Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Iwan G Evans (Swyddog Monitro)

·       Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·       Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd Paul Johnson yn dirprwyo,

·       Yana Williams (Coleg Cambria);

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Chris Drew yn dirprwyo;

·       Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Sarah Ecob yn dirprwyo,

·       Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai) gyda Gwenllian Roberts yn dirprwyo,

·       Wendy Boddington (Sylwedydd, Llywodraeth Cymru) gyda Dewi Williams yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ar gyfer Eitem 8 oherwydd ei phenodiad fel Prif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 138 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 2il Chwefror, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 02 Chwefror 2024 fel rhai cywir.

5.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2024/25 pdf eicon PDF 605 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd:

1.     Cyllideb Refeniw 2024/25 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1.

2.     Cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid a chyfraniadau atodol awdurdodau lleol.

3.     Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 2.

4.     I ymestyn y contractau staff cyfnod penodol o fis Mawrth 2025 i fis Mawrth 2026.

 

Cofnod:

Er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

Mae Atodiad 1 yn gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn.

 

Mae Atodiad 2 yn gosod y gyllideb gyfalaf arfaethedig fesul prosiect a’r cyllid cyfalaf cyfatebol ar gyfer y Cynllun Twf o £240m.

 

Mae Atodiad 3 yn rhoi crynodeb o gyllideb 2024/25 yn erbyn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr aelodau drwy gyllideb refeniw'r Bwrdd Uchelgais gan  dynnu sylw penodol at y penawdau canlynol:

·       Swyddfa Rheoli Portffolio - gan nodi bod gwariant yn cynnwys ugain o weithwyr yn ogystal â swydd grant lleoliad myfyriwr tan fis Awst 2024.

·       Gwasanaethau Cefnogol - eglurwyd bod y rhain yn cynnwys cyllid, cyfreithiol, cefnogaeth gorfforaethol, technoleg gwybodaeth ac yswiriant.

·       Cyd-bwyllgor - nodwyd bod y rhain yn berthnasol i’r Bwrdd Uchelgais fel cydbwyllgor, ac mae’n cynnwys costau cyfreithiol allanol ar yfer y Cytundeb Llywodraethu, Ffioedd Cyllidol Ariannol, Ffioedd Archwilio Allanol a chyllideb y Bwrdd Cyflawni Busnes.

·       Prosiectau - cadarnhawyd ei fod yn cynnwys y gwariant refeniw sydd yn gysylltiedig â’r prosiectau cyfalaf y Cynllun Twf, sy’n cynnwys achosion busnes y prosiectau, cefnogaeth allanol cyfreithiol a chaffael ynghyd â’r Adolygiadau Sicrwydd gan y Llywodraeth.

·       Cynlluniau Grant - eglurwyd ei fod yn berthnasol i’r Cynlluniau Ynni Ardal Leol, sy’n cael ei ariannu gan grant penodol gan Lywodraeth Cymru a hefyd yn cynnwys y cynlluniau sy’n cael eu hariannu o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Gyfunol.

 

          Tynnwyd sylw at bennawd Cyfraniadau Ariannu o fewn y gyllideb refeniw gan nodi ei fod yn cynnwys cyfraniadau partneriaid a chyfraniadau atodol y cynghorau. Ymhelaethwyd ei fod hefyd yn cynnwys Grant Bargen Twf o £1.1m ac sy’n rhan o’r 2.15% sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwariant refeniw. Nodwyd bod Grant Ynni Llywodraeth Cymru yn ariannu gwariant y ‘Cynlluniau Grantiau’ a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y Ddeyrnas Gyfunol. Eglurwyd mai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd yn ariannu gwariant y pennawd ‘Cynlluniau grantiau yn ogystal ag yn cyfrannu at gostau staff craidd y Swyddfa Rheoli Portffolio. Adroddwyd bydd £211,000 yn y gronfa wrth gefn wedi i £67,000 gael ei ddefnyddio yn y gyllideb eleni.

 

          Ychwanegwyd bod un myfyriwr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio ac mae’r cyflog yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cais gan Uchelgais Gogledd Cymru i un o raglenni caffael y llywodraeth. Nodwyd bod y cynllun hwn yn werthfawr iawn a byddai prifysgolion eraill y Gogledd yn hapus i elwa ohonynt.

 

          Adroddwyd bod y gyllideb gyfalaf yn seiliedig ar broffil gwariant sydd wedi ei addasu yn ôl risg ac yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn os bydd achosion busnes yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais. Nodwyd bydd gwariant o £240 miliwn yn cael ei ariannu o’r Fargen Twf ond bydd amseriad derbyn y grant yn golygu y bydd angen benthyca yn y tymor byr. Ymhelaethwyd bydd y gost o fenthyca yn cael ei ariannu gan bartneriaid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH BUDDSODDI pdf eicon PDF 254 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Strategaeth Fuddsoddi fanwl sy’n cynnwys yr egwyddorion a’r cynllun,

gan dderbyn bod gwireddu rhai agweddau yn amodol ar sicrhau cyllideb.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

          Cymeradwywyd Strategaeth Fuddsoddi fanwl sy’n cynnwys yr egwyddorion a’r

          cynllun, gan dderbyn bod gwireddu rhai agweddau yn amodol ar sicrhau cyllideb.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r strategaeth a chynllun i ddenu buddsoddiad yn adeiladu ar y sicrwydd o‘n huchelgais ar y cyd i gyflawni’r Cynllun Twf gwerth £1bn ar gyfer Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

Atgoffwyd yr aelodau mai dyma’r strategaeth fuddsoddi gyntaf i’w datblygu ar gyfer ardal gogledd Cymru. Esboniwyd bod y strategaeth yn hollbwysig i’r dyfodol gan ei fod yn osod fframwaith i ddenu buddsoddwyr i’r ardal.

 

Darparwyd diweddariad ar Strategaeth Buddsoddi Uchelgais Gogledd Cymru, gan atgoffa’r Aelodau bod disgwyliad i’r Strategaeth Buddsoddi ddenu £1biliwn i mewn i economi Gogledd Cymru. Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad sy’n cynllunio sut bydd y targed hwn yn cael ei gyfarch. Ymhelaethwyd bod Prosiect y Cynllun Twf yn cynnwys 23 prosiect ar draws pum rhaglen a darparwyd dadansoddiad o sut mae’r prosiectau hynny yn bwydo mewn i’r targed o ddenu £1biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth.

 

Adroddwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru wedi comisiynu cwmni ymgynghori Saville i ddarparu cyngor ar y Strategaeth Buddsoddi. Ymhelaethwyd eu bod wedi gwneud ymchwil gyda rhanddeiliaid yn ystod 2023 er mwyn sicrhau datblygiad cryf i’r Strategaeth. Cydnabuwyd bod yr ymchwil hwn wedi adnabod nifer o rwystrau i fuddsoddiad yng ngogledd Cymru, gan gynnwys:

 

·       Graddfa a gwerth

·       Risg ac ansicrwydd

·       Bylchau mewn gwybodaeth ad adnabyddiaeth

·       Natur arbenigol rhai cyfleoedd

·       Cydlyniad ar draws y sector cyhoeddus

·       Cyflymder yr ymateb

·       Buddsoddiad cyhoeddus.

 

            Cadarnhawyd bod nifer o egwyddorion buddsoddi wedi cael eu datblygu fel ymateb i’r rhwystrau hyn a bu iddynt gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais yn ystod mis Rhagfyr 2023. Atgoffwyd yr aelodau bod yr egwyddorion yn cynnwys: ‘cydweithio’, ‘gwelededd i ddatgloi buddsoddiad’, ‘datblygu strategol’, ‘adeiladu ar gryfderau a maint y cyfleoedd’, ‘hyrwyddo safleoedd magned fel sylfeini ar gyfer twf rhanbarthol’ ac ‘hyrwyddo canol ein trefi’. Eglurwyd bod yr egwyddorion hyn wedi cael eu defnyddio er mwyn datblygu Amcanion y Strategaeth Fuddsoddi. Sicrhawyd bod yr amcanion wedi cael eu datblygu er mwyn sicrhau datblygiad synhwyrol a gofalus i fuddsoddiad wrth gyrraedd gofynion a thargedau’n amserol.

 

            Eglurwyd bod yr amcan gyntaf - dadansoddiad ymchwil, bellach wedi cael ei gwblhau yn dilyn gwaith Savilles. Ymhelaethwyd bod yr egwyddorion a drafodwyd wedi cael eu nodi fel amcanion y strategaeth, gan gadarnhau eu bod yn cael eu cysidro’n barhaus wrth wneud penderfyniadau.

 

            Cyfeiriwyd at y pum amcan arall bydd yn cael eu gweithredu arnynt i’r dyfodol. Esboniwyd bydd rhai yn cael eu hariannu o’r gyllideb gyfredol ond cydnabuwyd bod angen cymorth rhanddeiliaid i wireddu rhai o’r amcanion. Manylwyd ar yr amcanion gan nodi:

           

·       Sefydlu Grŵp Buddsoddi Rhanddeiliaid sector Preifat-Cyhoeddus: Gobeithir gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod buddsoddiadau llwyddiannus yn cael eu cyflwyno. Eglurwyd mai’r camau cychwynnol i wireddu’r amcan hon yw adnabod rhanddeiliaid addas i’r grŵp.

·       Cyfathrebu ac Ymgysylltu: Pwysleisiwyd bod cyfleoedd i gryfhau systemau cyfathrebu ac ymgysylltu gyda’r farchnad buddsoddi, gan gynnwys hyrwyddo cyfleoedd hysbysebu gyda chwmnïau addas.

·       Cyfathrebu Marchnata: Rhannwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

SWYDDOGAETHAU BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - TROSGLWYDDO I GYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD. pdf eicon PDF 242 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corforedig y Gogledd) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cefnogwyd diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu’r CBC ac ymatebwyd i’r tasgau sy’n ofynnol fel rhan o’i swyddogaethau statudol.

2.     Cefnogwyd cynllun a’r amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cefnogwyd diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu’r CBC ac ymatebwyd i’r tasgau sy’n ofynnol fel rhan o’i swyddogaethau statudol.

2.     Cefnogwyd cynllun a’r amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2021/Ionawr 2022, bu’r Cabinet a Phwyllgorau Gwaith ym mhob un o’r chwe Awdurdod Lleol gytuno, mewn egwyddor, y dylid trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru drwy gytundeb dirprwyo i’r CBC. Mae’r fframwaith statudol a sefydlu’r CBC yn golygu bod angen symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad arfaethedig.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o sefydlu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ymateb i’w swyddogaethau statudol a’n cyflawni’r bwriad o drosglwyddo swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd0bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Cydnabuwyd bod gwaith sylweddol i’w gwblhau er mwyn sefydlu’r Cyd-bwyllgor ac mae cwblhau’r trosglwyddiadau hynny yn effeithiol heb amharu ar ansawdd gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn flaenoriaeth i’r swyddogion, er mwyn symud ymlaen gyda’r Cynllun Twf.

 

Adroddwyd y bwriedir trosglwyddo staff o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar 1af Gorffennaf 2024. Nodwyd bod angen sefydlu nifer o ffrydiau gwaith er mwyn galluogi’r trosglwyddiad hwn, sef:

 

·       Cytundeb ar drosglwyddo gwasanaethu cyfreithiol a llywodraethu

·       Ymgynghori gyda staff er mwyn sicrhau bod polisïau a phrotocolau priodol mewn lle er mwyn sicrhau trosglwyddo Pobl ac Adnoddau Dynol yn llwyddiannus i’r Cyd-bwyllgor. Pwysleisiwyd bod ymgysylltu gyda staff yn allweddol er mwyn sicrhau bod pawb yn ymdopi gyda’r trosglwyddiadau a’r gwaith a ddeillir o’r Cynllun Twf.

·       Trosglwyddo cyllid y Cynllun Twf a threfniadau ariannu prosiectau gan sicrhau bod pob proses a system weithredol mewn lle ar gyfer trosglwyddo’r Swyddfa Rheoli Portffolio i’r Cyd-bwyllgor.

·       Sicrhau bod staff a rhanddeiliaid allweddol yn cael eu cyfathrebu â nhw a’u cynnwys drwy gydol y broses. Nodwyd bydd hyn yn sicrhau bydd y Cynllun Twf yn parhau i  gael eu cyflawni’n amserol.

 

            Sicrhawyd bydd mewnbwn gan gynrychiolwyr o’r sector breifat yn rhan annatod o’r Cyd-bwyllgor, ac fe gefnogwyd hynny gan yr Aelodau. Ymhelaethwyd bod modd cyfethol aelodau o’r sector breifat ar gyfer trafodaethau penodol er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael eu clywed fel rhan o waith y Cyd-bwyllgor.                                                                                                       

 

            Mynegwyd dyhead i gefnogi’r ffrydiau gwaith er mwyn cadarnhau trosglwyddiadau amserol. Cynigiwyd ac eiliwyd i ddiwygio’r penderfyniad i adlewyrchu hynny.

 

8.

CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD (CBC) - YMESTYN SECONDIAD RHAN-AMSER CYFARWYDDWR PORTFFOLIO'R BWRDD UCHELGAIS FEL PRIF WEITHREDWR DRS DROD Y CBC pdf eicon PDF 214 KB

Dylan J Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cefnogwyd ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 30 Mehefin 2024 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.

2.     Nodwyd bod yr holl gyflogaeth gysylltiedig a’r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cefnogwyd ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 30 Mehefin 2024 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.

2.     Nodwyd bod yr holl gyflogaeth gysylltiedig â’r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Gan ystyried penderfyniad, mewn egwyddor, y Cynghorau i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru  gynorthwyo rhanbarth y Gogledd i sefydlu’r CBC, a sicrhau bod buddiannau’r Bwrdd Uchelgais yn cael eu diogelu wrth i’r CBC symud ymlaen.

 

Erbyn hyn mae’r 1af o Orffennaf eleni wedi’i adnabod fel dyddiad ar gyfer trosglwyddiad terfynol swyddogaethau’r Bwrdd i’r CBC a bydd adroddiad yn amlinellu’r camau gweithredu ar gyfer gwireddu hynny yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Corfforedig ar yr 22 o Fawrth, 2024.

 

TRAFODAETH

 

          Adroddwyd y gobeithiwyd byddai’r trosglwyddiad i’r Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi ei gwblhau erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2023/24 ond cydnabuwyd nad oedd hynny yn bosibl oherwydd natur cymhleth y trosglwyddiad. Cadarnhawyd mai’r amserlen ddiwygiedig yw cyflawni’r trosglwyddiad ar 1af Orffennaf 2024 fel y trafodwyd uchod (Eitem 7).

 

          Cadarnhawyd bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd hefyd yn trafod yr amserlen ddiwygiedig yn eu cyfarfod a gynhelir ar 22 Mawrth 2024.

 

Diolchwyd i swyddogion yr Awdurdod Lletya am eu gwaith i gefnogi’r Bwrdd Uchelgais a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Diolchwyd hefyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio a’r holl swyddogion am eu gwaith.

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir isod:

 

·       Eitemau 10 ac 11: Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol (Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

·       Eitem 12: Paragraff 14 ((Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) a Pharagraff 16 (gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol).) o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Mae hefyd yn cynnwys Cyngor cyfreithiol ar gyfer y Bwrdd sydd angen ei warchod er caniatáu sgwrs agored a di-lyfethair. . Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau .

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir isod:

 

·       Eitemau 10 ac 11: Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol (Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

·       Eitem 12: Paragraff 14 ((Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) a Pharagraff 16 (gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol).) o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Mae hefyd yn cynnwys Cyngor cyfreithiol ar gyfer y Bwrdd sydd angen ei warchod er caniatáu sgwrs agored a dilyfethair. . Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

10.

4G+ (SAFLEOEDD A CHORIDORAU ALLWEDDOL CYSYLLTIEDIG) - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig), yn amodol i’r swyddfa rheoli portffolio yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac argymhellwyd bod Achos Buses Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei ystyried.

2.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Ddigidol.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig), yn amodol i’r swyddfa rheoli portffolio yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac argymhellwyd bod Achos Buses Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei ystyried.

2.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

`             Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect ` 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig).

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

11.

HER ARIANNU HYDROGEN - ARGYMHELLION TERFYNOL

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Jones (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

1.     Cefnogwyd yr argymhelliad ar gyfer y prosiectau a ganlyn:

·       HSC01 – Hwb Hydrogen Gogledd-ddwyrain Cymru (NEW – H2): Gwahoddwyd y prosiect i ymuno â Chynllun Twf Gogledd Cymru, yn amodol ar gytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gydag ariannwr y prosiect.

·       HSC03 – Prosiect HydRive: Er nad yw’r prosiect yn cael ei wahodd i ymuno â’r Cynllun Twf, cefnogwyd cysyniad a datblygiad pellach y prosiect gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, gyda’r bwriad y gall y prosiect gael ei ystyried ar gyfer cyllid trwy’r gronfa Ynni Lleol Blaengar pan fydd wedi ei lansio.

 

2.     Dirprwywyd yr awdurdod i’r Cyfarwyddwr portffolio a’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i gadarnhau amodau gydag ariannwr prosiect HSC01 ac ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltweiaeth (MOU) gydag arianwyr y prosiect yn cadarnhau’r gofynion a’r disgwyliadau yn ymwneud â Chyllid y Cynllun Twf.

3.     Nodwyd nad yw gwahodd prosiect i ymuno â’r Cynllun Twf yn benderfyniad i fuddsoddi yn y prosiect. Yn unol â’r broses arferol i gael mynediad at gyllid, bydd gofyn i’r holl brosiectau gynhyrchu achos busnes i’w ystyried gan y Bwrdd.

4.     Nodwyd nad yw cefnogi egwyddor prosiect HSC03 yn darparu unrhyw warant o gyllid trwy’r ffynonellau amgen a awgrymwyd. Byddai angen asesu unrhyw gais yn y dyfodol ar sail teilyngdod yn erbyn y meini prawf a nodwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio a’r Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cefnogwyd yr argymhelliad ar gyfer y prosiectau a ganlyn:

·       HSC01 – Hwb Hydrogen Gogledd-ddwyrain Cymru (NEW – H2): Gwahoddwyd y prosiect i ymuno â Chynllun Twf Gogledd Cymru, yn amodol ar gytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gydag ariannwr y prosiect.

·       HSC03 – Prosiect HydRive: Er nad yw’r prosiect yn cael ei wahodd i ymuno â’r Cynllun Twf, cefnogwyd cysyniad a datblygiad pellach y prosiect gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, gyda’r bwriad y gall y prosiect gael ei ystyried ar gyfer cyllid trwy’r gronfa Ynni Lleol Blaengar pan fydd wedi ei lansio.

 

2.     Dirprwywyd yr awdurdod i’r Cyfarwyddwr portffolio a’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i gadarnhau amodau gydag ariannwr prosiect HSC01 ac ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gydag arianwyr y prosiect yn cadarnhau’r gofynion a’r disgwyliadau yn ymwneud â Chyllid y Cynllun Twf.

3.     Nodwyd nad yw gwahodd prosiect i ymuno â’r Cynllun Twf yn benderfyniad i fuddsoddi yn y prosiect. Yn unol â’r broses arferol i gael mynediad at gyllid, bydd gofyn i’r holl brosiectau gynhyrchu achos busnes i’w ystyried gan y Bwrdd.

4.     Nodwyd nad yw cefnogi egwyddor prosiect HSC03 yn darparu unrhyw warant o gyllid trwy’r ffynonellau amgen a awgrymwyd. Byddai angen asesu unrhyw gais yn y dyfodol ar sail teilyngdod yn erbyn y meini prawf a nodwyd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

          Mae angen gwneud penderfyniad ar ôl cwblhau’r Her Ariannu Hydrogen.

  

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

12.

SAFLE TREULIAD ANAEROBIG GLANNAU DYFRDWY - PAPUR OPSIYNAU

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Jones (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Gohiriwyd ystyried yr Achos Busnes Llawn yn unol ag Opsiwn A, a gofynnwyd am adroddiad pellach i gyfarfod nesaf y Bwrdd gydag argymhelliad ar y ffordd ymlaen ar gyfer y prosiect.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Ddigidol.

 

PENDERFYNWYD

 

Gohiriwyd ystyried yr Achos Busnes Llawn yn unol ag Opsiwn A, a gofynnwyd am adroddiad pellach i gyfarfod nesaf y Bwrdd gydag argymhelliad ar y ffordd ymlaen ar gyfer y prosiect.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Rhoi eglurder i’r Swyddfa Rheoli Portffolio a noddwr y prosiect ar y camau nesaf mewn perthynas â’r prosiect.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.