Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: None to note |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i
breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr A (copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Amlygwyd bod yr ymgeisydd
wedi nodi collfarn am drosedd
o dan adran 4 Deddf Trefn Cyhoeddus 1986 ar ei ffurflen
gais nad oedd wedi ei gynnwys
ar y cofnod DBS. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau
personol. Eglurodd pob sefyllfa yn
fanwl yn eu tro ac amlinellodd
na dderbyniodd gollfarn am fethu rhoi
gwybodaeth ynghylch hunaniaeth gyrrwr ond hysbysiad cosb
benodedig a phwyntiau ar ei drwydded.
Ategodd hefyd nad oedd yn
gyrru cerbydau yn rheolaidd ac mai gwaith gyrru
wrth gefn y byddai yn wneud
fwyaf. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod
y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yn 2012 am drosedd o dan Adran 4 o’r Ddeddf
Trefn Gyhoeddus 1986.Ym mis
Hydref 2016, derbyniodd 4 pwynt cosb ar
ei drwydded gyrru am dorri
terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus.
Ystyriwyd 6 pwynt ychwanegol a dderbyniodd ym mis Mawrth 2018 am dramgwyddo gofynion
ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati
ynghyd a 6 pwynt pellach am fethu
a rhoi gwybodaeth ynghylch hunaniaeth gyrrwr. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais gan Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Gwahoddwyd cynrychiolydd / cyflogwr yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais a chynnig eglurhad am y troseddau gyrru. Amlygodd bod Llys Ynadon
Caernarfon wedi caniatáu i’r ymgeisydd gadw ei drwydded oherwydd
ei amgylchiadau personol. Eglurodd y byddai nifer o’r pwyntiau
ar y drwydded wedi ei diddymu
erbyn diwedd mis Chwefror fyddai, o ganlyniad yn gadael cyfanswm o 5 pwynt.
Amlygodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad
oedd wedi derbyn cwynion
am Mr A ac ategodd ei fod
yn gymeriad hoffus, cwrtais a dibynnol. Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad ·
llythyr geirda ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd
a ddarparwyd gan Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am
oryrru ar ddau achlysur ym
mis Ionawr 2016 (daeth y pwyntiau hyn i ben yn Ionawr 2019). Yn mis Chwefror 2016 derbyniodd 3 pwynt am oryrru (dod
i ben Chwefror 2019) a pum pwynt pellach ym
mis Gorffennaf 2016 (dod i
ben Gorffennaf 2019). Nid oedd
collfarnau, rhybuddion nac arnodiadau eraill gan yr ymgeisydd. Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Ystyriwyd paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Amlygwyd nad yw SP30 (goryrru) yn cael ei gynnwys yn y rhestr ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |