Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Eitem 5

Cynrychiolydd Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS TRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 125 KB

TŶ COFFI REUBENS, 31 STRYD FAWR, CAERNARFON LL55 1RH

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 08:00 – 00:00

Dydd Llun 08:00 – 00:00

Dydd Mawrth 08:00 – 00:00

Dydd Mercher 08:00 – 00:00

Dydd Iau 08:00 – 00:00

Dydd Gwener 08:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo

 

Dydd Sul 08:00 – 23:30

Dydd Llun 08:00 – 23:30

Dydd Mawrth 08:00 – 23:30

Dydd Mercher 08:00 – 23:30

Dydd Iau 08:00 – 23:30

Dydd Gwener 08:00 – 23:30

Dydd Sadwrn 08:00 – 23:30

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, ac a gytunwyd yn y gwrandawiad, i’w  cynnwys fel amodau ar y drwydded:

 

·        Cofnod o bob gwerthiant alcohol a wrthodwyd

·        Gosod a chynnal system TCC gynhwysfawr gyda recordiadau i'w storio am o leiaf 31 diwrnod gyda stamp dyddiad ac amser

·        Hyfforddiant Staff;

·        Llyfr damweiniau mewnol

·        Polisi Her 25;

·        Dim cerddoriaeth uchel

·        Gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel ac yn barchus;

·        Cynnal asesiad effaith sŵn cyn agor yr eiddo i’r cyhoedd. Canlyniad i’w rannu gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd;

·        Gwahardd gwaredu poteli a chaniau gwastraff i gynwysyddion y tu allan i'r adeilad yn unol ag amodau’r drwydded rhwng 22:00 - 08:00.

·        Poteli gwag i’w storio mewn sgip / bin â chaead o fewn cwrtil y safle cyn eu casglu.

 

Nodyn:

 

Bydd yr ymgeisydd hefyd yn ymwybodol na all yr oriau trwyddedu fod ar waith hyd nes bod yr amrywiad oriau a nodir ar oriau'r caniatâd cynllunio presennol wedi'i amrywio a'i gymeradwyo. Mae'r caniatâd cynllunio presennol yn caniatáu masnachu tan 18:00 o'r gloch.

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Coffi Reubens. Eglurwyd y byddai’r eiddo yn gweithredu yn bennaf fel siop goffi gyda darpariaeth ychwanegol i werthu alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Adroddwyd bod Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad oherwydd pryderon ynglŷn â niwsans cyhoeddus. Rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol i’r eiddo agor fel coffi ac nid bar gydag oriau agor hyd 18:00 ac nid 00:00. Petai’r eiddo yn derbyn caniatâd i werthu alcohol, roedd Iechyd yr Amgylchedd yn pryderu, gyda cherddoriaeth fyw ac wedi ei recordio yn cael ei chwarae ar yr eiddo, bydd potensial o achosi aflonyddwch sŵn i eiddo preswyl cyfagos. Roedd Iechyd yr Amgylchoedd hefyd yn amlygu nad oedd asesiad effaith sŵn wedi ei gwblhau.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Adran Cynllunio oedd yn cadarnhau bod y cais yn groes i ofynion caniatâd cynllunio presennol yr eiddo - y caniatâd presennol yn caniatáu gweithgareddau hyd 18:00. Ategwyd nad oedd cais wedi ei dderbyn i amrywio’r oriau, ond bod cais i newid defnydd o A1 i A3 yn aros penderfyniad.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn amodol ar y telerau canlynol:

·        Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r caniatâd cynllunio, ac ni ddylai’r drwydded ddod i rym nes bod materion cynllunio wedi’u datrys

·        Rhaid i’r oriau gweithredu a’r gweithgareddau trwyddedig fod yn unol â’r oriau a ganiateir o dan y caniatâd cynllunio.

·        Dylid darparu asesiad effaith sŵn i fynd i’r afael â phryderon Iechyd yr Amgylchedd ac i sicrhau atal niwsans cyhoeddus.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

c)        Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawliau chwarae cerddoriaeth, nodwyd pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu bydd hawl gan yr ymgeisydd chwarae cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio a’i chwyddo hyd 23:00 - wedi hyn byddai angen rhybudd digwyddiad dros dro. Ategwyd bod Iechyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS TRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 152 KB

CLYNNOG PETROL STATION A SIOP,  ANNWYLFA GARAGE, CLYNNOG FAWR, CAERNARFON, GWYNEDD LL54 5PF

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

 

Dydd Sul 0:00 – 23:59

Dydd Llun 0:00 – 23:59

Dydd Mawrth 0:00 – 23:59

Dydd Mercher 0:00 – 23:59

Dydd Iau 0:00 – 23:59

Dydd Gwener 0:00 – 23:59

Dydd Sadwrn 0:00 – 23:59

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Gwerthu alcohol: Oddi ar yr eiddo

 

Dydd Sul 06:00 – 00:00

Dydd Llun 06:00 – 00:00

Dydd Mawrth 06:00 – 00:00

Dydd Mercher 06:00 – 00:00

Dydd Iau 06:00 – 00:00

Dydd Gwener 06:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 00:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, ac a gytunwyd yn y gwrandawiad, i’w  cynnwys fel amodau ar y drwydded:

  • Gosod a chynnal system CCTV fewnol ac allanol gynhwysfawr gyda recordiadau i'w storio am o leiaf 30 diwrnod
  • Offer diogelwch tân i'w osod a’i gynnal;
  • Hyfforddiant Staff mewn gweithdrefnau gwerthu alcohol a diogelwch alcohol;
  • Biniau digonol
  • Llyfr damweiniau mewnol
  • Hyfforddi staff ar weithredu cynllun Polisi Her 25. ‘Till prompt’ i’w ddefnyddio ar gyfer pob cynnyrch cyfyngedig oedran
  • Cofrestr gwrthod gwerthu yn cael ei cadw a’i gynnal ar yr eiddo
  • Gwirodydd i'w lleoli y tu ôl i'r cownter ac alcohol i'w storio i ffwrdd o'r fynedfa
  • Rhybuddion dim gyrru dan ddylanwad alcohol i'w harddangos ar y safle
  • Hyfforddiant gwrthod gwerthu i'r sawl sydd o dan ddylanwad alcohol
  • Arwyddion ar yr eiddo yn nodi na fydd alcohol yn cael ei werthu i'r rhai sydd o dan ddylanwad.

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)     Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Sterling Petroleum Cyf. Eglurwyd y byddai’r eiddo yn gweithredu fel siop gyfleustra gyda gorsaf betrol, a darpariaeth i werthu alcohol oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Is-bwyllgor ystyried yr ymatebion a chymeradwyo’r cais yn unol â’r cyfaddawd oriau gweithredu roedd yr ymgeisydd wedi cytuno iddo mewn ymateb i sylwadau Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), ac yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003.

 

b)     Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag argaeledd alcohol 24 awr mewn eiddo tebyg yn yr ardal, nodwyd mai’r unig eiddo oedd archfarchnad ym Mangor.

 

c)     Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod gan y cwmni nifer o leoliadau ar draws y wlad

·        Bod gan yr holl leoliadau sydd â garej, siop gyfleustra

·        Bod y cais, am drwydded gwerthu alcohol 24 awr, yn cyfateb i oriau agor y siop fyddai’n gwneud rheoli a gweithredu'r busnes yn fwy effeithiol

·        Bod gan y cwmni strwythur rheoli da, gyda Rheolwyr Ardal yn barod i gydweithio gyda thrigolion lleol a’r Awdurdod Lleol i gyflawni’r amcanion trwyddedu

·        Yn ddibynnol ar yr ardal neu’r gymdogaeth, bod rhai lleoliadau, sydd yn agor tu hwnt i 23:00 gyda ffenestr nos a / neu fesurau diogelwch ychwanegol, ond bod eraill gyda’u drysau yn agored i gwsmeriaid

·        Bod gan y cwmni brofiad helaeth o reoli trwydded alcohol 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos a’u bod yn gallu cynnig cefnogaeth i’r Heddlu drwy ddarparu TCC, ac yn fodd o gadw’r gymdogaeth yn ddiogel

·        Bydd mesurau diogelwch yn cael eu dilyn a’u gweithredu i warchod y cyhoedd

·        Bod rhaglen hyfforddiant fanwl ar gyfer staff

·        Bod yr amodau a gynigiwyd yn dderbyniol

·        Parod i ystyried amodau Iechyd Cyhoeddus BIPBC er nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno dros beidio caniatáu’r drwydded fel y cyflwynwyd

·        Yn annog yr Is-bwyllgor i wneud penderfyniad ar sail  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.