Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn), Dylan Williams (Cyngor Sir Ynys Môn), Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd), Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau) Wendy Boddington (Llywodraeth Cymru) a Jane Richardson (Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 354 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 593 KB Adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grwp). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r: ·
Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar
gyfer y BUEGC ·
Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl
archwiliad) am 2021/22 Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) ac Yvonne Thomas (Archwilio
Cymru). PENDERFYNWYD cymeradwyo’r: ·
Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y
BUEGC. ·
Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl
archwiliad) am 2021/22. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cyflwynwyd y fersiwn derfynol (ôl-archwiliad)
o’r Datganiad o’r Cyfrifon am 2021/22.
Roedd y prif newidiadau ers y fersiwn cyn archwiliad wedi’u hamlinellu
yn rhan 16 o’r adroddiad ac Atodiad 3 ‘ISA260’ Archwilio Cymru. Gofynnid i Gadeirydd y Bwrdd, ynghyd â’r
Pennaeth Cyllid, ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth, yn electronig (Atodiad 1 i
adroddiad Archwilio Cymru) wedi i’r BUEGC gymeradwyo’r uchod. Wedi iddo dderbyn y Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i ardystio gan y
Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid, byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru (Adrian
Crompton) yn cyhoeddi’r dystysgrif ar y cyfrifon. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Nododd y Swyddog Cyllid Statudol:- ·
Bod
paragraff 10 o adroddiad Archwilio Cymru yn nodi eu bod yn bwriadu cyhoeddi
barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y byddai’r Bwrdd Uchelgais wedi
rhoi Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. ·
Bod
Atodiad 3 i adroddiad yr archwilwyr yn tynnu sylw at un cywiriad a wnaed i’r
cyfrifon yn ystod yr archwiliad, a bod hynny’n fater technegol yn unig yn
ymwneud â phensiynau. Nododd y Swyddog Cyllid Statudol ymhellach y
dymunai ddiolch i Yvonne Thomas a’r tîm yn Archwilio Cymru am eu gwaith ar yr
archwiliad, ac i Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau)
a’r tîm yn Adran Gyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn paratoi’r Datganiad o
Gyfrifon. Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru),
i’r cyfarfod, ac fe’i gwahoddwyd i ddweud gair:- Nododd Yvonne Thomas ei bod yn falch o ddweud
bod Archwilio Cymru o’r farn bod y cyfrifon yn ddarlun gwir a theg o sefyllfa
ariannol y Bwrdd Uchelgais ar gyfer y flwyddyn ariannol. Tynnodd sylw at ambell bwynt yn yr adroddiad,
sef:- ·
Nad
oedd archwilwyr byth yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan
yn gywir. Yn lle hynny, pennid lefel o
berthnasedd i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a allai, fel arall, beri
i’r sawl sy’n defnyddio’r cyfrifon gael ei gamarwain, ac ar gyfer archwiliad
eleni, pennwyd lefel perthnasedd o £57,000. ·
Nad
oedd yr archwiliad wedi’i gwblhau ar adeg drafftio’r adroddiad, ond y gellid
cadarnhau erbyn hyn bod yr archwiliad wedi’i gwblhau ac nad oedd yna unrhyw
faterion ychwanegol wedi eu codi. ·
Bod
yr adroddiad yn sôn am effaith Covid ar archwiliad eleni o ran yr amserlen a’r
dull archwilio, ac o ystyried gweithio o bell parhaus, bwriedid defnyddio
llofnodion electronig ar gyfer cymeradwyo ac ardystio cyfrifon eleni. ·
O
ran materion arwyddocaol sy’n codi o’r Archwiliad, ei bod yn bleser adrodd mai
man wallau naratif a chyflwyniadol yn unig oedd yn codi o’r archwiliad, ac roedd
y ffaith bod cyn lleied o faterion wedi codi yn neges bositif ac yn
adlewyrchu’n dda ar y trefniadaeth sydd mewn lle ar gyfer paratoi’r cyfrifon. · Y dymunai ddiolch i Sian ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD AC RISG CHWARTER 2 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU PDF 445 KB Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Nodi
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i
diweddaru. 2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad
Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynodd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a
manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:- ·
Ynni
Carbon Isel - Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni); ·
Digidol
– Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol); ·
Tir
ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo); ·
Bwyd-Amaeth
a Thwristiaeth ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock
(Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf). Yna cyflwynodd
Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) dabl yn tracio’r gwaith o gyflawni
prosiectau a chyflwynodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif
risgiau. PENDERFYNIAD 1.
Nodi
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i
diweddaru. 2.
Cymeradwyo
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion
Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn
dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Gan gyfeirio at
Gytundeb Menter ar y Cyd Parc Bryn Cegin, Bangor (Rhaglen Tir ac Eiddo),
gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod y trafodaethau
wedi cyrraedd y cam lle’r mae’r risgiau ariannol i’r Bwrdd wedi’u capio. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen, er na
ellid cadarnhau nad oes cynnydd mewn costau, na fyddai’r Bwrdd yn gwario
uwchlaw’r swm yr oedd wedi’i ddynodi ar gyfer y cynllun, a phetai’r gost yn
llai na’r swm a ddynodwyd, yna byddai gan y Bwrdd yr hawl i ail-ddefnyddio’r
arian ar gyfer prosiect gwahanol o fewn y Cynllun Twf. Gan gyfeirio at y
Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter (Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu
Gwerth Uchel), gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod
amcangyfrif 30-40% o gynnydd yng nghostau sefydlu’r ganolfan. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen fod yna
ddau fwlch ariannu, un o fewn y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth a’r llall o
fewn y Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel. O ran bwlch ariannu costau prosiect
Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, nodwyd bod y tîm yng Ngrŵp
Llandrillo Menai yn edrych ar dri opsiwn ar hyn o bryd, sef:- ·
Lleihau
sgôp y prosiect ·
Ceisio
sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y prosiect ·
Tynnu’r
prosiect yn ôl. O ran bwlch
ariannu costau sefydlu’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, nodwyd bod y tîm
ym Mhrifysgol Glyndŵr yn datblygu opsiynau hefyd. Nid oedd yn glir eto beth yn union fyddai’r
opsiynau hynny, ond gofynnwyd iddynt gyflawni ymarferiad tebyg i un Grŵp
Llandrillo Menai, gan edrych ar newid sgôp y prosiect ac ystyried unrhyw gamau
lliniaru eraill posib’ ar gyfer rheoli’r bwlch.
Nodwyd eu bod hefyd yn edrych ar newidiadau i amseriad y prosiect. Nododd cynrychiolydd Prifysgol Glyndŵr ei bod yn anorfod y byddai yna oedi sylweddol gyda phrosiect y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, ond y dymunai gadw meddwl agored o ran y posibilrwydd o gyflwyno’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:- Eitem 8 - gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Eitem 9 – Gan fod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr
adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn adran 100(A)3 Deddf Llywodraeth
Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n
gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus. Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol am y rhesymau a nodir:- Eitem 8 – gan ei bod yn
debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â
materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif
o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn
yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Eitem 9 – Gan fod gwybodaeth sydd
wedi ei chynnwys yn yr adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn Adran
100(A)3 Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r
Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus. Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o
gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w
drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei
datgelu. |
|
ACHOS BUSNES Y PORFFOLIO 2022 Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo diweddariad
2022 Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol. 2.
Nodi er bod Safle
Strategol Allweddol Bodelwyddan wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf, bod y
targedau sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn parhau i gael eu cofnodi o fewn
yr achos busnes, a byddant yn parhau felly nes ceir penderfyniad ar
brosiect(au) i gymryd ei le. 3.
Nodi fod prosiect Fferm
Sero Net Llysfasi wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf gan Goleg Cambria ac
y bydd yr Achos Fusnes yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn cyn cael ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hefyd, bod prosiect (Egni) yn parhau i gael ei adolygu a bod y wybodaeth
ddiweddaraf am y prosiect wedi’i chynnwys yn yr achos busnes gan aros am
gwblhau’r adolygiad a phenderfyniad y Bwrdd. 4.
Gofyn i’r Cyfarwyddwr
Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen gais i newid i
Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog a151 i
negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y trosglwyddiad
arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu’r llall. 5.
Nodi argymhellion yr Adroddiad Sicrwydd Portffolio (PAR) a gofyn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i roi sylw i’r argymhellion Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio). PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo diweddariad 2022
Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol. 2.
Nodi er bod Safle Strategol
Allweddol Bodelwyddan wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf, bod y targedau
sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn parhau i gael eu cofnodi o fewn yr achos
busnes, a byddant yn parhau felly nes ceir penderfyniad ar brosiect(au) i
gymryd ei le. 3.
Nodi fod prosiect Fferm Sero
Net Llysfasi wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf gan Goleg Cambria ac y
bydd yr Achos Fusnes yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn cyn cael ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hefyd, bod prosiect (Egni) yn parhau i gael ei adolygu a bod y wybodaeth
ddiweddaraf am y prosiect wedi’i chynnwys yn yr achos busnes gan aros am
gwblhau’r adolygiad a phenderfyniad y Bwrdd. 4.
Gofyn i’r Cyfarwyddwr
Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen gais i newid i
Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol a
dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac
Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r
Swyddog a151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y
trosglwyddiad arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth
neu’r llall. 5.
Nodi argymhellion yr Adroddiad Sicrwydd Portffolio (PAR)
a gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i roi sylw i’r
argymhellion. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun
Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu
cyllid flynyddol. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Trafodwyd yr
adroddiad. |
|
PROSIECT PARC BRYN CEGIN David
Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i
gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cytuno i fynd i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Llywodraeth
Cymru ar gyfer darparu unedau cyflogaeth ymlaen llaw ar Blot C3 Parc Bryn Cegin
fel a ddangosir ar y cynllun ystâd a gynhwyswyd yn Atodiad A i’r adroddiad a
gylchredwyd i aelodau’r Bwrdd. 2.
Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn
ymgynghoriad gyda’r Swyddog Monitro i gytuno yn derfynol ar y telerau a
chwblhau’r Cytundeb Menter ar y Cyd yn unol â’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo). PENDERFYNIAD 1.
Cytuno i fynd i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer
darparu unedau cyflogaeth ymlaen llaw ar Blot C3 Parc Bryn Cegin fel a
ddangosir ar y cynllun ystâd a gynhwyswyd yn Atodiad A i’r adroddiad a
gylchredwyd i aelodau’r Bwrdd. 2.
Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad gyda’r
Swyddog Monitro i gytuno yn derfynol ar y telerau a chwblhau’r Cytundeb Menter
ar y Cyd yn unol â’r adroddiad. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Yn ei gyfarfod ar y 15fed o Orffennaf, 2022, roedd y
Bwrdd wedi gofyn am adroddiad pellach ar y Cytundeb Menter ar y Cyd. Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad ar y
trafodaethau, yn gofyn am gadarnhau y bwriad a dirprwyo hawl i gytuno ar y
telerau yn derfynol a chwblhau y cytundeb yn unol â’r adroddiad. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Trafodwyd yr
adroddiad. |