Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd
E. Selwyn Griffiths yn Gadeirydd
y Pwyllgor am 2017-18. Manteisiodd y Cadeirydd
ar y cyfle i: (a)
Ddiolch i'r aelodau
am ei ethol y Gadeirydd. (b)
Llongyfarchodd yr
Arglwydd Dafydd Elis Thomas ar
ei benodiad diweddar yn Weinidog
Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru. (c)
Croesawodd Bedwyr Gwilym i'w gyfarfod cyntaf ar ran Aelod Seneddol
Dwyfor Meirionnydd. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd
Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd
y Pwyllgor hwn am 2017-18. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Gethin
Williams, Owain Williams (Cyngor
Gwynedd), Cyng Trevor Roberts (Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd
Amwythig-Aberystwyth), Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Yr Heddwas
Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Mrs Liz Saville Roberts (AS
Dwyfor/Meirionnydd), Cyng Freya Bentham (Parc Cenedlaethol Eryri), Mr Neil
Hamilton (AC Canolbarth a Gorllewin Cymru), Mr Stuart Williams (Rheilffordd
Talyllyn), Mr Aled Jones-Griffiths (Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor),
Ms Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Ms. Ann Elias
(GMW). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod
y gynhadledd a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.
|
|
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn adroddiad llafar gan Mr Sam Hadley, Network Rail. Cofnod: Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru a Mr George Collins i'r cyfarfod. Adroddodd Mr Hadley fel a ganlyn: (a) Dathliadau Pen-blwydd 150 Traphont Abermaw Bu'r dathliad uchod yn Abermaw
yn llwyddiant mawr. Roedd Mr Andy Thomas, Rheolwr Llwybrau Cymru, wedi cyfarfod
gyda'r Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a'r aelodau
sir a lleol yn ystod penwythnos y dathliadau. Nodwyd bod ymrwymiad i fuddsoddi yn
y bont uchod, i'w gwneud yn
hyfyw am y 150 mlynedd nesaf. (b) Blocâd afon Artro ·
Datblygwyd dull arloesol ar y cyd rhwng y dylunwyr,
contractwyr a pheirianwyr
Network Rail i uchafu'r allbwn yn ystod
y blocâd 10 diwrnod, gyda gwaith dros
dro yn codi'r
system a ddefnyddir ar bont afon Artro. Roedd y system yma'n golygu nad
oedd angen tynnu'r trac i
gyd. ·
Afon Wen - ymgymerwyd â gwaith
brys yma pan agorodd llyncdwll ar ôl stormydd
diweddar a defnyddiwyd 66 metr ciwbig o goncrid
wedi'i atgyfnerthu i gyflymu'r broses ac felly nid oedd angen
gosod 'mesh'.
Gwelwyd fod rhagor o niwed gerllaw gan storm a bydd Network Rail yn delio â hyn cyn
gynted â phosib. ·
Traphont Abermaw - newidwyd
y preniau hydredol ar y draphont and roedd yn braf
gweld unedau cyflenwi eraill yn defnyddio Blocâd
Artro i gynnal
y rhwydwaith. ·
Gwnaed gwaith i rwydo cerrig hefyd
yn ardal Aberdyfi, ac mae hyn yn mynd
rhagddo a'r bwriad yw atal
cau y lein yn ddi-rybudd yn
y dyfodol gan fod cerrig wedi
syrthio. (c) Penhelig Bydd Gorsaf Penhelig ynghau am dri mis o'r
3 Ionawr i ganiatau ymgymryd â gwaith sylweddol i adnewyddu'r platfform. Roedd llythyrau wedi eu hanfon i
drigolion lleol a chynhelir sesiwn galw heibio ym
mis Rhagfyr. Adroddwyd ymhellach
y byddai gwaith rhwydo cerrig yn
digwydd yn yr ardal leol.
Gwnaeth yr aelodau y sylwadau a ganlyn: (i)
I ateb
cwestiwn gan aelod lleol Aberdyfi
am fynd ag offer i ymgymryd â'r gwaith
ym Mhenhelig, addawodd Mr Hadley y byddai yn holi am y manylion
ac yn cysylltu gyda'r aelod efo'r
wybodaeth. (ii) Diolchwyd i beirianwyr/contractwyr
Network Rail am y gwaith wnaed
ar flocâd afon Artro, a nodwyd nad oeddent was amharu ar y trigolion
cyfagos. (iii) O ran y sefyllfa
y ddiweddaraf am osod rhwystrau yng nghroesfan Talwrn Bach, Llanbedr, dywedodd Mr Hadley bod y gwaith yma wedi ei
drefnu ar gyfer 2018. (iv) Ni roddwyd unrhyw ddiweddariad am Faes Parcio Gorsaf
Dyffryn Ardudwy ond addawodd Mr Hadley i gysylltu
â'r aelod lleol pan roedd gwybodaeth wedi dod i law. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Sam Hadley am ei adroddiad. |
|
ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF. I dderbyn adroddiad llafar gan gynrychiolydd o Trenau Arriva Cymru Cyf. Cofnod: Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies a Mr Lewis Bencher i'r cyfarfod. Roedd Ms Claire
Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian oedd newydd ei phenodi,
wedi ymddiheuro am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond roedd
wedi anfon adroddiad at Mr Davies ac fe wnaeth yntau ei gyflwyno fel a ganlyn: Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at weithgareddau cyn ac ar ôl penodiad
Claire. Cyn ymuno â byd Rheilffyrdd
Cymunedol, gweithiodd am bum mlynedd fel Swyddog Partneriaeth Cymunedol gyda
Chyngor Caerdydd ac roedd ei gwaith yn cynnwys holl agweddau Diogelwch
Cymunedol, Iechyd a Llesiant, Materion Amgylcheddol ac Addysg a Chyflogaeth ac
felly gyda chefndir mewn ymgysylltu cymunedol fe ddaw â chyfoeth o brofiad gyda
hi. Yn ystod y cyfnod byr yma roedd Claire wedi cyfarfod gyda nifer o
bartneriaid ariannu a strategol i gyflwyno ei hun ac i drafod sut y gellid
barhau i weithio ar y cyd i sicrhau nad yw'r gwaith yn cael ei ddyblygu a chael
y gwerth gorau i arian cyhoeddus. Masnachfraint Rheilffyrdd a chefnogaeth Llywodraeth
Cymru Yn ddiweddar, roedd
Ms Claire Williams wedi mynychu cyfarfod gyda Threnau Arriva Cymru ble
trafodwyd dyfodol Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a sut y byddant yn
ffitio i mewn gyda'r fasnachfraint nesaf a bydd yn cyfarfod KeolisAmey a MTR
Corporation (Cymru) Ltd yn yr
wythnosau nesaf. Arolygon Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn
falch o gael gweithio gyda Phwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth
gan gomisiynu arolwg a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2017 fel rhan o grant gan
Lywodraeth Cymru. Mae'r arolygon yn
dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r
Cambrian. Cyflwynir canlyniadau'r
arolwg i Gareth Evans, Economegydd Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru gan y Pwyllgor
ar Dachwedd 17eg 2017 mewn cyfarfod ym Mharc Cathays. Ymgyrch Hyrwyddo 201/2018 Derbyniodd y bartneriaeth arian ychwanegol
oedd yn caniatau iddynt baratoi gwefan newydd sbon yn canolbwyntio ar ymwelwyr
ac mae'r wefan bellach yn fyw, y cyfeiriad yw www.walesonrails.com gan gynhrychu mwy o ffilmiau byr fydd yn cael eu
rhyddhau yn Chwefror/Mawrth tan ddechrau'r haf eleni. Bydd yr ymgyrch wedi ei seilio yn
uniongyrchol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ar 'Flwyddyn y Môr 2018'. 2018 yw Blwyddyn y Môr ac ar y cyd gyda
Croeso Cymru, TAC and amryfal bartneriaid allweddol eraill cynhelir nifer o
ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn ystod y flwyddyn ar sail amrywiaeth o
themâu i bob tymor gyda'r holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ardal
Arfordir y Cambrian a rhai yn digwydd ar y trên. Bydd mwy o fanylion ar gael yn y cyfarfod
nesaf. Ychwanegodd Mr Ben
Davies y bydd Trenau Arriva Cymru yn gweithio'n agos mewn partneriaeth gyda
Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ac roeddent yn awyddus i gysylltu
cymunedau gyda'i gilydd gan hyrwyddo teithio ar y trên. Un digwyddiad a awgrymwyd oedd troi trên yn
garnifal yn ystod misoedd yr haf, cynnal cystadleuaeth adeiladu castell tywod
yng Nghricieth i ddenu mwy o bobl, gweithio mewn partneriaeth gyda Hafan y Môr
Pwllheli, Croeso Cymru, Rheilffordd Ffestiniog ac ati. Ail-agor Gorsaf Rhyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD SWYDDOG PARTNERIAETH RHEILFFORDD Y CAMBRIAN I gyflwyno Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian, ac i dderbyn diweddariad o weithgareddau hyd yma. Cofnod: Gweler eitem 8 uchod. |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 269 KB I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf: (i) Atodiad 1 - Cwestiwn gan Gymdeithas Teithwyr Amwythig/Aberystwyth (ii) Atodiad 2 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin (iii) Atodiad 3 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin (iv) Atodiad 4 – Cwestiwn gan Cyngor Tref Cricieth (v) Atodiad 5 – Llythyr a dderbyniwyd gan Cyngor Tref Porthmadog Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno
gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion ac atebwyd fel a ganlyn: (i) Fel noddwyr signalu ERTMS a ddefnyddir ar y Cambrian, mae'n ofynnol fod Network Rail yn pwyso ar
i bob cerbyd teithwyr sydd wedi
eu trawsnewid i gael eu
defnyddio ar y rheilffordd. Mae hyn yn golygu
bod Network Rail yn cymryd cyfrifoldeb nad oes cerbydau Dosbarth
158 ar y Cambrian.
Dylid un ai defnyddio'r cyfan o'r 24 uned Dosbarth
158 a'u dyrannu'n briodol neu fod
Network Rail yn ariannu trawsnewid cerbydau eraill i gwrdd
â'r galw. Wrth ateb, dywedodd Mr Sam Hadley ei fod wedi trafod
hyn gyda'r Cyng Trevor Roberts pan gyfarfu
ag ef yn Abermaw, mewn perthynas
â'r trên stêm. O safbwynt y mater ehangach, nid oedd
yn sicr pwy
oedd yn gyfrifol
am hyn. Roedd Llywodraeth y DU yn edrych i
ehangu gwella digidol. Aeth Mr Lewis Bencher yn ei flaen i
ddweud y lleiaf o ddefnydd oedd o'r
158 y tu allan i Lein y Cambrian, roedd mwy o bosibilrwydd
o'u defnyddio ar leiniau eraill. Roedd 24 (158 uned) allan o Fachynlleth
yn rif delfrydol
ac yn fflyd eithaf sylweddol. Roedd trafodaethau yn parhau gyda
Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd a dywedodd Mr
Hadley y byddai'n diweddaru'r
Pwyllgor hwn pan fyddai rhagor o wybodaeth wedi dod i
law. (ii) Rhwystrau diogelwch/wal derfyn - Prif
ffordd (A493) - rhwng Llwyngwril a'r Friog Dywedodd Mr Hadley yn dilyn y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor hwn roedd y mater yma wedi ei
godi gyda'r Rheolwr Asedau Llwybrau. Cynhaliwyd cyfarfod safle rhwng swyddogion
o Network Rail ac Ymgynghoriaeth Gwynedd ble cytunwyd y byddai Network Rail yn anfon cylch gwaith
i Dylan Davies, Uwch Beiriannydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd i ymgymryd â'r gwaith. Ar hyn o bryd nid oedd
unrhyw ddyddiad dechrau i'r gwaith,
ond addawodd Mr Hadley i roi gwybod
i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau. (iii) Diffyg goleuadau ym maes
parcio Gorsaf Llwyngwril Dywedodd Mr Hadley nad oedd Network Rail yn derbyn arian i
wneud gwelliannau ond roedd yn
falch o gael adrodd eu bod yn
edrych ar gynllun goleuo yn y maes parcio
gan fod cyfle
wedi codi i wneud y gwaith
yma. Nid oedd dyddiad
hysbys i'r gwaith ond bydd
Mr Hadley yn i roi gwybod am unrhyw
ddatblygiadau i aelodau'r Pwyllgor.
(iv) A yw Trenau Arriva Cymru yn medru
sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth
dwyieithog? Dywedodd Mr Ben Davies fod Trenau Arriva Cymru yn ateb gohebiaeth
yn ddwyieithog ond roeddent yn
cael trafferth gyda gwasanaeth dwyieithog ar y trenau oherwydd diffyg ariannu. Hyderir y bydd cwmni llwyddiannus y fasnachfraint newydd yn gallu cynnig
gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog yn y gorsafoedd ac ar y trenau. Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at lythyr a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Porthmadog am ddiffyg defnydd a blaenoriaeth i'r Gymraeg. Dywedodd hefyd fod y mater uchod wedi ei drafod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |