Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

·       Y Cynghorydd Jason McLellan (Cyngor Sir Ddinbych)

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)

·       Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Matthew Georgiou yn dirprwyo.

Croesawyd y Cynghorydd Dave Hughes, Cyngor Sir y Fflint i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyd-bwyllgor. Mynegwyd gwerthfawrogiad i Ian Roberts, Cyn-arweinydd Cyngor Sir y Fflint am ei gyfraniad dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddo. Bydd llythyr ffurfiol yn cael ei anfon gan Brif Weithredwr dros dro y CBC yn nodi dymuniadau gorau’r Cyd-bwyllgor iddo.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 131 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2024 fel rhai cywir.

5.

DIWEDDARIAD AR SEFYDLU'R CBC A MODEL LLYWODRAETHU ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 385 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Derbyn y diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud i baratoi ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig y Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC.

2.     Cefnogi'r strwythur llywodraethu fel sail ar gyfer trafodaeth gyda phartneriaid hyd nes ceir adroddiad pellach yn ddarostyngedig i addasu aelodaeth etholedig yr Is Bwyllgor  Llesiant Economaidd arfaethedig i gynrychiolaeth Arweinyddion Cynghorau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC ac Iwan Evans, Swyddog Monitro

PENDERFYNWYD:

1.     Derbyn y diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud i baratoi ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig y Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC.

2.     Cefnogi'r strwythur llywodraethu fel sail ar gyfer trafodaeth gyda phartneriaid hyd nes ceir adroddiad pellach yn ddarostyngedig i addasu aelodaeth etholedig yr Is Bwyllgor Llesiant Economaidd arfaethedig i gynrychiolaeth Arweinyddion Cynghorau.

TRAFODAETH

Croesawyd David Hole, Rheolwr newydd Rhaglen Gweithredu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i’r cyfarfod. Nodwyd bod gan y Cyd-bwyllgor bŵer yn hytrach na dyletswydd i hyrwyddo lles economaidd yn y rhanbarth. Amlygwyd bod penderfyniad gwreiddiol mewn egwyddor oedd yn rhagweld y byddai Is-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cael ei sefydlu ond ers hyn mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi mabwysiadu brand Uchelgais Gogledd Cymru. Yn sgil hyn cynigir sefydlu Is-bwyllgor Lles Economaidd er mwyn cefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor ac er mwyn cyflawni swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais.

Nodwyd bod y prif ddadleuon cefnogol dros fabwysiadu’r strwythur wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad ond yn gryno fyddai datblygu’r strwythur ar sail y fersiwn arfaethedig yn hwyluso rôl strategol y Cyd-bwyllgor ac yn creu'r gallu i roi'r sylw haeddiannol a’r arweinyddiaeth i faterion a chyfloed ehangach na’r Cynllun Twf drwy’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn y diweddariad ar y cynnydd o sefydlu’r CBC gan nodi bod y gwaith yma yn cynnwys trosglwyddo cytundeb y Cynllun Twf, y cyllid a’r Swyddfa Rheoli Portffolio i mewn i’r CBC fel sefydliad annibynnol yn ogystal â chyflwyno egwyddorion drafft sy’n rhoi sail i’r model llywodraethu arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor.

Amlygwyd mai’r dyddiad targed ar gyfer trosglwyddo’r Cynllun Twf sydd yn flaenoriaeth benodol o fewn cwmpas y gwaith i sefydlu’r CBC yw’r 1af o Dachwedd. Adroddwyd bod cyflawni hyn yn ddibynnol ar dderbyn cymeradwyaeth gan bartneriaid y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth ynghyd â chael nifer helaeth o faterion gweithredol mewn lle.

Esboniwyd bod yr adroddiad hefyd yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor gefnogi datblygiad o fodel llywodraethu arfaethedig sy’n cynnig golwg cychwynnol ar y trefniadau llywodraethu er mwyn hwyluso trafodaethau gyda phartneriaid ar y Cynllun Twf. Cyflwynwyd fersiwn diwygiedig o’r strwythur gan amlygu’r prif newidiadau sef:

·       Arweinyddion y 6 awdurdod i eistedd ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd

·       Cyfrifoldebau o Fonitro Perfformiad, cyflawni a risgiau a Chymeradwyo prosiectau ABLl y Cynllun Twf a gyfeiriwyd oherwydd risgiau anarferol yn rai all gael eu gosod ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn hytrach na’r CBC. Nodwyd bod y rhain yn swyddogaethau sydd yn gysylltiedig â’r CBC ond y gellir eu cyfeirio lawr i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

Ychwanegodd y Swyddog Monitro mai’r amcan ydi derbyn cefnogaeth i’r model arfaethedig fydd yn rhoi hyder i bartneriaid bod model sylfaenol y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cael ei gadw ymlaen yn y trosglwyddiad i’r CBC. Nododd nad oedd rheswm cyfreithiol na chyfansoddiadol i beidio â chael Is-bwyllgor efo Arweinyddion fel aelodau arno.

Mynegwyd fod yr Arweinyddion yn awyddus i gadw mewn cyswllt efo holl waith y Bwrdd Uchelgais Economaidd felly yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIADAU CYFANSODDIADOL pdf eicon PDF 217 KB

Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Mabwysiadu:

i)      Adrannau 1 - 3

ii)     y cynllun dirprwyo

iii)   rheolau gweithdrefnol ariannol

2.    Dirprwyo i'r Swyddog Monitro'r pŵer i wneud y mân addasiadau a ganlyn i'r Cyfansoddiad:

(a) diwygiadau cyfreithiol neu dechnegol nad ydynt yn effeithio o bwys ar y Cyfansoddiad;

(b) newidiadau sy'n ofynnol i'w gwneud er mwyn dileu unrhyw anghysondeb, amwysedd neu wall teipograffeg;

(c) geiriad er mwyn rhoi ar waith unrhyw benderfyniad gan y CBC neu ei is-bwyllgorau neu swyddog yn defnyddio pwerau dirprwyedig;

(d) newidiadau sy'n ofynnol i adlewyrchu unrhyw newid i deitl unrhyw swydd neu rôl.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y broses o greu Cyfansoddiad ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan nodi ei bod yn ofynnol i’r CBC gael Cyfansoddiad cynhwysfawr er mwyn cyflawni ei swyddogaethau. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn dod a’r elfennau allweddol diwethaf ymlaen i’w mabwysiadu. Diolchwyd i Claire Incledon am y gwaith ac am ddod a’r dogfennau at ei gilydd. Tynnwyd sylw at ran 4.3 o’r adroddiad sef y tabl oedd yn dangos y cynnydd sydd wedi ei wneud ar y Cyfansoddiad a’r materion i’w mabwysiadu.

Cyfeiriwyd at yr argymhelliad a’r ddogfen allweddol o ran dod a’r CBC yn weithredol sef y ddogfen Cynllun Dirprwyo fydd yn caniatáu i swyddogion ddechrau gwneud penderfyniadau a’r adroddiad Rheolau Gweithdrefn ariannol oedd yn cynnwys mewnbwn y Prif Swyddog Cyllid.

Eglurwyd bod hwn yn gam pellach wrth ffurfio Cyfansoddiad a pe bai’r materion hyn yn cael eu mabwysiadu heddiw caniateir symud ymlaen a chyhoeddi Cyfansoddiad ar lein ar gyfer y CBC, sy’n gam pwysig ar gyfer llywodraethiant a delwedd gyhoeddus y Corff.

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.

7.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM pdf eicon PDF 231 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid lleol i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf drafft, o dan gyfarwyddyd a chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth Buddsoddi, Prif Weithredwr dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) yn cael ei ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o law.

2.     Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu arfaethedig sy'n gosod allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau ar gyfer y Parth Buddsoddi.

3.     Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w chymeradwyo, gan y CBC yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraethau'r DU a Chymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC.

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar gynnydd y Parc buddsoddi newydd yn Fflint a Wrecsam sy’n canolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch. Croesawyd Iain Taylor, Ymgynghorwr AMION Consulting i’r cyfarfod gan nodi bod gan Iain brofiad o weithio efo rhanbarth dinas Lerpwl i ddatblygu eu hachos ar gyfer y Parc Buddsoddi.

Eglurwyd bod y broses o ddatblygu Parthau Buddsoddi yn gydweithredol o ran natur ac yn ddibynnol ar rannu dogfennaeth i’w hadolygu ar draws rhanddeiliaid lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cyfeiriwyd at y bwriad o rannu dogfennau Porth drafft wrth iddynt gael eu paratoi ac i dderbyn adborth a chytundeb wrth i’r rhain ddatblygu.

Nodwyd fod y CBC wedi ei adnabod fel y Corff atebol ar gyfer y Parth Buddsoddi gan dynnu sylw at natur y swyddogaeth, y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau y mae’r CBC yn eu hysgwyddo wrth ddatblygu a chyflawni'r Parth Buddsoddi. Cyfeiriwyd at y penderfyniadau fydd gan y CBC i’w gwneud wrth ddatblygu’r Parth Buddsoddi. Rhannwyd fodel o strwythur llywodraethiant arfaethedig (Atodiad A o’r adroddiad) fel sail i baratoi ar gyfer y broses o fynd drwy’r pyrth efo’r Llywodraethau ac i gael cymeradwyaeth ar y Parth Buddsoddi.

Ymhelaethodd yr Ymgynghorwr AMION Consulting ar y strwythur Llywodraethiant arfaethedig gan nodi bod bwriad i’r strwythur ffitio fewn efo’r strwythur Llywodraethiant sefydledig er mwyn osgoi dyblygu. Nododd bod y gwaith yn ymdrech gyfunol ac estynnodd ddiolch i Gynghorau Fflint a Wrecsam am eu cefnogaeth, gwaith a’u parodrwydd i gyd-weithio. Soniodd am yr amcan o gynyddu nifer y swyddi Gweithgynhyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gan nodi bod y strwythur yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymryd rhan yn natblygiad y broses. Ymhelaethodd mai’r CBC fydd yn gyfrifol am adrodd ar gyflawni ac yn gyfrifol am y buddsoddiadau grant.

Diolchodd Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam i’r swyddogion am eu gwaith a diolchodd i Gyngor Sir y Fflint am eu cydweithrediad gan nodi bod y cynllun a’r buddsoddiad yn sylweddol. Ategwyd sylwadau tebyg gan gynrychiolydd Cyngor Sir y Fflint gan nodi eu bod yn edrych ymlaen at gyd-weithio efo Cyngor Wrecsam. Mynegwyd gwerthfawrogiad i Brif Weithredwr dros dro y CBC a’i thîm am eu gwaith.

Holwyd os fydd y terfyn amser ym mis Tachwedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGOLWG O WARIANT 2024/25 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD pdf eicon PDF 199 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid a Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024/25 fel y cyflwynir yn Atodiad 1.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol.

PENDERFYNWYD derbyn rhagolwg o wariant y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024/25 fel y cyflwynir yn Atodiad 1.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd adolygiad ariannol Awst 2024 a dangoswyd tabl sy’n cyfateb i Atodiad 1 o’r adroddiad. Eglurwyd bod y gyllideb ar yr ochr chwith ac amcan o’r sefyllfa hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol ar yr ochr dde, gyda’r golofn olaf yn dangos y gor/tanwariant fesul pennawd.

Nodwyd, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, rhagwelir tanwariant net o £200,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Amcanwyd y bydd tanwariant o £289,000 ar y pennawd Gweithwyr. Nodwyd bod y gwariant a ragwelir yn cynnwys costau secondiad y Prif Weithredwr, cefnogaeth y Cynorthwyydd Gweithredol ynghyd â chostau secondiad Rheolwr Rhaglen Weithredu, un swydd cynllunio a Swyddog Iaith rhan amser.

Eglurwyd er y nodir gorwariant net o £54,000 yn erbyn y pennawd cyflenwadau a gwasanaethau, £26,000 o danwariant yw’r sefyllfa net ar ôl cymryd i ystyriaeth yr incwm grant gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu’r gorwariant ar y pennawd ymgynghorwyr allanol. 

Adroddwyd y bydd y tanwariant ar y pennawd cyfreithiol yn cael ei ddefnyddio i ariannu rhan o'r gorwariant ar y costau cyfreithiol a ddangosir o dan Gostau Sefydlu. Mae’r £83,000 o wariant cyfreithiol ar y pennawd yma yn cynnwys costau cwmni cyfreithiol allanol yn ogystal â dau ymgynghorydd cyfreithiol sydd wedi’u comisiynu i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol ar sefydlu’r Cyd-Bwyllgor. Ychwanegwyd bod hefyd £103,000 o wariant ar ymgynghorwyr allanol sy’n ymwneud â chostau rheoli prosiect y Cyd-Bwyllgor.

Nodwyd bod £100,000 o wariant ar y Parthau Buddsoddi a’r gobaith yw y bydd hwn yn cael ei ariannu o lwfans gweinyddol grant Parth Buddsoddi'r Llywodraeth, ond heb gadarnhad ffurfiol, mae Cynghorau Sir Wrecsam a Sir y Fflint rhyngddynt wedi gwarantu £50,000 o’r gwariant hwn gyda’r £50,000 sy’n weddill i’w ariannu o gronfa wrth gefn y Cyd-bwyllgor.

Diolchwyd am yr adroddiad. Gofynnwyd am eglurhad pellach ar y gorwariant o £54,000 yn erbyn y pennawd cyflenwadau a gwasanaethau. Esboniwyd bod y £54,000 yn cynnwys £81,000 o orwariant ar ymgynghorwyr allanol sydd yn ymwneud a gwariant oedd yn gysylltiedig â grant gafodd ei gymeradwyo llynedd. Yn y rhan incwm gwelir £81,000 o grant Llywodraeth Cymru sy’n ei ariannu felly yn dod lawr i danwariant o £26,000.

9.

CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: DIWEDDARIAD CYNNYDD AC ARGYMHELLION pdf eicon PDF 212 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Nodi, yn unol â chymeradwyaeth CBC a roddwyd ar 21 Mehefin 2024, mae Swyddog Monitro'r CBC wedi penodi'r canlynol yn aelodau cyfetholedig o'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth:

·       Cyng. Goronwy Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

·       Cyng. Barry Mellor (Cyngor Sir Ddinbych)

·       Cyng. Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint)

·       Cyng. Dafydd Meurig (Cyngor Gwynedd)

·       Cyng. Dafydd Rhys Thomas (Cyngor Sir Ynys Môn)

·       Cyng. David A Bithell (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)

2.    Nodi'r diweddariad a gynhwysir yn Atodiad 1 sy'n cynnwys copi o'r drafft:

       Datganiad gweledigaeth Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

       Amcanion SMART

       Themâu trawsbynciol

3.    Cytuno i gam nesaf y gwaith i ddatblygu'r RTP gael ei arwain gan yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth a bydd yn cynnwys argymhellion ar yr uchod a'r cydrannau canlynol sy'n ofynnol i ddatblygu'r RTP: 

·       Cynllun prosiect manwl (adeiladu ar Gynllun Gweithredu'r RTP)

·       Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig (Asesiadau Statudol)

·       Cynllun Ymgysylltu â Rhan-ddeiliaid

·       Rhestr o bolisïau, rhaglenni a phrosiectau

·       Paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

4.    Cytuno i gynnal cyfarfod cyntaf Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CBC ar 1 Hydref. Bydd amserlen gynhwysfawr a blaengynllun yn cael eu cyflwyno i'r Is-bwyllgor yn y cyfarfod yma. Mae'r Is-bwyllgor yn gyfrifol am ddatblygu polisi allweddol a pharatoi'r RTP, sy'n darparu gwasanaeth cludiant strategol cyd-gysylltiedig ac integredig yng Ngogledd Cymru. Bydd yr Is-bwyllgor yn adrodd ei argymhellion yn rheolaidd i'r CBC ar:

·       y camau a gymerwyd i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol;

·       amserlen a chynnydd tuag at ei gyflwyno i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth;

·       datblygu polisi sy'n cyd-fynd â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol i'w weithredu gan yr awdurdodau trafnidiaeth lleol;

·       monitro ac adolygu 'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a swyddogaethau strategol rhanbarthol eraill, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Swyddog Dros Dro y CBC.

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad pellach ar y gwaith i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP) sy'n cynnwys sefydlu'r strwythurau llywodraethu angenrheidiol i alluogi'r CBC i gyflawni ei ddyletswydd statudol.

Tynnwyd sylw at Atodiad 1 yn yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad a’n cynnwys copi drafft o'r Datganiad gweledigaeth Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, yr Amcanion SMART a’r Themâu trawsbynciol. Nodwyd bod 4 o amcanion SMART a 5 o themâu trawsbynciol.

Eglurwyd mai’r cam nesaf allweddol yw cyflwyno’r eitemau yma i’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth gan nodi bod aelodau eisoes wedi eu henwebu i’r Is-bwyllgor hwn. Eglurwyd y bydd y dair eitem yma, ynghyd ag eitemau pellach sydd wedi eu nodi yn rhan 2.3 o’r adroddiad, yn cael eu cynnwys ar Agenda’r cyfarfod cyntaf fydd i’w gynnal ar y 1af o Hydref. Ychwanegwyd y bydd amserlen gynhwysfawr a blaengynllun hefyd yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn y cyfarfod yma. Nodwyd mai’r Is-bwyllgor hwn fydd yn gyfrifol am ddatblygu polisi allweddol a pharatoi'r cynllun trafnidiaeth a bydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn adrodd yn rheolaidd i’r CBC.

Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi bod hwn yn gam pwysig ar y daith o sefydlu’r Cyd-bwyllgor.

10.

SAFONAU'R GYMRAEG: HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO pdf eicon PDF 224 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn Safonau'r Gymraeg sydd wedi'u gosod ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC) (Atodiad 2 ).

2.    Gofyn i'r Prif Weithredwr dros dro ddatblygu cynnig sy'n nodi'r opsiynau a'r costau i gomisiynu adnoddau swyddog sydd ei angen ar gyfer gweithredu, monitro ac adrodd ar safonau'r Gymraeg.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Swyddog Dros Dro y CBC.

PENDERFYNWYD:

1.     Derbyn Safonau'r Gymraeg sydd wedi'u gosod ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC) (Atodiad 2 ).

2.     Gofyn i'r Prif Weithredwr dros dro ddatblygu cynnig sy'n nodi'r opsiynau a'r costau i gomisiynu adnoddau swyddog sydd ei angen ar gyfer gweithredu, monitro ac adrodd ar safonau'r Gymraeg.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno Hysbysiad Cydymffurfio terfynol ar safonau'r Gymraeg ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd bod yr Hysbysiad Cydymffurfio drafft wedi ei gyflwyno yn flaenorol ac yna cyfnod o ymgynghori i ddilyn. Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw sialensiau na chwestiynau gan aelodau ynglŷn â’r safonau oedd wedi eu gosod ar gyfer y Cyd-bwyllgor. Er hyn nodwyd bod yr adroddiad yn tynnu sylw at gwpl o safonau sydd wedi eu tynnu allan ar gyfer y Cydbwyllgorau i gyd yn genedlaethol.

Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor yn gorff cyhoeddus felly yn unol â’r rheoliadau bod angen i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a chydymffurfio â’r safonau. Y dyddiad sydd wedi ei nodi gan y Comisiynydd Iaith ar gyfer cydymffurfiad y Cyd-bwyllgor ydi erbyn diwedd mis Chwefror 2025. Nodwyd ei bod yn ofynnol i Brif Swyddog dros dro y CBC gyflwyno adroddiad pellach yn amlygu sut fydd y trefniadau yn cael ei gosod a’r opsiynau i gefnogi’r Cyd-bwyllgor i gydymffurfio â’r safonau.

11.

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW) - ADOLYGIAD O GYDNABYDDIAETH ARIANNOL AELODAU LLEYG CYDBWYLLGORAU CORFFOREDIG pdf eicon PDF 221 KB

Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Nodi Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW).

2.    Mabwysiadu cyfradd fesul awr i dalu hawliadau a gyflwynir gan aelodau lleyg.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

PENDERFYNWYD:

1.     Nodi Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW).

2.     Mabwysiadu cyfradd fesul awr i dalu hawliadau a gyflwynir gan aelodau lleyg.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fwriad o ddiweddaru’r Aelodau ar benderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol aelodau lleyg y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Nodwyd bod yr adroddiad yn cau'r bwlch wrth symud i sefydlu Is-bwyllgor Safonau ac Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fewn y CBC. Amlygwyd fod yr adroddiad yn argymell mabwysiadau trefn o dalu’r aelodau lleyg fesul awr yn hytrach na fesul blociau o bedair awr. 

Mynegwyd pryder am ba mor ddeniadol fyddai’r trefniadau hyn mewn gwirionedd wrth geisio denu traean o aelodau i eistedd ar yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ystyried pa mor fyr yw hyd rai o’r Pwyllgorau.

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau gan nodi bod y cyfarfod wedi bod yn gam pwysig wrth ffurfioli gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig.