Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2020-21. Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Elwyn Jones yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor
hwn am 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Freya Bentham, Anest Gray
Frazer (Eglwys yng Nghymru) a Dylan Huw Jones (NASUWT). Nododd y Cadeirydd fod Neil Foden (NEU),
Dylan Davies (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd) a’r Cynghorydd
Gareth Williams wedi dod oddi ar y pwyllgor yn ddiweddar, a diolchodd i’r tri
ohonynt am eu gwasanaeth. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Dewi Roberts fuddiant
personol yn eitem 7 ar y rhaglen – Penderfyniad Cabinet 15.9.20 – Eitem 5 –
Ysgol Abersoch, oherwydd ei fod yn llywodraethwr yr ysgol. Fodd bynnag, gan iddo gael ei benodi i’r rôl
honno gan yr Awdurdod, fe’i cynghorwyd bod eithriad yn y Cod yn caniatáu iddo
gymryd rhan lawn yn y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2020 fel rhai cywir
(ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2020 fel rhai cywir. |
|
PENDERFYNIAD CABINET 15-9-20 - EITEM 5 - YSGOL ABERSOCH PDF 275 KB Ystyried adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y pwyllgor
craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r
Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol: ·
Oherwydd
sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’
cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o
gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater. Mae hefyd yn
amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r
ymgynghoriad. ·
Roedd
y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i
ffwrdd. Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n
gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n
parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned. ·
Cred
rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth
Democrataidd yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w graffu
yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:- Eitem 5: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet
15.9.20 “Rhoddwyd
caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau
Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o
1 Medi 2021 ymlaen.” Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i
alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Dewi Roberts, Elwyn Jones
ac yntau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol. Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef
yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, wedi eu nodi fel a
ganlyn: “Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau
cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y
ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai sydd â
diddordeb cryf yn y mater. Mae hefyd yn
amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus.
Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod. Felly, roedd parhau gyda’r broses yn yr
amgylchiadau hyn yn annheg i’r ysgol a’r gymuned. Yn ôl cynrychiolwyr yr ysgol, nid yw hi wedi
ei chofrestru fel Ysgol Wledig, a chodwyd cwestiwn pam. Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb
graffu ar y penderfyniad.” Pwysleisiodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig
bod y pwyllgor yn ystyried yr agweddau hyn yn unig. Nid oedd y pwyllgor yn ystyried y mater o
symud ymlaen i gau’r ysgol, a mater i’r Cabinet fyddai hynny. Er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i graffu ar y
mater yn unol â’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu,
cyflwynwyd y dogfennau isod i’r pwyllgor craffu hefyd:- ·
Atodiad 1 – ymateb yr Adran Addysg
i’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu ·
Atodiad 2 – Taflen benderfyniad y
Cabinet (Eitem 5, 15.9.20) ·
Atodiad 3 – adroddiad y Cabinet
(Eitem 5, 15.9.20) Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
dynnu sylw’n benodol at baragraff 3.3 o ymateb yr Adran Addysg oedd yn nodi, er
nad oedd Ysgol Abersoch wedi ei dynodi yn Ysgol Wledig at ddibenion y Cod
Trefniadaeth Ysgolion 011/2018, bod yr Adran, fel ymarfer da, wedi dilyn proses
gyffelyb i’r broses a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol mewn perthynas ag Ysgol
Wledig wrth ddatblygu’r cynnig arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad pellach. Cyflwynodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor /
Meirion ymateb yr Adran Addysg, gan ategu rhai o’r manylion a gynhwyswyd yn yr
adroddiad. Nododd:- ·
Ei bod yn bwysig nodi y byddai’r
broses ymgynghori yn cyfarch gofynion y cod yn llawn, ond dilynwyd trefn
ychydig yn wahanol i’r hyn oedd yn ofynnol yn ôl y Cod, drwy gynnal 3 cyfarfod
ymgysylltu anffurfiol gyda rhanddeiliaid. · Pe byddai gan ysgol lai na 10 disgybl ym mis Ionawr, byddai modd hepgor y broses ymgynghori yn gyfan gwbl a mynd yn syth i rybudd statudol i gau ysgol, ond dymuniad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |