Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

DECISION

 

  • TO APPROVE THE APPLICATION to vary the licence in accordance with requirements of the Licensing Act 2003.
  • The inclusion of boxing and wrestling as a licensable activity to be removed from the application.
  • The provision of live and recorded music shall be for such music to be played indoors only.
  • No waste or recyclable materials, including bottles, shall be moved, removed from or placed in any outside area between 23:00 and 08:00 on the following day. [To replace the current condition under ‘Public Nuisance’]
  • All windows and doors (including bi-fold doors) shall be kept closed after 23:00 when Regulated Entertainment is taking place, except for the immediate access and egress of persons.
  • A phone number will be made available during the provision of Regulated Entertainment to those persons who have made a representation against the variation of the Premises License

 

Note:

Updated floor plan of outdoor licensing activity area to be submitted

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Sonja Rochelle, Nerys Williams a Robert Cordingley (Preswylwyr Lleol – BrynTeg)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AMRYWIO TRWYDDED EIDDO - PARC GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF pdf eicon PDF 374 KB

PARC GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

CANIATAU y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

·         Bod bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig i'w dileu o'r cais.

·         Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae dan do yn unig.

·         Ni fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus’]

·         Bydd yr holl ffenestri a drysau (gan gynnwys drysau deublyg) yn cael eu cadw ar gau ar ôl 23:00 pan fydd Adloniant Rheoledig yn digwydd, ac eithrio mynediad ac allanfa uniongyrchol pobl.

·         Bydd rhif ffôn ar gael yn ystod y ddarpariaeth Adloniant Rheoledig i'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn amrywio'r Drwydded Eiddo.

 

Nodyn:

Cynllun llawr wedi'i ddiweddaru o ardal gweithgareddau trwyddedu awyr agored i'w gyflwyno

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

Mr Jonathan Smith (Cynrychiolydd Park Holidays UK)

Mr John Flack (Pennaeth Adloniant Park Holidays UK)

Mr Gavin Cox (Rheolwr Cyffredinol Bryn Teg)

Cynghorydd Berwyn Parry Jones (Aelod Lleol)

Fiona Zinovieff (Preswylydd Lleol)

Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan gwmni Park Holidays Ltd mewn perthynas a cheiso’r hawl i wneud newidiadau i gynllun lleoliad ardal drwyddedig Bar y Lolfa a’r ardal fwyta. Yn ogystal, gofynnwyd am yr hawl i ychwanegu’r gweithgareddau trywddedig Dramau, Bocsio / Paffio a Restlo, a pherfformiadau o ddawns tu mewn yn unig ddydd Llun i ddydd Sul 9:00 y bore tan hanner nos.

 

Cadarnhawyd y byddai pob rhan o’r cynllun amlinelliad ardal drwyddedig yn aros yr un fath, ac y bydd y gweithgareddau trwyddedig ac oriau sydd ar y drwydded gyfredol yn aros yr un fath. Gofynnwyd am yr hawl i newid amod ar y drwydded er mwyn gallu cydymffurfio gyda’r newidiadau i’r cynlluniau amlinellol. Nid oedd yr ymgeisydd yn cynnig unrhyw amodau ychwanegol i’r hyn sydd ar atodlen weithredol y drwydded gyfredol, er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Nid oedd unrhyw newid i’r oriau gweithgareddau trwyddedig, nac i’r amodau yn yr atodlen weithredol.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan amryw o breswylwyr cyfagos, y Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Niwsans Cyhoeddus (parhad a chynnydd mewn aflonyddwch swn yn bennaf) a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau bod cwynion wedi eu derbyn. Nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd; oni all yr ymgeisydd gynnig mesurau rheoli sŵn yn yr atodlen weithredol, a chyfyngu gweigareddau adloniant rheoledig trwyddedig tu mewn yn unig.

 

Ers dyddiad cyhoeddi’r adroddiad, cynigiwyd amodau arfaethedig gan yr ymgeisydd ynghyd ag astudiaeth achos Taylor v Manchester City Council yn dangos dymuniad y cyfreithwyr ar ran yr ymgeisydd i wneud y pwynt mai ystyried y materion sydd yn destun amrywiad a ddylai’r Awdurdod Trwyddedu fod yn ei wneud yn hytrach nag amodau / a gweithgareddau trwyddedig sydd eisoes ar y drwydded. Roedd yr amodau arfaethedig yn cynnig;

·         Byddai bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig yn cael eu dileu o'r cais.

·         Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae dan do yn unig.

·         Na fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS AMRYWIO TRWYDDED EIDDO NEW HORIZONS, PARC CARAFANAU SUNNYSANDS, TAL Y BONT, GWYNEDD pdf eicon PDF 420 KB

NEW HORIZONS, PARC CARAFANAU SUNNYSANDS, TAL Y BONT, GWYNEDD LL43 2LQ

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

CANIATAU y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

Ymgorffori'r amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu fel amodau i’r drwydded.

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

Ryan Rothwell (Cynrychiolydd yr ymgeisydd)

Cyng. Eryl Jones-Williams (Aelod Lleol)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan gwmni New Horizons mewn perthynas ag ymestyn yr oriau Alcohol, oriau Cerddoriaeth Fyw ac wedi ei Recordio. Amlygwyd bod y drwydded bresennol yn caniatáu Gweithgareddau Trwyddedig hyd 11yh dydd Sul - Sadwrn, a bod yr ymgeisydd yn cynnig amodau diwygiedig i ymestyn o 11yh i 2yb. Byddai’r gerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio ond yn digwydd dan do.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiad i’r cais wedi ei dderbyn gan breswylydd cyfagos oedd yn pryderu am gynnydd swn o’r safle ac y byddai ehangu’r oriau yn newid naws deuluol y parc. Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau oedd yn cynnwys argymell amodau TCC, Polisi Her 25 ac nad oedd hawl i blant fod ar yr eiddo wedi 23:00.

 

Nodwyd bod yr Heddlu wedi ymweld a’r safle a cadarnhaodd yr ymgeisydd dros e-bost y byddai holl awgrymiadau’r Heddlu yn cael eu cynnwys yn rhaglen weithredol y drwydded newydd os byddai’r cais yn cael ei ganiatau gan yr Is-bwyllgor.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell cymeradwyo’r cais yn unol â sylwadau’r Heddlu a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

b)    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·         Bod y Parc Gwyliau wedi cydweithio gyda’r Heddlu

·         Mai dim ond un gwrthwynebiad oeddd wedi dod i law

·         Bod perchnogion yn gwisgo band garddwrn ar gyfer mynediad

·         Bydd goruchwylwyr drysau yn aros hyd nes bydd popeth wedi cau lawr

 

c)    Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Cyng. Eryl Jones Williams   (Aelod Lleol)

·         Ei fod yn pryderu bod yr eiddo yn mynd i fod ar agor i’r cyhoedd

·         Bod angen sicrhau bod goruchwylwyr drysau ar gael a bod mesurau diogelwch

yn eu lle

 

Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Bod cytundeb i ymestyn oriau caniatáu plant i mewn i’r eiddo o 23:00 i 23:30

·         Bod yr Heddlu wedi eu galw i’r Parc i ymdrin ag achosion domestig ac nid at faterion yn ymwneud a’r eiddo trwyddedig

 

Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.