Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr ymgeisydd Mr A |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â
hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion
yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO
PREIFAT – Mr A Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd (ei ddarpar
gyflogwr petai’r drwydded yn cael
ei chaniatáu) i ymhelaethu ar gais Mr A gan roi gwybodaeth am gefndir
y drosedd a’i amgylchiadau personol. Nododd bod yr
ymgeisydd yn edifarhau a’i fod
bellach gyda swydd gyfrifol ac yn gwasanaethu’r
cyhoedd yn ddyddiol. Amlygodd mai rhybudd yn unig
a dderbyniodd a bod dyddiad y gollfarn bellach tu hwnt i’r cyfnod tair
blynedd. Ategodd, mewn achos lle
ceir collfarnau hanesyddol, bod angen ystyried adolygu Polisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ·
sylwadau ar lafar cynrychiolydd yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn Ionawr 2017 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Heddlu Gogledd Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol a sarhaus, neu ymddwyn yn afreolus i’r
perwyl o achosi aflonyddu, braw neu ofid, yn groes i
Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd
am y drosedd Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO
PREIFAT – Mr B ` Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau
a’i amgylchiadau personol. Amlygodd ei fod yn
edifarhau a bellach wedi aeddfedu. Nododd bod ganddo
swydd gyfrifol yn y maes gofal
a bod angen swydd ychwanegol arno i dalu ffioedd
gofal plant gan fod ef a’i wraig
yn gweithio llawn amser. Ategodd
ei fod wedi
datgelu’r troseddau i’w gyflogwr. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr
ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn Medi 2016 cafwyd yr
ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon
Gwynedd am yrru cerbyd o
dan ddylanwad alcohol yn groes i Ddeddf
Traffig a Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £300, costau o £85 ei wahardd o yrru am 18 mis (wedi ei leihau
petai yn mynychu cwrs gyrru)
ynghyd a thal ychwanegol o £30. Yn Ebrill 2017 cafwyd yr
ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon
Gogledd Orllewin Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymsosodol a sarhaus, neu ymddwyn yn afreolus i’r
perwyl o achosi aflonyddu, braw neu ofid, yn groes i
Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd orchymyn
cymunedol, costau o £85, costau ychwanegol ynghyd a chais i gwblhau gweithgaredd
adsefydlu Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |