Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Ethol y Cynghorydd Rhys Tudur yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2024/25.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Rhys Tudur yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2024/25.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dawn Lynne Jones, Gwynfor Owen, Llio Elenid Owen a Richard Glyn Roberts.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 223 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2024 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD CYNNYDD AR YMATEB I ARGYMHELLION ESTYN pdf eicon PDF 299 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn am ddiweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Addysg a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yn manylu ar gynnydd yr Adran Addysg mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd (Mehefin 2023) mewn perthynas â phresenoldeb ac ymddygiad disgyblion yn ysgolion y sir.

 

Rhoddodd y Pennaeth Addysg grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad gan nodi y bwriedid adrodd i’r pwyllgor ymhellach ymlaen ar gynnydd mewn ymateb i drydydd argymhelliad Estyn mewn perthynas â symud ymlaen ar flaenoriaethau strategol yr Adran.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gan gyfeirio at baragraff 4.3 o’r adroddiad, holwyd a oedd Grant Presenoldeb Llywodraeth Cymru i dargedu gwella presenoldeb unigolion penodol o fewn ysgolion yn debygol o barhau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       O safbwynt grantiau Llywodraeth Cymru, na roddid sicrwydd ymhellach na blwyddyn ar y tro.  Fodd bynnag, gan fod y trafodaethau’n genedlaethol gyda’r Llywodraeth yn amlygu bod hon yn broblem genedlaethol a’i bod yn flaenoriaeth genedlaethol i gael plant i’r ysgol, roedd yn annhebygol iawn y byddai’r grant yma’n dirwyn i ben ymhen blwyddyn.

·       Er hynny, roedd yn ofynnol i’r Adran baratoi ar gyfer y posibilrwydd y gallai’r grant ddod i ben, ac roedd y prif drafodaethau ynghylch hynny yn canolbwyntio ar gapasiti’r tîm a sut mae ysgolion yn ymateb i ddiffyg presenoldeb.

·       Nad oedd modd cyfarch diffyg presenoldeb ar y raddfa bresennol gyda thîm o 10 o swyddogion lles, a byddai’n rhaid i bawb weithio fel un i egluro wrth yr ysgolion beth yw eu dyletswyddau fel bod modd wedyn i’r Tîm Llesiant weithio gyda charfan benodol o blant sydd â’u presenoldeb islaw hicyn penodol.

 

Holwyd beth oedd y prif reswm dros y lefelau presenoldeb isel yn yr ysgolion.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Mai salwch oedd yn cael ei adrodd yn bennaf gan ysgolion.  Yn dilyn y cyfnod clo, roedd tueddiad gan rieni i gadw plant adref o’r ysgol gyda mân anhwylderau megis annwyd neu gur pen, ac roedd yn anodd iawn i’r Awdurdod a’r ysgolion herio hynny.

·       Yr adolygwyd y polisi fel bod modd amlygu’r camau y gall ysgolion eu cymryd i ymateb i salwch, yn enwedig yng nghyswllt absenoldebau parhaus, estynedig neu reolaidd, a thrwy’r drefn monitro, gellid adnabod patrymau a gyrru swyddog lles i mewn i drafod gyda’r rhieni petai angen.

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol petai yna ganllawiau ar gael i gynorthwyo rhieni i ddod i benderfyniad ynglŷn â phryd i gadw plant adref a phryd i’w gyrru i’r ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod meddylfryd rhieni o ran pryd i gadw plant adref o’r ysgol wedi newid ers Cofid, a bod yna fwy o ymwybyddiaeth bellach o’r posibilrwydd o ledaenu heintiau.

·       Bod mwy o bobl yn gweithio o gartref ers Cofid a’i bod yn haws felly i rai rhieni gadw eu plant adref o’r ysgol.

·       Ar ddiwedd y dydd, bod hyn yn benderfyniad i’r rhieni ei wneud, ond gallai’r Awdurdod gefnogi’r ysgolion o ran y negeseuon a roddir i rieni i fynd ar ôl hynny.

 

Nodwyd bod nifer y gwaharddiadau yn Arfon yn sylweddol uwch nag yn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TRAWSNEWID ADDYSG AR GYFER PLANT YN EU BLYNYDDOEDD CYNNAR pdf eicon PDF 210 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Nodi pryder ynglŷn â’r diffyg adnoddau sydd ar gael i symud y gwaith ymlaen.
  3. Bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld cydweithredu ehangach gydag asiantaethau eraill perthnasol.
  4. Gofyn am ddiweddariad i’r Pwyllgor ymhen blwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yn gwahodd y pwyllgor i graffu:-

·       Beth yw’r camau y bwriedir eu cymryd er mwyn trawsnewid addysg ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar?

