Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan
4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y
byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod cais gan Mr A i adnewyddu ei drwydded
gyrrwr hacni / hurio preifat wedi ei wrthod gan Is bwyllgor 21.11.18. Nododd Mr
A bod y digwyddiad wedi cymryd lle ar ei noson stag a bod ei ymddygiad allan o
gymeriad. Roedd yn edifar am yr hyn a wnaeth ac eglurodd ei fod wedi ymddiheuro
i berchennog y siop am ei ymddygiad ar y bore canlynol. Nid oedd yn ymwybodol
bod derbyn rhybudd yn cael ei ystyried fel collfarn ac y byddai yn ymddangos ar
ei gofnod DBS. Mynegodd ei fod bellach yn gweithio ac wedi derbyn cymhwyster ymatebydd cyntaf –
cyflwynodd ddatganiad personol, tystlythyrau a geirda i gefnogi ei gais. Nid oedd gan ei ddarpar gyflogwr (petai y cais yn cael ei ganiatáu)
unrhyw sylw ychwanegol Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
datganiad personol yr
ymgeisydd , tystlythyrau / geirda Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarnau am gyfres o
droseddau (Ionawr 2010). Roedd y drosedd gyntaf am fethu ac ildio i’r ddalfa ar
yr amser a nodwyd yn groes i ofynion adran 6 Deddf Mechnïaeth 1976. Cafodd
ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu £85 costau. Roedd yr ail drosedd o fod yn
feddw ac afreolus o dan Adran 91 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967 (Ionawr 2010)
lle cafodd ddirwy o £50. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon
Wolverhampton (Chwefror 2010) am ddinistrio eiddo yn groes i adran 1 Deddf
Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £65 a gorchymyn i dalu costau o £85. Yn
Mai 2017 derbyniodd yr ymgeisydd rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru am ddefnyddio
geiriau / ymddygiad bygythiol a sarhaus / ymddygiad afreolus er mwyn achosi
braw / trallod yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, datganiad yr Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau, y
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Eglurodd bod Mr B wedi newid cyfeiriad ac nad oedd ei riant wedi cyfeirio
llythyrau ymlaen ato. O ganlyniad methodd ymateb i hysbysiad dirwy am fethu
talu toll. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r
ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd
cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu,
datganiad DBS a datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau Yn mis Hydref 2015
derbyniodd yr ymgeisydd dri phwynt cosb am dorri terfyn cyflymder statudol ar
ffordd gyhoeddus. Yn Hydref 2017 derbyniodd 6 pwynt cosb am fethu a rhoi
gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr. Nid oedd materion
pellach i’w hystyried.
Mae paragraff 12.2
sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y
troseddau mae MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr) gyda 12.3 yn nodi y byddai cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn
yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf. Ystyriwyd paragraff 13.1 sydd yn amlygu bod troseddau sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb yn ‘fân droseddau traffig’. Mae paragraff 13.2 yn nodi na fyddai collfarn neu fater arall i’w ystyried am fân drosedd traffig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |