Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679 667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts a Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn Eitem 5 a 6 ar y rhaglen. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11/12/25 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir. |
|
|
BUDD Y CYNLLUN TWF I WYNEDD I ystyried budd yr Cynllun Twf i Wynedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad
gan nodi, yn dilyn pryderon a godwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin
wrth graffu ar adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, y
bwriedid rhoi trosolwg i’r Pwyllgor o waith y Cynllun Twf a’r budd a ddeilliai
ohono i Wynedd. Eglurwyd bod y Cynllun Twf yn fuddsoddiad rhanbarthol sylweddol
a luniwyd er mwyn cryfhau economi Gogledd Cymru, creu swyddi, datblygu sgiliau
a chefnogi busnesau. Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys nifer o
brosiectau ar draws meysydd megis arloesi, ynni, digidol, twristiaeth a
datblygu’r gweithlu. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad gerbron yn crynhoi’r cynnydd
a wnaed gyda’r prosiectau perthnasol ynghyd ag uchafbwyntiau chwarter dau, sef
y cyfnod rhwng Mehefin a Medi 2025. Cadarnhawyd y byddai diweddariad yn cael ei
roi ynghylch y cynlluniau ar gyfer datblygu safle Trawsfynydd. Tynnwyd sylw at y ffaith fod y cyfarfod hwn
yn amserol gan fod y Cabinet wedi cefnogi cynllun busnes amlinellol ar gyfer
sefydlu parc gwyddoniaeth yn Nhrawsfynydd a datblygu canolfan arloesedd,
sgiliau a busnes yno. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried yr wybodaeth, craffu ar
y cynnydd a’r trefniadau a chynnig sylwadau neu argymhellion er mwyn helpu i
sicrhau bod y Cynllun Twf yn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i gymunedau a
phobl Gwynedd. Trosglwyddwyd i Bennaeth Gweithrediadau
Uchelgais Gogledd Cymru, gan ddiolch am y cyfle i gyflwyno gwaith y Cynllun
Twf. Rhoddwyd cyflwyniad ar brif uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys
rhai o’r datblygiadau diweddaraf ers rhannu adroddiad chwarter dau. Nodwyd mai nod Uchelgais Gogledd Cymru yw
datblygu economi’r rhanbarth mewn modd cynaliadwy er mwyn creu cyfleoedd i
bobl, cymunedau a busnesau. Eglurwyd mai rhaglen fuddsoddi ranbarthol yw’r
Cynllun Twf, gyda £240 miliwn o gyllid gan y Llywodraeth a tharged o gyflawni
dros £1 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth erbyn 2036 ynghyd â chreu hyd at
4,200 o swyddi newydd. Nodwyd bod y Cynllun Twf yn cael ei weithredu ar draws
pum rhaglen, sef arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, cysylltedd digidol,
bwyd-amaeth a thwristiaeth, tir ac eiddo ac ynni carbon isel. Rhoddwyd trosolwg o’r prif uchafbwyntiau hyd
yma, sef: -
Trosglwyddwyd
y Cynllun Twf a’r tîm rheoli portffolio i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar 1
Ebrill 2025. -
Bod
rhestr wrth gefn wedi ei chreu ar gyfer 17 o brosiectau newydd ym mis Mai, ac
bod y Gronfa Ynni Glân wedi ei lansio ym mis Gorffennaf. -
Bod
Cytundeb Cyd-fenter Parc Bryn Cegin gyda Llywodraeth Cymru wedi ei gwblhau ym
mis Awst. -
Bod yr
Is-bwyllgor Lles Economaidd wedi cymeradwyo achosion busnes ar gyfer Prosiect
Prince, Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0, Safleoedd
Gogledd Môn a Phorthladd Rhydd yng nghyfarfod mis Hydref. -
Ym mis
Tachwedd, adeilad CanfodAu wedi ei agor yn swyddogol ynghyd â lansio’r prosiect
Academi Croeso. -
Bod yr
Is-bwyllgor wedi cymeradwyo achosion busnes ar gyfer Porthladd Mostyn, Ysgol
Fusnes Albert Gubay a Phrosiect Gwella Rheilffyrdd Padeswood yng nghyfarfod mis
Rhagfyr. -
Bod dau
Ymgynghorydd Anweithredol wedi eu penodi i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mis
Ionawr. Nodwyd bod cynnydd da wedi ei wneud ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
I ystyried
effaith yr ardoll ymwelwyr ar Wynedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau. 2.
Argymell i’r Aelod Cabinet Economi
a Chymuned: ·
Sicrhau bod ystyriaeth lawn yn
cael ei rhoi i’r holl gymhlethdodau sydd ynghlwm â dod â’r ardoll hwn i
fodolaeth o’r newydd. ·
Os yw’r Cyngor yn penderfynu
cyflwyno Ardoll Ymwelwyr: Ø Bod ymrwymiad pendant ar sut y bydd yr arian a godir yn cael
ei wario gan roi blaenoriaeth i feysydd twristiaeth a chymunedol. Ø Bod ymgynghori trylwyr yn digwydd ar draws y sir a gyda
phartneriaid perthnasol i ddarganfod blaenoriaethau cymunedol. Ø Bod angen bod yn dryloyw efo’r sawl sy’n talu’r dreth
ynglŷn â sut gaiff yr arian ei wario. Ø Bod cyfathrebu ynglŷn ag eithriadau yn effeithiol a
sensitif pan bod angen gwneud hynny. Cofnod: Cyflwynodd Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi bod
twristiaeth a’r economi ymweld yn ddiwydiant pwysig iawn yng Ngwynedd.
Eglurwyd, fel cyd-destun, fod nifer o fodelau a rhagdybiaethau yn cael eu
defnyddio i fesur yr economi ymweld, ond bod sicrhau data dibynadwy ar lefel
Gwynedd wedi bod yn hynod heriol gan nad oedd y data hwnnw’n bodoli yn y modd y
byddid yn ei ddymuno. Nodwyd bod y model STEAM, sef Scarborough Tourism Economic Activity
Monitor, a ddefnyddir yn aml, yn amlygu’r ystadegau diweddar a ganlyn ar gyfer
Gwynedd: effaith economaidd o £1.78 biliwn; 7.75 miliwn o ymwelwyr; 24.9 miliwn
o ddyddiau ymweld; cyfanswm cyflogaeth o 17,600; bron i 4 miliwn o ymwelwyr
dros nos; a bron i 20 miliwn o ddiwrnodau aros. Pwysleisiwyd bod hyn yn
gyfraniad sylweddol iawn i’r economi, ond cydnabuwyd hefyd fod ymwelwyr yn creu
heriau mewn rhai rhannau o’r sir, gan arwain at bwysau ychwanegol ar
wasanaethau’r Cyngor, yr amgylchedd, yr iaith a’r diwylliant, a’r cymunedau. Eglurwyd mai dyna oedd y rheswm dros fabwysiadu Cynllun Economi Ymweld
Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 er mwyn sicrhau bod yr economi ymweld yn
gynaliadwy yn yr ardal. Nodwyd bod data o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol ac o’r
Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, sydd wedi eu seilio ar sampl lai o bobl na
STEAM, yn dangos gwerth llawer is i’r sector ymwelwyr na’r hyn a ddangosir gan
STEAM. Nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno
ardoll ers nifer o flynyddoedd, gyda gwaith ymchwil ar elwa twristiaeth wedi ei
gwblhau yn 2018 yn amlygu’r ardoll fel ffynhonnell a allai gynhyrchu incwm
sylweddol i’w ail-fuddsoddi yn yr economi ymweld. Nodwyd bod y Cabinet yn y
gorffennol wedi mynegi cefnogaeth i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu ardoll
ymwelwyr yng Nghymru. Pwysleisiwyd yn glir, fodd bynnag, nad oedd unrhyw
benderfyniad wedi ei wneud hyd yma ynghylch cyflwyno ardoll yng Ngwynedd, a bod
y drafodaeth gerbron yn cynrychioli’r cam cyntaf yn y broses yn unig. Nodwyd bod y Cyngor yn cydweithio’n agos gyda Chonwy ac Ynys Môn ar y
gwaith ymchwil i’r asesiadau effaith ac wrth ystyried cyflwyno ardoll. Eglurwyd
bod yr asesiad effaith economaidd yn amlygu y gallai’r effaith ar swyddi, yn y
sefyllfa waethaf, olygu colli 50 swydd, neu, yn y sefyllfa orau, greu 21 swydd.
Nodwyd ymhellach y gallai sefydlu ardoll gynhyrchu rhwng £2.4 miliwn a £2.8
miliwn o refeniw blynyddol i Wynedd. Ymhelaethwyd, pe defnyddid data STEAM yn
hytrach, y byddai’r ffigyrau oddeutu pedair gwaith yn uwch, gyda mwy o effaith
ar swyddi a photensial i godi hyd at £12 miliwn drwy’r ardoll. Mynegwyd y farn
bod y swm a godid yn debygol o fod yn uwch na’r ffigwr ceidwadol o £2.5 miliwn
a nodwyd. Eglurwyd, pe byddai cefnogaeth gan y Cyngor Llawn i symud ymlaen i
ymgynghoriad, y byddai’r weithdrefn a osodir yn y Ddeddf yn glir, ac y byddai’n
rhaid dilyn egwyddorion ymgynghori cyhoeddus. Nodwyd y byddai’r dystiolaeth a
gesglir yn llywio’r asesiadau effaith terfynol a gyflwynir i’r Cyngor Llawn. Nodwyd bod y Ddeddf ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |