Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679325
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- · Y Cynghorydd Mark
Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Is-gadeirydd) · Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol
Bangor) gyda Chris Drew yn dirprwyo; · Yr Athro Joe Yates
(Prifysgol Wrecsam) · Yana Williams (Coleg
Cambria) · Aled Jones-Griffith
(Grŵp Llandrillo Menai) · Neal Cockerton (Cyngor
Sir y Fflint) gydag Andy Farrow
yn dirprwyo; · Dafydd Gibbard (Cyngor
Gwynedd) gyda Llyr Beaumont Jones yn dirprwyo. ·
Gareth Ashman a Suan Concoran
(Sylwedyddion Llywodraeth y DU) gyda John Hawkins yn dirprwyo. Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod. Diolchwyd i Robyn
Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf) am ei chyfraniad sylweddol i waith y
Bwrdd Uchelgais dros nifer o flynyddoedd, wrth iddi fynychu ei chyfarfod olaf.
Mynegwyd dymuniadau da iddi i’r dyfodol. Rhannwyd
datganiadau o ddymuniadau da i Llinos Medi (cyn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn)
wedi iddi fod yn llwyddiannus yn yr Etholiad Gyffredinol yn ddiweddar.
Diolchwyd iddi am ei chyfraniad i’r Bwrdd yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd a
dymunwyd pob llwyddiant i’r dyfodol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL To receive any declarations of Personal Interest Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan Chris Drew
(Prifysgol Bangor) ar gyfer Eitem 11.
Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer yr
eitem. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 165 KB Bydd y
Cadeirdd yn cynnig y dylid llonfodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin
2024, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2024 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 1 2024/25 PDF 244 KB Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Ystyriwyd
ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
ddiweddaru. 2.
Cymeradwyo
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau gyda chefnogaeth swyddogion
Uchelgais Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD 1. Ystyriwyd ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a
Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru. 2.
Cymeradwyo
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd Uchelgais,
caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. TRAFODAETH Tywyswyd yr Aelodau drwy ddiweddariadau Uchelgais Gogledd Cymru gan dynnu
sylw penodol at y rhaglenni canlynol: Y Rhaglen Ddigidol Mynegwyd balchder bod Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Safleoedd a
Choridorau Cysylltiedig ‘4G+’ wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Mawrth.
Esboniwyd bod y gwaith o ddatblygu Achos Busnes Lawn gan gynnwys paratoadau ar
gyfer ymgysylltu â’r farchnad eisoes wedi cychwyn. Nodwyd bod Adolygiad Porth 2 ar Achos Busnes Amlinellol cynllun Di-wifr
Uwch Campysau Cysylltiedig wedi ei gwblhau ym mis Mai. Cadarnhawyd bod y
prosiect wedi derbyn graddfa Ambr a phwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i
fynd i’r afael â’r argymhellion cyn cyflwyno’r Achos Fusnes Amlinellol i’r
Bwrdd ym mis Medi. Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau rhanbarthol sydd ar waith er mwyn cefnogi
busnesau bach a chanolig i ymchwilio i dechnolegau newydd ac i wella cysylltedd
band eang mewn cymunedau lleol. Nodwyd bod y prosiectau hyn wedi ei ariannu gan
y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Rhaglen Ynni Carbon Isel Datganwyd bod prosiect ‘Egni’ arweinir gan Brifysgol Bangor yn gwneud
cynnydd da. Nodwyd bod Cam 3 RIBA yn barod i’w lofnodi’n derfynol a gobeithiwyd
bydd Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn y gwanwyn. Yn yr un
modd, cadarnhawyd bod cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud i oresgyn materion
allweddol yn ymwneud â chytundeb ariannu’r prosiect Gwaith Treulio Anaerobig
Glannau Dyfrdwy, cyn cyflwyno’r achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried. Nodwyd bod cydweithrediad
cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu prosiect Hwb Hydrogen
Caergybi. Esboniwyd bod y prosiect
yn gobeithio cryfhau’r sefyllfa pryniant ‘offtake’ ar gyfer
Hydrogen cyn symud ymlaen i’r can nesaf. Cadarnhawyd bod dogfennau
tendr Ymgynghorydd y Gronfa ynghlwm â phrosiect Ynni Lleol Blaengar ar hyn o bryd yn
cael ei cwblhau,
ynghyd ar amserlen ar gyfer lansio’r tendr ac adolygu’r cyflwyniadau yn cael ei gynllunio
ar hyn o bryd. Rhaglen Tir ac Eiddo Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau’r rhaglen gan gynnwys Warren Hall, Porth y
Gorllewin, Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Parc Bryn Cegin, Porth Wrecsam a Phorth
Caergybi. Esboniwyd bod Stage Fifty Ltd, datblygwyr prosiect Stiwdios Kinmel, wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ddechrau Ebrill 2024 gan eu prif ariannwr. Pwysleisiwyd bod trafodaethau arfaethedig wedi ei cynnal rhwng swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r unigolion allweddol oedd ynghlwm wrth y cynnig gwreiddiol. Cadarnhawyd bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn ystyried a oes modd datblygu’r cais diwygiedig. Hyderwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DATGANIAD O GYFRIFON Y BUEGC AM 2023/24 PDF 507 KB Dewi A Morgan
(Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Penneath Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod
Lletya) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi
Datganiad o Gyfrifon Drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar archwiliad) am
2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Swyddog Cyllid Statudol. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon
Drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nid oes
gofyn statudol i’r Bwrdd gymeradwyo’r
fersiwn ddrafft o Ddatganiad o Gyfrifon y Cydbwyllgor, ond rydym yn ystyried
fod cyflwyno’r datganiad drafft er gwybodaeth yn arfer
da i’w ddilyn. Bydd angen
i’r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn terfynol ar ôl derbyn adroddiad Archwilio Cymru, ond mae cyflwyno fersiwn
ddrafft rŵan yn gyfle i
aelodau’r Bwrdd ystyried y cynnwys a holi swyddogion ariannol am y cynnwys. Mae hyn yn gyfle
i’r Aelodau arfogi eu hunain gyda
gwybodaeth berthnasol er mwyn ystyried risgiau
perthnasol, a materion eraill fydd yn
destun archwiliad, yn eu cyd-destun. TRAFODAETH Atgoffwyd yr
Aelodau bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad eisoes wedi ei rannu mewn
ffurf amgen yng nghyfarfod bwrdd ar 17eg
o Fai eleni wrth ystyried sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf y Bwrdd Uchelgais
ar gyfer 2023/24, ac atgoffwyd yr Aelodau o’r penderfyniadau a wnaed.
Pwysleisiwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr Adroddiad hwn yn gyson gyda’r
wybodaeth hynny. Eglurwyd bod yr
Adroddiad yn cyflwyno materion technegol yn ymwneud â chonfensiynau cyfrifo.
Cyfeiriwyd at wahanol rannau’r Adrannau gan fanylu ar wariant cyfalaf, balansau’r cronfeydd a chyfanswm grantiau a dderbyniwyd hyd at 31 Mawrth 2024. Cadarnhawyd bod
gwerth yr asedau pensiwn yn parhau i fod yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau.
Ymhelaethwyd bod sefyllfa ased net o £404,000 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Cydnabuwyd bod hyn yn ostyngiad o’r flwyddyn flaenorol ble roedd sefyllfa ased
net yr asedau pensiynau yn £572,000. Eglurwyd bod lleihad eleni gan fod
prisiau'r actwari yn defnyddio bondiau corfforaethol y Deyrnas Unedig. Nodwyd
bod cynnyrch y bondiau corfforaethol wedi bod yn uchel o ganlyniad i log uchel
a chwyddiant uchel, gan arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uwch sy’n rhoi
gwerth sylweddol is ar yr ased o ganlyniad i log uchel a chwyddiant
ychwanegiadau pensiwn. Cadarnhawyd yr addaswyd gwerth yr ased ar y fantolen a’i
ddangos fel £0 yn unol â’r cyfarwyddyd gan yr actwari. Adroddwyd bod y
Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r Datganiad ar 21 Mehefin 2024 gan dystio
ei fod o’r farn ei fod wedi ei baratoi yn unol â’r cod ymarfer a osodwyd gan Côd Ymarfer CIPFA ar Gyfrifo ar gyfer Awdurdodau Lleol.
Credir fod y datganiad yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y
Bwrdd Uchelgais ar 31 Mawrth 2024 yn ogystal ag incwm a gwariant y Cyd-bwyllgor
am y flwyddyn a ddaeth i ben ar y diwrnod hwnnw. Pwysleisiwyd bod y
Datganiad yn cael ei adolygu gan Archwilio Cymru, archwilwyr allanol y Bwrdd
Uchelgais, ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bydd y cyfrifon terfynol yn ogystal ag
adroddiad yr archwilwyr yn cael eu cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor yn ystod yr
hydref. Ystyriwyd bod lefelau reserfau wedi dyblu yn y blynyddoedd diwethaf er mwyn ariannu cronfa incwm llog. Eglurwyd bydd yr arian hwn yn cael ei wario yn y dyfodol os bydd cyfraddau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PDF 228 KB Hedd
Vaughan Jones (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a
cymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau. PENDERFYNIAD Derbyn a cymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae Rheoliadau
Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (fel y’i diwygiwyd) yn gosod gofynion penodol ar
gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol
trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Gofyniad Rhan 5 yw
i’r Cyd-Bwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol. Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi
ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i
gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd Uchelgais. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
Adroddiad yn eu ffurf flynyddol gan gadarnhau mai newidiadau bychain a wnaed
eleni yn unol â sylwadau ac argymhellion gan archwilwyr. Eglurwyd bod yr
Adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer o faterion er mwyn sicrhau bod
trefniadau llywodraethu mewnol yn gadarn ac yn addas i bwrpas. |
|
LPWAN (LOW-POWER, WIDE-AREA NETWORK) - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES PDF 417 KB Stuart
Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo
Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect LPWAN ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro, i gaffael a sefydlu’r ffamweithiau gofynnol i gyflawni’r
prosiect, yn amodol ar y Swyddfa Rheoli Portffolio yn ymdrin â’r materion sy’n
parhau fel nodir yn Adran 7.1 o’r adroddiad. 2.
Nodi’r
broses ar gyfer cael mynediad at gyllid drwy’r fframweithiau yn cynnwys
cyflwyno cynllun cyflawni ar gyfer pob ardal awdurdod lleol a dirprwyo’r
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Aelod Arweiniol ar
gyfer y Rhaglen Ddigidol a’r Bwrdd Rhaglen Ddigidol i gymeradwyo’r cynlluniau
cyflawni a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio yn unig y dyraniad cyllid
dilynol drwy’r fframweithiau. 3.
Nodi
bod yr Achos Cyfiawnhad Busnes LPWAN yn is-gyfres o’r prosiect Campysau
Cysylltiedig mwy y bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ohono ac yn cytuno i’r
egwyddor bod unrhyw danwariant yng nghyllideb y prosiect LPWAN yn cael ei
glustnodi i’r prosiect Camysau Cysylltiedig yn y lle cyntaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen
Ddigidol. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect LPWAN
ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr
Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gaffael a sefydlu’r
fframweithiau gofynnol i gyflawni’r prosiect, yn amodol ar y Swyddfa Rheoli
Portffolio yn ymdrin â’r materion sy’n parhau fel nodir yn Adran 7.1 o’r
adroddiad. 2.
Nodi’r
broses ar gyfer cael mynediad at gyllid drwy’r fframweithiau yn cynnwys
cyflwyno cynllun cyflawni ar gyfer pob ardal awdurdod lleol a dirprwyo’r
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Aelod Arweiniol ar
gyfer y Rhaglen Ddigidol a’r Bwrdd Rhaglen Ddigidol i gymeradwyo’r cynlluniau
cyflawni a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio yn unig y dyraniad cyllid
dilynol drwy’r fframweithiau. 3.
Nodi bod yr Achos Cyfiawnhad Busnes LPWAN yn is-gyfres o’r
prosiect Campysau Cysylltiedig mwy y bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ohono ac
yn cytuno i’r egwyddor bod unrhyw danwariant yng nghyllideb y prosiect LPWAN yn
cael ei glustnodi i’r prosiect Campysau Cysylltiedig yn y lle cyntaf. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i’r Achos Cyfiawnhad Busnes Llawn ar gyfer Prosiect
LPWAN. Fel prosiect sy’n
cael ei gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae angen cymeradwyaeth gan y
Bwrdd i sefydlu’r fframweithiau fydd yn cyflawni’r prosiect. Oherwydd natur a
gwerth y prosiect, yn unol â chanllawiau ‘Better Business Case’ cyflwynir Achos
Cyfiawnhad Busnes sy’n gofyn am gymeradwyaeth sengl gan y Bwrdd yn unig. TRAFODAETH Esboniwyd bod y
defnydd o Ryngrwyd Pethau (IoT) - sef rhwydwaith o ddyfeisiau a synwyryddion sy’n
gallu casglu a rhannu data gyda phobl neu ddyfeisiadau eraill, a gweithredu yn
unol â’r wybodaeth - wedi tyfu’n gyflym mewn defnydd ac amrywiaeth ers 1999.
Cadarnhawyd bod oddeutu 950 o byrth i Ryngrwyd Pethau dros Brydain.
Ymhelaethwyd bod y datblygiadau hyn mewn casglu data o ansawdd uchel yn
caniatáu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus. Manylwyd bod hyn yn bosibl
gan bod defnyddwyr yn derbyn gwybodaeth fanwl am ased ar wahanol raddfeydd,
pellteroedd ac amleddau, drwy gyfrwng sy’n gwaredu’r heriau cyffredinol o
gasglu data. Eglurwyd bod nifer o Rwydweithiau Pethau preifat eisoes yn bodoli
ym Mhrydain megis mesuryddion clyfar a systemau monitro amgylcheddol. Nodwyd bod
Rhyngrwyd y Pethau yn cael eu defnyddio ym Mhrydain ac yn fyd-eang i gyflawni
buddion economaidd ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Cadarnhawyd mai
nod y prosiect hwn yw ehangu’r defnydd o Ryngrwyd Pethau, sydd â chymwysiadau
eang yn y rhanbarth, gan ddefnyddio’r sector gyhoeddus fel defnyddiwr angor i
gefnogi hygyrchedd ehangach i’r sector preifat. Adroddwyd bod
pedair prif amcan gwariant i’r prosiect LPWAN, sef: 1.
Cyflawni cysylltedd
LPWAN fforddiadwy a rhwydd i’w ddefnyddio, i leoliadau o flaenoriaeth
yn siroedd y rhanbarth erbyn 2027 (gan alluogi effeithlonrwydd
ledled gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus). 2.
Cefnogi mabwysiadu
10-20 rhaglen newydd o dechnoleg LPWAN ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y rhanbarth
erbyn 2032. 3. Cefnogi rhwng £0.1m a £0.5m o fuddsoddiad yn y rhanbarth erbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes
ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r
Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i
rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 10 ac
Eitem 11 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir,
fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus,
fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â
materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif
o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn
yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
ACHOS FUSNES AMLINELLOL CYDNERTH Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Menter
Môn Morlais Cyf yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y
disgrifir yn Adran 7.1, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei pharatoi i’r
Bwrdd ei ystyried. 2.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r Adroddiad fel
sail ar gyfer y trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn sail
i’r cyllid gael ei gytuno gan y Bwrdd yn y cam Achos Busnes Llawn. 3.
Nodi
fod y model ariannu arfaethedig ar gyfer y prosiect yn 100% benthyciad
masnachol yn ddarostyngedig i gadarnhad o’r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth
gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, ac yn cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o’r
benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad
wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa
Rheoli Portffolion yn y blynyddoedd i ddod. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr
Rhaglen Ynni Carbon Isel. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Menter
Môn Morlais Cyf yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y
disgrifir yn Adran 7.1, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei pharatoi i’r
Bwrdd ei ystyried. 2.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r Adroddiad fel
sail ar gyfer y trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn sail
i’r cyllid gael ei gytuno gan y Bwrdd yn y cam Achos Busnes Llawn. 3.
Nodi fod y
model ariannu arfaethedig ar gyfer y prosiect yn 100% benthyciad masnachol yn
ddarostyngedig i gadarnhad o’r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth gymeradwyo’r
Achos Busnes Llawn, ac yn cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o’r benthyciad,
unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi’i dalu,
yn cael ei ddyrannu i gronfa i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli
Portffolion yn y blynyddoedd i ddod. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cydnerth. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |
|
CANOLFAN BIODECHNOLEG AMGYLCHEDDOL - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r
Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol ac
awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, y Swyddog
Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda
Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol
Bangor yn rhoi sylw i’r materion sy’n weddill fel nodir yn Adran 7 o’r Adroddiad ac yn
sicrhau’r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect. 2.
Nodi
bydd dau gam caffael pellach ar gyfer cyflawni’r prosiect a dirprwyo i’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo manylion caffael a dyfarnu
cyn rhyddhau cyllid ar gyfer y camau hyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen y
Cynllun Twf. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r
Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol ac
awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, y Swyddog
Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda
Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol
Bangor yn rhoi sylw i’r materion sy’n weddill fel nodir yn Adran 7 o’r Adroddiad ac yn
sicrhau’r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect. 2.
Nodi bydd
dau gam caffael pellach ar gyfer cyflawni’r prosiect a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Adran
151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo manylion caffael a dyfarnu cyn rhyddhau
cyllid ar gyfer y camau hyn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Cyfiawnhad Busnes Llawn ar gyfer Prosiect
Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol. Mae Prifysgol
Bangor wedi cwblhau’r gwaith caffael ar gyfer y prosiect gyda prynu offer
wedi’i gynllunio. Bydd yr Achos Cyfiawnhad Busnes yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd
am benderfyniad Buddsoddi terfynol. Oherwydd natur a gwerth y prosiect, yn unol
â chanllawiau ‘Better Business
Case’ cyflwynir Achos Cyfiawnhad Busnes sy’n gofyn am
gymeradwyaeth sengl gan y Bwrdd yn unig. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |