Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd
y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn
disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Miss A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Mewn ymateb
i gwestiwn am fwy o wybodaeth ynglŷn â Thystysgrif Llwyddiant Diogelwch i Yrwyr Tacsi (Safeguarding for Taxi
Drivers), nododd y Rheolwr
Trwyddedu mai cwrs hyfforddi
rhyngweithiol o ansawdd uchel ydoedd yn
addysgu dysgwyr ar sut i gyflawni eu dyletswyddau diogelu a hynny drwy adnabod
gwahanol fathau o gam-drin a/neu gam-fanteisio ac adrodd ar y pryderon
hynny yn briodol. Ategodd, ers tair blynedd, bod
yr Uned Trwyddedu yn argymell gyrwyr tacsi i gwblhau’r hyfforddiant, a'r bwriad i’r dyfodol
yw ei wneud
yn rhan o’r
Polisi Trwyddedu Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau
ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nododd fod yr ymgeisydd
wedi bod yn onest yn
ei chais ac wedi egluro pam
gafodd y gorchymyn cymunedol ei ddirymu.
Ategodd mai un digwyddiad oedd yma a bod
yr ymgeisydd wedi pledio yn euog.
Petai’r cais yn cael ei
ganiatáu byddai yn hapus i’w
chyflogi. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar ei chais, ond mynegodd ei
bod yn hapus
gyda’r hyn roedd ei chynrychiolydd
wedi ei gyflwyno. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Datganiad DBS ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
cynrychiolydd yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn mis Ionawr 2020 cafwyd yr ymgeisydd yn euog
o ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol
(ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861.A.47 Yn Mawrth
2022 cafwyd yr ymgeisydd yn euog am
fethu cydymffurfio gyda gofynion gorchymyn
Cymunedol yn groes i Ddeddf Dedfrydu 2020 Atodlen10 a gafodd ei ddirymu ar
ôl hynny. CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: PENDERFYNIAD Gohirio’r
penderfyniad er mwyn gwneud ymholiadau pellach Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau goryrru ar ei
gais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb a dderbyniodd am oryrru. Wrth gyflwyno
ei wybodaeth daeth i’r amlwg
nad oedd cyfanswm y pwyntiau cosb ar Adroddiad
yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr
a Cherbydau (DVLA) yn cyfateb i’r hyn
roedd yr ymgeisydd yn ei gyflwyno
i’r Is-bwyllgor ynghyd a dryswch ynglŷn â chofnod y TT99 ar yr un adroddiad. (Mae cofnod TT99 yn amlygu gwaharddiad o dan 'totting-up' - os yw cyfanswm y pwyntiau cosb yn cyrraedd
12 neu fwy o fewn 3 blynedd, gellid diarddel y gyrrwr). Datgelodd yr ymgeisydd hefyd yn ei gyflwyniad
ei fod wedi
ei wahardd rhag gyrru am
gyfnod o ddwy flynedd - gwybodaeth nad oedd wedi
ei ddatgelu i’r Uned Drwyddedu
yn unol â gofynion trwydded tacsi. PENDERFYNWYD Gohirio’r penderfyniad er mwyn gwneud ymholiadau
pellach Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Ionawr
2023, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben Ionawr
2026 Yng Ngorffennaf
2023, derbyniodd yr ymgeisydd
4 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben Gorffennaf
2026 Arnodiad TT99 yn nodi cyfri’r pwyntiau os yw’r cyfanswm pwyntiau
cosb yn cyrraedd
12 neu fwy o fewn 3 blynedd, ac yn dod
i ben Ebrill 2025 CASGLIADAU Ystyriwyd esboniad yr ymgeisydd o’i amgylchiadau a’r anghysondebau oedd yn ei
gyflwyniad, gwybodaeth gan yr Uned Drwyddedu
ac Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr
a Cherbydau (DVLA). O ganlyniad, penderfynodd yr
Is-bwyllgor o blaid gohirio’r cais er mwyn gwneud ymholiadau
pellach i gais yr ymgeisydd. Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |