Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Freya Bentham, Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd),
Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor), Dilwyn
Ellis Hughes (UCAC) a Dylan Huw Jones (NASUWT). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths
fuddiant personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Cyflawni Fframwaith Ymgysylltu a
Datblygu Ieuenctid yng Ngwynedd - oherwydd bod ei ferch-yng-nghyfraith yn
gyfrifol am gyflwyno’r adroddiad, a bod ganddo gysylltiad teuluol â chwmni
Wavehill oedd wedi llunio’r adroddiad yn gwerthuso TRAC ac ADTRAC. Nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac ni
adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2021 fel rhai cywir. |
|
CYFLAWNI FFRAMWAITH YMGYSYLLTU A DATBLYGU IEUENCTID YNG NGWYNEDD Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod. *10-30yb –
11.30yb Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd - yn arbennig ynghylch addasrwydd
trefniadau y Fframwaith, yr angen i gynnig cynhaliaeth llawn i bobl ifanc sydd
mewn peryg’ o / wedi dadrithio o fyd addysg, hyfforddiant neu waith, gan
sicrhau fod yr elfennau hyn yn cael sylw wrth adolygu ein darpariaethau i’r
dyfodol. Dylid hefyd ystyried craffu’r
maes ymhellach, gan drafod yr amserlen ar gyfer hynny yng Ngweithdy Blynyddol y
pwyllgor hwn ym mis Mai. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â swyddogion yr Adran Addysg a’r Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd i’r cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd y pwyllgor craffu i ystyried a yw trefniadau a
darpariaethau’r Cyngor yn ddigonol i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu dadrithio gan addysg, neu sydd wedi eu dadrithio gan
addysg, hyfforddiant neu waith. Gosododd y ddau Aelod Cabinet y cyd-destun,
gan nodi:- ·
Bod
y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru
yn 2013, yn gyfrifoldeb trawsadrannol. ·
Y ceisid barn y craffwyr ar y trefniadau ar gyfer
cyflawni gofynion y Fframwaith wedi i arian Cronfa
Gymdeithasol Ewrop (ESF) ar gyfer prosiectau TRAC ac ADTRAC ddod i ben. ·
Bod
angen i bawb atgoffa eu hunain yn gyson yn ystod y drafodaeth mai adroddiad am
fframwaith oedd hwn, sef y fframwaith o ran sut mae’r Cyngor yn cefnogi plant a
phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET). Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- ·
Wrth
symud ymlaen, ei bod yn bwysig deall llwyddiannau a methiannau’r ddarpariaeth
bresennol. ·
Y
teimlid bod y pwyllgor yn craffu’r mater hwn yn rhy fuan, neu’n rhy hwyr. Roedd y Fframwaith ei hun yn 8 mlwydd
oed. Er bod trefniadau’r fframwaith wedi
bod mewn lle ers hynny, roedd newid wedi bod yn rhai o’r darpariaethau oedd
ynghlwm â hi. Roedd gwaith adolygu rhai
o’r darpariaethau ar waith. Hyd yma
nododd adolygiad Wavehill o TRAC a ADTRAC fod angen am y math yma o gefnogaeth
i bobl ifanc, ac roedd eu llwyddiant yn amlwg yn yr adolygiad i fyny at ryw
bwynt, ond roedd pethau wedi newid ers hynny, yn arbennig yn sgil cyd-destun y
pandemig. Gwelid hefyd yr awydd i barhau
â’r darpariaethau yma, ond fod eu ariannu yn dod i ben. Roedd arian ADTRAC yn dod i ben mis nesaf, ac
arian TRAC yn dod i ben ymhen y flwyddyn.
Roedd trafodaethau ar ffynonellau ariannu y tu hwnt i’r Cronfeydd
Ewropeaidd presennol yn cael eu harwain o Lywodraeth San Steffan, ond sut
fyddai’n bosib’ bwrw ymlaen, oni bai bod yna newid meddwl sylweddol iawn ar ran
y grymoedd sy’n ariannu’r pethau hyn? ·
Bod cydweithio yn hynod bwysig yn y sefyllfa anodd
sydd ohoni o ganlyniad i golli’r arian ESF, a
chyfeiriwyd at gydweithio amlasiantaethol yn Nyffryn Nantlle fel enghraifft dda
o feddwl y tu allan i’r bocs. ·
Mai un o’r dylanwadau mwyaf
ar bobl ifanc yw eu cyfoedion, a chymerid bod yna bobl ifanc, fu’n anodd ac yn
fregus ar un adeg, ond sydd bellach wedi troi cornel ac wedi symud ymlaen i
addysg bellach, hyfforddiant neu waith, ac sy’n fodlon siarad yn agored gyda
phobl ifanc dadrithiedig. ·
Dylid
holi oes tystiolaeth bod y penderfyniad i godi tâl am gludiant i Goleg Meirion
Dwyfor wedi bod yn rhwystr i bobl ifanc fynychu addysg bellach. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau:- ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADOLYGU'R GWASANAETH TEITHIOL LLYFRGELLOEDD Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod. *11.30yb –
12.30yp *amcangyfrif o’r
amseroedd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell
i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a
gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef: Cam 1 Gwasanaeth
Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd
llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:- 1. Arfon 2. Dwyfor 3.
