Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Robin Williams yn dirprwyo;

·       Yana Williams (Coleg Cambria);

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Paul Spencer yn dirprwyo;

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd);

·       Wendy Boddington (Sylwedydd, Llywodraeth Cymru) gyda Bryn Richards yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eithemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 135 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15fed Rhagfyr, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir.

5.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 A' ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 586 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Cymeradwywyd Adroddiad ‘ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC

2.     Cymeradwywyd Datganiad o Gyfrifon terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cyllid.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwywyd Adroddiad ‘ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC

2.     Cymeradwywyd Datganiad o Gyfrifon terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2022/23.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gofyn i’r Cadeirydd ynghyd â’r Pennaeth Cyllid, ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth, yn electronig (Atodiad 1) wedi i’r BUEGC gymeradwyo’r uchod. Yna bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (Adrian Crompton) yn cyhoeddi’r Dystysgrif ar y cyfrifon.

 

TRAFODAETH

 

Cadarnhawyd bod y Datganiad Cyfrifon blynyddol wedi cael ei baratoi yn unol â’r Côd Ymarfer ar Gyfeiryddu mewn Awdurdodau Lleol, ac wedi ei wirio gan Archwilio Cymru. Nodwyd mai Archwilio Cymru yw archwilwyr allanol y Bwrdd Uchelgais, a'u bod wedi adolygu’r datganiadau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, pan fydd y Bwrdd wedi rhoi Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar yr hyn a nodir yn Atodiad 1. Eglurwyd yr angen i’r Cadeirydd a’r Swyddog Cyllid Statudol arwyddo’r llythyr hwnnw cyn ei anfon ymlaen.

 

Eglurwyd bod Atodiad 3 yn cyfeirio at gywiriadau a wnaeth i’r cyfrifon yn ystod yr archwiliad. Manylwyd bod un cywiriad yn ganlyniad i gywiro gwybodaeth a dderbyniwyd gan yr actwari o safbwynt gwybodaeth am yr ymrwymiad pensiwn. Esboniwyd bod yr ail gywiriad yn ymwneud ag eitem wedi ei gynnwys yn y datganiad llif arian lle na ddylai. Cadarnhawyd doedd dim effaith ar Gyfanswm Incwm a Gwariant Cynhwysfawr na sefyllfa cau’r gronfa bensiwn wrth gefn.

 

Diolchwyd i swyddogion perthnasol Archwilio Cymru ac Adran Cyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith.

 

6.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2023/24 - ADOLYGIAD DIWEDD RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 524 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1).

2.     Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodwyd a derbyniwyd adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2023 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1).

2.     Nodwyd a derbyniwyd diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.     Cytunwyd ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Rhagwelir tanwariant o £340,768 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2023/24. Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau’r swm a ddefnyddir o’r Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd llithriad ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £3.36m yn 2023/24  o’i gymharu â chyllideb gymeradwy o £11.25m ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd drwy adolygiad ariannol diwedd Rhagfyr 2023, gan gyfeirio at Atodiad 1 a oedd yn nodi gwir sefyllfa refeniw hyd at ddiwedd Rhagfyr ac yn amcanu’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·       Bod gorwariant net o £33,000 ar y Swyddfa Rheoli Portffolio, gyda’r gorwariant pennaf ar weithwyr. Nodwyd bydd hwn yn cael ei ariannu gan incwm o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig (a nodwyd fel incwm).

·       Bod tanwariant o £35,000 ar Wasanaethau Cefnogol. Eglurwyd bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r gwariant cefnogaeth gyllidol allanol.

·       Bod tanwariant o £39,000 ar y Cyd-bwyllgor oherwydd tanwariant o fewn meysyddcefnogaeth gyfreithiol allanol’, ‘ffioedd cyllidola’rBwrdd Cyflawni Busnes’.

·       Bod tanwariant net o £109,000 ar Brosiectau oherwydd tanwariant ar ddatblygu achosion busnes y prosiectau yn bennaf.

 

            Adroddwyd ar ffynonellau incwm ar gyfer 2023/24 gan atgoffa’r Aelodau bod tanwariant o £267,000 wedi ei ragweld yn adolygiad Awst 2023. Eglurwyd bod y tanwariant hwn bellach wedi cynyddu i £341,000 ac felly awgrymwyd bod swm llai o’r fargen twf yn cael ei ddefnyddio er mwyn gadael sefyllfa niwtral i’r Bwrdd am y flwyddyn. Cadarnhawyd bydd y ffigwr hwn yn cael ei gadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

            Cadarnhawyd balansau’r cronfeydd fel a ganlyn:

 

·       Balans y Gronfa Wrth Gefn Cyffredinol ar 31 Mawrth 2023 oedd £552,000. Nodwyd bod £274,000 wedi ei ddyrannu yng nghyllideb eleni sydd yn gadael balans o £278,000.

·       Balans y Gronfa Prosiectau ar 31 Mawrth 2023 oed £152,000 ac mae’n debygol na fydd symudiad ar y gronfa eleni.

·       Balans y Gronfa Llog ar 31 Mawrth 2023 oedd £1.7miliwn. Eglurwyd y rhagwelir balans o tua £4.4miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol wrth ychwanegu cyfraniadau llog y partneriaid o £251,000 ar gyfer 2023/24 ynghyd a tua £2.5miliwn o log ar y balansau (gan gynnwys Cronfa Bargen Twf) ar gyfer eleni yn cael ei ychwanegu i’r gronfa.

 

            Adroddwyd bod gostyngiad o £7.89miliwn yn y gwariant disgwyliedig yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023/24, o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2023. Eglurwyd bod hyn oherwydd gostyngiad pellach o £3.77miliwn i’r hyn a ragwelwyd yn adolygiad Awst 2023 yn dilyn gostyngiad ar bedwar prosiect.

 

            Nodwyd ei fod yn annhebygol bydd y Bwrdd yn derbyn cyfraniad grant blynyddol o £20miliwn eleni  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 3 pdf eicon PDF 240 KB

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Ystyriwyd a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau gyda chymorth y Rheolwr Rhaglen Digidol, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo a’r Rheolwr Rhaglen Ynni.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Ystyriwyd a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adroddiad chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd ar nifer o uchafbwyntiau Chwarter 3 gan gynnwys:

 

Adroddwyd y cynhaliwyd adolygiad Porth 2 ar gyfer prosiect Safleoedd Allweddol a Choridorau Cysylltiedig ‘4G+’ ym mis Tachwedd gyda’r arolygwyr yn darparu asesiadAmber-Greengyda sawl argymhelliad fel yr arfer. Nodwyd bod y Rheolwr Rhaglen Digidol yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion hyn cyn cyflwyno’r achos busnes amlinellol i’w ystyried gan y Byrddau Portffolio ac Uchelgais Economaidd eleni.

 

Eglurwyd bod tri phrosiect y Gronfa Ffyniant Cyffredin ar fin rhedeg eleni er mwyn i’r Awdurdodau Lleol  ganfod ffyrdd o wella darpariaeth symudol 4G yn eu rhanbarthau. Nodwyd bod y gwaith hefyd yn cynnig cymorth i fusnesau lleol ddeall opsiynau ar gyfer mabwysiadu technolegau digidol newydd ar gyfer y dyfodol.

 

Trafodwyd bod nifer o achosion busnes amlinellol ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr achosion busnes llawn yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd pan yn amserol.

 

Ymfalchïwyd bod dwy aelod newydd o staff wedi eu penodi er mwyn cynorthwyo fel Swyddog Prosiect Ynni a Rheolwr Prosiect Ynni. Nodwyd bod y penodiadau hyn yn gymorth i sicrhau bod prosiectau yn parhau i gael eu cyflawni yn amserol.

 

Darparwyd diweddariad ar nifer o brosiectau Tir ac Eiddo gan gynnwys Warren Hall, Porth y Gorllewin, Porth Caergybi, Parc Bryn Cegin, Stiwdios Kinmel a Porth Wrecsam.

 

Cydnabuwyd bod materion cynllunio yn parhau i fod yn risg sylweddol i brosiectau Bwyd, Amaeth a Thwristiaeth ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd bod grŵp Tasg a Gorffen wedi ei sefydlu i archwilio’r bwlch amaeth a garddwriaeth yn y Cynllun Twf. Eglurwyd eu bod wedi comisiynu rhywfaint o ymchwil sy’n edrych ar gyflenwad bwyd a’r galw yn y rhanbarth drwy gydweithio gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriwyd at Gofrestr Risg y Portffolio gan nodi bod risg y Cyd-destun Economaidd wedi cynyddu'r chwarter hwn. Eglurwyd bod y risg wedi ei ddiweddaru yn dilyn y rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd, gan ei fod yn gallu effeithio ar gostau gyflenwi nwyddau. Eglurwyd hefyd bod risg Oediad wedi lleihau yn y chwarter hwn gan fod nifer o achosion busnes amlinellol a llawn wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd. Er hyn, nodwyd, ei fod dal yn risg sylweddol a'i fod yn cael ei oruchwylio.

 

Yn dilyn cwestiwn am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar gweddill Eitem 7 ac Eitem 9 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

9.

CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd, a Jones Bros Civil Engineering UK Ltd  yn ymdrin â’r materion amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei ystyried.

2.     Nodwyd, gan fod Jones Bros eisoes wedi’u caffael gan Gyngor Sir Ddinbych fel y datblygwr ar gyfer y safle, and oes prif gaffael sydd angen ei gwblhau cyn i’r Achos Busnes Llawn gael ei gymeradwyo. Mae’r Achos Masnachol yn nodi sut y bydd Jones Bros yn bodloni Egwyddorion Caffael Uchelgais Gogledd Cymru eu hunain a thrwy eu defnydd o is-gontractwyr. Bydd angen i’r Cytundeb Ariannu sydd i’w ddatblygu gynnwys darpariaethau i ymdrin â’r trefniant hwn.

3.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd, a Jones Bros Civil Engineering UK Ltd  yn ymdrin â’r materion amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei ystyried.

2.     Nodwyd, gan fod Jones Bros eisoes wedi’u caffael gan Gyngor Sir Ddinbych fel y datblygwr ar gyfer y safle, and oes prif gaffael sydd angen ei gwblhau cyn i’r Achos Busnes Llawn gael ei gymeradwyo. Mae’r Achos Masnachol yn nodi sut y bydd Jones Bros yn bodloni Egwyddorion Caffael Uchelgais Gogledd Cymru eu hunain a thrwy eu defnydd o isgontractwyr. Bydd angen i’r Cytundeb Ariannu sydd i’w ddatblygu gynnwys darpariaethau i ymdrin â’r trefniant hwn.

3.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.