Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679 667

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts a Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn Eitem 5 a 6 ar y rhaglen. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 216 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11/12/25 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir.

5.

BUDD Y CYNLLUN TWF I WYNEDD pdf eicon PDF 171 KB

I ystyried budd yr Cynllun Twf i Wynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r amrywiaeth eang o sylwadau a wnaethpwyd, gan fynegi anhapusrwydd bod rhai o’r cynlluniau yn araf i aeddfedu ac ynglŷn â’r cydbwysedd rhwng buddsoddiad gwledig a threfol.
  2. Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar brosiectau Canolfan Gwyddoniaeth Trawsfynydd a Hwb Economi Gwledig Glynllifon cyn gynted â phosibl.
  3. Gofyn am amlinelliad o gost y Cynllun Twf i Gyngor Gwynedd a’r deilliannau i Wynedd o ran swyddi o ansawdd ac yn arbennig mewn ardaloedd difreintiedig.
  4. Gofyn bod adroddiadau cynnydd i’r dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder o ran y swyddi sydd wedi eu creu yn benodol yng Ngwynedd gan gynnwys y math o gontractau.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad gan nodi, yn dilyn pryderon a godwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin wrth graffu ar adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, y bwriedid rhoi trosolwg i’r Pwyllgor o waith y Cynllun Twf a’r budd a ddeilliai ohono i Wynedd. Eglurwyd bod y Cynllun Twf yn fuddsoddiad rhanbarthol sylweddol a luniwyd er mwyn cryfhau economi Gogledd Cymru, creu swyddi, datblygu sgiliau a chefnogi busnesau.

Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys nifer o brosiectau ar draws meysydd megis arloesi, ynni, digidol, twristiaeth a datblygu’r gweithlu. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad gerbron yn crynhoi’r cynnydd a wnaed gyda’r prosiectau perthnasol ynghyd ag uchafbwyntiau chwarter dau, sef y cyfnod rhwng Mehefin a Medi 2025. Cadarnhawyd y byddai diweddariad yn cael ei roi ynghylch y cynlluniau ar gyfer datblygu safle Trawsfynydd.

Tynnwyd sylw at y ffaith fod y cyfarfod hwn yn amserol gan fod y Cabinet wedi cefnogi cynllun busnes amlinellol ar gyfer sefydlu parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd a datblygu canolfan arloesedd, sgiliau a busnes yno. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried yr wybodaeth, craffu ar y cynnydd a’r trefniadau a chynnig sylwadau neu argymhellion er mwyn helpu i sicrhau bod y Cynllun Twf yn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i gymunedau a phobl Gwynedd.

Trosglwyddwyd i Bennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru, gan ddiolch am y cyfle i gyflwyno gwaith y Cynllun Twf. Rhoddwyd cyflwyniad ar brif uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys rhai o’r datblygiadau diweddaraf ers rhannu adroddiad chwarter dau.

Nodwyd mai nod Uchelgais Gogledd Cymru yw datblygu economi’r rhanbarth mewn modd cynaliadwy er mwyn creu cyfleoedd i bobl, cymunedau a busnesau. Eglurwyd mai rhaglen fuddsoddi ranbarthol yw’r Cynllun Twf, gyda £240 miliwn o gyllid gan y Llywodraeth a tharged o gyflawni dros £1 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth erbyn 2036 ynghyd â chreu hyd at 4,200 o swyddi newydd. Nodwyd bod y Cynllun Twf yn cael ei weithredu ar draws pum rhaglen, sef arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, cysylltedd digidol, bwyd-amaeth a thwristiaeth, tir ac eiddo ac ynni carbon isel.

Rhoddwyd trosolwg o’r prif uchafbwyntiau hyd yma, sef:

-        Trosglwyddwyd y Cynllun Twf a’r tîm rheoli portffolio i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar 1 Ebrill 2025.

-        Bod rhestr wrth gefn wedi ei chreu ar gyfer 17 o brosiectau newydd ym mis Mai, ac bod y Gronfa Ynni Glân wedi ei lansio ym mis Gorffennaf.

-        Bod Cytundeb Cyd-fenter Parc Bryn Cegin gyda Llywodraeth Cymru wedi ei gwblhau ym mis Awst.

-        Bod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd wedi cymeradwyo achosion busnes ar gyfer Prosiect Prince, Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0, Safleoedd Gogledd Môn a Phorthladd Rhydd yng nghyfarfod mis Hydref.

-        Ym mis Tachwedd, adeilad CanfodAu wedi ei agor yn swyddogol ynghyd â lansio’r prosiect Academi Croeso.

-        Bod yr Is-bwyllgor wedi cymeradwyo achosion busnes ar gyfer Porthladd Mostyn, Ysgol Fusnes Albert Gubay a Phrosiect Gwella Rheilffyrdd Padeswood yng nghyfarfod mis Rhagfyr.

-        Bod dau Ymgynghorydd Anweithredol wedi eu penodi i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mis Ionawr.

Nodwyd bod cynnydd da wedi ei wneud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ARDOLL YMWELWYR pdf eicon PDF 308 KB

I ystyried effaith yr ardoll ymwelwyr ar Wynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Argymell i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned:

·       Sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r holl gymhlethdodau sydd ynghlwm â dod â’r ardoll hwn i fodolaeth o’r newydd.

·       Os yw’r Cyngor yn penderfynu cyflwyno Ardoll Ymwelwyr:

Ø  Bod ymrwymiad pendant ar sut y bydd yr arian a godir yn cael ei wario gan roi blaenoriaeth i feysydd twristiaeth a chymunedol.

Ø  Bod ymgynghori trylwyr yn digwydd ar draws y sir a gyda phartneriaid perthnasol i ddarganfod blaenoriaethau cymunedol.

Ø  Bod angen bod yn dryloyw efo’r sawl sy’n talu’r dreth ynglŷn â sut gaiff yr arian ei wario.

Ø  Bod cyfathrebu ynglŷn ag eithriadau yn effeithiol a sensitif pan bod angen gwneud hynny.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi bod twristiaeth a’r economi ymweld yn ddiwydiant pwysig iawn yng Ngwynedd. Eglurwyd, fel cyd-destun, fod nifer o fodelau a rhagdybiaethau yn cael eu defnyddio i fesur yr economi ymweld, ond bod sicrhau data dibynadwy ar lefel Gwynedd wedi bod yn hynod heriol gan nad oedd y data hwnnw’n bodoli yn y modd y byddid yn ei ddymuno.

Nodwyd bod y model STEAM, sef Scarborough Tourism Economic Activity Monitor, a ddefnyddir yn aml, yn amlygu’r ystadegau diweddar a ganlyn ar gyfer Gwynedd: effaith economaidd o £1.78 biliwn; 7.75 miliwn o ymwelwyr; 24.9 miliwn o ddyddiau ymweld; cyfanswm cyflogaeth o 17,600; bron i 4 miliwn o ymwelwyr dros nos; a bron i 20 miliwn o ddiwrnodau aros. Pwysleisiwyd bod hyn yn gyfraniad sylweddol iawn i’r economi, ond cydnabuwyd hefyd fod ymwelwyr yn creu heriau mewn rhai rhannau o’r sir, gan arwain at bwysau ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor, yr amgylchedd, yr iaith a’r diwylliant, a’r cymunedau.

Eglurwyd mai dyna oedd y rheswm dros fabwysiadu Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 er mwyn sicrhau bod yr economi ymweld yn gynaliadwy yn yr ardal. Nodwyd bod data o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol ac o’r Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, sydd wedi eu seilio ar sampl lai o bobl na STEAM, yn dangos gwerth llawer is i’r sector ymwelwyr na’r hyn a ddangosir gan STEAM.

Nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ers nifer o flynyddoedd, gyda gwaith ymchwil ar elwa twristiaeth wedi ei gwblhau yn 2018 yn amlygu’r ardoll fel ffynhonnell a allai gynhyrchu incwm sylweddol i’w ail-fuddsoddi yn yr economi ymweld. Nodwyd bod y Cabinet yn y gorffennol wedi mynegi cefnogaeth i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Pwysleisiwyd yn glir, fodd bynnag, nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud hyd yma ynghylch cyflwyno ardoll yng Ngwynedd, a bod y drafodaeth gerbron yn cynrychioli’r cam cyntaf yn y broses yn unig.

Nodwyd bod y Cyngor yn cydweithio’n agos gyda Chonwy ac Ynys Môn ar y gwaith ymchwil i’r asesiadau effaith ac wrth ystyried cyflwyno ardoll. Eglurwyd bod yr asesiad effaith economaidd yn amlygu y gallai’r effaith ar swyddi, yn y sefyllfa waethaf, olygu colli 50 swydd, neu, yn y sefyllfa orau, greu 21 swydd. Nodwyd ymhellach y gallai sefydlu ardoll gynhyrchu rhwng £2.4 miliwn a £2.8 miliwn o refeniw blynyddol i Wynedd. Ymhelaethwyd, pe defnyddid data STEAM yn hytrach, y byddai’r ffigyrau oddeutu pedair gwaith yn uwch, gyda mwy o effaith ar swyddi a photensial i godi hyd at £12 miliwn drwy’r ardoll. Mynegwyd y farn bod y swm a godid yn debygol o fod yn uwch na’r ffigwr ceidwadol o £2.5 miliwn a nodwyd.

Eglurwyd, pe byddai cefnogaeth gan y Cyngor Llawn i symud ymlaen i ymgynghoriad, y byddai’r weithdrefn a osodir yn y Ddeddf yn glir, ac y byddai’n rhaid dilyn egwyddorion ymgynghori cyhoeddus. Nodwyd y byddai’r dystiolaeth a gesglir yn llywio’r asesiadau effaith terfynol a gyflwynir i’r Cyngor Llawn.

Nodwyd bod y Ddeddf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.