Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 131 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2024 fel rhai cywir. |
|
Alwen Williams (Cyfarwyddwr
Portffolio a Phrif Weithredwr Dros Dro y CBC) a Geraint Owen (Cyfarwyddwr
Corfforaethol, Cyngor Gwynedd) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyn y diweddariad cynnydd ar y gwaith i
sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo'r Cynllun Twf a symud ymlaen ar
dasgau sy'n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC. Cytuno i dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhoi diweddariad
pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio at y Cynllun Datblygu Strategol. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno
ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda'r Awdurdodau Lleol a
phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 1 Ebrill,
2025. Cymeradwyo estyniad o’r trefniant dros dro i
Gyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd ymgymryd â rôl Prif
Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar sail dros dro am ddau ddiwrnod yr
wythnos hyd at 31 Mawrth, 2025 neu'r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p'un fydd
gyntaf. |
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - DIWEDDARIAD AR GYNNYDD PDF 564 KB Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Adolygu a cymeradwyo'r Safleoedd Treth a adnabuwyd (Porth Glannau
Dyfrdwy, Warren Hall ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam) ac Ardaloedd Ardrethi a
Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam). Adolygu a cymeradwyo'r Model Llywodraethu gyffredin arfaethedig. Adolygu a cymeradwyo Themâu'r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau a
Thrafnidiaeth) a'r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio fel rhan o
Borth 4 (Ymyriadau) ac yn ystyried cynnwys 'Cymorth Busnes' fel y pedwerydd
thema, sy’n ymdrin â'r bwriad i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn busnesau
gweithgynhyrchu uwch gyda chyngor a chyllid grant. |