Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol- Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Ian
Roberts (Cyngor Sir y Fflint). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams ar gyfer eitem 7 – Secondiad Rhan-Amser Cyfarwyddwr Portffolio’r Bwrdd Uchelgais fel Prif Weithredwr Dros Dro y CBC. Roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddi adael y cyfarfod yn ystod yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y
gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 326 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf,
2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2022, fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL PDF 329 KB Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion
penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Gofyniad
Rhan 5 yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol.
Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad
hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd
Uchelgais. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (diwygio)
2018 yn gosod gofynion ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol. Nodwyd fod
gofyn i’r Bwrdd adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol sydd yn amlygu
trefniadau cadarn, tryloyw a sy’n seiliedig ar arfer gorau. Eglurwyd fod hyn
wedi ei gadarnhau gan Archwiliad Mewnol gan Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol. |
|
ADOLYGIAD REFENIW A CYFALAF 2022/23 - AWST 2022 PDF 532 KB Dewi A. Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a
Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y
gwariant a'r incwm refeniw gwirioneddol hyd at ddiwedd Awst 2022, i Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn
lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw
diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys hawlio swm llai o grant Cynllun
Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn. Nodwyd a derbyniwyd diweddariad
cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais. Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf
diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd Uchelgais. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Awdurdod Lletya). PENDERFYNIAD Nodwyd
a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Awst 2022 y Bwrdd Uchelgais sy'n cynnwys
hawlio swm llai o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa
niwtral ar gyfer y flwyddyn. Nodwyd
a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais. Cytunwyd
ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig a chynllun cyflawni prosiectau'r Bwrdd
Uchelgais. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nodwyd
eu bod yn rhagweld tanwariant o £189,048 yn erbyn y gyllideb refeniw yn
2022/23. Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau'r
swm a hawlir o Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru. Nodwyd
llithriad ar y rhaglen gyfalaf ar draws yr holl bortffolio, gyda nifer is o
achosion busnes wedi'u cymeradwyo nag a ragwelwyd yn wreiddiol ar y pwynt hwn. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi mai adolygiad diwedd Awst 2022 a oedd yn cael ei
gyflwyno. Eglurwyd fod yr adroddiad yn nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at
ddiwedd Awst 2022 ac yn amcanu’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mynegwyd fod yr adran gyllid yn amcanu tanwariant o £38 o filoedd ar y Swyddfa
Raglen, gan amlygu fod hyn yn bennaf yn sgil tanwariant o £11mil ar wariant gweithwyr, tanwariant o
£18mil ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a thanwariant o £10mil ar y
pennawd adroddiad arfarniad ESF. Tynnwyd sylw at gorwariant o dan y pennawd
Gwasanaethau Cefnogol o £5mil a eglurwyd fod hyn yn sgil gorwariant ar y gyllideb cyfreithiol. Amcangyfrifwyd
tanwariant net o £10 mil ar y pennawd Cyd-bwyllgor, a oedd cynnwys tanwariant o
£18mil ar Gefnogaeth Gyfreithiol Allanol, tanwariant o £5 mil ar Ffioedd
Cyllidol Allanol a gorwariant o £13 mil ar y Ffioedd Archwilio Allanol. Nodwyd fod y
ffioedd archwilio yn seiliedig ar y Cynllun Archwilio Cymru a gyflwynwyd
i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf, ond roedd yn cynnwys ffi ar gyfer y gwaith
archwilio perfformiad nad oedd wedi'i chynnwys yn y gyllideb. Mynegwyd fod y pennawd prosiectau yn dangos
tanwariant o £161 o filoedd, gan amlygu fod hyn yn sgil llithriad yn y rhaglen
gyfalaf. O ran y
ffynonellau incwm ar gyfer 2022/23 nodwyd eu bod yn cynnwys cyfraniadau
partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru a grantiau penodol
eraill. Eglurwyd y bydd hyn wedyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23, yn
danwariant o £189 o filoedd. O ganlyniad i hyn nodwyd yn hytrach na hawlio y
swm llawn o £750mil o’r Grant Cynllun Twf, awgrymir fod swm is o £561mil yn
cael ei hawlio a fydd yn gadael sefyllfa niwtral i’r Bwrdd eleni. Mynegwyd fod amcan balans y gronfa wrth gefn gyffredinol ar 31 Mawrth 2023 yw £552 o filoedd ac ychwanegwyd fod y Bwrdd eisoes wedi cymeradwyo defnyddio’r gronfa wrth gefn i ariannu staff y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd Mawrth 2024. Disgwylir defnyddio £100mil o’r gronfa prosiectau yn 2022/23 a fydd yn rhoi amcan balans diwedd blwyddyn o £95mil. Nodwyd y bydd cyfraniadau llog partneriaid o £265 o filoedd ar gyfer 2022/23 yn cael eu hychwanegu i’r gronfa ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Dylan J Williams, Prif Weithredol Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais i gyflwyno cais gan Gyd-Bwyllgor Corfforaethol y Gogledd (CBC), i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC, yn y lle cyntaf dros dro tan 31 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Bwrdd
Uchelgais ·
gefnogi
cais y CBC i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos
tan 31 Mawrth 2023 ar sail secondiad rhan amser i ymgymryd â rôl y Prif
Weithredwr dros dro. ·
Bod
yr holl gyflogaeth gysylltiedig a'r costau cysylltiedig yn cael eu hysgwyddo
gan CBC y Gogledd ·
Dirprwyo'r
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac
Is-Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar ail-ddyrannu cyfrifoldebau sydd o fewn
y Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) er mwyn sicrhau fod y trefniadau dros dro yn
cefnogi blaenoriaethau’r PMO a’r cyfrifoldeb i holl bartneriaid y Bwrdd
Uchelgais. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Neal Cockerton
(Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint). PENDERFYNIAD Bu i’r Bwrdd Uchelgais ·
gefnogi cais y CBC i ryddhau
amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth 2023
ar sail secondiad rhan amser i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr dros dro. ·
Bod yr holl gyflogaeth
gysylltiedig a'r costau cysylltiedig yn cael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd ·
Dirprwyo'r awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bwrdd
Uchelgais i gytuno ar ail-ddyrannu cyfrifoldebau sydd o fewn y Swyddfa Rheoli
Portffolio (PMO) er mwyn sicrhau fod y trefniadau dros dro yn cefnogi
blaenoriaethau’r PMO a’r cyfrifoldeb i holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cyflwynwyd
cais gan Gyd-Bwyllgor Corfforaethol y Gogledd i’r Bwrdd Uchelgais ryddhau rhan
o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y CBC, yn y
lle cyntaf dros dro tan 31 Mawrth 2023. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad
yn cyflwyno cais i ryddhau rhan o amser y Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl
Prif Weithredwr y CBC dros dro tan 31 Mawrth 2023. Eglurwyd fod llawer o
faterion angen ymateb iddynt ac angen unigolyn i arwain y gwaith tan ddiwedd y flwyddyn
ariannol. Eglurwyd
fod posibilrwydd y bydd y Bwrdd yn rhan o’r CBC yn y dyfodol, a bydd angen i’r
Prif Weithredwr fod yn cynorthwyo i roi ffocws i’r CBC ac i sicrhau nad oes
dyblygu gwaith rhwng y CBC a’r Bwrdd Uchelgais. Mynegwyd y bydd y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig yn talu costau cyflogaeth a costau cysylltiedig o secondiad y
Cyfarwyddwr Portffolio a fydd hefyd o bosib yn rhoi cyfle datblygol i rai o
fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd dealltwriaeth pam yr angen i fynd i’r cyfeiriad yma ond
pwysleisiwyd mai dim ond cefnogaeth tan Mawrth 2023 fydd gan rai Aelodau o’r
Bwrdd. Holwyd beth yw’r cynllun ar gyfer cyflogi Prif Weithredwr i’r
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar ôl y cyfnod yma. Mynegwyd bydd angen i’r Prif
Weithredwr dros dro fod yn datblygu y rôl, ynghyd a disgwyliadau a trefniadau
dros y cyfnod yma. ¾
Holwyd beth yw’r cynllun o fis Mawrth 2023 ymlaen. Nodwyd ei fod
eto yn rhan o rôl y Prif Weithredwr dros dro i ddeall y rôl a rhoi trefn
hysbysebu swydd yn ei le. ¾
Nodwyd llawer o cwestiynau heb atebion ar hyn o bryd a fod hwn yn
rhoi ateb pragmataidd i’r sefyllfa, ac amlygwyd fod y
cyfnod o 6 mis am hedfan heibio. ¾
Pwysleisiwyd ei bod yn amlwg fod apwyntio Prif Weithredwr i’r
tymor hir am gymryd amser ac felly bydd adroddiadau yn cael ei cyflwyno yn
gyson i roi diweddariad i’r Bwrdd. |
|
STRATEGAETH YNNI RHANBARTHOL - CYNLLUN GWEITHREDU PDF 437 KB Henry Aron, Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru a Rhys Horan, Arweinydd Strategol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i geisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i'r Cynllun Gweithredu drafft i Strategaeth Ynni Gogledd
Cymru a'u hargymhellion ynghylch cymeradwyaeth awdurdod lleol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd
y Cynllun Gweithredu drafft. Cymeradwywyd
trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r
Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol. Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried gan
bob Awdurdod Lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rhys Horan, Arweinydd Strategol (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth
Cymru) PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu drafft. Cymeradwywyd trefniadau llywodraethu arfaethedig ar
gyfer goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Ynni
Rhanbarthol. Cymeradwywyd i'r Cynllun Gweithredu gael ei ystyried
gan bob Awdurdod Lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cadarnhawyd Strategaeth Ynni
Gogledd Cymru gan y Bwrdd Uchelgais a Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth
Cymru ym mis Mawrth 2021. Mynegwyd mai datblygu’r Cynllun Gweithredu yw’r cam
nesaf yn y broses cynllunio ynni rhanbarthol a’i nod o drosi blaenoriaethau yn
gamau ac ymrwymiadau strategol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran Ynni Rhanbarthol. Eglurwyd fod
y Strategaeth Ynni Rhanbarthol wedi ei dderbyn gan y Bwrdd llynedd ac eu bod
heddiw yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft. Pwysleisiwyd fod Gogledd Cymru
yn arwain y ffordd o ran gwaith yn y maes hwn.
Nodwyd fod y strategaeth a
dderbyniwyd llynedd yn amlygu’r prif flaenoriaethau fel mae’r Cynllun
Gweithredu. Esboniwyd fod trafodaethau a gynhaliwyd wedi amlygu’r angen i
ystyried y sector diwydiannol ac felly maent wedi eu cynnwys. Mynegwyd fod y
Cynllun Gweithredu yn amlygu sut mae modd symud y blaenoriaethau o fewn y
strategaeth i gamau penodol. Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu
yn rhan o’r llun cyfan, gan bwysleisio ei fod yn cyfleu targedau ynni sydd yn
cyd-fynd a pholisïau cenedlaethol. Pwysleisiwyd yn dilyn hyn bydd cynlluniau
lleol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf cyn eu cyflwyno i’r awdurdodau
lleol. Nodwyd fod y gwaith o greu’r ddogfen wedi cael ei oruchwylio gan
grŵp tasg a gorffen ble gwelwyd cefnogaeth amlwg gan ran ddeiliad. Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn
amlygu pwy sydd yn gymwys i symud y cynllun yn ei flaen ynghyd a’r amserlen a’r
elfen gyllidol. Esboniwyd fod nifer o’r camau wedi eu hariannu yn barod neu
ddim yn rhagweld yr angen am arian ychwanegol. O ran Llywodraethant mynegwyd
fod y grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi cyflawni eu tasg a bydd yn cael ei
addasu i fod yn Grŵp Prosiect i oruchwylio’r gwaith ac i gytuno ar
drefniadau i adrodd ar gynnydd. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i
ariannu tair swydd newydd i gefnogi
gyda’r gwaith ac i gynorthwyo gyda adrodd ar gynnydd. Amlygwyd mai taith yw datblygu’r
system ynni, ac fod y cynllun hwn yn rhan o’r daith. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd o ran y dair swydd newydd os y bydd gofynion
ariannol ar y Bwrdd. Nodwyd fod y dair swydd newydd yn cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru, a pwysleisiwyd ar hyn o bryd nad oes dim ymrwymiad ariannol
i’r Bwrdd. ¾ Cytunwyd y bydd yr adroddiad yma yn mynd i’r Bwrdd
Cyflawni Busnes. ¾ Mynegwyd fod y Cynllun lefel uchel ar hyn o bryd
sydd yn rhoi trefn yn ei le. Nodwyd y bydd cynlluniau mwy gweithredol yn cael
ei rhannu nes ymlaen. |
|
CYNLLUN TŴF GOGLEDD CYMRU - SGANIO'R GORWELION PDF 415 KB Alwen Williams,
Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno
adroddiad yw gosod egwyddorion a phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd
ymlaen a ffefrir pan gaiff prosiectau eu tynnu allan
o Gynllun Twf Gogledd Cymru. Penderfyniad: Cytunwyd
â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses
ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd
prosiectau’n cael u tynnu yn ôl o Fargen Twf Gogledd Cymru. Cytunwyd
fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn
adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r meini prawf sgorio ar gyfer yr
ymarfer sganio’r gorwel fesul achos. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.
PENDERFYNIAD Cytunwyd â’r egwyddorion a’r broses arfaethedig fel
y nodir yn yr adroddiad yn sail i’r broses ar gyfer nodi’r ffordd a ffefrif ymlaen pan fydd prosiectau’n cael eu tynnu yn ôl o
Fargen Twf Gogledd Cymru. Cytunwyd fod y Bwrdd, yn dilyn tynnu unrhyw brosiect
yn ôl o’r Cynllun Twf, yn derbyn adroddiad pellach i argymell y paramedrau a’r
meini prawf sgorio ar gyfer yr ymarfer sganio’r gorwel fesul achos. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae gan y Cynllun Twf Gogledd
Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y
Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, hasesu a lle bo hynny’n berthnasol
eu hystyried gan y bwrdd. Amlygodd yr adroddiad hwn egwyddorion ynghyd â
phroses arfaethedig er mwyn adnabod ffordd ymlaen a ffrefir
pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi fod yr adroddiad yn nodi’r
egwyddorion ar gyfer prosiectau amgen pan gaiff prosiectau eu tynnu allan o
Gynllun Twf Gogledd Cymru. Nodwyd fel a
ganlyn: 1. Egwyddor 1: Cyn ystyried prosiectau newydd, i
ddechrau, bydd y Bwrdd yn ystyried ceisiadau gan brosiectau presennol ar gyfer
cyllid ychwanegol, ar sail achos wrth achos. 2. Egwyddor 2: Fel rhan o’r ymarfer sganio’r
gorwelion, dylai'r holl opsiynau gael eu hystyried fel rhan o'r broses i
adnabod ffordd ymlaen a ffefrir 3. Egwyddor 3: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn targedau achos busnes y
portffolio a cheisio cyflawni lefel gymharol o fuddion i'r prosiect a dynnir yn
ôl o'r Cynllun Twf 4. Egwyddor 4: Rhaid i'r ffordd ymlaen a ffefrir gyflawni yn erbyn achos busnes perthnasol y rhaglen
a'i dargedau a, gymaint â phosib, mynd i'r afael â'r bwlch a adewir wrth i'r prosiect gael ei dynnu'n ôl o'r Cynllun
Twf. 5. Egwyddor 5: Rhaid i unrhyw brosiectau newydd yn y
ffordd ymlaen a ffefrir allu arddangos effaith
ranbarthol yn yr un ffordd â phrosiectau presennol. Mynegwyd fod yr egwyddorion yn
cael ei gefnogi gan broses ac amlygwyd y broses o dri prif cam. O ran y cam
cyntaf – Sganio’r Gorwel – nodwyd yr angen i gytuno ar feini prawf, sgorio
a phwysoliad
gan amlygu’r angen i gynnwys targedau ar gyfer swyddi, buddsoddi a meini prawf
cyflawni. Eglurwyd y buasai galwad cyhoeddus am brosiectau a buasai asesiad
porth caled cychwynnol yn cael ei wneud gan y Cyfarwyddwr Portffolio i ddileu
unrhyw gynigion nad ydyn yn bodloni lefel ofynnol o ddeilliannau. Fel yr ail gam – Creu Rhestr Hir
a Rhestr Fer – nodwyd y buasai asesiad o’r rhestr hir yn erbyn meini prawf i gytuno a adnabod rhestr fer.
Gofynnir am wybodaeth bellach gan y prosiectau er mwyn i asesiad rhestr fer gael
ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais i adnabod y ffordd ymlaen. Y cam olaf fydd i gymeradwyo a datblygu achosion busnes. Nodwyd y buasai argymhelliad yn cael ei gynnig i’r Bwrdd Uchelgais cyn dechrau’r gwaith o greu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
RHEOLAETH NEWID: PROSIECT SAFLE STRATEGOL BODELWYDDAN PDF 337 KB Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i gyflwyno adroddiad yn argymell tynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru. Penderfyniad: Cytunwyd
i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan allan o Gynllun Twf
Gogledd Cymru yn ffurfiol ac yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU am y penderfyniad. Cytunwyd
bod y Bwrdd yn nodi bod cyllid sydd wedi'i glustnodi dros dro i'r prosiect yn
cael ei gadw o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a bod y penderfyniad ar brosiect
neu brosiectau amgen yn fater i'r Bwrdd Uchelgais ei benderfynu. Gofynnwyd
i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn
amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) a David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac
Eiddo). PENDERFYNIAD Cytunwyd i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol
Bodelwyddan allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol ac yn rhoi gwybod i
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y penderfyniad. Cytunwyd bod y Bwrdd yn nodi bod cyllid sydd wedi'i
glustnodi dros dro i'r prosiect yn cael ei gadw o fewn Cynllun Twf Gogledd
Cymru a bod y penderfyniad ar brosiect neu brosiectau amgen yn fater i'r Bwrdd
Uchelgais ei benderfynu. Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio gyflwyno
papur mewn cyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis prosiect
amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Daeth Caniatâd Cynllunio
Amlinellol y prosiect fel y bwriadwyd yn wreiddiol o 1,700 a mwy o unedau
preswyl, 26 hectar o dir cyflogaeth, canolfan leol, ysgol, canolfan feddygol,
gwesty, cartref gofal ychwanegol, defnydd hamdden wedi dod i ben ym mis Mawrth
2021. Roedd y ddau ddatblygwr sector preifat wedi tynnu'n ôl o'r prosiect cyn
i'r caniatâd ddod i ben. Eglurwyd fod y prosiect yn un o
chwech o fewn y rhaglen Tir ac Eiddo ac amcangyfrifwyd ei fod yn cyflawni 26
acer o dir cyflogaeth, 1,715 o dai newydd, ysgol gynradd, canolfan leol,
cyfleusterau hamdden ac adloniant, 576 o swyddi, £20m y flwyddyn o GVA ac
oddeutu £185m o fuddsoddiad cyfalaf. O ganlyniad i hyn gofynnwyd i’r
Bwrdd i dynnu’r prosiect allan o’r Cynllun Twf Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad yn gais i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan
allan o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn ffurfiol. Mynegwyd fod y cynllun hwn yn un
mawr ac amlygwyd fod nifer o newidiadau wedi bod yn dilyn Adolygiad o Gynllun
Datblygu Lleol sir Ddinbych ar gyfer 2023. Eglurwyd fod y wybodaeth
aelwydydd wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod 2023-33 a'r Arolwg Tir Cyflogaeth
2021 ar gyfer yr un cyfnod yn
amcangyfrif bod y galw am gartrefi newydd a thir cyflogaeth ar gyfer prosiect
Bodelwyddan yn gostwng i 400 o gartref a 1715 yn ôl yn 2016. Ategwyd yn ogystal
fod y caniatâd cynllunio wedi rhedeg allan ôl yn Mawrth 2021 ynghyd a’r
datblygwr yn tynnu yn ôl. Mynegwyd fod
llinell amser ar gyfer mabwysiadu'r Cynllun Cyflenwi Lleol a
adolygwyd hefyd wedi'i ymestyn ac amcangyfrifir na fydd y Cynllun newydd yn cael ei fabwysiadu tan
ganol 2025. Eglurwyd o ganlyniad na fyddai’r gwaith yn cychwyn tan canol 2028
ar y cynharaf. Esboniwyd fod trafodaeth wedi ei
gynnal gan y Bwrdd Rhaglen ac eu bod yn argymell ei dynnu yn ôl ac i
glustnodi’r arian o fewn y Cynllun Twf er mwyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio
gyflwyno papur i gyfarfod yn y dyfodol yn amlinellu'r broses ar gyfer dewis
prosiect amgen er mwyn i'r Bwrdd ei ystyried. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod angen derbyn fod rhai cynlluniau ddim
am gael ei symud ymlaen ac fod angen dechrau’r broses o sganio’r gorwelion mor
fuan a bo modd. |
|
RHEOLAETH NEWID: MORLAIS PDF 347 KB Henry Aron (Rheolwr y Rhaglen Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru) i geisio cymeradwyaeth y Bwrdd i argymhellion
y PMO ynghylch Cais i Newid Morlais Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd
y cais i newid. Nodwyd gan
y bydd y cais i newid bydd angen i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos
busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei ystyried. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) PENDERFYNIAD Nodwyd gan y bydd y cais i newid bydd angen
i Fenter Môn ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol newydd i'r Bwrdd ei
ystyried. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais hwn yn gofyn am newid i brosiect. Eglurwyd mai dyma’r OBC cyntaf a gymeradwywyd gan y Bwrdd ond y bu iddo gael ei dynnu yn ôl yn sgil cyfuniad o gyfyngiadau cyllid WEFO a rheolau cymorth gwladwriaethol. Nodwyd y bu i Menter Mon dderbyn yr arian gan WEFO ar gyfer gallu darparu isadeiledd ar y tir, ond nad oedd arian wedi ei ddiogelu ar gyfer ehangu y cynllun ymhellach. Mynegwyd fod Menter Mon yn cyflwyno cais i’r Bwrdd am gefnogaeth i newid ac i’r £9m gael ei glustnodi gan y rhaglen er mwyn caniatáu i OBC diwygiedig gael ei gyflwyno ganddynt. Nodwyd fod yr OBC gwreiddiol yn cynnwys £9m gan y Cynllun Twf a £25m gan WEFO i gydariannu’r Cynllun ond bellach fod y prosiect yn mynd rhagddi drwy arian WEFO yn unig. Eglurwyd fod Menter Mon yn gofyn am gefnogaeth y Bwrdd Uchelgais i gadw y £9m sydd wedi ei glustnodi o’r Cynllun Twf er mwyn dileu y rhwystrau canlynol i’r cynllun sef i gysylltu a’r Grid Cenedlaethol a monitro effeithiau amgylcheddol tanforol. Mynegwyd mai enw’r prosiect diwygied yw Prosiect Cydnerth. Amlygwyd yr amserlen diwygiedig gan nodi eu bod yn awyddus i gyflwyno yr OBC haf nesaf, ac yna adeiladu a gwariant i gychwyn yn ystod Haf 2024. O ran buddion a allbynnau eu bod yn aros yr un fath â’r prosiect gwreiddiol ond eu bod yn cael ei rhannu rhwng y prosiect a ariennir gan WEFO a Prosiect Cydnerth. Nodwyd fod llythyr cefnogaeth wedi ei dderbyn mewn egwyddor gan WEFO ym mis Medi. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd ei fod yn gais rhesymol – i barhau i fuddsoddi o fewn y cynllun. ¾ Nodi prosiect wedi bod yn Bwrdd Cefnogi Busnes yn flaenorol a hapus i weld y newid. ¾ Pwysleisiwyd na fydd unrhyw ymrwymiad i arian heddiw tan y bydd Cynllun Busnes wedi ei dderbyn gan y Bwrdd yn y dyfodol. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twfi rannu gwybodateh sensitive ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: Cytunwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).
Roedd budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . |
|
PROSIECT TRAFNIDIAETH A DATGARBONEIDDIO (HYDROGEN) - CAMAU NESAF Graham
Williams, Rheolwr Prosiect a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwywyd
y camau nesaf ar gyfer y prosiect a'r egwyddorion caffael drafft. Bu i’r
Bwrdd ddirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r
Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, awdurdod i gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn
derfynol ac yna ymgymryd â'r ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd. Nodwyd
yn dilyn cwblhau'r broses gaffael bydd argymhelliad yn cael ei gynnig i'r Bwrdd
er cymeradwyaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Graham Williams (Rheolwr Prosiect) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth
Gweithrediadau) PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y camau nesaf ar gyfer y prosiect a'r
egwyddorion caffael drafft. Bu i’r Bwrdd ddirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr y
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, awdurdod i
gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn derfynol ac yna ymgymryd â'r
ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd. Nodwyd yn dilyn cwblhau'r broses gaffael bydd
argymhelliad yn cael ei gynnig i'r Bwrdd er cymeradwyaeth. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn
rhedeg yn unol â'r ffordd ymlaen a ffafrir a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais
Economaidd ym mis Ebrill 2022. Y cam nesaf yw ceisio cymeradwyaeth gan y Bwrdd
Uchelgais i symud ymlaen i'r cam nesaf a chaffael noddwr i'r prosiect. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |