Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu
Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini
prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy
sicrhau: • Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Miss A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am
gefndir yr arnodiadau ar y drwydded a’i hamgylchiadau personol. Cyfaddefodd nad
oedd wedi cyflwyno manylion ei chyfeiriad newydd i’r Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau nac o hysbysu’r Adran Drwyddedu am droseddau traffig
difrifol - nododd ei bod ar y pryd yn symud tŷ ac yn cydnabod yr
esgeulustod. PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau
ar lafar ga yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn mis Ebrill 2020, derbyniodd yr ymgeisydd chwe
phwynt cosb am fethu a rhoi gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr. Ystyriwyd paragraff 2.2 o
Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am
drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod
yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a
dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae
paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu
fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff
y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr ac ati). Mae paragraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a
phriodol • Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag
pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif feddygol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am
gefndir y troseddau ar y cofnod DBS a’i amgylchiadau personol. Amlygodd ei fod
wedi bod drwy gyfnod tywyll, anodd yn ei fywyd ond bellach wedi dod drwyddi. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymdrin â chwsmeriaid afresymol, anodd
o fewn amgylchedd cerbyd cyfyng nododd bod sgwrsio, bod yn agored a delio gyda
chwsmeriaid wedi bod yn rhan o’r gefnogaeth a dderbyniodd drwy sesiynau
therapi. Ategodd bod y dystysgrif feddygol yn amlygu ei fod yn bodloni safonau
meddygol PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS a ffurflen feddygol ·
sylwadau ar lafar gan yr
ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn mis Ebrill 2013, cafwyd yr ymgeisydd yr ymgeisydd yn euog o drosedd o
guro sydd yn groes i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1998 (A.39). Derbyniodd
rybudd cymunedol dan oruchwyliaeth, costau o £250 a chostau iawndal £150. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i
berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i
gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried
yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno
na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu
Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried
pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |