Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Claire Armitstead
(Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Richard Collet (Cynrychiolydd Ysgolion
Cynradd), Rhys Howard Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Geraint Davies (Cyngor Sir
Ddinbych) a Gareth Williams (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol GwE) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd
unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL - 10 TACHWEDD, 2021 PDF 322 KB (copi
ynghlwm) Cofnod: Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r
cyfarfod ar y 10fed o Dachwedd, 2021 yn gywir. |
|
CYLLIDEB GWE 2021-22 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER PDF 385 KB Adroddiad gan
Reolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Cyllid yn diweddaru’r aelodau ar
adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar
yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth
ariannol gyflawn. Mewn ymateb i gais
am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r bwriad i wneud defnydd o £100,000
ychwanegol yn erbyn y pennawd grant gwella ysgolion cyffredinol, eglurodd y
Rheolwr Gyfarwyddwr:- ·
Bod
y tanwariant dros y 2 flynedd ddiwethaf, yn ystod y pandemig,
ychydig dros £250,000, ac yn ddelfrydol, y dymunid symud yn ôl tuag at y
sefyllfa hynny, gan fod angen i’r arian fod yn yr ysgolion. ·
Bod
yr ysgolion yn wynebu heriau trawsffurfio sylweddol ar hyn o bryd, gyda
dyfodiad y cwricwlwm newydd, yr uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg
erbyn 2050, Rhaglen Trawsnewid ADY a’r gwaith sylweddol sydd angen ei gwblhau
ym maes asesiadau, ynghyd ag ystyriaethau llesiant ac arweinyddiaeth. ·
Mai
un o’r heriau yn wynebu ysgolion ar hyn o bryd oedd prinder athrawon
llanw. Fodd bynnag, golygai hyn
fuddsoddi yn y tymor hwy, fel bod gan yr ysgolion yr adnodd ariannol i
gynllunio’r prif flaenoriaethau hyn o fewn eu cynlluniau datblygu
ysgolion. Gan hynny, wrth i’r pandemig gilio, byddai mwy o gyflenwad yn dod ar gael, fel
bod modd i’r ysgolion adeiladu mwy o gapasiti i mewn
i’w strwythurau cynllunio i wneud y newidiadau hynny. |
|
CYLLIDEB SYLFAENOL 2022-23 PDF 373 KB Adroddiad gan
Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2022/23 fel y’i chyflwynir yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r
gyllideb sylfaenol ar gyfer 2022/23 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. Trafodaeth Cyflwynwyd -
adroddiad y Pennaeth Cyllid yn cyflwyno cyllideb sylfaenol GwE 2022/23 (Atodiad
1 i’r adroddiad) a chyfraniadau ariannol yr awdurdodau (Atodiad 2). Gwahoddwyd y Cyd-bwyllgor i fabwysiadu’r
gyllideb sylfaenol. Awgrymwyd bod swm
y balansau, sef agos i £600,000, yn ymddangos yn uchel,
a holwyd a oedd y swyddogion yn gyfforddus gyda hynny. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:- ·
Bod
y ffigwr ychydig llai na £300,000 2 flynedd yn ôl, sef tua hanner y swm
presennol. Yn bersonol, byddai’n dymuno
dod â’r ffigwr yn ôl i lawr i’r lefel honno, a byddai hynny’n eithaf rhwydd i’w
wneud drwy roi arian i gefnogi blaenoriaethau i roi capasiti
i ysgolion. ·
Y
byddai’n rhaid gwneud yn siŵr wedyn bod yr isadeiledd a’r strwythurau y tu
ôl i hynny mewn lle, er mwyn sicrhau gwerth am yr arian ychwanegol yna ar lefel
ysgol, ar lefel awdurdod, ac wedyn ar lefel rhanbarth. ·
Yn
sgil y cynnydd presennol mewn chwyddiant, bod angen ystyried beth sy’n swm
darbodus i’w gadw wrth gefn, gan gofio hefyd y rhagolygon cynnar bod cyllideb
2023/24 am fod yn fwy heriol, o bosib’.
Hefyd, er na dderbyniwyd y gyllideb grantiau gan Lywodraeth Cymru hyd
yma, roedd y naratif cychwynnol yn sôn am doriad eithaf sylweddol i’r pwll
grantiau, ond heb weld y manylion, nid oedd yn glir eto beth fyddai effaith
hynny. ·
Petai’r
gyllideb grantiau yn cyweddu yn eithaf tebyg i’r sefyllfa eleni, yna gyda
chyngor ar yr hyn sy’n ddarbodus o ran chwyddiant, byddai’r gwahaniaeth yna yn
dod â ni yn ôl i oddeutu'r 2-3%, neu i’r sefyllfa fel
ag yr oedd 2 flynedd yn ôl. Dyna’r nod,
os nad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, yna yn sicr yn ystod y flwyddyn
ariannol nesaf. Nododd y Cadeirydd
fod yr ansicrwydd ynglŷn â chwyddiant cyflogau athrawon ym mis Medi hefyd
yn gost anhysbys y byddai’n rhaid ei gyfarch o falansau,
yn hytrach na thorri gwasanaethau, a’i bod felly bob amser yn ddoeth cadw
rhywfaint o arian wrth gefn. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-22 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 3 PDF 252 KB Adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3. Cofnod: PENDERFYNIAD Cymeradwyo
a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3. Trafodaeth Cyflwynwyd -
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor gymeradwyo a derbyn
adroddiad monitro chwarter 3 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-22 GwE. Mynegwyd pryder
ynglŷn â chapasiti yn wyneb y cynnydd yn nifer
ymweliadau Estyn, a’r angen i ddeall sut yn union fyddai’r drefn newydd yn
gweithio, ac effaith Covid ar hynny, o gofio bod
dysgwyr a gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan y pandemig
bellach wedi cyrraedd oed arholiad.
Holwyd pryd fyddwn ni’n gwybod faint ar ei hôl hi mae’r dysgwyr, a faint
o ystyriaeth fydd Estyn yn ei roi i hynny. Mewn ymateb, nododd y
Rheolwr Gyfarwyddwr:- ·
Bod
y 2 flynedd ddiwethaf, heb arolygiadau ffurfiol, wedi rhoi cyfle i’r system
anadlu a thyfu a chydweithio ar wella gwahanol bethau, yn arbennig yng
nghyd-destun trawsffurfiol y prif faterion polisi. ·
O
ran sut fyddai’r drefn newydd yn gweithio, nid ffurf yr arolygiadau oedd y brif
ystyriaeth, eithr y diwylliant, a sut i reoli hynny oll mewn ffordd deg a
chyfiawn ar draws y gyfundrefn, wrth i wahanol bobl fynd o ysgol i ysgol. ·
Y
disgwylid y byddai yna bwysau sylweddol ar y system wrth symud ymlaen, a
byddai’r arolygiadau cyntaf ym mis Medi yn allweddol o safbwynt gweld a yw’n
fwriad gan Estyn edrych ar y cyd-destun ai peidio. ·
Gyda
phob ysgol yn cael 10 diwrnod yn unig o rybudd o arolwg, byddai’r sefyllfa’n
wahanol iawn i’r 2 flynedd ddiwethaf, a dyma lle’r oedd y cydweithio’n
bwysig. Roedd yna weithdrefnau mewn lle
rhwng GwE a’r awdurdodau lleol, ond gyda dwbl yr arolygiadau, byddai yna gost
hefyd yn nhermau adnoddau dynol. Nodwyd bod llawer o
waith wedi’i wneud i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o benaethiaid ysgolion, ac i
annog dirprwy benaethiaid, ac ati, i ymgeisio am swyddi penaethiaid, ond holwyd
a fyddai’n rhaid ystyried ymgeiswyr o dros y ffin i lenwi rhai o’r swyddi, ac
os felly, pa gefnogaeth gychwynnol fyddai ar gael i sicrhau bod y bobl hynny yn
llwyr ymwybodol o’r newidiadau enfawr sy’n digwydd ym maes addysg yng Nghymru
ar hyn o bryd. Mewn ymateb, nododd y
Rheolwr Gyfarwyddwr:- ·
Nad
oedd ganddo lawer o bryder ynglŷn â’r niferoedd, ond hytrach y diffyg
cyfle i roi cynllunio olyniaeth ar waith dros y 2 flynedd ddiwethaf, gan y bu’n
rhaid canolbwyntio’n llwyr ar gynnal, yn hytrach na datblygu, addysg. ·
Y
byddai’r gwaith o gefnogi’r sawl sydd ag uchelgais i fod yn bennaeth, a
phenaethiaid newydd, yn un o’r prif flaenoriaethau wrth symud ymlaen. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD AR Y DAITH DDIWYGIO TYMOR YR HYDREF 2021 PDF 276 KB Adroddiad
gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel
uchod a nodwyd. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn
a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchod a
nodwyd. Trafodaeth Cyflwynwyd -
adroddiad y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn cyflwyno gwybodaeth i’r Cyd-bwyllgor yng
nghyd-destun ble mae ysgolion ac UacCD arni ar hyn o
bryd wrth iddynt roi sylw i’r agenda adfywio a diwygio, a hynny’n seiliedig ar
dystiolaeth a gasglwyd gan Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE fel rhan o’u
gwaith yn cefnogi ysgolion yn ystod tymor yr hydref 2021. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a
chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchel a
nodwyd. Cadarnhaodd
Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei bod hi a’r prif swyddogion yn llwyr gefnogol i’r
daith ddiwygio, a’u bod yn ddiolchgar am y trosolwg cynhwysfawr gan y Rheolwr
Gyfarwyddwr a’i dîm, a’r mewnbwn gan swyddogion eraill hefyd i gyfarfodydd y
Bwrdd Rheoli ynghylch y manylion o gwmpas y cyfleoedd i gefnogi’r gwaith o
gyflwyno’r cwricwlwm. Nodwyd bod yna
lawer o elfennau heriol ar droed ar hyn o bryd, ond holwyd a oedd yna unrhyw
beth y dylai’r Cyd-bwyllgor fod yn arbennig o wyliadwrus yn ei gylch ar y pwynt
yma. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:- ·
Bod
angen i bawb fod yn ymwybodol o’r shifft sylweddol o gwricwlwm cenedlaethol,
lle mae pawb yn weddol unffurf yn ei ddilyn, i gwricwlwm sy’n cael ei arwain
gan bwrpas, ac sy’n gwricwlwm lleol, a pha mor bwysig ydyw bod y llywodraethwyr
ac arweinyddiaeth yr ysgolion yn arwain y cynnig yma yn eu cymunedau, ac i’w
disgyblion, ac yn cyfathrebu hynny’n glir. ·
O
bosib’, na lawn sylweddolwyd pa mor bwysig yw rôl yr arweinyddiaeth yn yr ysgol
yn diffinio’r arlwy maen nhw’n dymuno ei roi i’r disgyblion er mwyn gwneud yn
siŵr eu bod yn llwyddo yn eu milltir sgwâr. ·
Mai
her arall i’r gwleidyddion, ac i’r swyddogion, oedd bod yr arlwy am fod yn
wahanol o ysgol i ysgol, ac y byddai’r gwaith o gymharu ysgolion hefyd yn
digwydd ar lefel ychydig yn wahanol. ·
Ei
bod yn ofynnol i’r arweinyddiaeth fod yn glir o ran beth yw’r rhesymeg dros eu
cynnig hwy yn lleol. Roedd cymunedau yn
hollol wahanol i’w gilydd yn ieithyddol ac o ran diwydiant, ayb. Roedd yna bethau creiddiol fyddai’n
gyffredin, ond pethau eraill fyddai’n gwneud y cynnig yn y gwahanol ardaloedd
yn unigryw, ac yn benodol ac yn bersonol i’r disgyblion hynny, a’u taith hwy
tuag at fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant. ·
Bod
gennym waith i addysgu ein hunain, a gwaith i’r swyddogion, yn eu hadroddiadau
craffu, i egluro a rhoi cyd-destun i’r newid mewn diwylliant a’r gwahaniaeth
fyddai yna mewn cynnig o ysgol i ysgol. Mynegwyd pryder
ynglŷn â gallu’r seilwaith i ymdopi â’r holl bwysau wrth symud ymlaen,
e.e. o ran y cwricwlwm a’r Rhaglen Trawsnewid ADY, a holwyd a ddylem fod yn
gwthio nôl ychydig, ac yn datgan nad yw’n ‘fusnes fel arfer’ yn y maes
addysg. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:- · Bod yna flaenoriaethau a gytunwyd ar lefel genedlaethol, ac sy’n rhaid eu mabwysiadu ar lefel leol. Cytunid bod yna densiwn, a rôl GwE ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADOLYGU STRWYTHUR Y TIM BUSNES PDF 250 KB Adroddiad gan
Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Penderfyniad: ·
Nodi cynnwys yr
adroddiad a rhoi caniatâd i’r gwasanaeth symud ymlaen gyda’r newidiadau i
sicrhau cynhwysedd priodol. ·
Cyflwyno adroddiad
pellach i’r cyd-bwyllgor ar yr adeg priodol ar ganlyniadau’r ail-strwythuro. Cofnod: PENDERFYNIAD ·
Nodi
cynnwys yr adroddiad a rhoi caniatâd i’r gwasanaeth
symud ymlaen gyda’r newidiadau i sicrhau cynhwysedd
priodol. ·
Cyflwyno adroddiad
pellach i’r Cyd-bwyllgor ar yr adeg briodol ar ganlyniadau’r ail-strwythuro. Trafodaeth Cyflwynwyd -
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor
am y bwriad i ail-strwythuro Tîm Busnes GwE.
Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad a rhoi caniatâd i’r
gwasanaeth symud ymlaen gyda’r newidiadau i sicrhau cynhwysedd priodol. |
|
CYFLAWNI'R DAITH I WEITHREDU'R CWRICWLWM - CYMORTH I YSGOLION PDF 275 KB Adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau
arfaethedig fel yr amlinellir. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn
a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig fel
yr amlinellir. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor
am y cymorth sydd ar gael i ysgolion dros y ddau dymor nesaf i’w galluogi i
weithredu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad,
ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig a amlinellwyd. Holwyd a
ddisgwylid bod y safon yn eithaf cyson ar draws yr ysgolion. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Arweinydd –
Cynradd:- ·
Bod
rhaid derbyn bod pob ysgol mewn lle gwahanol ar y siwrne, gyda rhai angen mwy o
gefnogaeth nag eraill, ond trwy’r arlwy yma, gobeithid sicrhau bod yr elfennau
statudol yn eu lle erbyn mis Medi, gyda phob ysgol wedi cael y gefnogaeth a’r
cyfle i fynd drwy’r broses. ·
Bod
hyn hefyd yn rhoi cyfle i bob ysgol gychwyn ar y daith gynllunio, ac edrych ar
y meysydd datblygu hyfforddiant. Roedd
llawer o ysgolion wedi cychwyn ar y gwaith yma eisoes, a byddai’n rhoi pob
ysgol mewn lle i fedru dechrau ym Medi. ·
Bod
rhaid cofio mai dechrau’r siwrnai yn unig fydd hyn, ac y bydd yna lawer o
ail-ymweld a llawer o gefnogaeth ar gael fel bod ysgolion yn gallu addasu a
chael y cwricwlwm mewn lle yn briodol dros y blynyddoedd i ddod. Nodwyd, er
gwaethaf yr anawsterau dros y 2 flynedd ddiwethaf, y gobeithid bod y gwaith
wedi’i gyflawni fel na wynebir gormod o heriau rhwng hyn a mis Medi. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:- ·
Er
bod yna le i roi'r dimensiwn lleol, bod yna broses ffurfiol y mae’n rhaid i
bawb fynd drwyddi i gyrraedd y pwynt, ac mai prif fwriad y gyfres nesaf o
weithdai fyddai rhoi’r rhwydwaith diogelwch o gwmpas yr ysgolion, fel bod pawb
yn glir o ran cyflawni’r pethau sydd angen bod yn barod. ·
Bod
y cwestiwn o ansawdd angen sylw, fel yn y blynyddoedd a fu, ond byddai yna
heriau lleol iawn, ac roedd angen i ni i gyd ystyried beth yw’r gymuned rydym
yn byw oddi fewn iddi. Roedd yna gymuned
i’r ysgol, ond roedd y gymuned ysgol yna yn byw o fewn cymuned awdurdod hefyd,
ac roedd yna drafodaeth gorfforaethol o gwmpas arweinyddiaeth y cwricwlwm a’r
cyfeiriad strategol y dymunai’r cyngor ei ddilyn hefyd. Gan hynny, roedd rhaid peidio meddwl bod
ysgolion mewn gwagle yn gweithredu eu dymuniadau eu hunain, ac roedd yn ofynnol
iddynt weithio o fewn yr is-adeiledd yma hefyd. Nodwyd mai’r her
fwyaf yw’r trosglwyddo o flwyddyn 6-7, a sut mae’r ysgolion yn mynd i ymdopi â
hynny o ran dalgylchoedd lleol. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:- ·
Bod
hon yn her ar fwy nag un lefel, oherwydd, er mwyn gosod y weledigaeth yn ei
chymuned, ei bod yn ofynnol i’r gymuned o 3-18 oed gael y weledigaeth, neu bydd
yna linynnau gwahanol yn dod i mewn. · I gymhlethu’r sefyllfa, roedd yna rai ysgolion lle mae eu dalgylchoedd naturiol yn croesi, a hefyd disgyblion yn symud o ysgol i ysgol o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
LLYTHYR I'R GWEINIDOG ADDYSG YNGHYLCH CYFRES GYMWYSTERAU 2021-22 A'I YMATEB PDF 251 KB Adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’n ffurfiol gynnwys y llythyr. Cofnod: PENDERFYNIAD Nodi’n ffurfiol gynnwys y llythyr. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor nodi’n ffurfiol
gynnwys llythyr a anfonwyd at y Gweinidog Addysg ar 12 Ionawr, 2022, ar ran y
Cyd-bwyllgor, ynghylch cyfres gymwysterau eleni. Gofynnwyd hefyd i’r Cyd-bwyllgor ystyried oes
angen unrhyw ohebiaeth bellach â’r Gweinidog Addysg ar hyn o bryd yn dilyn ei
ymateb i’r llythyr. Nodwyd, er
gwaethaf penderfyniad y Llywodraeth i asesu drwy arholiadau eleni, bod llawer,
os nad y mwyafrif o ysgolion, yn teimlo nad oedd hynny’n briodol yn yr
amgylchiadau. Nododd y Cadeirydd
fod pawb yn rhannu’r pryderon hyn, gan nodi y byddai’n ddiddorol gweld pa
sicrwydd fydd y Gweinidog Addysg yn gallu rhoi i’r aelodau yn ei gyfarfod gyda
hwy yn dilyn y cyfarfod hwn. Mynegwyd
gwerthfawrogiad o’r llythyr a anfonwyd at y Gweinidog Addysg ar ran yr aelodau,
a nodwyd ei fod yn adlewyrchu’r cydweithio aeddfed o fewn GwE. |
|
CYTUNDEB RHANNU GWYBODAETH AM DDISGYBLION Y RHANBARTH PDF 246 KB Adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi cynnwys yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Nodi cynnwys yr adroddiad. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor
ynglŷn â’r cytundeb rhannu gwybodaeth am ddisgyblion sy’n bodoli rhwng yr
awdurdodau lleol a GwE. |
|
CALENDR CYFARFODYDD 2022-23 PDF 264 KB Adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Penderfyniad: ·
Cymeradwyo’r calendr
cyfarfodydd fel y’u cynigir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. ·
Awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr i symud y cyfarfod
a raglenwyd eisoes ar gyfer Mai eleni i ddechrau Mehefin,
os oes angen,
mewn ymgynghoriad â’r Bwrdd Rheoli,
yn ddibynnol ar y sefyllfa
o safbwynt ail-ddyrannu’r portffolios addysg yn yr awdurdodau yn dilyn yr etholiad. ·
Awdurdodi Cadeirydd 2022/23 i wneud newidiadau i’r calendr yn Atodiad 1, os oes
angen. Cofnod: PENDERFYNIAD ·
Cymeradwyo’r
calendr cyfarfodydd fel y’u cynigir
yn Atodiad 1 i’r adroddiad. ·
Awdurdodi’r
Rheolwr Gyfarwyddwr i symud y cyfarfod
a raglenwyd eisoes ar gyfer Mai eleni i ddechrau Mehefin,
os oes angen,
mewn ymgynghoriad â’r Bwrdd Rheoli, yn ddibynnol ar y sefyllfa o safbwynt ail-ddyrannu’r portffolios addysg yn yr awdurdodau yn dilyn yr etholiad. ·
Awdurdodi
Cadeirydd 2022/23 i wneud newidiadau i’r calendr yn Atodiad 1, os oes
angen. Trafodaeth Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn gwneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar
galendr cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod, ac awdurdodi’r Cadeirydd i wneud
newidiadau i’r calendr os oes angen. Mewn ymateb i gwestiwn,
cadarnhawyd bod cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor eisoes wedi’i raglennu ar gyfer mis
Mai eleni, ond o bosib’ y byddai angen ystyried ei symud i ddechrau Mehefin, yn
ddibynnol ar y sefyllfa o safbwynt ail-ddyrannu’r portffolios addysg yn yr
awdurdodau yn dilyn yr etholiad. |