defnyddwyr yno. Diolch yn fawr iawn am eich ystyriaeth. Diolch yn fawr iawn am gytuno i waredu’r graffiti ar y pontydd - ac am y gwaith gwych yn stesion Criccieth a hefyd torri’r tyfiant coed ger rhandiroedd Cae Crwn.

 

Ateb: Bod posib i Trafnidiaeth Cymru a Network Rail gydweithio fel un diwydiant i weithredu’r gwelliannau.

 

Cyngor Cymuned Llanbedr

 

Cwestiwn: Mae sôn wedi bod yn y Cyngor yn ddiweddar bod yna uwchraddio i fod cyn diwedd Mawrth ar y gysgodfan (shelter) ar Orsaf Talwrn Bach Llanbedr. Hoffwn gadarnhad a yw hyn yn wir?

 

Ateb: Bod gwaith yn cael ei wneud i ganfod ffynhonnell ariannu i gyflawni’r gwaith. Nodwyd nad oedd strwythur y platfform yn addas ar gyfer adeiladu cysgodfan newydd, ond bod gwaith yn cael ei wneud i adfer a pheintio’r gysgodfan bresennol.

 

Cwestiwn: A oes unrhyw ddatblygiad posib i leoli rhwystrau (barriers) ar y groesfan yma?

 

Ateb:  Network Rail i holi eu Tîm Croesfan Rheilffordd am wybodaeth ynglŷn â’r sefyllfa.

 

Cwestiwn: Parthed bin sbwriel.  A oes modd pwyso am hwn.  Gwn nad yw Cyngor Gwynedd wedi darparu bin baw cŵn ger y safle. Tybed a oes modd dod i gytundeb efo Cyngor Gwynedd i gasglu sbwriel oddi ar yr orsaf.

 

Ateb: Bod y bin sbwriel / bin baw cŵn yn fater i’r Cyngor. Trafnidiaeth Cymru yn gwrthod rhoi bin sbwriel yn Llanbedr oherwydd bod disgwyl i swyddogion y trên gasglu’r sbwriel (sydd yn cynnwys baw cŵn) – nid yw hyn yn sefyllfa ddelfrydol gan fod hyn yn creu drewdod ar y trên. Cais felly i’r Cyngor ddarparu bin baw cŵn yng Ngorsaf Llanbedr. LHE i gysylltu gydag adran berthnasol Cyngor Gwynedd

 

Cwestiwn: Hefyd pwyso ar gael yr hen enw TALWRN BACH yn ysgrifenedig ar yr arwydd (hynny yw o dan y gair Llanbedr)

 

Ateb: Derbyn yr awgrym - am geisio mwy o wybodaeth ynglŷn â’r posibilrwydd o ychwanegu enw ar yr arwydd

 

Gwnaed cais i sicrhau cysondeb mewn ymatebion ac y dylid cyfathrebu unrhyw faterion o bwys yn uniongyrchol i’r Clerc Cyngor Cymuned a’r Aelodau Lleol - Cyng Gwynfor Owen a’r Cyng Anwen Hughes.

 

Mr Roger Goodhew (Cynrychiolydd Cymdeithas Teithwyr Amwythig – Aberystwyth)

 

Cwestiwn: Pryd fydd depo Machynlleth yn cael digon o unedau i alluogi’r 06:45 Abermaw i Fachynlleth i weithredu a) heb ganslo’n aml, b) fel rhan drwodd i Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham

 

Ateb: Bod gwelliannau diweddar wedi eu gweithredu ac er nad oedd trenau sbâr a’r gael bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod digon o gerbydau ar gael i ymateb i’r angen.

 

Mewn ymateb, er derbyn bod y gwasanaeth wedi gwella yn ddiweddar rhaid  mynnu bod y trên cyntaf a’r trên olaf yn rhedeg – hyn yn hanfodol ar gyfer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.