Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i
breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a
rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau yn rhai
hanesyddol a'i fod bellach wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn cyflogi dau
berson. Nododd ei fod yn berson cyfrifol o gymharu â’i flynyddoedd cynnar ac
nad oedd wedi troseddu ers dros 12 mlynedd. Ychwanegodd ei fod yn gwirfoddoli
fel Marsial Rali Cymru ac wedi cwblhau achrediad diogelwch. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a
Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen
gais yr ymgeisydd • sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad • adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd
yn datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Bod cyfres o gollfarnau (Ebrill 1990) wedi eu
datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd yn cynnwys troseddau gyrru, megis, yfed a
gyrru, gyrru heb ofal, gyrru tra wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a dwy
drosedd traffig. O ganlyniad, cafodd ei ddedfrydu i 6 mis o garchar am y
drosedd yfed a gyrru, dedfryd o 6 mis ar gyfer gyrru heb ofal (yn rhedeg ar yr
un pryd) a 4 mis o garchar am y gwaharddiad (hefyd yn rhedeg ar yr un pryd).
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 5 mlynedd. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y collfarnau yn
gyfystyr â throseddau Yfed a Gyrru a Throseddau Traffig Difrifol oedd yn unol â
pharagraffau 11 a 12 o bolisi'r Cyngor. Wrth ystyried paragraff 11.2 oedd yn
nodi y byddai’n annhebygol rhoi trwydded i ymgeiswyr sydd a mwy nag un gollfarn
am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol, oni bai bod 10
mlynedd wedi mynd heibio, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y troseddau
yn sail i wrthod y cais oherwydd bod cyfnod o 22 mlynedd wedi pasio ers adfer y
drwydded yrru. Yr un oedd y farn ynglŷn â’r collfarnau gyrru heb ofal, gyrru tra wedi ei wahardd, gyrru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: ·
Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol ·
Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd ·
Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest ·
Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu ·
Bod pobl
ddiamddiffyn wedi'u diogelu ·
Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar
y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd bod rhai o’r troseddau
yn hanesyddol, arwahan i un o ymosodiad yn Mehefin
2017. Ymhelaethwyd ar amgylchiadau'r ymosodiad a nodwyd bod yr ymgeisydd
yn cyfaddef ei fod wedi
gwneud camgymeriad. Er yn ymwybodol
o’r drosedd roedd wedi bod yn agored a gonest
wrth gyflwyno’r cais. Nodwyd nad oedd tebygolrwydd y byddai yn ail droseddu
a bod cael gwaith yn gyfle iddo
wella ansawdd ei fywyd a darparu
ar gyfer ei blant. Gofynnwyd
i’r panel rhoi ystyriaeth lawn i’r sefyllfa ac awgrymwyd mai canllaw yn unig
oedd y polisi ac felly bod modd gwyro i
gyrraedd y penderfyniad cywir. Ymneilltuodd yr
ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu
i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol. Bod cyfres helaeth o gollfarnau wedi eu datgelu
ar gofnod DBS yr ymgeisydd oedd
yn cynnwys troseddau (rhwng 1990 a 1998) am ddifrod troseddol, troseddau gyrru, codi cynnwrf, lladrad
ac ymosodiad cyffredin. Roedd yr Is Bwyllgor
o’r farn bod nifer o’r collfarnau
hyn yn berthnasol
i droseddau lladrad gyda’r un mwyaf diweddar wedi ei wneud
yn 1996. Wrth ystyried paragraff 8.2 o’r polisi a bod y troseddau hyn yn
rhai hanesyddol, nid oedd yn
sail i wrthod y cais. Yr un oedd y farn ynglŷn â’r collfarnau hanesyddol gyrru a thrais lle ystyriwyd
paragraffau 12 a 6.5 o’r polisi. Roedd yr Is Bwyllgor er hynny yn amlygu pryder wrth ystyried collfarn o ymosod ac aflonyddu (Mehefin 2017) lle derbyniodd yr ymgeisydd, o dan adran 2 o’r Ddeddf Gwarchod rhag Aflonyddu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |