Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y gollfarn ynghyd a’r pwyntiau cosb
ar ei drwydded
a’i amgylchiadau personol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Ionawr
1988 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ymosodiad
gan Achosi Gwir Niwed Corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf
Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47. Yn Chwefror
2022 derbyniodd yr ymgeisydd
chwe phwynt cosb arnodedig ar ei drwydded
am Dorri Gofynion (Breach of Requirements) rheoli cerbyd, ffôn symudol
ac ati. CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau ar ei gofnod DBS a’i
amgylchiadau personol. Roedd ei drwydded
yrru yn drwydded
lân. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
‘Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Chwefror
2022 cafwyd yr ymgeisydd yn euog ar
ddau gyfrif : Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol
(ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47 ac Affräe yn
groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 A.3 - derbyniodd yr ymgeisydd orchymyn
cosb gymunedol am dri mis Yn Awst
2012 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ymosodiad
gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf
Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47 - derbyniodd
yr ymgeisydd ddedfryd o 18
mis yn y carchar. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd
ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol
fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod
yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried
yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ... view the full COFNODION text for item 6. |