Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·        Y Cynghorydd Ian B. Roberts (Cyngor Sir y Fflint);

·        Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Chris Drew yn dirprwyo;

·        Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo;

·        Yr Athro Maria Hinfelaar (Prifysgol Wrecsam);

·        Dewi A. Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) gyda Sian Pugh yn dirprwyo;

·        Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. 

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 159 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth  

2024 fel rhai cywir.

 

5.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF Y BWRDD UCHELGAIS AR GYFER 2023/24 pdf eicon PDF 527 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyn:

1.     Adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1), sy’n cynnwys defnyddio £561,454 o Grant Bargen Twf Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.     Sefyllfa cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Adolygiad Cyfalaf Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2024 (Atodiad 3).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyn:

1.     Adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1), sy’n cynnwys defnyddio £561,454 o Grant Bargen Twf Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.     Sefyllfa cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Adolygiad Cyfalaf Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2024 (Atodiad 3).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Hysbysu’r Bwrdd Uchelgais am ei sefyllfa ariannol ar gyfer refeniw a chyfalaf 2023/24.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad oedd yn darparu trosolwg o sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf 2023/24. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 gan dynnu sylw at golofn olaf y tabl sy’n dangos y gorwariant neu’r tanwariant fesul pennawd. Nodwyd mai’r tanwariant terfynol ar y pennawd Swyddfa Rheoli Portffolio yw £75,000, sy’n bennaf oherwydd trosiant staff yn ystod y flwyddyn. Adroddwyd bod y pennawd Gwasanaethau Cefnogol yn dangos tanwariant o £39,000.

 

Nodwyd bod y tanwariant terfynol ar y pennawd Cydbwyllgor yn £41,000, sydd yn sgil tanwariant ar y penawdau Cefnogaeth Gyfreithiol Allanol, y Ffioedd Cyllidol Allanol a'r Bwrdd Cyflawni Busnes. Mynegwyd mai’r tanwariant terfynol ar y pennawd Prosiectau yw £129,000. Eglurwyd bod y gwariant o dan y pennawd Grantiau yn cynnwys cynlluniau sy’n cael eu hariannu gan grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd bod y rhan Trosglwyddiadau i gronfeydd yn dangos cyfraniadau llog y partneriaid ar gyfer 2023/24.

 

Cyfeiriwyd at ail dudalen Atodiad 1 ble rhestrir y prif ffrydiau incwm ar gyfer 2023/24 a dangosir y sefyllfa alldro net terfynol ar gyfer 2023/24, sef tanwariant o £460,000. Eglurwyd bod hyn yn dangos cynnydd yn y tanwariant o £341,000 a ragwelwyd yn yr adolygiad diwedd Rhagfyr. Nodwyd bod y tanwariant yn deillio o lwyddiant y Swyddfa Rheoli Portffolio gyda’u cais rhanbarthol i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ogystal â gostyngiad mewn gwariant ar sawl pennawd yn y gyllideb. 

 

Gofynnwyd i’r Bwrdd gymeradwyo swm gostyngedig o £561,000, o’i gymharu â’r gyllideb wreiddiol o £1,000,000 o grant y Cynllun Dwf i’w ddefnyddio i ariannu’r gwariant refeniw yn 2023/24 er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 oedd yn dangos y symudiadau yn y cronfeydd yn ystod y flwyddyn a’r balansau ar 31 Mawrth 2024. Nodwyd mai cyfanswm y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2024 oedd £278,000 a bod £67,000 wedi ei neilltuo ar gyfer cyllideb 2024/25 a £61,000 pellach ar gyfer cyllideb 2025/26. Adroddwyd mai balans y gronfa prosiectau ar 31 Mawrth 2024 oedd £152,000 a balans y gronfa llog ar 31 Mawrth 2024 oedd £4.7 miliwn. Nodwyd bod cynnydd sylweddol yma oherwydd y llog a dderbyniwyd ar y Grant Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn.

 

I gloi cyfeiriwyd at sefyllfa gyfalaf y Grant Cynllun Twf ar gyfer 2023/24. Nodwyd mai’r prif wahaniaeth rhwng y gyllideb Cyfalaf a gymeradwywyd gan y Bwrdd ym mis Mawrth yw’r gwariant o £0.75m ar y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter ac mae’r gyllideb o 2.15% ar gyfer cyllido refeniw yn 2023/24 wedi gostwng i £0.56m i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 4 pdf eicon PDF 239 KB

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i

diweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau ac ymhelaethodd y Rheolwyr Rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Rhedwyd drwy adroddiad Perfformiad a Risg Chwarter 4 y Cynllun Twf a derbyniwyd gyflwyniad gan y rheolwyr rhaglen oedd yn darparu crynodeb o’r cynnydd efo’u rhaglenni unigol. Derbyniwyd diweddariad ar y Rhaglen Ddigidol ble nodwyd bod yr achos busnes amlinellol ar gyfer Safleoedd a Choridorau Cysylltiedig Allweddol ‘4G’ bellach wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Cyfeiriwyd at y prosiect LPWAN gan nodi bod angen gwneud rhagor o waith ar yr achos economaidd cyn sôn am benodiad Annog Cyf. gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd.

·        Holwyd am benodiad Annog Cyf. ac os oes cyhoeddiad neu lansiad ar y gweill. Cadarnhawyd y bydd lansiad cyhoeddus gan y cwmni yn yr wythnos nesaf a’u bod yn gweithio ar y negeseuon a chydbwysedd rhanbarthol. Adroddwyd y bydd cyhoeddusrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol a bydd cyswllt uniongyrchol efo’r cymunedau gwledig. Nodwyd y bydd y Swyddfa Rheoli Prosiect yn diweddaru’r Bwrdd pan fydd datblygiad.

 

Darparwyd diweddariad ar y Rhaglen Ynni Carbon isel oedd yn egluro sefyllfa pob prosiect megis Hwb Hydrogen a Cydnerth ymysg eraill hyd at ddiwedd chwarter 4. Nodwyd nad yw prosiect Trawsfynydd wedi ei gynnwys gan nad oedd llawer i’w adrodd hyd at ddiwedd Chwarter 4. Ychwanegwyd bod y prosiect hwn yn parhau dan statws coch oherwydd yr ansicrwydd i’r prosiect gael ei wireddu o fewn cyfnod y Cynllun Twf. Nodwyd bod y Swyddfa Rheoli Prosiect mewn trafodaethau gyda Chwmni Egino a bydd yn gofyn am eglurhad gan y Llywodraeth wrth ddechrau mapio opsiynau posib i’r Bwrdd eu hystyried os bydd y prosiect yn cael ei dynnunol o’r Cynllun Twf.

·        Mynegwyd siom am y prosiect Trawsfynydd a phryderwyd bod penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth yn hytrach na phenderfyniadau ar sail ffeithiol neu dechnolegol. Nodwyd y bydd ystyriaethau pellach ynglŷn â beth fydd yn cymryd lle’r prosiect Trawsfynydd pe bai’r prosiect yn cael ei dynnu ‘nol.

 

Adroddwyd ar y Rhaglen Tir ac Eiddo ble darparwyd diweddariad ar y prosiectau megis Parc Bryn Cegin, Bangor a Stiwdio Kinmel. Nodwyd bod y Bwrdd Uchelgais yn parhau i aros am gyfarfod wyneb yn wyneb efo Stiwdio Kinmel ers i’r cwmni gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr dechrau Ebrill; ers y cyhoeddiad maent wedi bod mewn cyswllt e-bost efo’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD pdf eicon PDF 189 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol am y rhesymau a nodir isod:

 

·        Eitem 10: Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)). Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am y prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru gan gynnwys gwybodaeth am risgiau’r prosiect. Mae hyn yn berthnasol i Jones Bros.

 

8.

CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - ACHOS BUSNES LLAWN

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru.

 

Awdurdodwyd Cyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a mynd i gytundeb ariannu gyda Jones Brothers Ruthin Development Holdings Ltd i gyflawni’r Prosiect.

 

Nodwyd bydd y cytundeb ariannu yn cael ei wneud ar ôl cwblhau’r camau ym mharagraff 7.7 yn foddhaol mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro.

 

Mynegwyd diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect hwn.

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru.

 

Awdurdodwyd Cyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a mynd i gytundeb ariannu gyda Jones Brothers Ruthin Development Holdings Ltd i gyflawni’r Prosiect.

 

Nodwyd bydd y cytundeb ariannu yn cael ei wneud ar ôl cwblhau’r camau ym mharagraff 7.7 yn foddhaol mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro.

 

Mynegwyd diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect hwn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru.

 

Cymeradwyodd y Bwrdd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect ar 2 Chwefror 2024. Cynhaliodd y prosiect Adolygiad Parth 3 ym mis Ebrill 2024 ac fe dderbyniodd radd Ambr gan y tîm adolygu gyda 9 o’r argymhellion. Mae’r argymhellion hyn wrthi’n cael eu hadolygu gan Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Jones Bros, gyda’r bwriad o gytuno ar gamau gweithredu rhwng y partïon.

 

Jones Brothers Ruthin Development Holdings Ltd fydd derbynwyr y grant a byddant yn comisiynu Jones Brothers Ruthin Civil Engineering Limited i ymgymryd â’r gwaith Gwedd 1 gan ddefnyddio’r isgontractwyr cymeradwy sydd ganddynt pan fo’r angen. Mae’r cwmni nawr yn cyhoeddi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd er mwyn gwneud penderfyniad Buddsoddi terfynol.

        

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.