Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Ethol y Cynghorydd Rhys Tudur yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn
am 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Rhys Tudur yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dawn Lynne Jones, Gwynfor Owen, Llio
Elenid Owen a Richard Glyn Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2024 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD AR YMATEB I ARGYMHELLION ESTYN PDF 299 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Croesawyd y Pennaeth Addysg a’r swyddogion i’r cyfarfod. Cyflwynwyd –
adroddiad yn manylu ar gynnydd yr Adran Addysg mewn ymateb i argymhellion Adroddiad
Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd (Mehefin 2023) mewn perthynas
â phresenoldeb ac ymddygiad disgyblion yn ysgolion y sir. Rhoddodd y
Pennaeth Addysg grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad gan nodi y bwriedid adrodd
i’r pwyllgor ymhellach ymlaen ar gynnydd mewn ymateb i drydydd argymhelliad
Estyn mewn perthynas â symud ymlaen ar flaenoriaethau strategol yr Adran. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Gan gyfeirio at baragraff 4.3 o’r adroddiad,
holwyd a oedd Grant Presenoldeb Llywodraeth Cymru i dargedu gwella presenoldeb
unigolion penodol o fewn ysgolion yn debygol o barhau. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
O
safbwynt grantiau Llywodraeth Cymru, na roddid sicrwydd ymhellach na blwyddyn
ar y tro. Fodd bynnag, gan fod y
trafodaethau’n genedlaethol gyda’r Llywodraeth yn amlygu bod hon yn broblem
genedlaethol a’i bod yn flaenoriaeth genedlaethol i gael plant i’r ysgol, roedd
yn annhebygol iawn y byddai’r grant yma’n dirwyn i ben ymhen blwyddyn. ·
Er
hynny, roedd yn ofynnol i’r Adran baratoi ar gyfer y posibilrwydd y gallai’r
grant ddod i ben, ac roedd y prif drafodaethau ynghylch hynny yn canolbwyntio
ar gapasiti’r tîm a sut mae ysgolion yn ymateb i ddiffyg presenoldeb. ·
Nad
oedd modd cyfarch diffyg presenoldeb ar y raddfa bresennol gyda thîm o 10 o
swyddogion lles, a byddai’n rhaid i bawb weithio fel un i egluro wrth yr
ysgolion beth yw eu dyletswyddau fel bod modd wedyn i’r Tîm Llesiant weithio
gyda charfan benodol o blant sydd â’u presenoldeb islaw hicyn penodol. Holwyd beth oedd y prif reswm dros y lefelau
presenoldeb isel yn yr ysgolion. Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
Mai
salwch oedd yn cael ei adrodd yn bennaf gan ysgolion. Yn dilyn y cyfnod clo, roedd tueddiad gan
rieni i gadw plant adref o’r ysgol gyda mân anhwylderau megis annwyd neu gur
pen, ac roedd yn anodd iawn i’r Awdurdod a’r ysgolion herio hynny. ·
Yr
adolygwyd y polisi fel bod modd amlygu’r camau y gall ysgolion eu cymryd i
ymateb i salwch, yn enwedig yng nghyswllt absenoldebau parhaus, estynedig neu
reolaidd, a thrwy’r drefn monitro, gellid adnabod patrymau a gyrru swyddog lles
i mewn i drafod gyda’r rhieni petai angen. Awgrymwyd y
byddai’n fuddiol petai yna ganllawiau ar gael i gynorthwyo rhieni i ddod i
benderfyniad ynglŷn â phryd i gadw plant adref a phryd i’w gyrru i’r
ysgol. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod meddylfryd rhieni o ran pryd i gadw plant adref
o’r ysgol wedi newid ers Cofid, a bod yna fwy o ymwybyddiaeth bellach o’r
posibilrwydd o ledaenu heintiau. ·
Bod mwy o bobl yn gweithio o gartref ers Cofid a’i
bod yn haws felly i rai rhieni gadw eu plant adref o’r ysgol. ·
Ar
ddiwedd y dydd, bod hyn yn benderfyniad i’r rhieni ei wneud, ond gallai’r
Awdurdod gefnogi’r ysgolion o ran y negeseuon a roddir i rieni i fynd ar ôl
hynny. Nodwyd bod nifer y gwaharddiadau yn Arfon yn sylweddol uwch nag yn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TRAWSNEWID ADDYSG AR GYFER PLANT YN EU BLYNYDDOEDD CYNNAR PDF 210 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Croesawyd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar i’r cyfarfod. Cyflwynwyd –
adroddiad yn gwahodd y pwyllgor i graffu:- ·
Beth yw’r camau
y bwriedir eu cymryd er mwyn trawsnewid addysg ar gyfer plant yn eu blynyddoedd
cynnar? ·
Beth
yw’r amserlen a’r cerrig milltir allweddol ar gyfer trawsnewid y gwasanaeth? ·
Sut
y bwriedir cyllido trawsnewid y gwasanaeth blynyddoedd cynnar? Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Mynegwyd siomedigaeth ynglŷn â chynnydd
y gwaith hyd yma. Nodwyd y deellid y
rhwystrau o ran staffio a chyllid, ond pwysleisiwyd mai’r blynyddoedd cynnar
yw’r cyfnod mwyaf pwysig yn natblygiad plentyn. Holwyd faint o gydweithio agos sy’n digwydd
rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Plant oherwydd, yn ôl diffiniad y Llywodraeth,
roedd y blynyddoedd cynnar yn cynnwys 0-7 oed, ond nid oedd yna unrhyw
gyfeiriad yn yr adroddiad at y cyfnod ar ôl i’r plant gychwyn yn yr ysgol. Mewn ymateb, nodwyd bod rhaglen waith yr Uned
Blynyddoedd Cynnar yn canolbwyntio ar y cyfnod cyn ysgol yn bennaf, sef addysg
feithrin a’r cynlluniau ar gyfer plant dan 4 oed. Cyfeiriwyd at y polisi newydd fydd yn dod i
rym y flwyddyn nesaf ynglŷn â thoiledu, a holwyd sut y bwriedid talu am y
ddarpariaeth. Holwyd hefyd a oedd peryg’
y gallai plentyn sydd ddim yn sych gael eu hamddifadu o fynd i’r ysgol hefo’u
cyfoedion. Mewn ymateb, nodwyd: ·
Y
byddai’r polisi yn rhoi’r disgwyliad ar rieni i fod yn toiledu eu plant, gyda
chefnogaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer gwneud hynny. ·
Bod
y cynllun yn cael ei groesawu gan yr ysgolion gan ei fod yn ail-ddiffinio’r
berthynas rhwng rhieni ac ysgol, fel bod rhieni yn rhiantu ac ysgolion yn
addysgu’r plant. ·
Bod
ymrwymiad yr Adran Addysg a’r Gwasanaethau Plant i’r blynyddoedd cynnar yn
sylweddol o ran amser ac o ran yr hyn y ceisir ei wneud, ac yn heriol hefyd gan
fod angen ceisio dadwneud ac ail-greu systemau cymhleth, gan ymgorffori’r
gwasanaethau iechyd yn hyn hefyd. ·
Bod
yr ysgolion eu hunain yn talu am waredu clytiau, sy’n gostus iawn iddynt. Ni fyddai yna gost ar yr ysgolion yn sgil
cyflwyno’r polisi newydd gan y byddai’n ofynnol i blant gael eu toiledu cyn dod
i’r ysgol, ond byddai cost y gefnogaeth drwy’r gwasanaeth iechyd, ayb, yn dod
o’r grantiau sydd ar gael. Holwyd pam nad oedd yna lawer o gyfeiriad at
y Mudiad Ysgolion Meithrin a’r gwasanaeth iechyd yn y cynlluniau. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
y berthynas gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn dda. Fodd bynnag, roedd yna ragor o waith i’w
wneud i ddatblygu’r berthynas honno ymhellach, ac roedd hynny’n rhan o’r gwaith
sy’n cael ei gyflawni gan yr Uned Blynyddoedd Cynnar ar hyn o bryd. ·
Y
gellid dadlau bod gan Wynedd fwy o gylchoedd meithrin na siroedd eraill, a
hynny oherwydd natur yr iaith ayb. · Bod yna Fwrdd Ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n cynnwys cynrychiolaeth o du’r cylchoedd meithrin, a bod yna dîm o athrawon yn cefnogi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
STRATEGAETH LLESIANT STAFF PDF 174 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau
Corfforaethol a’r swyddogion i’r cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad
yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r
maes llesiant staff er mwyn cael sicrwydd fod trefniadau priodol mewn lle ac y
bydd y Strategaeth arfaethedig yn cyfarch yr heriau o ran ôl-effaith cyfnod y
pandemig ymysg y gweithlu a chostau absenoldebau staff oherwydd salwch. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun a rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau
Corfforaethol grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Nodwyd:- ·
Fel
sy’n gyffredin bob amser mewn arolwg staff, bod yna dipyn o farn yn yr
adroddiad ynglŷn â gwybodaeth a sgiliau rheolwyr canol, a nodwyd y
croesawid y Strategaeth cyn belled â’i bod yn cael ei gweithredu a’i mabwysiadu
yn benodol gan uwch swyddogion, a bod rheolwyr llinell, a rheolwyr canol yn
benodol, yn derbyn hyfforddiant rheolaidd ac arweinyddiaeth. ·
Er
bod yr adroddiad yn dyfynnu ychydig o eiriau staff i ddangos beth yw’r teimlad,
y byddai wedi bod yn fuddiol cyflwyno mwy o ddata a gwybodaeth i ddangos beth
yw barn staff gwahanol adrannau’r Cyngor yn sgil yr Arolwg Llais Staff. ·
Bod
yr absenoldebau staff yn uchel ac y byddai wedi bod yn fuddiol cyflwyno mwy o
wybodaeth er mwyn gweld oes yna broblemau amlwg mewn rhai adrannau, a’r
rhesymau dros hynny. ·
Y
croesawid y cyfle i’r pwyllgor graffu’r maes hwn eto. Mewn
ymateb i’r sylwadau, nodwyd:- ·
Bod
y data yn sicr ar gael. O ran yr Arolwg
Llais Staff yn benodol, bod yna neges glir o ran yr ystadegau ar lesiant,
gyda’r sgôr llesiant yn is na’r sgôr swyddi / gwasanaethau. Roedd yna neges glir hefyd nad oedd staff
rheng-flaen yn ymwybodol o’r pecynnau cefnogaeth sydd ar gael. ·
O
ran y sylw ynglŷn â rheolwyr, bod gweithlu iach a bodlon bellach yn un o’r
9 ffrwd gwaith yng Nghynllun Ffordd Gwynedd, gyda ffrwd gwaith arall yn ymwneud
â datblygu staff a rheolwyr, a byddai’r Strategaeth yn plethu i mewn i hynny o
ran y rhaglenni sydd ar gael i ddatblygu rheolwyr. Awgrymwyd, er bod rheolwyr canol yn
arbenigwyr yn eu maes, nad oeddent bob amser yn rheolwyr naturiol, a gofynnwyd
at bwy y dylai’r staff gyfeirio unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglŷn â
materion rheolaethol. Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Yn
amlwg, gallai staff uchafu materion o’r fath o fewn y gwasanaeth neu’r adran,
ond, fel rhan o’r Cynllun Llesiant, bwriedid adnabod cydlynwyr llesiant o fewn
pob adran. ·
Y
gallai staff hefyd gyfeirio’r mater i sylw’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol neu’r
drefn Canu’r Gloch. Nodwyd y byddai’n ddiddorol gweld yr ystadegau
ar dudalennau 2 a 3 o’r Cynllun Llesiant dros gyfnod o, dyweder, 5 mlynedd er
mwyn gallu cymharu’r sefyllfa bresennol gyda’r sefyllfa cyn, ac yn ystod y
cyfnod Cofid. Croesawyd y bwriad i adnabod cydlynwyr llesiant, a holwyd, o safbwynt llesiant y cydlynwyr eu hunain, a oedd bwriad i’w rhyddhau o’u dyletswyddau arferol am gyfnodau i ymgymryd â’r rôl yma. Mewn ymateb, nodwyd bod y trafodaethau ynglŷn â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
SESIYNAU YMGYSYLLTU I DRAFOD POLISI IAITH ADDYSG GWYNEDD PDF 120 KB Ethol 5 cynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i fynychu
sesiwn ymgysylltu ar y 4ydd o Ragfyr rhwng 1:30 a 3:30 y prynhawn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Ethol y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Elwyn Jones, Beth Lawton,
Richard Glyn Roberts a Rhys Tudur i fynychu sesiwn ymgysylltu i drafod Polisi
Iaith Addysg Gwynedd ar y 4ydd o Ragfyr rhwng 1:30 a 3:30 y prynhawn. Cofnod: Croesawyd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd i’r
cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad
yn gwahodd y pwyllgor i ethol 5 aelod i fod yn bresennol mewn sesiwn ymgysylltu
i’w chynnal rhwng 1:30 a 3:30 ar brynhawn y 4ydd o Ragfyr i drafod ac i gasglu
syniadau ac awgrymiadau ynglŷn â Pholisi Iaith Addysg Gwynedd, ac i
ystyried a oes angen diwygio’r polisi yng ngoleuni canlyniadau Cyfrifiad 2021 a
nifer o ddatblygiadau polisi ym maes iaith ac addysg ar y lefel genedlaethol. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorwyr Jina
Gwyrfai, Elwyn Jones, Beth Lawton, Richard Glyn Roberts a Rhys Tudur i fynychu
sesiwn ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar y 4ydd o Ragfyr rhwng
1:30 a 3:30 y prynhawn. |