Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

·       Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych)

·       Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Linda Roberts yn dirprwyo

·       Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) gyda Jenny Williams yn dirprwyo

·       Dewi Morgan (Prif Swyddog Cyllid)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams ar gyfer Eitem 10 oherwydd ei phenodiad fel Prif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 143 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar  21 Mawrth, 2025 fel rhai cywir.

 

5.

TROSGLWYDDO'R BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD A'R CYNLLUN TWF I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 394 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cytuno i ymrwymo i Gytundeb Cyflawni ac Ariannu ble trosglwyddir rôl corff Cyfrifol, cyfrifoldeb am gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r trefniadau ariannu ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i amnewid ac aseinio yn ôl yr angen, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r hawliau a’r rhwymedigaethau ym mhob cytundeb ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i drosglwyddo, amnewid ac/neu aseinio’r holl fuddiannau ym mhortffolio prosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i drosglwyddo a/neu aseinio’r holl falansau ariannol, arian sy’n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu’r cytundebau, gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol terfynol eraill sy’n angenrheidiol i weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 uchod erbyn neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy’n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddiadol a’r 4 parti Addysg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro'r CBC a’r Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cytuno i ymrwymo i Gytundeb Cyflawni ac Ariannu ble trosglwyddir rôl corff Cyfrifol, cyfrifoldeb am gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r trefniadau ariannu ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

2.     Cytuno i amnewid ac aseinio yn ôl yr angen, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r hawliau a’r rhwymedigaethau ym mhob cytundeb ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

3.     Cytuno i drosglwyddo, amnewid ac/neu aseinio’r holl fuddiannau ym mhortffolio prosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

4.     Cytuno i drosglwyddo a/neu aseinio’r holl falansau ariannol, arian sy’n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

5.     Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu’r cytundebau, gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol terfynol eraill sy’n angenrheidiol i weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 uchod erbyn neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

6.     Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy’n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddiadol a’r 4 parti Addysg.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai’r dyddiad a benodwyd ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yw 1 Ebrill 2025. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau pob Awdurdod Lleol perthnasol wedi cymeradwyo’r trosglwyddiad gan nodi bod yr Adroddiad yn manylu ar y camau sydd angen eu cyflawni er mwyn ei gwblhau’n amserol.

 

Eglurwyd bod y Cyd-bwyllgor ar drothwy derbyn cytundeb gan bartneriaid y Cynllun Twf ar gyfer y trosglwyddiad hwn.

 

Nodwyd bod oediad wedi bod yn y trefniadau er mwyn derbyn cytundeb gan Lywodraeth Cymru i ryddhau Cyngor Gwynedd o gyfrifoldebau a’r cytundeb ariannu’r Cynllun Twf gan ganiatáu i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd fod yn gyfrifol ohono o 1 Ebrill 2025. Pwysleisiwyd bod y cytundeb hwn yn un creiddiol i’r trosglwyddiad. Tynnwyd sylw bod cytundeb drafft wedi cael ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2025. Mynegwyd balchder bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ar 21 Mawrth 2025, yn dilyn trafodaethau maith, bod y cytundeb hwn yn dderbyniol ar gyfer cyflawni’r trosglwyddiad. Cynghorwyd y gallai’r Cyd-bwyllgor ganiatáu’r trosglwyddiad, yn ddibynnol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn derbyn  cytundeb i’w arwyddo erbyn 25 Mawrth 2025, er mwyn sicrhau bod yr amserlen arfaethedig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD pdf eicon PDF 313 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cymeradwyo penodi cynrychiolwyr o bob sefydliad partner yn Aelodau cyfetholedig (heb bleidlais) i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

 

  1. Cadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd fel y nodir yn y tabl isod:

Text Box
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

 

1.      Cymeradwyo penodi cynrychiolwyr o bob sefydliad partner yn Aelodau cyfetholedig (heb bleidlais) i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

 

2.     Cadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd fel y nodir yn y tabl isod:

Text Box

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan nodi ei fod yn cadarnhau aelodaeth Is-bwyllgor Lles Economaidd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Ymhelaethwyd bod sefydlu’r Is-bwyllgor hwn yn allweddol er mwyn cefnogi trosglwyddiad y Cynllun Twf i’r Cyd-bwyllgor a chymryd rheolaeth o swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Cywirwyd yr aelodaeth i gynrychiolaeth Prifysgol Wrecsam gan nodi mai Mr Moss Garde yw’r eilydd yn y Cytundeb Cyfethol.

 

Tynnwyd sylw bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sefydlu’r Is-bwyllgor hwn i fod o’r un natur a’r Bwrdd Uchelgais Economaidd ac felly cadarnhawyd bod pob Aelod Cyfetholedig yn Aelodau di-bleidlais. Amlygwyd bod yr Aelodau Cyfetholedig a nodwyd o fewn yr adroddiad eisoes yn aelodau o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd fel ymgynghorwyr.

