Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Cyng. Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o Fuddiant Personol gan y Cyng. Llinos Medi Huws (Cyngor Sîr Ynys
Môn) ar gyfer eitem 8 gan ei bod fel Arweinydd yn mynychu Bwrdd Menter Môn, ond
nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly roedd modd iddi gymryd rhan
yn y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y
gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 26
Mawrth, 2021 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2020-21 Dafydd L Edwards a Sian
Pugh i
ddarparu sefyllfa alldro terfynol 2020/21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a chael cymeradwyaeth i'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer
2020/21. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw'r Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21. Cymeradwywyd
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21 (amodol ar
Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2021. Roedd y
Ffurflen Flynyddol wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan y Swyddog Cyllid
Cyfrifol, sef Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Statudol y
Cydbwyllgor. Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol er
mwyn cadarnhau fod y Cyd-bwyllgor wedi cymeradwyo’r datganiadau ariannol arno. Cymeradwywyd y
trosglwyddiad o’r tanwariant o £241,023 i’r gronfa wrth gefn. Clustnodwyd £4,953 o’r llog a dderbyniwyd ar y grant o £16m yn erbyn costau benthyca yn y dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards
(Swyddog Statudol Statudol – Awdurdod Lletya) a Sian
Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau). PENDERFYNWYD Nodwyd
a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw'r Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21. Cymeradwywyd
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen
statudol, sef 31 Mai 2021. Roedd y Ffurflen Flynyddol wedi’i gwblhau a’i
ardystio’n briodol gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol, sef Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Statudol y
Cydbwyllgor. Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol er mwyn
cadarnhau fod y Cydbwyllgor wedi cymeradwyo’r
datganiadau ariannol arno. Cymeradwywyd
y trosglwyddiad o’r tanwariant o £241,023 i’r gronfa wrth gefn. Clustnodwyd
£4,953 o’r llog a dderbyniwyd ar y grant o £16m yn erbyn costau benthyca yn y
dyfodol. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Mae angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa ariannol ar
gyfer 2020-21 a chydymffurfio â’r gofynion statudol yn nhermau cwblhau Ffurflen
Flynyddol Swyddogol Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef yr arferiad priodol ar
gyfer adroddiad cyfrifon cydbwyllgorau ag incwm a gwariant sy’n llai na £2.5
miliwn TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai eleni
fydd y flwyddyn olaf y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cymeradwyo'r Ffurflen
Flynyddol Swyddogol gan y bydd yr incwm a gwariant yn codi dros y trothwy o
£2.5m, ac felly bydd angen i ddatganiadau mwy manwl. Nodwyd fod grant wedi ei
dderbyn cyn diwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer 2021/22 ac felly wedi ei nodi
fel credydwyr yn adroddiad. Mynegwyd fod yr adroddiad yn debyg iawn i’r
adroddiad monitro a dderbyniwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Nodwyd fod tanwariant o £641mil i’w gweld yn
y Swyddfa Rheoli Rhaglen sydd yn gynnydd bychan ers yr adolygiad trydydd
chwarter gan esbonio ei fod o ganlyniad
i ad-daliad a dderbyniwyd gan Gyngor Conwy ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu
Rhanbarthol a lleihad yng ngwariant ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi
Prosiectau. Nodwyd fod tan wariant o £29mil dan y pennawd Gwasanaethau Cefnogol
o ganlyniad i ostyngiad yn y gwariant ar wasanaethau cefnogol y Corff Atebol. Mynegwyd fod yr incwm ar gyfer 2020/21 yn
cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grantiau ESF a grantiau bychan eraill. Yn
ychwanegol, esboniwyd fod ad-daliad Tîm Ymgysylltu ar gyfer 2019-20 wedi ei
dderbyn a llog ar falansau a oedd yn cynnwys bron i
£5mil o log ar y grant cyfalaf o £16m a dderbyniwyd ganol Mawrth. Eglurwyd fod
y grant cyfalaf hwn yn cael ei ddangos fel credydwr ar y Datganiad o Falansau ar y Ffurflen Flynyddol ac y bydd ar gael i
ariannu’r rhaglen gyfalaf yn 2021/22 unwaith mae’r achosion busnes terfynol
wedi eu cymeradwyol Nodwyd fod hyn yn gadael sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2020/21 yn danwariant o £241mil. Esboniwyd fod yr arian wedi ei drosglwyddo i’r gronfa werth gefn i roi balans o £738mil. Ategwyd fod £415mil o’r gronfa eisoes wedi ei glustnod fel rhan o gyllideb 2021/22 fel y cymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais yn ôl ym mis Mawrth. Eglurwyd y bydd hyn yn gadael balans o £323 o filoedd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CHWARTER 4 AC ADRODDIAD BLYNYDDOL Alwen Williams i gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ion-Mawrth) y Cynllun Twf, Cofrestr Risg
y Portffolio wedi'i diweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli
Portffolio ar gyfer 2020-21. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd yr Adroddiad
Perfformiad Chwarter 4, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru ac
Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gyfer 2020/21. Cytunwyd ar ffurf
yr adroddiad chwarterol gan amlygu gwelliannau ar gyfer fersiynau’r dyfodol. Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa
Rheoli Proffilio ar gyfer 2020-21 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd
a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams
(Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD Nodwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 4,
Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa
Rheoli Portffolio ar gyfer 2020/21. Cytunwyd ar ffurf yr adroddiad chwarterol gan
amlygu gwelliannau ar gyfer fersiynau’r dyfodol. Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad
Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Proffilio ar gyfer 2020-21 i
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau
lleol. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU
gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd
rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion
Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd yn y rhaglenni a phrosiectau ar gyfer
Chwarter 4 yn dilyn arwyddo’r Cytundeb Terfynol yn ôl ym mis Rhagfyr 2020.
Esboniwyd fod y ffocws wedi bod i symud i’r cyfnod gweithredu drwy adolygiad
Gwaelodlin ym mis Ionawr i adolygu’r holl brosiectau i ail gadarnhau amserlenni
ar gyfer datblygu a chyflawni achosion busnes. Ychwanegwyd fod nifer sylweddol
o weithdai prosiect wedi eu cynnal er mwyn datblygu achosion busnes yn unol â
chanllawiau’r Better Business
Cases. Nodwyd yn ystod y cyfnod fod y Llythyr Dyrannu
Grant wedi ei arwyddo a bod y dogfennau perthnasol wedi eu cyflwyno. O
ganlyniad i hyn, mynegwyd fod y rhandaliad cyntaf o £16m wedi ei dderbyn ym mis
Mawrth 2021. Esboniwyd fod dau brosiect, Prosiect Morlais
a Phrosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter, wedi cwblhau eu Hadolygiadau
Porth a bellach yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed cyn
cyflwyno achosion busnes. Amlygwyd fod dau brosiect ar hyn o bryd yn adrodd yn
‘goch’ – Safle strategol Allweddol Bodelwyddan o ganlyniad i ganiatâd cynllunio
amlinellol yn dod i ben, a Phorth Caergybi o ganlyniad gostau cynyddol a’r
angen i adolygu’r prosiect. Tynnwyd sylw at y gorfrestr
risg gan bwylsesio fod y proffil risg ar y cyfan yn
sefydlog a nad oedd unrhyw feysydd arwyddocaol newydd o bryder. Amlygwyd fod risigiau arwyddocaol yn parhau gyda ambell i brosiect
unigol ac mae archwaeth ac gallu’r sector
breifat i fuddsoddi yn parhau yn aneglur o ganlyniad i Covid-19. Nodwyd y
prif addasiadau i’r gofrestr risg a oedd yn cynnwys: ·
Graddfa
risg gros a risg gweddilliol Capasiti wedi gostwng yn
dilyn cwblhau yr ymgyrch recriwtio diweddaraf ar gyfer y Swyddfa Rheoli’r
Portffolio. ·
Graddfa
risg gros a risg gweddilliol Buddsoddiad Sector Gyhoeddus wedi gostwng yn dilyn
arwyddo’r Cytundeb Terfynol a Cytundeb Llywodraethu 2. Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol a oedd yn edrych yn ôl ar gynnydd yn
ystod y flwyddyn ariannol 2020/21 a oedd yn amlygu’r Cynllun Twf a
gweithgareddau eraill gefnogir gan y Swyddfa Rhaglen. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ·
Nodwyd
fod yr adroddiad yn arddangos yr holl waith sydd wedi ei wneud dros y flwyddyn
a diolchwyd i’r tîm am ei greu. · Pwysleisiwyd yr angen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Paragraph
14 of Schedule 12A of the Local Government act 1972 - Information relating to
the financial or business affairs of any particular person (including the
authority holding that information). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol
fod angen trafod gwybodaeth o’r fath l heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol
ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn
ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.
Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd
gorau Cofnod: Cytunwyd i gau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â
thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod
sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol fod angen trafod gwybodaeth o’r fath i heb ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol
a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb
Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r
budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. |
|
ACHOS BUSNES AMLINELLOL PROSIECT MORLAIS Penderfyniad: Cymeradwywyd yr
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais ac, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi
a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn Adran 7 yr adroddiad,
bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn
dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd. Nodwyd fod y
trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y
Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac
awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a
Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo gan y
Bwrdd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron
(Rheolwr Rhaglen Ynni) ac Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais
ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd
yr ymgymerwyd â hi a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn
Adran 7 yr adroddiad, bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn
i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd. Nodwyd fod y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a
fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos
Busnes Llawn ac awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog
Adran 151 a Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo
gan y Bwrdd. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Yn unol â chytundeb terfynol y Cynllun Twf, caiff achosion busnes eu
datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf, yn unol â’r canllawiau ‘Better Business Case’ a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Thrysorlys EM.
Mae angen cymeradwyaeth y Bwrdd i bob achos busnes fel bod modd i’r prosiect
symud yn ei blaen i’r wedd nesaf. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |