Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Ffion Muscroft - Swyddog Gwarchod y Cyhoedd a Mared Llwyd -
Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd (Rheolaeth Llygredd a Thrwyddedu) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 124 KB JAC Y
DO, CLWB CEIDWADWYR, CAERNARFON, GWYNEDD
LL55 1RT. I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel
cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau sŵn a golau a
gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd. ·
Ni chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LAeq 15
munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5, 63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw
eiddo preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo yn agored neu ar gau) o
ganlyniad i sŵn adloniant yn deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas yr
amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142: 2019 . ·
Er mwyn arbed i sŵn a dirgrynant adael yr
eiddo trwyddedig, bydd drysau a ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn
ystod yr adloniant, heblaw i sicrhau mynediad i mewn ac allan o’r eiddo. ·
Os, wedi cyhoeddi'r drwydded hon, bydd Cyngor
Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes cydymffurfiaeth ag amod (i) bydd
perchennog yr eiddo yn gwneud y canlynol: -
Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er
mwyn sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn a / neu -
Gosod dyfais rheoli sŵn yn yr ystafell/oedd
lle cynhelir yr adloniant. Bydd y ddyfais wedi ei sefydlu i dorri cyflenwad
trydan unrhyw system sain neu wrthsefyll cynnydd mewn lefel sŵn uwchlaw'r hyn sydd wedi ei sefydlu fel uchafswm
caniataëdig. ·
Unwaith bydd lefel ar ddyfais reoli sŵn yn
cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w newid heb ymgynghoriad a Swyddog Iechyd
yr Amgylchedd (Llygredd), Cyngor Gwynedd.
·
Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu
ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 -
08:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu
fin gyda chaead. ·
Bydd arwyddion clir a dealladwy yn cael eu gosod
wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid sydd yn gadael yr adeilad i gysidro
trigolion lleol, yn arbennig yn eu hannog i beidio â gweiddi, clepian drysau
ceir na chanu cyrn ceir. ·
Ni chaniateir i unrhyw gerddoriaeth cael ei
chwarae tu allan yr eiddo. ·
Nid yw unrhyw oleuo mewnol nac allanol sydd i’r
pwrpas o ddiogelwch staff neu ddiogelwch yr eiddo yw gosod mewn modd sydd yn
achosi niwsans i unrhyw eiddo ger llaw. Amodau ychwanegol i
gynnwys ·
Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn
manylu ar botensial sŵn o gerddoriaeth chwyddedig yn yr eiddo o effeithio
ar eiddo cyfagos sy'n sensitif i sŵn ar Stryd y Farchnad, Stryd Fawr,
Caernarfon, a'r fflatiau uwchben yr adeilad. ·
Os yw’r asesiad yn dangos bod sŵn o’r eiddo
yn debygol o effeithio ar eiddo cyfagos sy’n sensitif i sŵn, yna bydd yn
cynnwys cynllun manwl o fesurau lliniaru sŵn i ddangos na fydd niwsans yn
cael ei achosi i feddianwyr eiddo cyfagos sy’n sensitif i sŵn gan sŵn
o’r eiddo trwyddedig. · Bydd yr holl waith a argymhellir yn cael ei gwblhau cyn dechrau'r drwydded safle a rhaid hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu o leiaf 5 diwrnod cyn i'r gwaith gael ... view the full Penderfyniad text for item 4. Cofnod: Eraill a wahoddwyd: Non Edwards –
Ymgeisydd Siân Astley - Partner Busnes yr ymgeisydd Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Ategodd y Rheolwr
Trwyddedu, yn absenoldeb Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, ers cyhoeddi rhaglen yr
Is-bwyllgor, bod asesiad sŵn wedi ei dderbyn a bod y swyddog bellach yn
argymell cymeradwyo’r cais yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau sŵn a
golau a gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffaith bod
Adran Gwarchod y Cyhoedd yn ymdrin â chais cynllunio i’r eiddo gael ei
ddefnyddio fel tafarn, ac nad oedd ystyriaethau digonol wedi eu gwneud i reoli
sŵn, nododd y Swyddog Cyfreithiol er bod sŵn yn fater perthnasol i
gyfundrefn cynllunio a thrwyddedu mai’r cyd-destun trwyddedu oedd angen ei
ystyried yma. ch)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Mai’r bwriad oedd chwarae miwsig cefndirol – dim
byd swnllyd. Nad oedd bwriad chwarae cerddoriaeth byw pob dydd – efallai
unwaith bob pythefnos ·
Bod yr eiddo wedi agor dros dro yn ystod Gŵyl
Fwyd Caernarfon ac fe ddaeth i’r amlwg yr adeg hynny bod angen cais cynllunio.
Nid oedd y landlord wedi gwneud un ·
Bod asesiad sŵn bellach wedi ei gyflwyno d) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 140 KB MOTOCAMP
CYMRU, FFORDD PEN Y CEFN, DOLGELLAU, LL40 2ES I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel
cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar ddiwygio amodau cerddoriaeth awyr agored
i 4 digwyddiad y flwyddyn galendr yn ystod y cyfnod y gofynnwyd amdano, sef
12:00 – 23:30 Amodau ychwanegol i
gynnwys ·
Creu cynlluniau rheoli diogelwch digwyddiadau
manwl ar gyfer pob digwyddiad unigol a fydd yn cael eu trafod gyda Heddlu Gogledd
Cymru a Chyngor Gwynedd, a chytunir â phob
aelod o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (SAG) a'u gweithredu gan
Drefnwyr y Digwyddiad. ·
Bydd pob digwyddiad yn gofyn am gymeradwyaeth
Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd drwy gyflwyno Asesiadau Risg priodol ar
gyfer digwyddiadau a Cynllun Rheoli. ·
Bydd mesurau i atal trosedd ac anhrefn a rheoli
torf yn cael eu cytuno gyda'r heddlu ac aelodau eraill o'r SAG a'u hymgorffori
yng Nghynllun Rheoli Digwyddiadau a'u gweithredu gan drefnwyr y digwyddiad. ·
Bydd gan bob digwyddiad gynllun rheoli
digwyddiadau diogelwch pwrpasol. Bydd mesurau i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn
cael eu trafod ag aelodau'r SAG a'u hymgorffori yn y Cynllun Rheoli
Digwyddiadau a'u gweithredu gan Drefnwyr y Digwyddiad. ·
Cynnwys y
mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded. Cofnod: Eraill a wahoddwyd: ·
Stephanie Jeavons – Ymgeisydd ·
Elizabeth Williams – Swyddog Trwyddedu, Heddlu
Gogledd Cymru a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu
yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Moto
Camp Wales, Ffordd Pen y Cefn, Dolgellau, Gwynedd. Cafodd y cais ei gyflwyno
mewn perthynas am drwydded eiddo i: Werthu alcohol i gwsmeriaid sydd yn aros
hefo nhw ar y safle (ar yr eiddo) o 14:00 - 02:00, o ddydd Llun i Sul.
Cerddoriaeth byw yn ystod gweithgareddau penwythnos (tu fewn a thu allan) rhwng
12:00 a 23:30 ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul. Cerddoriaeth wedi recordio (tu
fewn a thu allan) eto o 12:00 hyd at 23:30 ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno
yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael
eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at ymateb a dderbyniwyd yn ystod
y cyfnod ymgynghori gan amlygu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cais i
amodau ychwanegol gael eu cynnwys ar y drwydded yn ymwneud â chydweithio gyda
Grŵp Cynghori a’r Ddiogelwch. Amlygwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân nac
Adran Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais er wedi tynnu sylw at gwynion
sŵn a dderbyniwyd yn dilyn digwyddiad dros dro a gynhaliwyd ar y safle yn
2023. Er i staff y safle ddelio gyda’r cwynion yn effeithiol, ystyriwyd y
byddai caniatau cerddoriaeth fyw hyd 23:30 pob dydd
Gwener i ddydd Sul achosi niwsans cyhoeddus i drigolion cyfagos, ac felly, yn
dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd, nodwyd bod cyfaddawd i ganiatáu hyd at
bedwar digwyddiad y flwyddyn galendr ar gyfer cerddoriaeth awyr agored wedi ei
gytuno. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell
fod y Pwyllgor yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd ac yn caniatau
y cais cyn belled a bod yr ymgeisydd yn fodlon gyda chyfaddawd a gytunwyd gyda
Gwarchod y Cyhoedd a chytuno gydag amodau’r Heddlu. b)
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn
y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn
y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd ·
Rhoi
gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd: · Ei bod yn hapus gyda’r cyfaddawd i leihau nifer digwyddiadau gyda
cherddoriaeth awyr agored i bedwar mewn blwyddyn - hyn yn rhoi cyfle da iddynt
brofi eu hunain o reoli digwyddiadau heb ymyrraeth. ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |