Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Menna Baines, Rheinallt Puw a Gareth Coj Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Gwynfor Owen yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan fod ei fab yn awtistig.
Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y
cyfarfod |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Chwefror 2023 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2023 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR GYNLLUN AWTISTIAETH GWYNEDD PDF 254 KB Aelodau
Cabinet: Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Cynghorydd Dilwyn Morgan I ystyried diweddariad ar y cynnydd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Amlygodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr adroddiad yn
un ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Oedolion a’r Gwasanaeth Plant i sicrhau bod y
cynllun Awtistiaeth yn cael ei ymgorffori yn llyfn i’r ddau wasanaeth. Nododd,
fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (sydd yn gyfrifol am gasglu
gwybodaeth i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i bobl awtistig a’u
teuluoedd neu ofalwyr), bod y Cynllun yn cael sylw blaenllaw. Ategodd y Cyng Elin Walker Jones (Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc) bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud gan Cyngor Gwynedd ers
i’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ddod i rym yn Medi
2021. Cyfeiriwyd at y bid llwyddiannus a wnaed fyddai’n golygu y gellid cynyddu
adnoddau staffio ar gyfer datblygu gwasanaethau Awtistiaeth ar draws y Sir,
datblygu modiwlau E-ddysgu i godi ymwybyddiaeth staff Awdurdodau Lleol, y Bwrdd
Iechyd a’r Heddlu a chyfeirio at y Tim Awtistiaeth Cenedlaethol sydd a rôl
gyffredinol yn natblygiad gwasanaethau ledled Cymru ac, wrth gyfarfod yn
chwarterol, yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a diweddariadau perthnasol. Nodwyd bod blaenoriaethau’r 6 mis nesaf yn cynnwys ·
Cynllun sefydlu ar gyfer y tîm newydd
a lansiad y gwasanaeth newydd i godi
ymwybyddiaeth. ·
Sefydlu prosesau a threfniadau clir i'r tîm weithio
ar draws gwasanaethau plant ac
oedolion. Cysylltu â fforymau presennol. ·
Cryfhau ymhellach y cysylltiadau gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Rhanbarthol, mynychu eu digwyddiadau
gwybodaeth lleol a chwilio am gyfleoedd i weithio ochr
yn ochr â’u
gweithiwr cyswllt yng Ngwynedd ·
Ymgysylltu ag unigolion awtistig a’u teuluoedd
yn ogystal â phartneriaid yn lleol er mwyn symud
tuag at gyd-gynhyrchu gwasanaethau lleol ·
Sefydlu perthynas waith gyda’r gwasanaeth
niwroddatblygiadol a chynnig
cymorth yn ystod camau cynnar
asesu a diagnosis. ·
Cwblhau'r diweddariad gweithredu fel rhan o'r asesiad
gwaelodlin ar gyfer Gogledd Cymru erbyn diwedd mis Mai. ·
Adolygu cynllun awtistiaeth Gwynedd yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys
yn yr asesiad
gwaelodlin. Diolchwyd am y cyflwyniad Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- · Canmol y gwaith y mae’r gwasanaeth yn ei wneud · Croesawu penodiad Cydlynydd / Swyddog Prosiect ar gyfer datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth · Bod angen sicrhau penodiadau Cymraeg fel nad yw plant o aelwyd Cymraeg o
dan anfantais · Bod angen gweld newid
a sicrhau nad cynllun papur yn
unig sydd yma · Bod y Bws Awtistiaeth yn wych (yn cynnig
hyfforddiant arloesol ac ymarferol sydd wedi'i ddatblygu i roi profiad
i bobl nad
ydynt yn awtistig o'r anawsterau
sy’n wynebu pobl ar y sbectrwm awtistiaeth) ac y dylid annog y bws teithiol
yma · Bod y sbectrwm yn eang
a'i bod yn bwysig adnabod pwy sydd wir
angen cefnogaeth · Bod angen sicrhau cefnogaeth briodol i oedolion a phlant wrth iddynt fynd
drwy’r broses asesu · Pryder bod plant yn cael eu gwrthod
gan y gwasanaeth asesu gan nad
ydynt yn cwrdd â’r meini
prawf - lle felly fydd y plant yma yn cael sylw?
Nodwyd bod angen symleiddio’r gwasanaeth. · Bod cymariaethau rhwng Awtistiaeth a Dementia ac y dylid annog adnabod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CEFNOGAETH I UNIGOLION SYDD Â DEMENTIA YNG NGWYNEDD PDF 162 KB Aelod
Cabinet: Cynghorydd Dilwyn Morgan I ystyried diweddariad ar ddatblygiadau newydd yng Ngwynedd i gefnogi
unigolion â dementia Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng Dilwyn
Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygodd mai prif bwrpas yr
adroddiad oedd amlinellu’r datblygiadau newydd sydd yn Ngwynedd i gefnogi
unigolion gyda Dementia. Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion
mai gweledigaeth y Sir yw cefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia er mwyn eu
galluogi i fyw gartref mor annibynnol â chyn hired ag sydd bosib gyda’r angen i
sicrhau’r ddarpariaeth gofal a chefnogaeth gywir, amserol, yn y lle iawn i
gwrdd ag amrediad o anghenion. Eglurodd
bod swydd Cydlynydd Dementia Gwynedd wedi’i chreu yn ddiweddar er mwyn arwain
ar y maes o fewn y Cyngor drwy gydweithio ag unigolion sydd wedi’u heffeithio â
dementia, y Bwrdd Iechyd a’r Trydydd Sector. Bydd y cydlynydd yn gyfrifol am
greu gweledigaeth a strategaeth Dementia Gwynedd i ymateb i’r llwybr safonau
gofal. Swydd dros dro yw hon wedi’i hariannu o’r Gronfa Integredig Rhanbarthol
(RIF). Cyfeiriwyd at y camau nesaf gan adrodd bod y
Gwasanaeth yn ddibynnol ar arian dros dro i gefnogi nifer fawr o ddatblygiadau
yn y ddarpariaeth gofal i unigolion â dementia. Yr her fydd sicrhau arian hir
dymor i sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad pellach y gwasanaethau hyn. Bydd
gwaith yn cael ei wneud i ragweld effaith y galw ar gyllidebau dros y
blynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o ran ail
flaenoriaethu adnoddau os na fydd cyllideb ychwanegol ar gael. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Croesawyd datblygiad Cartref Gofal Penyberth, Penrhos,
cyfeiriad mae’r Cyngor yn dyheu i’w ddilyn a sydd yn llywio cyfeiriad gofal i’r
dyfodol a gweddnewid y gwasanaeth ·
Bod y Gwasanaeth Dementia Actif Gwynedd yn gwneud
gwaith arbennig iawn sydd wedi ei gydnabod ar draws Cymru – yn llongyfarch y
tim ·
Bod cynnwys y teulu mewn asesiadau gofal yn hanfodol i
gefnogaeth dementia ·
Bod rhaid cadw pobl yn eu cymunedau Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan
aelodau, nodwyd:- ·
Mewn ymateb i sylw nad oes darpariaeth nyrsio arbenigol
ar gael i unigolion sydd yn byw yn ardaloedd Llyn a Meirionnydd a’r awgrym y
dylid mynnu darpariaeth ddigonol drwy ddylanwad, nodwyd nad ydyw wedi bod yn
bosib i Awdurdodau Lleol ddarparu gofal nyrsio ond bod y Cyngor bellach yn
ymyrryd mwy yn y farchnad fel mae bylchau mewn gwasanaethau yn ymddangos yn yr
ardaloedd. Nodwyd bod modd datrys rhai elfennau o’r ddarpariaeth ond nad oes
gorfodaeth ar y Bwrdd Iechyd na cwmniau annibynnol i ddarparu Gwasanaeth gofal
nyrsio arbenigol dementia ym mhob rhan o’r Sir – gellid er hyn annog a
dylanwadu ar benderfyniadau busnes. Er
yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd yn cael ei wneud rhaid ymateb i’r angen ac felly
mae’r Cyngor yn ystyried effeithlonrwydd darparu gwasanaeth yn hytrach na
phrynu gwasanaeth (mewn rhai sefyllfaoedd). Nodwyd bod angen sicrhau
darpariaeth hafal ar draws y Sir - bydd posibiliadau yn cael eu hystyried ar
safle Penyberth i’r dyfodol. · Bod Llys Cadfan Tywyn yn cynnig 33 o welyau gyda 15 yn welyau dementia arbenigol - er hynny gwelir rhai unigolion yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |