Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Ian B. Roberts (Cyngor Sir y Fflint);

·       Y Cynghorydd Jason McLellan (Cyngor Sir Ddinbych);

·       Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda Gary Pritchard yn dirprwyo;

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Paul Spencer yn dirprwyo;

·       Yr Athro Maria Hinfelaar (Prifysgol Wrecsam)

·       Yana Williams (Coleg Cambria)

·       Dewi A. Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) gyda Sian Pugh yn dirprwyo;

·       Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andy Farrow yn dirprwyo;

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

·       Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych)

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

Diolchwyd i Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai) am ei waith a’i gyfraniad i’r Bwrdd dros y blynyddoedd diwethaf, wrth iddo fynychu ei gyfarfod olaf. Estynwyd croeso i Aled Jones-Griffith i’r Bwrdd fel ei olynydd. Yn yr un modd, croesawyd yr Athro Joe Yates i’r cyfarfod fel cyd-gynrychiolydd Prifysgol Wrecsam yn dilyn ei benodiad fel Is-ganghellor y brifysgol.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio)  ar gyfer Eitem 8 oherwydd ei phenodiad fel Prif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 168 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Mai 2024 fel rhai cywir.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023/24 pdf eicon PDF 226 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Nodwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.

2.     Cymeradwyo cyflwyno’r Aadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio gyda chefnogaeth swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyn:

1.     Nodwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.

2.     Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r Cynllun Twf a’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth gyflawni prosiectau, gan fynegi diolchiadau i swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru am eu gwaith safonol ar hyd y flwyddyn.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy brif bwyntiau’r Adroddiad gan dynnu sylw penodol at:

 

·       Uchafbwyntiau 2023/24 - Cydnabuwyd bod heriau wedi rhwystro Achosion Busnes Llawn ac Amlinellol rhag cael eu cymeradwyo yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith er mwyn sicrhau bod yr achosion busnes hynny yn datblygu yn amserol er mwyn eu hystyried yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn ogystal, cadarnhawyd eu bod yn gweithio ar brosiectau amgen megis her Ariannu Hydrogen ac wedi llwyddo i groesawu pum prosiect newydd i ymuno â’r Cynllun Twf. Pwysleisiwyd bod nifer o Achosion Busnes Amlinellol, megis Rhwydwaith Talent Twristiaeth a Chyn Ysbyty Gogledd Cymru, ac Achosion Busnes Llawn, megis Gwaith Treulio Anerobig Glannau Dyfrdwy wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ystod ail hanner y flwyddyn. Ymhelaethwyd bod Achos Busnes Llawn Cyn Ysbyty Gogledd Cymru bellach wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

·       Canolfan Proeseu Signalau Digidol (DSP) – Cadarnhawyd mai dyma’r prosiect cyntaf i gyrraedd y nod o gyflawni ac mai 2023/24 oedd ei ail flwyddyn o wneud hynny. Ymfalchiwyd bod y prosect wedi arwain at greu 13 o swyddi ac wedi cynhyrchu GVA ychwanegol o £1.275m. Ymhelathwyd bod y prosiect bellach wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £1.5m. Nodwyd bod y prosiect yn parhau i gydweithio gydag 18 o bartneriaid ac bod 53 o bobl wedi mynychu sesiynau sgiliau a hyfforddi yn ystod y flwyddyn.

·       Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter -  Mynegwyd balchder bod gwaith adeiladu’r ganolfan wedi cychwyn ers Chwefror 2024 ac bod y gwaith yn parhau i ddatblygu o flaen targedau amser. Atgoffwyd bydd y ganolfan yn adeilad arloesol er mwyn datblygu cydweithrediad busnes a datblygu sgiliau mewn opteg, ffotoneg a deunyddiau cyfansawdd, fel dewisiadau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu. Nodwyd hefyd bydd y datblygiad yn integreiddio hydrogen fel ffynhonnell tanwydd amgen gan gyfrannu at arferion cynaliadwy mewn diwydiant drwy leihau allyriadau carbon cwmnïau’r rhanbarth. Pwysleisiwyd mai rhan allweddol o’r prosiect yw denu buddsoddiad i ogledd Cymru a chreu cyflogaeth leol, gan bwysleisio y rhagwelir  oddeutu 70 i 90 o swyddi newydd yn cael eu creu o fewn y ganolfan ac dros fil o bobl wedi’u hyfforddi i ddarparu datrysiadau arloesol ar gyfer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD: SWYDDOGAETHAU BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - TROSGLWYDDO I'R CYD-BWYLLGOR CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 262 KB

Dylan J Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Nodwyd y diweddariad cynnydd ar waith i sefydlu CBC y Gogledd ac ymateb i’r tasgau sy’n ofynnol gan ei swyddogaethau statudol.

2.     Nodwyd y cynllun wedi’i ddiweddaru a’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

3.     Cymeradwywyd bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael ei ymestyn tan 31 Hydref 2024.

4.     Cytunwyd bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd petai llithriad yn yr amserlen, i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar amserlen amgen i drosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodwyd y diweddariad cynnydd ar waith i sefydlu CBC y Gogledd ac ymateb i’r tasgau sy’n ofynnol gan ei swyddogaethau statudol.

2.     Nodwyd y cynllun wedi’i ddiweddaru a’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

3.     Cymeradwywyd bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael ei ymestyn tan 31 Hydref 2024.

4.     Cytunwyd bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd petai llithriad yn yr amserlen, i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar amserlen amgen i drosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2021/Ionawr 2022, bu’r Cabinet a Phwyllgorau Gwaith ym mhob un o’r chwe Awdurdod Lleol gytuno, mewn egwyddor, y dylid trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru drwy gytundeb dirprwyo i’r CBC. Mae’r fframwaith statudol a sefydlu’r CBC yn golygu bod angen symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad arfaethedig. Mae angen cymeradwyaeth gan sefydliadau partner a llywodraethau cyn y gellir trosglwyddo.

 

Gosodwyd 1af o Orffennaf fel dyddiad targed dros dro ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Y Gogledd. Fodd bynnag, roedd y dyddiad hwn yn amodol ar y sail y gallai sawl factor effeithio arno, gan gynnwys yr angen am gytundeb partner a llywodraeth i drosglwyddo’r Cynllun Tŵf; Gofynion penderfyniadau ac amserlenni; cyfyngiadau capasiti Mewnol ac ystyriaethau TUPE. Mae yna benderfyniadau allweddol y mae angen eu gwneud i gyflawni’r trosglwyddiad a llai arwain at rai meysydd trosglwyddo yn cael eu gwneud yn ystod cyfnod yr Hydref 2024. Ystyrir and oes modd cyflawni’r dyddiad trosglwyddo arfaethedig ar 1af o Orffennaf 2024. Mae’r adroddiad hwn a’r penderfyniadau sy’n ofynnol yn nodi’r cynllun a’r amserlenni diwygiedig.

 

TRAFODAETH

 

Diolchwyd i holl swyddogion cysylltiedig Uchelgais Gogledd Cymru a’r Awdurdod Lletyol am eu gwaith i baratoi adroddiad eglur o’r sefyllfa bresennol. Cydnabuwyd nad yw’n sefyllfa ddelfrydol gan nodi bod yr Adroddiad yn manylu ar yr heriau hynny sydd wedi cyfrannu tuag at y sefyllfa bresennol. Ymhelaethwyd hefyd bod capasiti swyddogion wedi cyfrannu at yr heriau a wynebwyd.

 

Tynnwyd sylw at gymhlethid y tasgau sydd angen eu cwblhau yn ogystal â’r trefniant allweddol o bryd ddylai holl dasgau gael eu cyflawni. Manylwyd ar y wybodaeth hyn drwy gyfeirio at Atodiad 1. Rhannwyd enghreifftiau o fanylder y tasgau drwy gadarnhau bod angen i holl awdurdodau lleol y rhanbarth a’r Llywodraeth gytuno ar bob cam o’r prosesau, yn ogystal â datblygu polisïau a phrosesau cadarn. Cydnabuwyd bod aneglurder ar faterion cyllidol hefyd yn her sydd wedi cael ei wynebu yn ddiweddar. Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau bod pob tasg wedi ei gwblhau a phrosesau digonol mewn lle, cyn i’r trosglwyddiad ffurfiol gael ei wneud, er mwyn sicrhau lleihad mewn risgiau i’r dyfodol. Cadarnhawyd ei fod yn allweddol i addasu dyddiad y trosglwyddiad o fis Gorffennaf i fis Tachwedd, gyda’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.