Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

COFNODION:

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Moira Duell Parry (Swyddog Iechyd Amgylchedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

COFNODION:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

COFNODION:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 450 KB

Parafest, Canolfan Awyrofod Eryri, Llain Awyr Llanbedr

 

I ystyried y cais uchod

COFNODION:

Parafest, Canolfan Awyrofod Eryri, Llain Awyr Llanbedr

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Mark Meadows  (ymgeisydd) 

 

Eraill a wahoddwyd:             Cynghorydd Annwen Hughes (Aelod Lleol)

                                                Cynghorydd Eryl Jones Williams (Aelod ymylol)

                                                Mr Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru)

                       

a)                    Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer cynnal Gŵyl ‘Parafest’ fyddai yn cael ei lleoli ar dir Canolfan Awyrofod Eryri ar y Llain Awyr yn Llanbedr. Bwriad yr ymgeisydd oedd cynnal gŵyl flynyddol paragleidio ynghyd a digwyddiad cymdeithasol o weithgareddau yn ymwneud a pharagleidio i beilotiaid a’u teuluoedd. Amlygwyd bod y bwriad yn cynnig gwerthiant alcohol a lluniaeth hwyr y nos fel rhan o’r arlwy ynghyd â cherddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod 9 e-bost wedi ei dderbyn gyda 4 ohonynt yn gwrthwynebu’r cais ar sail y 4 amcan trwyddedu. Tynnwyd sylw at yr amodau sŵn a gyflwynwyd gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Cyfeiriwyd hefyd at gais blaenorol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ym mis Ionawr 2018 oedd heb ei gyflwyno yn unol â'r gofynion cyfreithiol.  Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi ymateb i bryderon a godwyd yn ystod y broses ymgynghorol ar y cais gwreiddiol a bellach wedi cytuno i gynnal gweithgareddau trwyddedig hyd at 1:00 (nos Wener a nos Sadwrn) yn hytrach na 03:00 fel ag y gofynnwyd amdano. Ategwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno sylwadau i’r Gwasanaeth Tân i geisio diwallu eu pryderon.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno a gofynnodd am yr hawl i ddosbarthu lluniau a manylion pellach am yr Ŵyl. Gwnaed penderfyniad i dderbyn llun o leoliad gŵyl 2017, ond gwrthodwyd manylion o sylwadau unigolion gan nad oedd hawl wedi ei dderbyn i’w rhannu. Teimlai yn anfodlon nad oedd yn cael y cyfle i herio ymateb gan un o’r gwrthwynebwyr, oedd eisoes wedi cynnwys sylwadau gan unigolion eraill. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y sylwadau hynny wedi derbyn caniatâd i’w rhannu ac  ...  view the full COFNODION text for item 4.

5.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 265 KB

CLUB DB Ltd, 318 Stryd Fawr, Bangor

 

I ystyried y cais uchod

COFNODION:

Club DB, 318, Stryd Fawr, Bangor

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Peter Hennessey - ymgeisydd

 

Eraill a wahoddwyd:             Mr Ian Williams (Cydlynydd Trwyddedu Gwynedd a Môn, Heddlu Gogledd Cymru)

                                                           

a)         Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

            Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded      eiddo ar gyfer Club DB, 318 Stryd Fawr, Bangor. Bwriad yr ymgeisydd yw         ychwanegu'r gweithgareddau             trwyddedig o ddangos ffilmiau, dramâu       neu gynnal perfformiadau dawns ar yr eiddo.            Gofynnwyd am,

·         ymestyn oriau agor yr eiddo i 02:30 ar nos Wener a nos Sadwrn;

·         cynnal cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio am awr yn ychwanegol, hyd at 02:30 ar nos Wener a nos Sadwrn, a hanner awr yn ychwanegol, hyd at 02:00 weddill yr wythnos;            

·         ymestyn oriau gwerthu alcohol o  dri chwarter awr i 02:15 ar nos Wener a nos Sadwrn.

·         hanner awr ychwanegol ar Suliau Gŵyl y Banc, a hyd 05:30 ar nos Calan.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

            Nodwyd bod 1 llythyr yn gwrthwynebu ac un e bost gan Heddlu Gogledd Cymru   yn argymell             amodau i’w cynnwys ar y drwydded. Gwnaethpwyd y sylwadau      mewn perthynas â 2 o’r              amcanion trwyddedu - Atal trosedd ac anrhefn ac    Atal niwsans cyhoeddus.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:

·      Ei fod wedi bod yn cydweithio gyda’r Heddlu i sicrhau bod y busnes yn rhedeg yn esmwyth

·      Ei fod yn barod i gydweithio gyda’r gymuned leol

·      Ei fod yn cyflogi pobl leol

·      Bod yr eiddo yn gyn-adeilad masnachol

·      Bod angen am yr oriau ychwanegol oherwydd yr oriau hyn sydd yn gwneud  y busnes yn hyfyw.

 

            Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad bod y ‘busnes mewn ardal breswyl’ amlygodd     yr ymgeisydd   bod y busnes ar stryd fasnachol gyda phreswylwyr i’r cefn o’r       eiddo.   Ategodd bod rhaniadau         gwrthsain wedi eu gosod at flaen yr       adeilad.

 

ch)       Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd Swyddog o Heddlu Gogledd Cymru bod problemau hanesyddol wedi bod gyda’r eiddo yn y gorffennol ond bod y sefyllfa wedi gwella ers i’r perchennog newydd gymryd drosodd. Amlygodd bod cais i amod goruchwylwyr drysau gael  ...  view the full COFNODION text for item 5.