Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 97 KB BRAICH GOCH RED-ARM, BRAICH GOCH BUNKHOUSE and INN, CORRIS I ystyried y cais uchod Cofnod: 1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO - BRAICH GOCH RED-ARM, BRAICH GOCH BUNKHOUSE
and INN, CORRIS Ar ran yr eiddo: Maria
P de la Pava Catano (ymgeisydd) ac H S Rodrigues Eraill a wahoddwyd: Mark Mortimer (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd) Cyng.
Simon Quincey (Is Gadeirydd Cyngor Cymuned Corris) a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
Braich Goch Bunkhouse and Inn. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos dramâu a
ffilmiau, chwarae cerddoriaeth byw, cerddoriaeth wedi ei recordio (ar ac oddi
ar yr eiddo), perfformiadau o ddawns gan gynnwys adloniant arall, cyflenwi
alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Y bwriad yw rhedeg yr eiddo fel
canolfan addysgiadol, breswyl ac adnodd hanfodol i unigolion a sefydliadau
cymunedol. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 1
e-bost wedi ei dderbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon diogelwch ffyrdd
a niwsans sŵn ac 1 e-bost yn pryderu am yr oriau cerddoriaeth byw. Ategwyd
bod Uned Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd wedi awgrymu amodau trwydded bellach
a bod yr ymgeisydd wedi cytuno iddynt. Amlygwyd bod
Cyngor Cymuned Corris wedi cyflwyno sylwadau diwygiedig 3.6.19 ac fe gytunwyd
i’r sylwadau hynny gael eu rhannu gyda’r ymgeisydd. Yn dilyn penderfyniad yr ymgeisydd
i dderbyn amodau Gwarchod y Cyhoedd, roedd y cais diwygiedig yn sylweddol
wahanol i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. O ganlyniad roedd Cyngor Cymuned
Corris yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei
bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. c)
Ategodd
y sylwadau canlynol: ·
Bod y fenter yn gwmni buddiant
cymunedol gydag amcanion elusennol ·
Ni fydd yr eiddo yn gweithredu
fel bar – bydd defnydd y bar ar gyfer digwyddiadau yn unig, megis codi arian a chynnal perfformiadau ·
Y
cwmni yn gweithio gydag oedolion ifanc drwy ddawns a ffilm ·
Ei bod
yn barod i dderbyn yr amodau ·
Ei
bwriad yw gweithio gyda’r gymuned ac felly bydd yn ceisio lleddfu pryderon
sŵn ·
Bod y cwmni yn hunangynhaliol ·
Nad
oedd bwriad bod ar agor drwy’r amser - dyddiadau penodol o ddigwyddiadau Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â darpariaeth i blant, nodwyd mai gweithio gydag oedolion ifanc (18+) oedd y prif fwriad ond byddai modd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 99 KB GREAT BREAKS LEISURE Ltd, CEILWART BUNGALOW, NORTH PROMENADE, ABERMAW, LL42 1BJ I ystyried y cais uchod Cofnod: 1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO - GREAT BREAKS LEISURE Ltd,
CEILWART BUNGALOW, NORTH PROMENADE, BARMOUTH Roedd y Cynghorwyr
Annwen Hughes ac Angela Russell wedi ymweld â’r safle ynghyd a’r Aelod Lleol, Y
Cynghorydd Gethin Glyn Williams o dan drefniant a goruchwyliaeth Heilyn
Williams, Swyddog Trwyddedu 30.05.19 Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 5 munud i gyflwyno sylwadau
uniongyrchol ar y cais. Ar ran yr eiddo: Kayleigh
Olley (ymgeisydd) Eraill a wahoddwyd: Mr Ian
Williams (Heddlu Gogledd Cymru) Cynghorydd Gethin Glyn Williams (Aelod Lleol) Ymgynghorai
lleol - Patrick Butcher, Elizabeth Davey, Robert Davey, Kathleen Bonser, Howard
Hampshire ac Amanda Owen (Hendre Mynach)
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
Great Breaks Leisure Ltd, Ceilwart Bungalow, North Promenade, Abermaw. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos
ffilmiau, chwarae cerddoriaeth byw / wedi ei recordio (ar ac oddi ar yr eiddo),
cyflenwi alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Y bwriad yw rhedeg yr eiddo
fel llety gwyliau i bobl a theuluoedd ag anableddau gan gynnig adloniant megis
dangos ffilmiau a cherddoriaeth fyw yn achlysurol ynghyd a chynnal
gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan: (adloniant tu allan tan 10pm yn
unig a gwerthiant alcohol ar gyfer ei yfed tu allan tan 11pm yn unig). Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod nifer o
e-byst a llythyrau wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon
ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans cyhoeddus megis sŵn, cerddoriaeth
uchel a sbwriel. Cyfeiriwyd at bryderon o gynnydd posib mewn trosedd ac anrhefn
megis fandaliaeth ac ymddygiad afreolus: nodwyd pryderon am ddiogelwch y
cyhoedd, mynediad i wasanaethau brys oherwydd rheilffordd gyfagos a lôn bost
cul sydd heb ei goleuo. Cyfeiriwyd hefyd y byddai caniatáu'r drwydded yn peri
niwed i blant a phobl ifanc fydd yn aros mewn maes gwersylla cyfagos. Ategwyd
bod sylwadau wedi ei derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru (ynglŷn â materion
goruchwylwyr drysau) ac Adran Cynllunio'r Cyngor (ynglŷn â chydymffurfiad
caniatâd cynllunio). Amlygwyd bod 8
e-byst wedi ei derbyn yn gefnogol i’r cais ond ni ystyriwyd rhain gan nad
oeddynt yn berthnasol i’r egwyddorion trwyddedu. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai ff) Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |