Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Paul a Deborah
Peutrill a Dr Pamela Smith – preswylwyr
lleol ar gais Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 259 KB Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon, LL54 7BB. I ystyried y cais Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu’r cais COFNODION: 1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Canolfan y Fron,
Llandwrog, Caernarfon Ar
ran yr eiddo:
Mike Elsden (ymgeisydd) Eiriona Williams (cynrychiolydd yr ymgeisydd)
Eraill
a wahoddwyd: Preswylwyr
Cyfagos: Edward Willcox Jim Embrey Aelod Lleol: Cynghorydd Dilwyn Lloyd Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos
ffilmiau, dramâu, chwaraeon o dan do, paffio neu adloniant ymgodymu,
cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio, perfformiadau dawns a gwerthu alcohol. Nodwyd bod gan Swyddogion
yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol
â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a Chymdeithas Preswylwyr y
Fron oedd yn cynnwys deiseb wedi ei arwyddo gan 36 o breswylwyr yn nodi amodau
ac amseroedd derbyniol. Nid oedd sylwadau na gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan
yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tan. Roedd y
gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon
ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus, materion
glanweithiol, parcio a throsedd ac anrhefn. Nodwyd hefyd nad oedd Pwyllgor y
Ganolfan wedi ceisio ymgynghoriad cyhoeddus o flaen llaw, a bod oriau
arfaethedig yr ymgeisydd yn codi pryder. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn ystyried pryderon y preswylwyr cyfagos ac yn cymeradwyo’r cais yn
unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd: ·
Ni
fydd adloniant yn cael ei gynnal tu allan ar ôl 22:00 ·
Ni
fydd alcohol yn cael ei werthu o’r siop ar ôl 21:00 ·
Ni
fydd alcohol yn cael ei werthu o’r bwyty ar ôl 21:00 ·
Oriau
arferol yw 8:30 – 17:30 ·
Gobaith yw cynnal digwyddiadau ac felly’r angen yn
codi am estyniad mewn oriau. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd oherwydd nad oes
ceisiadau am ddigwyddiad wedi ei dderbyn ·
Bwriad gohebu gyda’r gymuned leol pan gyflwyni’r
cais am ddigwyddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd staff nodwyd mai gwirfoddolwyr rhan amser sydd yn staffio'r siop gyda chogydd a thri arall yn helpu yn y bwyty. Cadarnhawyd bod y Cogydd sydd a’i enw ar y drwydded bresennol wedi ymddiswyddo a bod Cogydd newydd wedi ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 247 KB Y Grochan, ‘Stryd
Twll yn y Wal’, Caernarfon I ystyried y cais Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu’r cais COFNODION: CAIS
AM DRWYDDED EIDDO Y CROCHAN, 9 – 11
STRYD TWLL YN Y WAL, CAERNARFON Ar
ran yr eiddo: Dewi Jones a Chris Summers - ymgeiswyr Eraill
a wahoddwyd: Preswylwyr
Cyfagos: Rita Geary Mandy Matthews Aelod Lleol: Cynghorydd Cai Larsen Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu
sylwadau a) Adroddiad
yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Y
Crochan, 9 – 11 Stryd Twll yn y Wal, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas a
gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn cyfeirio at ddau o’r
amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn,
niwsans cyhoeddus a bod byrddau y busnes yn rhwystr i’r preswylwyr. Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn
ganlynol-: • Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor
a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu • Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais • Rhoi
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau • Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau • Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. • Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr
ymgeiswyr: ·
Nad oeddynt wedi bod yn gwerthu alcohol yn
anghyfreithlon - eu bod wedi cyflwyno a derbyn rhybuddion digwyddiad dros-dro ·
Bydd byrddau yn cael eu gosod tu allan ar un ochr
o’r stryd yn unig ·
Bod rheoliadau diogelwch tan yn unol â rheoliadau
covid Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â deilydd y drwydded, amlygodd Mr Dewi Jones ei fod
bellach wedi derbyn trwydded bersonol. Cadarnhawyd hefyd nad oedd grisiau
dihangfa dân allan o’r llawr cyntaf na’r ail - grisiau mewnol yn unig gyda
drysau yn agor i’r ffrynt ac i’r cefn. Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr. Rita Geary (Mandy Mathews yn cyflwyno
sylwadau ar ran Rita Geary) ·
Wedi byw ar y stryd ar hyd ei bywyd - pethau yn
mynd yn anoddach ac yn creu poen meddwl ·
Dim eisiau byw gyda sŵn ·
Anodd i’r gwasanaethau brys gael mynediad i’r stryd
ar ôl 16:00 ·
Gormod o fyrddau tu allan ar y stryd ·
Byddai trwydded ychwanegol yn cynyddu problemau yn
y stryd Mandy Mathews ·
Yn byw drws nesaf i’r eiddo - dim 2m rhwng ei drws
ffrynt a’r byrddau · Dim yn teimlo yn ... view the full COFNODION text for item 5. |