 

Eglurwyd bydd Adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod nesaf, er mwyn rhannu gwybodaeth ar drefniadau materion cyfetholedig gan gynnwys hawliau pleidleisio, er eglurder.

 

7.

BWRDD BUSNES YMGYNGHOROL AC YMGYNGHORWYR ANWEITHREDOL pdf eicon PDF 214 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl a’r broses benodi ar gyfer sefydlu Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd ar ôl trosglwyddo’r Cynllun Twf a dirprwyo’r broses weithredu i’r Prif Weithredwr Dros Dro.

 

  1. Cymeradwyo’r disgrifiad rôl ar gyfer y ddwy swydd Ymgynghorydd Anweithredol newydd ac awdurdodi’r Prif Weithredwr Dros Dro i gymryd pob cam angenrheidiol i gaffael ymgeiswyr i’w hargymell i’w penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

  1. Dirprwyo i’r Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yr awdurdod i wneud unrhyw fân newidiadau i’r Cylch Gorchwyl a disgrifiadau rôl mewn ymateb i unrhyw adborth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a’r DU cyn ei weithredu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl a’r broses benodi ar gyfer sefydlu Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd ar ôl trosglwyddo’r Cynllun Twf a dirprwyo’r broses weithredu i’r Prif Weithredwr Dros Dro.

 

2.     Cymeradwyo’r disgrifiad rôl ar gyfer y ddwy swydd Ymgynghorydd Anweithredol newydd ac awdurdodi’r Prif Weithredwr Dros Dro i gymryd pob cam angenrheidiol i gaffael ymgeiswyr i’w hargymell i’w penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

3.     Dirprwyo i’r Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yr awdurdod i wneud unrhyw fân newidiadau i’r Cylch Gorchwyl a disgrifiadau rôl mewn ymateb i unrhyw adborth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a’r DU cyn ei weithredu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl corff ymgynghori sector preifat newydd (Bwrdd Busnes Ymgynghorol) yn ogystal â disgrifiadau rôl ar gyfer dau Ymgynghorydd Anweithredol newydd. Eglurwyd bod datblygu’r rhain yn sicrhau bod gweithdrefnau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn cyfarch yr hyn sydd yn ddisgwyliedig er mwyn gweithredu’r Cynllun Twf. Ychwanegwyd bod cyflwyno’r rhain hefyd yn ymateb i argymhellion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o benodi ymgynghorwyr anweithredol.

 

Cadarnhawyd bod swyddogion wedi derbyn cyngor cyfreithiol ar y model ar gyfer penodi ymgynghorwyr anweithredol a nodwyd bod trefniadau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn seiliedig ar ofynion cyfreithiol llywodraeth leol ar gyfer unigolion sydd o fewn swyddogaeth ac yn derbyn tâl am wasanaethau.

 

Ystyriwyd pecyn cyflogaeth yr ymgynghorwyr anweithredol gan holi os oes ystyriaeth yn cael ei roi i ffi ddyddiol am eu gwasanaethau. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro bod gwaith wedi cael ei wneud er mwyn canfod graddfa gyflog ddyddiol ar gyfer natur y gwasanaeth ymgynghori priodol. Eglurwyd bod ystod eang o drefniadau cyflogaeth ymgynghorol a'u bod yn amrywiol iawn. Cadarnhawyd bydd cyflogau am wasanaethau ymgynghorol dyddiol yn cael eu pennu wrth i’r Cyd-bwyllgor lwyddo i fireinio’r math o ymgynghoriaeth sydd ei angen.

 

Mewn ymateb i ystyriaethau os bydd gofyniad i’r ymgynghorwyr anweithredol fod yn meddu â sgiliau ieithyddol Cymraeg er mwyn cael eu penodi, cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro bod yr iaith Gymraeg yn hollbwysig i waith y Cyd-bwyllgor gan gadarnhau bydd pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn ceisio canfod ymgynghorwyr sy’n medru’r Gymraeg er mwyn cynorthwyo gwaith y Cyd-bwyllgor. Fodd bynnag, nodwyd yr angen rhoi ystyriaeth i unrhyw gais er mwyn cysidro a fyddai’r lefel gywir o gyngor yn cael ei ddarparu i’r Bwrdd Busnes Ymgynghorol er mwyn llywio penderfyniadau o werth i’r rhanbarth. Cadarnhawyd y bydd y rolau hyn yn cael eu hysbysebu i nodi bod sgiliau’r iaith Gymraeg yn ddelfrydol ond nid yw’n angenrheidiol.

 

8.

RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT pdf eicon PDF 187 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Mabwysiadu’r newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contract a bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

 

  1. Dirprwyo i’r Swyddog Monitro y pŵer i wneud y mân addasiadau canlynol i’r Cyfansoddiad:
    1. Diwygiadau cyfreithiol neu dechnegol nad ydynt yn effeithio’n sylweddol ar y Cyfansoddiad.
    2. Newidiadau y mae’n ofynnol eu gwneud i gael gwared ag unrhyw anghysondeb, amwysedd neu wall teipograffeg
    3. Geiriad er mwyn i unrhyw benderfyniad gan Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd neu ei is-bwyllgorau neu swyddog sy’n arfer pwerau dirprwyedig ddod i rym.
    4. Newidiadau sy’n ofynnol i adlewyrchu unrhyw newidiadau i deitlau swyddi neu rôl

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Mabwysiadu’r newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contract a bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

 

2.     Dirprwyo i’r Swyddog Monitro y pŵer i wneud y mân addasiadau canlynol i’r Cyfansoddiad:

a.   Diwygiadau cyfreithiol neu dechnegol nad ydynt yn effeithio’n sylweddol ar y Cyfansoddiad.

b.  Newidiadau y mae’n ofynnol eu gwneud i gael gwared ag unrhyw anghysondeb, amwysedd neu wall teipograffeg

c.   Geiriad er mwyn i unrhyw benderfyniad gan Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd neu ei is-bwyllgorau neu swyddog sy’n arfer pwerau dirprwyedig ddod i rym.

d.  Newidiadau sy’n ofynnol i adlewyrchu unrhyw newidiadau i deitlau swyddi neu rôl

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod trefniadau wedi cael ei diwygio yn dilyn dyfodiad Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Cyflwynwyd rheoliadau diwygiedig o drefniadau caffael ar gyfer gweithrediadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Diolchwyd am y cydweithrediad rhanbarthol ac arbenigol er mwyn sicrhau bod y ddogfennaeth yn cael eu diwygio i fod yn gyfredol yn unol â’r gofynion cyfreithiol.

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau busnes cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a  chytuno trefniadau penodi gan gynnwys manylion swydd a amodau a thelerau cyflog  fydd yn destun proses recriwtio gystadleuol.  Nodaf hefyd y bydd y wybodaeth a gytunir yn cael ei gyhoeddi fel rhan o broses benodi agored. Gall cyhoeddi gwybodaeth drafft yma yn gynamserol danseilio y broses recriwtio.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 10 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau busnes cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytuno trefniadau penodi gan gynnwys manylion swydd ac amodau a thelerau cyflog fydd yn destun proses recriwtio gystadleuol. Nodaf hefyd y bydd y wybodaeth a gytunir yn cael ei gyhoeddi fel rhan o broses benodi agored. Gall cyhoeddi gwybodaeth drafft yma yn gynamserol danseilio'r broses recriwtio. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

10.

PENODI PRIF WEITHREDWR AR GYFER Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG

Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cytuno i sefydlu swydd Prif Weithredwr ar sail llawn amser parhaol ar gyflog blynyddol o hyd at £125,000.

 

  1. Awdurdodi cychwyn proses recriwtio i benodi Prif Weithredwr.

 

3.     Mai Cymraeg yn ‘ddymunol’, gan sicrhau ymrwymiad gan yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu’r iaith (os nad yw eisoes yn medru’r Gymraeg)  fydd dynodiad iaith y swydd o fewn y Manylion Person .

 

  1. Cadarnhau bod y trefniadau dros-dro presennol yng nghyswllt cyflawni swyddogaethau Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Cyfarwyddwr Portffolio y Cynllun Twf yn cael eu hymestyn hyd nes bod Prif Weithredwr parhaol yn gallu ymgymryd a’i g/chyfrifoldebau.

 

  1. Cadarnhau bod cynnal y broses recriwtio, gan gynnwys yr hysbysebu, yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr arweiniol, mewn ymgynghoriaeth gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cytuno i sefydlu swydd Prif Weithredwr ar sail llawn amser parhaol ar gyflog blynyddol o hyd at £125,000.

 

2.     Awdurdodi cychwyn proses recriwtio i benodi Prif Weithredwr.

 

3.     Mai Cymraeg yn ‘ddymunol’, gan sicrhau ymrywymiad gan yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu’r iaith (os nad yw eisoes yn medru’r Gymraeg) fydd dynodiad iaith y swydd o fewn y Manylion Person.

 

4.     Cadarnhau bod y trefniadau dros-dro presennol yng nghyswllt cyflawni swyddogaethau Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Cyfarwyddwr Portffolio y Cynllun Twf yn cael eu hymestyn hyd nes bod Prif Weithredwr parhaol yn gallu ymgymryd a’i g/chyfrifoldebau.

 

5.     Cadarnhau bod cynnal y broses recriwtio, gan gynnwys yr hysbysebu, yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr arweiniol, mewn ymgynghoriaeth gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.