·       Beth yw’r amserlen a’r cerrig milltir allweddol ar gyfer trawsnewid y gwasanaeth?

·       Sut y bwriedir cyllido trawsnewid y gwasanaeth blynyddoedd cynnar?

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mynegwyd siomedigaeth ynglŷn â chynnydd y gwaith hyd yma.  Nodwyd y deellid y rhwystrau o ran staffio a chyllid, ond pwysleisiwyd mai’r blynyddoedd cynnar yw’r cyfnod mwyaf pwysig yn natblygiad plentyn.

 

Holwyd faint o gydweithio agos sy’n digwydd rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Plant oherwydd, yn ôl diffiniad y Llywodraeth, roedd y blynyddoedd cynnar yn cynnwys 0-7 oed, ond nid oedd yna unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at y cyfnod ar ôl i’r plant gychwyn yn yr ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd bod rhaglen waith yr Uned Blynyddoedd Cynnar yn canolbwyntio ar y cyfnod cyn ysgol yn bennaf, sef addysg feithrin a’r cynlluniau ar gyfer plant dan 4 oed.

 

Cyfeiriwyd at y polisi newydd fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf ynglŷn â thoiledu, a holwyd sut y bwriedid talu am y ddarpariaeth.  Holwyd hefyd a oedd peryg’ y gallai plentyn sydd ddim yn sych gael eu hamddifadu o fynd i’r ysgol hefo’u cyfoedion.  Mewn ymateb, nodwyd:

·       Y byddai’r polisi yn rhoi’r disgwyliad ar rieni i fod yn toiledu eu plant, gyda chefnogaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer gwneud hynny.

·       Bod y cynllun yn cael ei groesawu gan yr ysgolion gan ei fod yn ail-ddiffinio’r berthynas rhwng rhieni ac ysgol, fel bod rhieni yn rhiantu ac ysgolion yn addysgu’r plant.

·       Bod ymrwymiad yr Adran Addysg a’r Gwasanaethau Plant i’r blynyddoedd cynnar yn sylweddol o ran amser ac o ran yr hyn y ceisir ei wneud, ac yn heriol hefyd gan fod angen ceisio dadwneud ac ail-greu systemau cymhleth, gan ymgorffori’r gwasanaethau iechyd yn hyn hefyd.

·       Bod yr ysgolion eu hunain yn talu am waredu clytiau, sy’n gostus iawn iddynt.  Ni fyddai yna gost ar yr ysgolion yn sgil cyflwyno’r polisi newydd gan y byddai’n ofynnol i blant gael eu toiledu cyn dod i’r ysgol, ond byddai cost y gefnogaeth drwy’r gwasanaeth iechyd, ayb, yn dod o’r grantiau sydd ar gael.

 

Holwyd pam nad oedd yna lawer o gyfeiriad at y Mudiad Ysgolion Meithrin a’r gwasanaeth iechyd yn y cynlluniau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod y berthynas gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn dda.  Fodd bynnag, roedd yna ragor o waith i’w wneud i ddatblygu’r berthynas honno ymhellach, ac roedd hynny’n rhan o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan yr Uned Blynyddoedd Cynnar ar hyn o bryd.

·       Y gellid dadlau bod gan Wynedd fwy o gylchoedd meithrin na siroedd eraill, a hynny oherwydd natur yr iaith ayb.

·       Bod yna Fwrdd Ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n cynnwys cynrychiolaeth o du’r cylchoedd meithrin, a bod yna dîm o athrawon yn cefnogi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH LLESIANT STAFF pdf eicon PDF 174 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn nodi pryder ynglŷn â’r lefelau uchel o absenoldebau staff ac yn gofyn bod diweddariadau ar y Strategaeth yn y dyfodol yn manylu ar ddata penodol, megis cymhariaeth dros gyfnodau, ac ati.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r maes llesiant staff er mwyn cael sicrwydd fod trefniadau priodol mewn lle ac y bydd y Strategaeth arfaethedig yn cyfarch yr heriau o ran ôl-effaith cyfnod y pandemig ymysg y gweithlu a chostau absenoldebau staff oherwydd salwch.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd:-

·       Fel sy’n gyffredin bob amser mewn arolwg staff, bod yna dipyn o farn yn yr adroddiad ynglŷn â gwybodaeth a sgiliau rheolwyr canol, a nodwyd y croesawid y Strategaeth cyn belled â’i bod yn cael ei gweithredu a’i mabwysiadu yn benodol gan uwch swyddogion, a bod rheolwyr llinell, a rheolwyr canol yn benodol, yn derbyn hyfforddiant rheolaidd ac arweinyddiaeth.

·       Er bod yr adroddiad yn dyfynnu ychydig o eiriau staff i ddangos beth yw’r teimlad, y byddai wedi bod yn fuddiol cyflwyno mwy o ddata a gwybodaeth i ddangos beth yw barn staff gwahanol adrannau’r Cyngor yn sgil yr Arolwg Llais Staff.

·       Bod yr absenoldebau staff yn uchel ac y byddai wedi bod yn fuddiol cyflwyno mwy o wybodaeth er mwyn gweld oes yna broblemau amlwg mewn rhai adrannau, a’r rhesymau dros hynny.

·       Y croesawid y cyfle i’r pwyllgor graffu’r maes hwn eto.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd:-

·       Bod y data yn sicr ar gael.  O ran yr Arolwg Llais Staff yn benodol, bod yna neges glir o ran yr ystadegau ar lesiant, gyda’r sgôr llesiant yn is na’r sgôr swyddi / gwasanaethau.  Roedd yna neges glir hefyd nad oedd staff rheng-flaen yn ymwybodol o’r pecynnau cefnogaeth sydd ar gael.

·       O ran y sylw ynglŷn â rheolwyr, bod gweithlu iach a bodlon bellach yn un o’r 9 ffrwd gwaith yng Nghynllun Ffordd Gwynedd, gyda ffrwd gwaith arall yn ymwneud â datblygu staff a rheolwyr, a byddai’r Strategaeth yn plethu i mewn i hynny o ran y rhaglenni sydd ar gael i ddatblygu rheolwyr.

 

Awgrymwyd, er bod rheolwyr canol yn arbenigwyr yn eu maes, nad oeddent bob amser yn rheolwyr naturiol, a gofynnwyd at bwy y dylai’r staff gyfeirio unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglŷn â materion rheolaethol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Yn amlwg, gallai staff uchafu materion o’r fath o fewn y gwasanaeth neu’r adran, ond, fel rhan o’r Cynllun Llesiant, bwriedid adnabod cydlynwyr llesiant o fewn pob adran.

·       Y gallai staff hefyd gyfeirio’r mater i sylw’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol neu’r drefn Canu’r Gloch.

 

Nodwyd y byddai’n ddiddorol gweld yr ystadegau ar dudalennau 2 a 3 o’r Cynllun Llesiant dros gyfnod o, dyweder, 5 mlynedd er mwyn gallu cymharu’r sefyllfa bresennol gyda’r sefyllfa cyn, ac yn ystod y cyfnod Cofid.

 

Croesawyd y bwriad i adnabod cydlynwyr llesiant, a holwyd, o safbwynt llesiant y cydlynwyr eu hunain, a oedd bwriad i’w rhyddhau o’u dyletswyddau arferol am gyfnodau i ymgymryd â’r rôl yma.  Mewn ymateb, nodwyd bod y trafodaethau ynglŷn â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

SESIYNAU YMGYSYLLTU I DRAFOD POLISI IAITH ADDYSG GWYNEDD pdf eicon PDF 120 KB

Ethol 5 cynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i fynychu sesiwn ymgysylltu ar y 4ydd o Ragfyr rhwng 1:30 a 3:30 y prynhawn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Ethol y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Elwyn Jones, Beth Lawton, Richard Glyn Roberts a Rhys Tudur i fynychu sesiwn ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar y 4ydd o Ragfyr rhwng 1:30 a 3:30 y prynhawn.

 

Cofnod:

Croesawyd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yn gwahodd y pwyllgor i ethol 5 aelod i fod yn bresennol mewn sesiwn ymgysylltu i’w chynnal rhwng 1:30 a 3:30 ar brynhawn y 4ydd o Ragfyr i drafod ac i gasglu syniadau ac awgrymiadau ynglŷn â Pholisi Iaith Addysg Gwynedd, ac i ystyried a oes angen diwygio’r polisi yng ngoleuni canlyniadau Cyfrifiad 2021 a nifer o ddatblygiadau polisi ym maes iaith ac addysg ar y lefel genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Elwyn Jones, Beth Lawton, Richard Glyn Roberts a Rhys Tudur i fynychu sesiwn ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar y 4ydd o Ragfyr rhwng 1:30 a 3:30 y prynhawn.