Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb a’i amgylchiadau personol. Nododd fod ganddo drwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat ers 2008 a phan fu iddo dderbyn y drwydded cafodd gyngor i adrodd ar unrhwy achosion o yfed a gyrru a/ neu ymddygiad troseddol i’r Uned Trwyddedu, ond dim sôn am adrodd ar bwyntiau gyrru. Ategodd mai diweddar oedd y pwyntiau a hynny oherwydd newidiadau mewn cyfyngiadau cyflymder yn yr ardaloedd roedd yn teithio gyda’i waith. Derbyniodd ddifrfioldeb y sefyllfa, petai yn colli ei drwydded y byddai yn colli ei waith.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·        GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·        Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·        Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·        Ffurflen gais yr ymgeisydd

·        Datganiad DBS

·        Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·        Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd ynghyd a thystiolaeth a gwybodaeth ysgrifenedig

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn mis Rhagfyr 2022 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, yn yr un lleoliad, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

Yn mis Hydref 2024 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais gan nad oedd nad oedd tair blynedd wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad gyrru.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb a’i amgylchiadau personol. Nododd bod cyfnod covid wedi bod yn gyfnod anodd iddo a’r digwyddiad yn parhau i gael effaith arno. Ategodd ei fod wedi derbyn hysbysiad yn nodi lleihad yn ei oriau gwaith pob dydd ac o ganlyniad, roedd rhaid iddo ystyried incwm ychwanegol i gefnogi ei deulu.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·        GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·        Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·        Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·        Ffurflen gais yr ymgeisydd

·        Datganiad DBS

·        Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·        Datganiad Tyst

·        Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd ynghyd a thystiolaeth a gwybodaeth ysgrifenedig

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r mater canlynol

 

Cefndir

 

Yn Chwefror 2021, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn o dan y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 am yrru o dan ddylanwad cyffuriau. Fe’i gwaharddwyd rhag gyrru am 12 mis yn weithredol o’r 3ydd o Awst 2021.      

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.