Meirionnydd Cam 2 Yn dilyn
ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo
Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan /
hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:- 1. Arfon /
Dwyfor 2.
Meirionnydd Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ynghyd â swyddogion yr Adran Economi
a Chymuned i’r cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn ceisio
arweiniad y pwyllgor craffu ar y Gwasanaeth Teithiol i’r Cartref, yn
dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth bresennol a hanesyddol o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell. Gwahoddwyd yr aelodau i
ystyried nifer o opsiynau, yn seiliedig
ar ganfyddiadau’r Gwasanaeth o’r
galw a’r defnydd presennol o’r gwasanaeth, ac arbedion y gellid eu gwneud o adolygu’r
patrwm darpariaeth. Gosododd yr Aelod Cabinet
y cyd-destun, gan nodi y gwelwyd bod nifer o fuddion yn codi o’r
drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, oedd wedi cychwyn yn
ystod yr argyfwng Cofid, a bod pobl yn gwerthfawrogi’r
trefniant fwyfwy wrth i amser
fynd yn ei
flaen. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chyflwyno sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- ·
Er
derbyn bod pobl yn croesawu cael y gwasanaeth i’r cartref, efallai bod angen
hybu ac annog pobl i fentro allan a chymdeithasu yn sgil y pandemig. ·
Y
gallai gofalwyr, ac ati, sy’n galw yng nghartrefi pobl, bigo llyfrau i fyny a mynd
a hwy i’r person yn ystod eu hamser gwaith. ·
Y
gallai’r cerbyd teithiol ymweld ag, e.e. neuaddau pentref, pan fydd grwpiau neu
glybiau paned yn cyfarfod yno. ·
Y croesawid y defnydd o’r faniau
trydan/hybrid i gyflenwi’r gwasanaeth, yn hytrach na’r
lorïau mawr. ·
Y
deellid nad cyfle i arbed arian oedd y drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, a phetai’r gwasanaeth yn gweld bod angen cadw’r status quo, bod arian ar gael ar
gyfer hynny. ·
Cwestiynwyd
y penderfyniad i gyflwyno’r newid yn ystod y pandemig,
a holwyd oni fyddai’n well aros i bethau setlo yn gyntaf? ·
Y byddai peidio
ag ymweld ag arosfannau teithiol yn golygu
gostyngiad o 17% yn nifer yr aelwydydd
yng Ngwynedd sydd o fewn cyrraedd
llyfrgell sefydlog neu deithiol, a gan fod mwyafrif
poblogaeth y sir yn byw yn y trefi
beth bynnag, golygai hynny 17% o’r trigolion gwledig. ·
Bod
pobl sy’n gaeth i’w cartref, am ba reswm bynnag, yn croesawu’r gwasanaeth i’r
cartref yn fawr iawn, a bod angen datblygu’r cynllun ymhellach, gan hefyd roi
mwy o gyhoeddusrwydd iddo, e.e. drwy gynnwys eitem yn Newyddion Gwynedd. Awgrymwyd hefyd y byddai’n syniad gyrru
e-bost at bob cynghorydd i’w hysbysu am y Gwasanaeth, gan ofyn iddynt ledaenu’r
wybodaeth drwy’r prif gyfryngau cymdeithasol i drigolion eu wardiau. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth
Llyfrgelloedd i ddilyn hynny i fyny. ·
Bod
y dewis o lyfrau ar fan yn reit gyfyng, a bod y gwasanaeth i’r cartref yn
ehangu’r dewis o lyfrau, ac yn cyrraedd pawb yn y sir. ·
Cwestiynwyd
a fyddai pobl yn awyddus i ymgynnull mewn lle cyfyng fel fan yn sgil Cofid beth
bynnag. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan
aelodau:- · Nodwyd bod pryderon wedi’u lleisio cyn y pandemig ynglŷn â’r lleihad o flwyddyn i flwyddyn yn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |