Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Iwan Huws; Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) a Gwilym Jones (NASUWT).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 254 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEBAU REFENIW YSGOLION pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Adran Addysg rannu gydag aelodau’r pwyllgor:-

(a)   data treigl fesul ysgol;

(b)  diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiad Strategaeth Addysg Gwynedd.

  1. Bod y pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Addysg ddrafft pan yn amserol.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, y Pennaeth Addysg a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Nododd yr Aelod Cabinet:-

·         Y dymunai yntau ategu’r diolchiadau i’r cyn-aelod Cabinet Addysg am ei gwasanaeth a’i dull egwyddorol o gyflawni’r rôl dros y blynyddoedd diwethaf, gan bwysleisio y byddai yntau’n parhau i ddilyn cyfeiriad egwyddorol y Cynghorydd Beca Brown wrth gyflawni’r rôl.

·         Fel cyn-aelod o’r pwyllgor hwn, y gobeithiai ffurfio perthynas broffesiynol gyda’r pwyllgor ac y dymunai i’r craffwyr ei ddal yntau a’r Adran Addysg i gyfri’.

·         Y dymunai gymryd y cyfle, fel Aelod Cabinet newydd, i ymddiheuro o waelod calon am unrhyw ddioddef a ddigwyddodd yn Ysgol Friars, Bangor.  Nododd ymhellach bod y Cyngor yn ymrwymo’n llawn i droi pob carreg er mwyn deall beth yn union aeth o’i le yn yr ysgol, ac y byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau na fydd y math hwn o beth yn digwydd byth eto.

·         Y byddai’n sicrhau bod yr Adran Addysg a’r Cyngor yn ymateb yn llawn ac yn briodol i unrhyw argymhellion yn deillio o’r ymchwiliadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

·         Ei fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus er sicrhau mynd at wraidd yr hyn aeth o’i le yn Ysgol Friars.

·         Y cyhoeddwyd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr a bod setliad Gwynedd yn annigonol ac yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Gan hynny, roedd y Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar Gyllidebau Refeniw Ysgolion er sicrhau mewnbwn a dealltwriaeth y pwyllgor o effaith toriadau, demograffi a grantiau ar gyllidebau refeniw ysgolion.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gan gyfeirio at baragraff 4.2.3 o’r adroddiad, mynegwyd pryder bod penaethiaid yn y sector cynradd yn adrodd nad oes ganddynt y staff i gynnig darpariaethau arbenigol ac ymyraethau cynnar fel ELSA (Cymorthyddion Llythrennedd Emosiynol).  Nodwyd bod problemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn dwysau a bod ymyraethau cynnar o’r fath yn bwysig o ran cefnogi presenoldeb disgyblion a lleihau cyfeiriadau at asiantaethau allanol fel CAMHS, sydd â rhestrau aros maith.  Holwyd a oedd modd edrych ar ffynonellau ariannu eraill ar gyfer y gwaith pwysig hwn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y pwynt yn un dilys iawn ac y mawr werthfawrogid y gwaith ac effaith y gwaith ymyrraeth gynnar a chefnogi plant o fewn y sector cynradd, a’r uwchradd hefyd.

·         Bod y gwaith yn digwydd mewn ysgolion, ond bod y cyni ariannol yn golygu bod y cyfleoedd a’r gallu i gynnig sesiynau yn mynd yn llai.

·         Bod yr ysgolion yn edrych ar bob ffordd bosib’ i allu cynnal y sesiynau hyn, boed hynny drwy waith grŵp, er enghraifft, yn hytrach na gwaith un i un.

·         Bod unrhyw grantiau ychwanegol sydd ar gael yn cael eu dyrannu’n llwyr i’r ysgolion i wneud y gwaith, ond wrth i gyllidebau grebachu, bod yr ysgolion yn wynebu sefyllfaoedd lle mae’n anodd, er enghraifft, cyfiawnhau rhoi sesiwn ELSA i un plentyn,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CLUDIANT ADDYSG pdf eicon PDF 347 KB

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, yn arbennig y sylw ynglŷn â bod yn ymwybodol o anghenion penodol rhai grwpiau o blant wrth gynllunio’r ddarpariaeth.
  2. Nodi pwysigrwydd darpariaeth teithio i’r coleg ar gyfer pobl ifanc yn Nwyfor a Meirionnydd.
  3. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg gysylltu gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cyflwyno tocyn teithio am ddim i bobl ifanc 16-21 oed er mwyn lleihau’r pwysau ar y Cyngor i ddarparu trafnidiaeth am ddim, ac i hwyluso teithio i’r gwaith, i goleg neu chweched dosbarth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn:-

·         egluro’r cefndir a’r rhesymeg dros y gorwariant hanesyddol ym maes cludiant addysg;

·         adrodd ar gynnydd a’r camau gweithredu sydd wedi’u cymryd mewn ymateb i’r sefyllfa; ac yn

·         cyflwyno opsiynau sydd dan ystyriaeth o ran trefniadau cludiant addysg i’r dyfodol er mwyn ceisio rhesymoli a lleihau’r costau ble’n ymarferol bosib’.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd y cydnabyddid bod yna brinder tacsis yn ardal Meirionnydd yn benodol a bod hynny yn sicr o fod yn creu costau uchel i’r Cyngor.  Holwyd beth y bwriedid ei wneud o ran hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna brinder darparwyr cludiant mewn sawl ardal a bod hynny’n gallu arwain at brisiau uwch ar gyfer darparu gan fod rhaid i’r gyrrwr neu’r tacsi deithio o fwy o bellter i wneud y gwaith.

·         Bod yr adroddiad yn cyfeirio at nifer o bethau ymarferol y gellid eu gwneud ynglŷn â’r sefyllfa a bod yr Adran yn edrych ar bob opsiwn posib’ wrth symud ymlaen.

 

Gan gyfeirio at y rhaglen waith ym mharagraff 4.1.1 o’r adroddiad sy’n cyfeirio at ail-edrych ar drefniadau cludiant dysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, gofynnwyd i’r Adran beidio rhoi’r plant a’r bobl ifanc yma mewn bocs ac i gydnabod bod ganddynt anableddau gwahanol, ac nid anableddau corfforol yn unig.  Nodwyd bod angen ystyried plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroamrywiol gan ofyn am gyngor cyfreithiol cyn llunio unrhyw feini prawf neu gynllun ar gyfer dysgwyr ADY.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y cyfeiriad yn yr adroddiad at ail-edrych ar drefniadau cludiant dysgwyr ADY fwy i ymwneud ag ail-edrych ar yr amserlen, yn hytrach na’r ddarpariaeth fel bod modd tendro’r ddarpariaeth yn gynt ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yma er mwyn cael y pris gorau.

·         O ran y sylw ehangach ynglŷn â chludiant ADY, bod rhaid ystyried anghenion pob plentyn wrth gwrs ac ni chredid y byddai hynny’n newid mewn unrhyw drefniadau a wneid, ond o bosib’ ein bod yn edrych ar ffordd wahanol ac ychydig mwy cost effeithiol o ddarparu cludiant i’r dyfodol.

·         Y cynhaliwyd nifer o sgyrsiau diweddar gydag Ysgol Hafod Lon o ran adnabod anghenion gwahanol blant ac adnabod pa blant fyddai’n gallu teithio gyda’i gilydd, pa blant na fyddai’n addas i wneud hynny a pha blant sydd angen tywyswyr, ayb.

 

Nodwyd, wrth edrych ar y cynllun, bod rhaid cydnabod bod unrhyw newid bach fel newid tacsi yn gallu bod yn niweidiol i ddysgwyr ADY.  Mewn ymateb, nodwyd bod hynny yn mynd i orfod cael sylw wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau bod anghenion y dysgwyr ar y daith yn cael eu cyfarch a dyna pam, wrth fynd allan i dendro, bod angen bod yn fwy clir ynglŷn â’n gofynion a’n disgwyliadau ar gyfer y dysgwyr hynny.

 

Nododd yr Aelod Cabinet:-

·         Y cytunid â’r sylw bod angen rhoi ystyriaeth hefyd i anghenion dysgwyr sydd â chyflyrau niwroamrywiol a’i bod yn bwysig ymgynghori’n llawn ar hyn gydag arbenigwyr yn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

BLAENRAGLEN DDIWYGIEDIG Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2024/25 pdf eicon PDF 203 KB

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i fabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yn dilyn cais gan yr Adran Addysg i lithro’r eitem ‘Cyfundrefn Addysg Drochi’, oedd wedi’i rhaglennu i’w thrafod yn y cyfarfod hwn, i gyfarfod 13 Chwefror, 2025 oherwydd bod y gwerthusiad o’r gyfundrefn yn cael ei gynnal yn ystod y tymor ysgol hwn.  Nodwyd y rhagwelir y bydd adroddiad drafft o’r canfyddiadau ac unrhyw argymhellion ar gael yn y Flwyddyn Newydd.  Nodwyd hefyd, yn dilyn ymgynghori gyda’r Cadeirydd, y cytunwyd i’r cais i lithro’r eitem er mwyn sicrhau bod yr eitem yn cael ei chraffu’n amserol i alluogi craffu i ychwanegu gwerth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Awgrymwyd bod y Cyngor hwn yn mynd yn fwy o Gyngor Arfon nag ydyw o Gyngor Gwynedd a gwnaed cais am wybodaeth ynglŷn â beth mae’r Cyngor yn ei wneud i ddatblygu economi Dwyfor a Meirionnydd yn benodol.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr eitem ‘Cynllun Economi Gwynedd’ ar raglen cyfarfod 13 Chwefror, 2025 ac y gallai hyn fod yn un o’r cwestiynau penodol i’w gofyn ymlaen llaw i’r Adran.

 

Nododd y Cadeirydd fod rhai aelodau eisoes wedi gwneud sylw na chynhwyswyd unrhyw eitemau yn y maes economi ar raglen y cyfarfod hwn ac awgrymodd fod yr eitem ‘Cynllun Economi Gwynedd’ yn ymddangos yn gynnar ar raglen y cyfarfod nesaf fel bod modd rhoi sylw haeddiannol i’r pwnc.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.