Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO PDF 133 KB Gwesty Dolbadarn, Stryd Fawr, Llanberis, Gwynedd LL55 4SU I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD Rheswm: Mesurau rheolau annigonol i gydymffurfio â’r amcanion
trwyddedu Cofnod: · Sarah
Hopwood Ar
ran yr ymgeisydd · Arwel
Huw Thomas Gwasanaeth
Cynllunio Cyngor Gwynedd · Louise
Woodfine Iechyd
Cyhoeddus · Moira
Duell Pari Iechyd
Amgylchedd Cyngor Gwynedd ·
Elizabeth Williams Heddlu Gogledd Cymru Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan breswylwyr lleol a gyflwynwyd sylwadau -
Lesley Wilson, Adrian Roberts, Dylan
Davies a Dylan Wyn
Jones Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad
trwydded eiddo ar gyfer
Gwesty Dolbadarn, Stryd Fawr, Llanberis. Cyflwynwyd y cais i amrywio ei
drwydded i gynnwys gwerthu alcohol o'r ardd tu allan i’r gwesty ac wedi'i
wahanu gan gyffordd mynediad. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. · Nifer o breswylwyr
cyfagos yn gwrthwynebu’r cais gan amlygu pryderon ynglŷn â nifer o
achosion o droseddau anhrefn cyhoeddus oedd wedi bodoli yn yr ardal yn
ddiweddar; pryderon ynghylch diffyg darpariaeth teledu cylch cyfyng TCC) a
goleuo gwael yn debygol o gynyddu'r tebygolrwydd y bydd gweithgareddau
troseddol ac anhrefn yn cynyddu gydag estyniad; pryderon ynghylch lles y bobl
sy'n aros yn y Gwesty sydd â phroblemau dibyniaeth ar alcohol, gan y byddai
argaeledd alcohol ar yr eiddo yn cynyddu temtasiwn. · Y Gwasanaeth
Cynllunio yn gwrthwynebu’r cais gan nad oedd digon o wybodaeth ynghylch a yw'r
uned yn gwbl symudol ai peidio; gyda’r uned wedi ei lleoli ar y safle am nifer
o fisoedd efallai y bydd angen caniatâd cynllunio; pryderon mewn perthynas â
lleoliad arfaethedig yr uned, gan fod y cynllun yn dangos y lleoliad y tu hwnt
i gwrtil y dafarn. · Bod Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
wedi cyflwyno sylwadau i wrthwynebu yng nghyswllt yr amcanion trwyddedu
amddiffyn plant rhag niwed a diogelwch y cyhoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig
â gwerthu alcohol yn agos i eiddo sy’n darparu llety dros dro i unigolion
digartref. ·
Gwarchod y Cyhoedd
(Rheoli Llygredd) yn gwrthwynebu ar sail mesurau annigonol i reoli niwsans
cyhoeddus gyda chwynion wedi dod i law ynglŷn ag arogl coginio · Nad oedd Heddlu
Gogledd Cymru yn gwrthwynebu'r cais, fodd bynnag, yn gofyn am newidiadau i
amodau presennol y drwydded gan fod lle i wella gyda rhai amodau wedi dyddio
a/neu wedi'u dyblygu yn ôl y gyfraith neu'n anorfod. Roedd y Swyddog yn argymell bod yr Is-bwyllgor yn ystyried yr holl
wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ofalus, cyn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar
a yw o'r farn y gall yr ymgeisydd gydymffurfio â'r amcanion trwyddedu ai
peidio, a Deddf Trwyddedu 2003. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Cyfle i Aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. · Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor. · Rhoi cyfle i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 155 KB Becws Melyn, 41 B Stryd Fawr, Llanberis LL55 4EU I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD Rheswm: Mesurau rheolau annigonol i gydymffurfio â’r amcanion
trwyddedu Cofnod: ·
Sarah Hopwood Ymgeisydd ·
Heather Jones Cyngor
Cymuned Llanberis ·
Arwel Huw Thomas Gwasanaeth Cynllunio
Cyngor Gwynedd ·
Moira Duell Pari Iechyd
Amgylchedd Cyngor Gwynedd Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Jen Owen (preswylydd
lleol a gyflwynodd sylwadau) ac Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu,
Heddlu Gogledd Cymru) oedd wedi colli cysylltiad oherwydd problemau
technegol. a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu
yn manylu ar gais i amrywio trwydded eiddo Becws Melyn, 41 B Stryd Fawr, Llanberis. Eglurwyd bod Becws Melyn yn gweithredu fel bwyty a bar bychan
gyda diodydd yn cael eu gweini gyda bwyd. Roedd yr ymgeisydd o’r farn y byddai
estyniad yn yr amser agor yn fanteisiol a bod y busnes wedi ei drwyddedu ers
blwyddyn, wedi ei reoli yn llwyddiannus drwy’r Haf heb unrhyw drafferthion. Nid
oedd llawer o werthiant alcohol ac o
ganlyniad ni fydd potensial sŵn neu ymddygiad afreolus. Gofynnwyd am yr hawl i ymestyn gwerthiant
alcohol i gychwyn am 09:00 y bore yn hytrach na 12, ac ymestyn oriau agor o
22:00 yr hwyr i 00:00 bob nos Iau, Gwener, Sadwrn a nos Sul. Gofynnwyd hefyd am
ymestyn oriau cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio nos Iau, nos Wener Sadwrn
a’r Sul hyd at 00:00. Amlygwyd y cafodd y cyfnod ymgynghorol ei
ymestyn i’r 13eg o Awst oherwydd nad oedd
wedi ei hysbysebu yn gywir, ond cadarnhawyd bod yr Awdurdod Trwyddedu yn
hapus fod y cais wedi ei hysbysebu yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003 a’r
rheoliadau perthnasol ac felly yn ddilys. Tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori · Cyngor Cymuned Llanberis yn gwrthwynebu’r cais oherwydd bod cwynion
sŵn wedi eu derbyn yn dilyn un o’r nosweithiau a gynhaliwyd fin nos ar yr eiddo. Nodwyd
hefyd fod sŵn yn cario wrth agor drysau blaen y bwyty. ·
Gwasanaeth
Cynllunio yn amlygu bod hawl Cynllunio diwygiedig yn caniatáu i’r eiddo fod ar
agor rhwng 8:00 a 23:30, ond bod y cais am amrywiad trwyddedu arfaethedig yn
mynd tu hwnt i’r oriau hynny ar bedair noson. Nodwyd hefyd fod y gwasanaeth
gorfodaeth cynllunio wedi derbyn cwynion am y sŵn · Trigolion
cyfagos yn gwrthwynebu ac wedi amlygu pryderon, yn bennaf mewn perthynas â’r
amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, atal trosedd ac anrhefn a diffyg
ffydd yng ngallu perchennog y busnes i reoli sŵn ac ymddygiad gwrth
gymdeithasol ar yr eiddo. ·
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi derbyn
cwynion am aflonyddwch sŵn ac nad oedd y busnes yn cadw at oriau caniatâd
Cynllunio. Yn amlygu pryder gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei dderbyn gan
yr ymgeisydd yn hanesyddol nac yn bresennol ar sut y bwriedir sicrhau fod
mesurau rheoli a chamau gweithredu mewn
lle i gyfarch yr amcanion trwyddedu. · Er nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais gan nad oedd yr oriau arfaethedig yn hwyrach nag eiddo trwyddedig eraill yn yr ardal, derbyniwyd sylw fod yr Heddlu wedi derbyn adroddiad o wyn sŵn cerddoriaeth yn dilyn digwyddiad yn yr eiddo ar y 31/5/24 a aeth yn ei flaen tan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |