Lleoliad: Yn Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Berwyn Parry Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd
datganiadau o fuddiant gan y Cynghorwyr Menna Baines ac Eryl Jones-Williams ar
gyfer eitem 5, gan eu bod wedi ymwneud a’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn
eu bywydau personol. Gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw
eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25
Tachwedd, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2021 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD CYNNYDD: GWASANAETH THERAPI GALWEDIGAETHOL PDF 236 KB I dderbyn
diweddariad gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol. Penderfyniad: Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol am y
gwaith Symud a Thrin o fewn yr Uned Adnoddau Cymunedol. Manylwyd am y tîm
newydd sy’n cynnwys pedwar Therapydd Galwedigaethol ac un Nyrs Gofrestredig; bydd
y tîm hwn yn ymwneud yn benodol a’r gwaith Symud a Thrin o fewn y Sir. Ymhelaethwyd ar bwysigrwydd y gwaith Symud a Thrin, sy’n lleihau’r risg
o anafiadau, lleihau derbyniadau i'r ysbytai a lleihau'r amser sy’n cael ei
dreulio yn yr ysbytai. Ychwanegwyd fod y maes yn hanfodol i helpu unigolion i
fyw mor annibynnol â phosib gan gadw eu hurddas. Un elfen o waith yr aseswyr
Symud a Thrin bydd gofal sengl. Trwy asesu a darparu offer arbenigol ac
ymyrraeth amserol gall olygu fod un person yn gallu darparu gofal yn ddiogel.
Mae hyn yn rhyddhau capasiti gofalwyr ac yn darparu
gofal addas mewn ffordd cost effeithiol. Adroddodd yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol y byddai yn rhannu copi
dwyieithog o’r cyflwyniad gyda’r aelodau. Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau
a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Diolchwyd am yr adroddiad a’r cyflwyniad oedd yn rhoi
gwell darlun o’r gwelliannau y mae’r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a’r tîm
Symud a Thin wedi ei wneud i fywydau trigolion Gwynedd. ·
Cwestiynwyd sut y byddai
trigolion yn y gymdeithas yn dod i wybod am waith y tîm ac os oedd cynlluniau i
ymgysylltu a’r cyhoedd er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r adnodd hwn. Awgrymwyd
y gellir rhoi cyflwyniad i fudiadau fel merched y wawr neu sefydliad y merched
(WI) fyddai wedyn yn lledaenu’r neges. ·
Awgrymwyd y byddai o fudd
darparu’r cyflwyniad hwn i holl Gynghorwyr y Sir. ·
Gofynnwyd am eglurhad pellach
ynglŷn â'r rhestrau aros sy’n dal i fodoli am asesiadau mewn rhai ardaloedd
a holwyd faint yw’r rhestrau aros ac os oes modd symud Therapyddion
Galwedigaethol rhwng ardaloedd. Cwestiynwyd os ydi’r gwasanaeth yn gyson ar
draws y Sir. ·
Holwyd os oedd cynlluniau i
gyflogi rhagor o Therapyddion Galwedigaethol a gofynnwyd am fanylder pellach
ynghylch pwynt 3.7 o’r adroddiad sy’n cyfeirio at swyddi yn y Gwasanaeth Plant
a’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu. ·
Canmolwyd y penodiad o bedwar
Therapydd Galwedigaethol a’r Nyrs Gofrestredig i sefydlu'r gwasanaeth Symud a
Thrin a diolchwyd am eu gwaith o gefnogi trigolion Gwynedd mewn modd urddasol.
Ychwanegwyd ei bod yn braf cael gweld faint o waith sydd wedi ei gyflawni gan y
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchwyd yn
benodol i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, yr Uwch Reolwr Gwasanaethau
Oedolion a’r Arweinydd Therapi Galwedigaethol am eu gwaith. Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:- · Fod y gwasanaeth yn ceisio lledaenu’r neges am fodolaeth y gwasanaeth drwy aelodau o’r Timau Adnoddau Cymunedol (Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, nyrsys ardal a meddygon teulu), yn ogystal â cheisio meddwl am ffyrdd gwahanol i gysylltu ag unigolion fyddai’n cael budd o’r gwasanaeth. Ychwanegodd yr Arweinydd Therapydd Galwedigaethol y byddai’n fodlon darparu cyflwyniad ac yn awyddus i bobl wybod fod y gwasanaeth hwn ar gael. Byddai'n hapus i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU PDF 283 KB I gyflwyno Adroddiad Arolwg Ymgynghori Asesiad Anghenion Poblogaeth
Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru gan nodi fod yr
asesiad anghenion yn cael ei lunio yn ofynnol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014. Adroddodd y Rheolwr Tîm Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant fod cais
wedi ei wneud i ohirio’r gwaith hwn; credwyd nad oedd yn amserol i’w gwblhau yn
ystod cyfnod prysur y pandemig ond roedd y
Llywodraeth yn awyddus i’r gwaith fynd yn ei flaen. Ychwanegwyd ei bod wedi bod
yn heriol cwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen. Nodwyd fod yr Uned wedi ymrwymo
i wneud gwaith mwy manwl ar anghenion pobl Gwynedd gan fod yr adroddiad hwn yn
un cyffredinol ar draws Gogledd Cymru; credwyd y bydd llawer o werth i’r asesiad
lleol. Ychwanegwyd y bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar
y 15fed o Chwefror ac yna i gyfarfod y Cyngor Llawn ar y 3ydd
o Fawrth yn dilyn derbyn cymeradwyaeth y Cabinet. Yma ceir sylfaen yr adroddiad
sy’n dangos yr hyn mae’r cyhoedd wedi ei nodi am eu hanghenion ynghyd a barn
swyddogion proffesiynol a mudiadau trydydd sector. Mae’r asesiad yn seiliedig
ar nifer o ymarferion ymgynghori ar draws y Gogledd dros y tair blynedd
ddiwethaf ac o holiadur oedd yn agored i unigolion a phartneriaid ei gwblhau. Dymuna’r Rheolwr Tîm Prosiectau Oedolion dderbyn barn y Pwyllgor ar ba
elfennau i ganolbwyntio arnynt yn yr asesiad Gwynedd; disgwylir y bydd yr
Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwynedd yn barod ym mis Medi 2022. Ychwanegwyd fod croeso i’r Aelodau gyflwyno unrhyw adborth
ar ôl y cyfarfod yn ogystal. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau
a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Diolchwyd am adroddiad cynhwysfawr a gonest. ·
Gofynnwyd sut y bwriedir gweithio
efo’r drydedd sector. ·
Mynegwyd fod llawer o
ganfyddiadau negyddol yn yr asesiad sy’n dangos anfodlonrwydd; cwestiynwyd os
yw'n rhoi darlun realistig. ·
Gwnaethpwyd sylw fod yr asesiad yn cyfeirio at beth
sydd angen ei wella ond bod dim cyfeiriad at yr amserlen na phryd fydd y
gwelliannau yn cael eu cyflawni. ·
Holwyd am fwy o fanylion ynghylch
iechyd meddwl yn enwedig i blant a gofynnwyd pa mor hir ydi’r rhestrau aros.
Gofynnwyd a all y Cyngor wneud mwy i helpu’r sefyllfa iechyd meddwl drwy
bamffledi neu drwy hyrwyddo ble mae’r cymorth. ·
Gofynnwyd i ba raddau mae
cydweithio yn digwydd rhwng Awdurdodau Lleol, y sector Gofal a’r Bwrdd Iechyd.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn cyfeirio at ddiffyg cydweithio a chydlynu,
cwestiynwyd faint o sylw mae hyn yn ei gael gan yr Awdurdod. ·
Gwnaethpwyd sylw fod y pandemig
wedi tanlinellu’r diffygion yn y berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd a Gofal. Holwyd
sut y gall yr asesiad yma gael ei ddefnyddio i gynyddu’r pwysau gwleidyddol ar
y Llywodraeth i gyfarch effaith diffyg adnoddau Llywodraeth Leol ar y Bwrdd
Iechyd. · Cyfeiriwyd at Bwyllgor Henoed Gwynedd ddaeth i ben dros gyfnod y pandemig. Teimlwyd fod y cyswllt efo’r henoed a’r mudiadau cefnogol wedi ei golli. Credwyd fod ymgynghori yn holl bwysig i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |