Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn a’r Cynghorydd Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 222 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER (MEDI 2021) pdf eicon PDF 530 KB

Dafydd L Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh,  Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y gwariant ac incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2021/22 , ynghyd â rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Derbyn a nodi adolygiad ail chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. 

 

2.     Cydnabod derbyn a defnydd arfaethedig y £500,000 ar gyfer y grant Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i'r System Gyfan (WBRID), yn unol â'r llythyr dyfarnu cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021. 

 

3.     Cymeradwyo'r defnydd o gronfa wrth gefn benodol wedi'i chlustnodi i ddal cyfraniadau llog a dderbynnir gan y partneriaid, i'w gosod yn erbyn y gost fenthyca sydd ei hangen i ariannu'r llif arian negyddol yn y dyfodol. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

 

 I.        Derbyn a nodi adolygiad ail chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22.

II.        Cydnabod derbyn a defnydd arfaethedig y £500,000 ar gyfer y grant Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i'r System Gyfan (WBRID), yn unol â'r llythyr dyfarnu cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021.

III.        Cymeradwyo'r defnydd o gronfa wrth gefn benodol wedi'i chlustnodi i ddal cyfraniadau llog a dderbynnir gan y partneriaid, i'w gosod yn erbyn y gost fenthyca sydd ei hangen i ariannu'r llif arian negyddol yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd tanwariant a rhagwelir o £183,178 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2021/22. Mynegwyd y gellir trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i’r gronfa wrth gefn sydd wedi’i chlustnodi.

 

Amlygwyd fod llithriad wedi bod ar y rhaglen gyfalaf sy’n golygu y bydd bellach yn rhedeg am dair blynedd ychwanegol hyd at 2028/29. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn adolygiad ariannol ar gyfer ail chwarter y flwyddyn. Mynegwyd fod yr adran yn amcanu tanwariant o £128 o filoedd ar y Swyddfa Rheoli Rhaglen. Eglurwyd fod hyn o ganlyniad i oedi wrth recriwtio i swyddi. Mynegwyd fod y pennawd Gwasanaethau Cefnogol yn dangos tanwariant o £7mil yn sgil tanwariant ar y gyllideb Yswyriant. Nodwyd fod hyn oherwydd bod Yswyriant y Bwrdd Uchelgais wedi’i ymgorffori o fewn polisïau Yswyriant Cyngor Gwynedd.

 

Eglurwyd fod tanwariant o £18 mil wedi ei amcangyfrif ar y pennawd Cyd-Bwyllgor, ac fod hyn yn sgil derbyn grant penodol gan Lywodraeth Cymru i ariannu rhai agweddau o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ymgynghorwyr cyfreithiol.

 

O ran prosiectau nodwyd fod rhaid i’r gwariant ar y pennawd yma gael ei ystyried yn nghyd-destun y grant datgarboneiddio o hanner miliwn. Mynegwyd na dderbyniwyd y llythyr dyfarnu cyllid ar gyfer y grant hwn tan fis Mehefin 2021, ac felly ni chafodd ei gynnwys yn y gyllideb. Tynnwyd sylw at danwariant o £40mil ar y penawdau cefnogaeth gyfreithiol allanol a sicrwydd ac mae hyn yn sgil y llithriad ar y rhaglen gyfalaf.

 

Nodwyd fod cyfraniadau llog y partneriaid o £678 o filoedd yn adlewyrchu’r ffigyrau  gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Hydref 2020 a Mawrth 2021, a gofynnwyd i’r Bwrdd gymeradwyo’r defnydd o gronfa wrth gefn penodol i roi’r arian hwn o’r neilltu i ariannu’r gost gyfartalog o fenthyca dros oes y cynllun twf. Eglurwyd unwaith y bydd cadarnad yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru bydd y cyfaniadau llog yn cael eu hailgyfrifo i adlewyrchu’r gost ddiwygiedig o fenthyca.

 

Mynegwyd fod ffynhonellau incwm ar gyfer 2021/22 yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, Grant Datgarboneiddio a’r gronfa wrth gefn. Nodwyd fod hyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2021/22 yn danwariant o £183 o filoedd, a rhagwelir ar hyn o bryd y bydd balans o £507 o filoedd yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

O ran yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 2 pdf eicon PDF 289 KB

Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad chwarter 2 y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.  

 

Cymeradwywyd cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yngyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd ar raglenni a phrosiectau’r Cynllun Twf ar gyfer yr ail chwarter. Nodwyd fod ail adolygiad sicrwydd blynyddol y Cynllun Twf wedi ei gwblhau a cyflwynwyd gradd o ‘Ambr-Gwyrdd’ nodwyd dyma ail radd hyder cyflawni uchaf sydd ar gael ac yn welliant ar y gradd Ambr a dderbyniwyd yn 2020.

 

Mynegwyd fod diweddariad blynyddol cyntaf i Achos Busnes y Portffolio, sy’n ofyniad dan y Cytundeb Twf Terfynol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’i gwblhau.

 

Nodwyd fod wyth prosiect yn adrodd yn goch ar hyn o bryd  yn sgil risigau i sgôp y prosiectau, neu oedi sylweddol i amserlenni’r prosiectau. Ychwanegwyd gan nad oes yr un Achos Busnes Llawn ar gyfer unrhyw brosiect wedi’i gymeradwyo ar hyn o bryd, ac mae’r unig wariant hyd yma yn sgil tynnu arian i lawr yn erbyn y dyraniad yw 1.5% ar gyfer costau’r Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Tynnwyd sylw ar 3 risg yn gofrestr risg sydd wedi cynnyddu ystod y chwarter, a oedd yn cynnwys capasiti partneriaid i ddarparu cynrychiolwyr i fyrddau prosiect ac anhawster recriwtio i swyddi gwag o fewn y PMO, Buddsoddiad y Sector Gyhoeddus ac amcanion gwario. Eglurwyd fod dau o’r rhain wedi codi yn sgil y ffaith bod nifer o geisiadau i newid prosiectau wedi eu hystyried. Amlygwyd fod dwy risg newydd wedi’u hychwanegu yn dilyn adroddiad sicrwydd proffilio.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod cynydd mewn prisiau deunyddiau yn effeithio ar gostau cynlluniau ond fod hyn wedi ei amlygu yn y gofrestr risg yn y chwarter diwethaf.

¾     Nodwyd y bydd arian ESF yn dod i ben ac amlygwyd pryder o ariannu staff  ac eglurwyd fod angen lobio am y mater hwn yn rhanbarthol ac ar wahân ac efallai y bydd angen sefyll yn unedig fel Bwrdd.

¾     Mynegwyd  fod yr Etholiad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf ac fod angen i staff barhau gyda’r gwaith da. Eglurwyd yr angen i’r cynllun i barhau i fod yn hyblyg ac yn barod i addasu prosiectau os risigau yn codi.

¾     Esboniwyd yr angen i addasu teitl cynllun Hydrogen er mwyn bod yn fwy penodol a mynegwyd fod y tim yn edrych i mewn i hyn ar hyn o bryd a gofynnwyd am adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyn cau allan y wasg a’r cyhoedd cymerwyd y cyfle i ddiolch i Brif Weithredwr Cyngor Sir Fflint, Colin Everett, am ei waith yn arwain y Bwrdd Uchelgais  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).  Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

RHEOLI NEWID - PORTH CAERGYBI

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y cais i newid ar gyfer Porth Caergybi ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru a’r DU fel newid i sgôp prosiect Cynllun Twf.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y cais i newid ar gyfer Porth Caergybi ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru a’r DU fod newid i sgôp prosiect Cynllun Twf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020, fe gytunwyd ar y Cytundeb Twf ar gyfer Cynllun Twf y Gogledd. Nodwyd fod gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n berthnasol ei hystyried gan y Bwrdd.

 

Mynegwyd fod cais i newid yn ymwneud â phrosiect Porth Caergybi sydd yn un o chwe prosiect o fewn y rhaglen Tir ac Eiddo.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.