Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu
Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini
prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig ` Cyflwynodd
y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am
drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y
cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol
ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Pennaeth Cyfreithiol i’r Swyddog Trwyddedu, cadarnhawyd
mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno adroddiad DBS i’r Awdurdod Trwyddedu.
Cadarnhawyd hefyd nad oedd ystyriaeth wedi ei roi i’r tri phwynt am oryrru gan
nad oeddynt yn groes i bolisi ac yn reswm i wrthod y cais. Mewn
ymateb i gwestiwn gan gynrychiolydd yr ymgeisydd i’r Swyddog Trwyddedu
ynglŷn â’r cais, cadarnhawyd bod Cwmni Premier Cars yn cyflwyno nifer o
geisiadau ac yn barod bob amser i gyd-weithio, yn agored ac yn ymwybodol iawn
o’r drefn Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi
gwybodaeth am gefndir y gollfarn ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd
bod amgylchiadau’r ymgeisydd ar y pryd yn anodd, ond ers hynny wedi troi ei
fywyd o gwmpas drwy ofalu am ei ferch a’i dad. Ategwyd bod y ffurflen gais wedi
ei chwblhau gan Reolwr Swyddfa Premier Cabs ac nad oedd unrhyw fwriad gan yr
ymgeisydd i gam arwain yr Is bwyllgor drwy beidio a chynnwys manylion am gael
ei wahardd rhag gyrru am 18 mis yn 2016. Yn unol a gofynion y Polisi, amlygodd
bod cyfnod o dair blynedd wedi mynd heibio ers y gwaharddiad ac nad oedd
troseddau eraill i’w hystyried. Dymuniad yr ymgeisydd oedd dychwelyd i waith er
mwyn cynnal ei ferch. Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Is-bwyllgor yn ymwneud a chwblhau’r
ffurflen gais a bod y ‘bocs anghywir’ wedi derbyn tic, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd mai camgymeriad gan y Rheolwr Swyddfa oedd yma ac nad oedd unrhyw
fwriad i dwyllo’r is-bwyllgor. Ategwyd bod y cais wedi ei wneud mewn ewyllys da
ac mai’r cwmni oedd wedi gwneud cais am y ffurflen DBS fel modd o baratoi ar
gyfer y gwrandawiad. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pennaeth Cyfreithiol, cadarnhawyd mai’r
ymgeisydd oedd wedi arwyddo’r ffurflen. PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ · ffurflen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan i
aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig ` Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell
i’r Is-bwyllgor ganiatau y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir
yr arnodiadau ar ei drwydded yrru
a’i amgylchiadau personol. Cyfeiriodd at y 6 phwynt a dderbyniodd o beidio â chael yswiriant car gan nodi mai darparu bwyd i unigolyn bregus ydoedd yn ystod
y cyfnod clo. Roedd yn derbyn
y dylai fod yn ymwybodol mai defnydd cymdeithasol oedd ganddo ar
y car ac nid defnydd busnes. Nododd ei fod yn
mwynhau gyrru a’i fod yn
deall a derbyn gofynion y swydd. Mewn ymateb
i gwestiwn gan y Swyddog Trwyddedu, nododd yr ymgeisydd nad oedd
wedi derbyn cadarnhad am ei
gyflogaeth gyda chwmni ‘Huw’sTaxis’, ond ei fod
wedi trafod gwaith gyda chwmnïau
lleol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Ym mis Mai 2020 derbyniodd yr ymgeisydd chwe phwynt cosb am ddefnyddio cerbyd heb yswiriant yn
erbyn risgiau trydydd parti ynghyd
a 3 pwynt cosb o yrru tu hwnt
i derfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
ym mis Medi 2020. O ganlyniad
roedd wedi derbyn 9 o bwyntiau cosb ar ei
drwydded yrru. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |