Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn, Cynghorydd Charlie McCoubrey, Cynghorydd Ian B Roberts, Yana
Williams (Coleg Cambria), Iwan Davies (Cyngor Conwy) a Dafydd Gibbard (Cyngor
Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan Maria Hinfelaar, Prifysgol
Glyndwr ac Askar Sheibani fel aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndwr,
a’r Athro Iwan Davies, Prifysgol Bangor, ar gyfer eitem 9 gan fod prosiectau
mewn perthynas â Phrifysgol Bangor a Glyndwr yn cael eu trafod, nodwyd ei fod
yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod. Ar gyfer eitem 10 derbyniwyd ddatganiad o
fuddiant personol gan yr Athro Iwan Davies fel cynrychiolydd Prifysgol Bangor,
roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 313 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2021 fel rhai cywir. |
|
FFRAMWAITH ECONOMAIDD RHANBARTH GOGLEDD CYMRU - DRAFFT PDF 426 KB Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio,
i gyflwyno i'r bwrdd y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (REF) drafft ar
gyfer Gogledd Cymru.. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymell y drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru’ i’w fabwysiadau gan bob awdurdod lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams
(Cyfarwyddwr Portffolio) PENDERFYNWYD Argymell y drafft ‘Fframwaith Economaidd
Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru’ i’w fabwysiadau gan bob awdurdod lleol. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Sefydlodd Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru'r sylfaen ar
gyfer gweithio rhanbarthol, gan gynnwys ymrwymiad i ddarparu llais rhanbarthol
cryfach trwy fodel datblygu economaidd â ffocws rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys
sefydlu timau rhanbarthol a datblygu Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol (REFs). Mae REFs wedi'u bwriadu fel cyfrwng i helpu i
hyrwyddo cynllunio a darpariaeth ranbarthol gydweithredol ymhlith partneriaid
sector cyhoeddus, preifat a trydydd. Bydd y cyflawni yn canolbwyntio ar un
weledigaeth a rennir ar gyfer pob rhanbarth a'i chefnogi gan gyfres o
flaenoriaethau ac egwyddorion rhanbarthol. Bydd datblygu REFs
yn allweddol wrth lywio a dylanwadu ar gyflawni blaenoriaethau cyllido
Llywodraeth Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Cynllun
Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru, wedi sefydlu sylfaen ar gyfer
gweithio’n rhanbarthol, sydd yn cynnwys sefydlu timau rhanbarthol a datblygu
Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol. Eglurwyd fod datblygu’r fframweithiau yn
rhan hanfodol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fodel Datblygu Economaidd.
Eglurwyd wrth ddatblygu’r fframweithiau fod angen ystyried yr adferiad Covid-19
ynghyd â dyheadau hir dymor y rhanbarth. Mynegwyd fod y fframweithiau yn helpu i
hyrwyddo cynllunio a darpariaeth ranbarthol gydweithredol ymhlith partneriaid
yn y sector gyhoeddus, preifat a trydydd sector. Eglurwyd bydd y fframwaith yn canolbwyntio
ar un weledigaeth drwy gyfres o flaenoriaethau ac egwyddorion rhanbarthol.
Pwysleisiwyd fod y fframweithiau yn allweddol wrth lywio a dylanwadu ar
gyflawni blaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru. Mynegwyd fod cyfnod ymgysylltu wedi ei gynnal
ar y fframweithiau ac fod y tîm wedi targedu ystod o randdeiliad
rhanbarthol i gyd-ddylunio’r dull hwn o ddatblygu economaidd. Nodwyd y
blaenoriaethu o dan brif themâu: Economi Lles Cymdeithasol a Chymunedol,
Economi Profiad a Economi Carbon Isel ac Allyriadau Isel. Eglurwyd fod y
blaenoriaethau yn rhai hyblyg a fydd yn caniatáu i’r rhanbarth addasu dros y
ugain mlynedd nesaf. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ¾ Holwyd tuag at pwy oedd
y ddogfen hon wedi ei hanelu. Nodwyd fod y ddogfen wedi ei chreu ar gyfer y
rhanbarth er mwyn cael pwrpas clir ac i amlygu blaenoriaethau. Mynegwyd y bydd
y ddogfen bartneriaethol hon yn ganllaw ar gyfer
derbyn arian gan Lywodraeth Cymru. ¾ Mynegwyd gyda
blaenoriaethau i’w gweld yn y Cytundeb Twf, Cydbwyllgorau Corfforedig ac yn y
Fframweithiau yma yn ogystal holwyd sut y bydd modd cadw’r rhain i gyd i
gyd-fynd a’i gilydd. Eglurwyd fod y ddogfen yn un cyffredinol o ran
blaenoriaethau, ac o ganlyniad yn dangos yn glir fod y Bwrdd Uchelgais yn
llwyddiannus yn gweithredu yn erbyn y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol.
Mynegwyd y bydd y Fframweithiau yn cyd-fynd a blaenoriaethu sydd i’w gweld yn
barod ond ei fod yn rhoi fframwaith hir dymor i’r rhanbarth. ¾ Nodwyd fod y penderfyniad yn nodi yr angen i Awdurdodau Lleol dderbyn y fframwaith – holwyd os y bydd angen i’r partneriaid wneud yn ogystal. Eglurwyd fod rhanddeiliad wedi cael cyfle i gyfrannu at y fframwaith ac y dylai gael ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Y STRATEGAETH FUDDSODDI PDF 638 KB Alwen Williams, Cyfarwyddwr Porffolio, i roi diweddariad i'r Bwrdd ynghylch y gwaith o ddatblygu strategaeth i
roi sylw i'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y Cynllun Twf. Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad ar y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams
(Cyfarwyddwr Portffolio). PENDERFYNIAD Nodwyd y diweddariad ar
y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Bob blwyddyn, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cychwyn Adolygiad Porth
annibynnol fel rhan o’i broses sicrwydd a llywodraethu. Amlygodd Adolygiad
Porth y Portffolio ym mis Awst 2021 gradd hyder cyflawni Ambr/Gwyrdd sydd yn
cydnabod bod cyflawni’n llwyddiannus yn ymddangos yn debygol. Fodd bynnag,
nodwyd yr angen rhoi sylw parhau i sicrhau nad yw risgiau yn troi mewn i
faterion mawr a fyddai’n fygythiad. Un o argymhellion y panel adolygu oedd y dylid datblygu a mabwysiadu
strategaeth ar lefel Portffolio i ddenu a sicrhau buddsoddiad sector breifat ac
arall. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod pob blwyddyn
fod y Cynllun Twf yn cychwyn Adolygiad Porth annibynnol fel rhan o broses
sicrwydd a llywodraethu. Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Awst 2021, a cyflawnwyd
gradd hyder cyflawni o Ambr/Gwyrdd a oedd yn cydnabod fod cyflawni’n llwyddiannus
yn edrych yn debygol. Eglurwyd fod y panel adolygu yn argymell y dylid datblygu
a mabwysiadu strategaeth ar lefel Portffolio er mwyn denu a sicrhau buddsoddiad
sector breifat ac arall. Eglurwyd fod y Cynllun Twf yn seiliedig ar
gyflawni prosiectau ar draws pum rhaglen a rhagwelir y bydd cyfanswm gwariant
cyfalaf hyd at £1.1biliwn. O’r cyfanswm hwn, ategwyd fod £240miliwn wedi’i
ymrwymo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a nodwyd fod disgwyliad i
£179.2miliwn o gyfalaf o ffynonellau sector gyhoeddus eraill a £722miliwn yn
cael ei ymrwymo gan y sector breifat. Mynegwyd fod y buddsoddiad yn cyfrannu at
dwf economaidd y rhanbarth dros dymor o ddeg i bymtheg mlynedd ac fod y
buddsoddiad wedi’i dargedu at y sectorau sy’n bwysig yn strategol drwy bum
rhaglen portffolio. Yn unol ag argymhellion y panel adolygu
nodwyd fod drafft cychwynnol o’r Strategaeth wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd
Portffolio ar 26 Tachwedd i’w ystyried. Gofynnodd y Bwrdd Portffolio am amser
ychwanegol i ystyried a rhoi mewnbwn i’r ddogfen. Nodwyd fod y strategaeth yn
nodi saith amcan allweddol i fynd i’r afael â’i nodau’n effeithiol ynghyd ag
annog cydweithio rhanbarthol a cheisio adnabod cyfleoedd a bygythiadau posib
sy’n gysylltiedig a sicrhau buddsoddiad. Ategwyd y bydd cyflawnir amcanion yn
llwyddiannus yn sicrhau ymagwedd gydlynol i sicrhau’r buddsoddiad sydd ei
angen. Tywyswyd drwy’r saith amcan o fewn y
Strategaeth Buddsoddi. Eglurwyd y bydd cydweithio parhaus gyda’r rhan ddeiliaid
rhanbarthol i adeiladu yr ymagwedd sydd wedi ei amlinellu a nodwyd y bydd
diweddariad yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y
Strategaeth ar yr 14 Rhagfyr 2021. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd pryder fod yr elfen leol ar goll o’r strategaeth ac fod yr elfen o drafodaeth leol yn cael ei dynnu o’r rhanbarth. Eglurwyd nad oes bwriad i’r ddogfen deimlo fod yr ymdeimlad lleol yn cael ei golli gan nodi fod y ddogfen yn llawn yn datgelu llawer yn fwy. Mynegwyd pwysigrwydd o edrych yn lleol am fuddsoddiad ac i ymestyn ymhellach i ddenu buddsoddiad pellach. Nodwyd mai bwriad y strategaeth oedd i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes
ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r
Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i
rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â
materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi
gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn
ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
RHEOLI NEWID - DIWEDDARIAD Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau
(adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad
ar y ceisiadau i newid. . Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD Nodwyd
y diweddariad ar y ceisiadau i newid. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Ym mis Rhagfyr 2020, fe gytunwyd ar y
Cytundeb Twf ar gyfer Cynllun Twf y Gogledd. Nodwyd fod gan Gynllun Twf Gogledd
Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newid posib i sgôp y Cynllun
Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n berthnasol ei
hystyried gan y Bwrdd. Caiff ceisiadau i newid eu hasesu gan y
Swyddfa Rheoli Portffolio a'u hystyried gan y Bwrdd Portffolio cyn gwneud
unrhyw argymhelliad i'r Bwrdd. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |
|
PROSIECT CANOLFAN PROSESU SIGNALAU DIGIDOL - ACHOS BUSNES LLAWN Adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau a Stuart Whitfield, Rheolwr y
Rhaglen Ddigidol (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r
Bwrdd yn unig). Penderfyniad: Cymeradwyo’r
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan
Prosesu Signalau Digidol, ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog
Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Bangor er mwyn
cyflawni'r prosiect, yn ddarostyngedig ar i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw i'r
materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad ac yn sicrhau'r holl
gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect. Nodwyd y
bydd gwedd 2 a 3 y prosiect yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn cynhyrchu
Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob gwedd gwario. Dirprwywyd y
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro, i awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol
ar gyfer gwedd 2 a 3 y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos
Busnes Llawn a gyflwynwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) a Stuart Whitfield
(Rheolwr Rhaglen Digidol). PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect
Canolfan Prosesu Signalau Digidol, ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol
Bangor er mwyn cyflawni'r prosiect, yn ddarostyngedig ar i Brifysgol Bangor yn
rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad ac yn
sicrhau'r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y
prosiect. Nodwyd y bydd
gwedd 2 a 3 y prosiect yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob gwedd gwario. Dirprwywyd y
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro, i awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol
ar gyfer gwedd 2 a 3 y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos
Busnes Llawn a gyflwynwyd. TRAFODAETH Trafodwyd
yr adroddiad. |