Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Eitem 4: Hugh
Owen, Allan Jones, Laura Jones, Caroline Thomas a
Ceinwen Williams Eitem 5: Aelod
Lleol – Cynghorydd Nia Jeffreys |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||
CAIS AM DRWYDDED EIDDO - Parc Teulu Gelli Gyffwrdd PDF 164 KB GELLI GYFFWRDD, LÔN LLWYN, Y FELINHELI, BANOGR, GWYNEDD LL56 4QN I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003, caniatawyd y cais gan ystyried y sylwadau a wnaed; ac yn unol gyda'r cyfaddawd ar oriau o
adloniant rheoledig a ganiateir a gytunwyd rhwng Swyddog Gwarchod y Cyhoedd a’r ymgeisydd. Y mesurau a gynigir gan yr ymgeisydd yn adran M o’r
cais i’w cynnwys fel amodau.
Cofnod: Parc Teulu Gelli
Gyffwrdd, Lôn Llwyn, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4QN Eraill a wahoddwyd: ·
Andrew Baker –
Ymgeisydd - Parc Teulu Gelli
Gyffwrdd ·
Simon Dale - Parc Teulu Gelli Gyffwrdd ·
Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd) ·
Elisabeth Williams
(Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru) ·
Nest Griffths – Preswylydd Lleol ·
Stephen Watson-Jones
– Preswylydd Lleol ·
Karen Jones –
Preswylydd Lleol ·
Andy Hemmings – Preswylydd Lleol Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Parc
Teulu Gelli Gyffwrdd, Lôn Llwyn, Y Felinheli, Gwynedd, gan yr ymgeisydd Mr
Andrew Baker, Rheolwr Cyffredinol. Eglurwyd bod Parc Teulu Gelli Gyffwrdd yn
gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr yng Ngwynedd a’r safle yn cynnig amrywiaeth o
weithgareddau yn ogystal â llety glampio. Gwnaed y cais i
gael caniatâd i werthu alcohol (cynnyrch lleol mewn poteli) gyda phrydau yn eu
bwyty ar y safle yn ogystal â gwerthu poteli cynnyrch lleol yn y siop
anrhegion. Ategwyd bod y llety glampio yn agored i westeion 7 niwrnod yr
wythnos o ddechrau mis Ebrill hyd at ddiwedd mis Hydref. Yn ogystal â
gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo 10:00 tan 22:00, chwarae cerddoriaeth
fyw ac wedi ei recordio, dramâu a ffilmiau, perfformiadau dawns (dan do ac awyr
agored) hefyd tan 22:00, 7 niwrnod yr wythnos, roedd y cais hefyd yn datgan
bwriad trefnu perfformiadau a dramâu dan do ac awyr agored mewn ardal theatr tu
allan, a hynny'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn (yn bennaf yn ystod y tymor
prysuraf ond hefyd y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig) ar gyfer gwesteion
glampio ac aelodau o'r gymuned, o fis Chwefror tan fis Hydref. Nodwyd y byddai
‘amplifier’ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adloniant
o'r fath. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell caniatáu y cais yn unol â’r cyfaddawd a gytunwyd gyda’r ymgeisydd. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|||
CAIS AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO - Clwb Llyn Bach PDF 154 KB Clwb Llyn Bach, Heol yr Wyddfa, Porthmadog, LL49 9DF I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Yn unol a’r Deddf Drwyddedu 2003, ac wedi
ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, GWRTHODWYD y cais am y rhesymau canlynol
- ·
Nid oes
unrhyw fesurau wedi eu hargymell yn rhan M sydd yn argyhoeddi’r Awdurdod Trwyddedu
na’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd fod posib rhoi mesurau mewn lle i reoli
ardrawiad sŵn yn y lleoliad hwn sydd wedi ei amgylchynu gyda eiddo
preswyl. ·
Bod cwyn
wedi ei dderbyn am sŵn miwsig a
sŵn cwsmeriaid ar yr eiddo trwyddedig yn ddiweddar ·
Er bod
swyddog Gwarchod y Cyhoedd wedi hysbysu’r
ymgeisydd o’r bwriad i
wrthwynebu’r cais ar sail yr amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus; ni
dderbyniwyd unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd , neu unrhyw awgrym o gyfaddawd ·
Byddai’n
fwy priodol i’r ymgeisydd fod yn cyflwyno rhybuddion digwyddiadau dros dro er
mwyn ceisio darganfod os oes modd rheoli sŵn o ddefnydd yr ardd gwrw ar
gyfer gweithgareddau trwyddedig. Cofnod: Cae Llyn Bach, Heol yr Wyddfa, Porthmadog
LL49 9DF Eraill a wahoddwyd: ·
Mr John Lewis Roberts (ymgeisydd) ·
Mared
Llwyd (Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd (Rheolaeth Llygredd a Thrwyddedu) Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a) Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais i amrywio trwydded Clwb Llyn Bach, Heol Yr Wyddfa,
Porthmadog i ychwanegu gwerthu alcohol o adeilad bach sydd wedi ei leoli tu
allan ( i gefn y prif adeilad) ar gyfer gweithgareddau trwyddedig pan fydd
digwyddiadau yn cael eu cynnal ar adegau prysur. Nodwyd bod y Clwb yn un ar
gyfer aelodau yn bennaf; yn cynnwys bar ac ardal patio / gardd gwrw; gyda
thrwydded eiddo yn hytrach na thystysgrif clwb. Gofynnwyd am yr hawl i gael chwarae cerddoriaeth fyw ac wedi
ei recordio hyd at 01:00 bob dydd yn ogystal â pherfformiadau dawns, ac unrhyw
weithgaredd tebyg megis comediwyr ‘standup’, tu mewn a thu allan, 7 diwrnod yr
wythnos, ond fod adloniant rheoledig, gan gynnwys cerddoriaeth a dawnsio, yn
dod i ben tu allan am 23:00. Er nad oedd cynnydd yn yr oriau gweithgareddau
trwyddedig o’i gymharu â’r drwydded gyfredol, roedd yr ymgeisydd yn ceisio'r
hawl i gynnal gweithgareddau trwyddedig y tu allan i’r eiddo hyd at 23:00. Y
bwriad oedd gwerthu alcohol o’r ‘hatch’ yn y bar allanol tan 23:30, cau'r ardd
gwrw am 00:00; gan ofyn i gwsmeriaid symud i mewn i’r adeilad. Gofynnwyd am
ganiatâd i gomedïwr berfformio tu mewn yn ogystal â thu allan tan 01:00, er yn
nodi yn rhan M y cais fod y llecyn allanol yn cau am 00:00. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan
Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, a derbyniwyd
sylw gan Cyngor Tref Porthmadog nad oedd ganddynt wrthwynebiad cyn belled a bod
y gweithgareddau yn cael eu cyfyngu i du mewn i’r adeilad ac nid tu allan.
Derbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail
pryderon y byddai’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus yn cael ei
danseilio oherwydd y bwriad i gynnal gweithgareddau trwyddedig tu allan i’r
eiddo gydag adloniant rheoledig yn cael ei ganiatáu yn yr awyr agored tan
23:00, a bar allanol tan 23:30. Amlygwyd bod
disgwyliad i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth fanwl gyda’r cais i ganiatáu i’r
Awdurdod Trwyddedu benderfynu os yw'r mesurau a gynigir yn ddigonol i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu yn yr ardal leol. Adroddwyd nad oedd unrhyw fanylion o’r camau
arfaethedig y bwriedir eu cymryd i liniaru effaith sŵn ar drigolion
cyfagos yn ystod digwyddiadau lle cynhelir adloniant wedi cael eu cyflwyno gan
yr ymgeisydd yn yr achos yma. O ganlyniad, roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. · Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |