Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion
dan sylw’r hawl i breifatrwydd
ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus
sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad,
mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig
yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i
breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais
Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A
am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd (a darpar gyflogwr) yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir troseddau yr ymgeisydd.
Amlygodd bod y troseddau yn rhai
hanesyddol a bod yr ymgeisydd yn
derbyn ei fod wedi gwneud
camgymeriadau yn y gorffennol ond bellach yn canolbwyntio
ar fagu a chefnogi ei deulu.
Er bod ganddo swydd lawn amser,
nodwyd bod angen swydd hyblyg
arno i dreulio amser a chefnogi ei fab oedd
yn mynychu sesiynau hyfforddi peldroed ym Manceinion. Mewn ymateb
i gwestiwn a fyddai’r cyflogwr yn fodlon
cyflogi person gyda throseddau yn ymwneud ag anonestrwydd,
amlygodd y byddai yn barod i roi cyfle iddo. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd • sylwadau llafar
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad • adroddiad yr
Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ieuenctid Bangor
(Mawrth1995) am ladrad ac ymosodiad cyffredin.
O ganlyniad cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ieuenctid
Bangor (Chwefror 1996) am ymosodiad cyffredin ac affräe. O ganlyniad cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol, gorchymyn i dalu iawndal
o £50.00 a chostau o £150.00. Derbyniodd
gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Medi 1999) am fod yn feddw ac yn afreolus. Cafodd
ddirwy o £35.00 a gorchymyn
i dalu costau
o £65.00. Derbyniodd gollfarn
gan Lys Ynadon Conwy (Mai
2008) am ddefnyddio geiriau
sarhaus ac ymddygiad bygythiol gyda bwriad i achosi
ofn neu gymell
trais, ac ymosodiad cyffredin. Ar gyfer y troseddau hyn, cafodd orchymyn cymunedol, cyrffew 3 mis a gorchymyn i dalu costau
o £60.00. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: ·
Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol ·
Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd ·
Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest ·
Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu ·
Bod pobl
ddiamddiffyn wedi'u diogelu ·
Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i
ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau yn rhai hanesyddol
ac wedi digwydd yn ystod ei
arddegau. Roedd yn cyfaddef iddo
wneud pethau gwirion. Bellach roedd yn gwneud
gwaith gwirfoddol yn y gymuned ac amlygodd ei gymydog
nad oedd y troseddau yn adlewyrchiad
o’i gymeriad erbyn hyn. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
a’i gymydog yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |