Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026. Penderfyniad: Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn Gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26. Cofnod: Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn Gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026. Penderfyniad: Bu i Cyng. Charlie McCoubrey gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26 Cofnod: Bu i Cyng. Charlie McCoubrey gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC), Rhun ap Gareth (Cyngor Sir Conwy) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2025 fel rhai cywir. |
|
CALENDR CYFARFODYDD Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y calendr drafft ar gyfer cyfnod hyd at fis
Mehefin 2026. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd y calendr drafft ar gyfer cyfnod hyd at fis
Mehefin 2026. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adorddiad gan nodi
fod gofyniad i’r Cydbwyllgor dderbyn calendr er mwyn penderfynu ar amlder ei
gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn gyngor canlynol. Amlygwyd fod dyddiadau yn ei
lle ar gyfer y Cydbwyllgor ynghyd â thri o’r is bwyllgorau - sef Is-bwyllgor
Lles Economaidd, Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol ac yr Is-bwyllgor Cynllunio
Strategol. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sefydlu’r
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bod angen gosod rhaglen waith. Eglurwyd
fod bwriad i hysbysebu am aelodau i’r Pwyllgor Safonau ar ôl yr haf, ac o ran y
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu fod pump o’r awdurdodau wedi derbyn yr adroddiad
i’w sefydlu ond eu bod yn parhau i ddisgwyl am benderfyniad un sir. |
|
CYFETHOL AELODAETH I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD Penderfynwyd:
i.
Bod y Swyddog Monitro yn adolygu
egwyddorion cyfethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a'i is-bwyllgorau fel y nodir
yn y Rheoliadau Sefydlu (fel y'u diwygiwyd) a'r canllawiau statudol.
ii.
Bod yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori
â'r pedwar darparwr Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn perthynas â'u haelodaeth
ar yr is-bwyllgor Lles Economaidd i'w adrodd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn y dyfodol.
iii.
Mewn perthynas â llywodraethu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol, y rhoddir ystyriaeth i'r opsiynau
ynghylch creu aelodaeth ymgynghorol neu grwpiau cyswllt rhanddeiliaid gyda
chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur, y Trydydd Sector, Cymdeithasau Tai, y sector
preifat ac iechyd, ac y byddai’r telerau hyn yn darparu ar gyfer cyfnewid
gwybodaeth a chydweithio wrth gefnogi gwneud penderfyniadau'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig.
iv.
Bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn
ymgynghoriad ag Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a Phrif Weithredwyr yr
Awdurdodau Cyfansoddol gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig gydag argymhelliad ynghylch y model ar gyfer cyfethol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen am drafodaeth ar
sefydlu trefniadau llywodraethu, a bod yr adroddiad hwn yn rhan o’r broses i
ddod i’r afael a’r gofynion yn y canllawiau statudol. Eglurwyd fod y canllaw yn
nodi'r angen i gynnwys eraill yn weithredol yng ngwaith y Cyd-bwyllgor ar draws
swyddogaethau. Amlygwyd fod trafodaeth am sedd a phleidlais i’r sefydliadau
Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ond nodwyd yr angen i greu proses fydd yn mynd
i’r afael a hyn. Eglurwyd mai cam
cyntaf yn y daith yw’r adroddiad hwn er mwyn cael cynllun pendant, ond nodwyd
yr angen i barchu democratiaeth ond fod model ymarferol yn ei le er mwyn gwneud
y gwaith. |
|
DIWEDDARIAD RHAGLEN WEITHREDU ÔL-DROSGLWYDDO'R CBC 2025-26 Iwan Evans, Swyddog Monitro a David Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu’r CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ôl drosglwyddo ar ddatblygiad y prosiect a pharhad cynnydd y rhaglen weithredu i gefnogi sefydliad parhau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro a
David Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu’r CBC. PENDERFYNWYD: Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn diweddaru’r Aelodau ar
ôl drosglwyddo ar ddatblygiad y prosiect a pharhad cynnydd y rhaglen weithredu
i gefnogi sefydliad parhau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad
ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn dilyn trosglwyddo ar 1 Ebrill 2025. Amlygwyd
fod rhaglen o newid a gwelliant yn seiliedig ar flaenoriaethau a rhai ffactorau
cyfyngol ar gyfer y flwyddyn. Mynegwyd fod angen rhagor o waith ar gyfer newid
sydd heb ei ddatblygu eto yn y blynyddoedd dilynol. Nodwyd fod gwaith penodol ar gyfer prosiectau ac i ddatblygu
dealltwriaeth y cyhoedd o waith y CBC. Diolchwyd am y diweddariad a nodi’r
angen i dderbyn diweddariad ym mis Medi, gan fod angen i waith parhau dros
fisoedd yr haf. |
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth
Gweithrediadau a Iain Taylor, AMION Consulting. PENDERFYNWYD: Cytunwyd i: ·
Dderbyn yr adroddiad diweddaru ·
Adolygu’r trefniadau amlinellol arfaethedig
ar gyfer Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn cynghori ar y
cynnig ·
Adolygu’r Fframwaith Dirprwyo a Phenderfyniad
arfaethedig a chynghori ar y cynnig ·
Derbyn adroddiad pellach gyda chynigion manwl
yn dilyn y Gweithdy Rhyng-Awdurdod ·
Gyflwyno adroddiad pellach os oes oediad yn
un o’r cerrig milltir lefel uchel ar gyfer blwyddyn 1. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad
ac yn amlygu’r fframwaith ac yr amserlen ar gyfer y dyfodol. Amlygwyd fod y
cynllun wedi cyflwyno Parth 4 yn ôl ym mis Mai, a'u bod yn gobeithio derbyn
adborth ym mis Mehefin, ac y bydd unrhyw newidiadau sylweddol a fydd yn ofynnol
i'r ymyriadau ddod yn ôl i'r CBC I'w cytuno. Eglurwyd fod y tîm yn paratoi Porth 5 I'w gyflwyno, gyda’r
elfennau allweddol yn cynnwys cerrig milltir Parth Buddsoddi, Rhaglen y Parth
Buddsoddi a Chofrestr Risg Parth Buddsoddi. Tynnwyd sylw at y tabl cerrig
milltir allweddol sydd yn amlygu dyddiadau hyd at ddiwedd Rhagfyr. Wrth symud ymlaen, amlygwyd fod gan y cynllun gyllideb o
£10m, a byddant yn cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru I'w
wario. Nodwyd yr angen i sefydlu’r Bwrdd Cynghori, fel y nodwyd yn Mhorth 3.
Nodwyd fod Bwrdd Cynghori dros dro yn ei le ar gyfer y cyfnod interim ac
amlygwyd yr angen i greu is-fwrdd sgiliau yn ychwanegol, ac ei fod yn y broses
o gael ei brosesu. Eglurwyd yn dilyn Galwad am Brosiectau 2024, fod ystod eang
o gynlluniau buddsoddi posib a galw sylweddol am raglen cymorth wedi ei
hadnabod. Eglurwyd fod y broses cyfle buddsoddi wedi adnabod yr angen i
fuddsoddi mewn seilwaith angenrheidiol i ddatgloi’r safleoedd datblygu mwyaf.
Nodwyd y bydd angen i symud yn gyflym. Eglurwyd fod achos busnes wedi'i dderbyn
ar gyfer Project Prince gan Knauf Insulation
ac mae Cynllun Prosiect Amlinellol wedi'i dderbyn gan Pochin/Goodman
ar gyfer eu tir yn Airfields, Glannau Dyfrdwy.
Mynegwyd fod Airbus yn datblygu'r achos dros y
Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch wrth ymyl eu campws yng Nglannau Dyfrdwy. Esboniwyd fod gweithdy rhwng y CBC a Chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd Mehefin, er mwyn gweithio drwy’r manylion sy’n ymwneud a sut y gwneir penderfyniadau a sut y bydd rhaglen yn gweithredu dan ddirprwyaethau gan y CBC. Nodwyd fod yr egwyddorion allweddol yn cynnwys fod y CBC yn dirprwyo gweithrediad cyfrifoldeb y Corff Atebol I'r Is-bwyllgor Lles Economaidd, a bod yr is-bwyllgor yn dyrannu adnoddau i gefnogi, i reoli’r broses sicrwydd ar gyfer holl brosiectau sydd uwchlaw cais grant o £5m. Mynegwyd fod goblygiadau yn ymwneud a gweinyddu £160m o Gyllid Grant Hyblyg a dyraniadau ar gyfer Rhyddhad Trethu, yn enwedig Rhyddhad Ardrethu Busnes. Eglurwyd y bydd trefniadau ariannol manwl fel y’u nodir yn y Llythyr Cyllid Grant, y Memorandwm gyda Llywodraeth Cymru a’r DU ynghyd a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Leol rhwng y CBC a’r Cynghorau Sir ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF BUEGC AR GYFER 2024/25 Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC)
a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu y sefyllfa alldro terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid
(Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r
adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu'r sefyllfa
alldro terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r
Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) ar gyfer refeniw a chyfalaf yn
2024/25. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro for
yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd, ond yn ei
gyflwyno er cymeradwyaeth. Ategwyd eu bod yn anelu i gyflwyno mewn ffurf
datganiad o gyfrifon drafft ym mis Gorffennaf. Eglurwyd fod y sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y
flwyddyn danwariant o bron i £386k, a'i fod yn gynnydd o’r tanwariant a
ragwelwyd yn adolygiad mis Rhagfyr. Nodwyd fod hyn yn bennaf o ganlyniad i
ostyngiad mewn gwariant ar sawl un o benawdau’r gyllideb. Mynegwyd fod
tanwariant net terfynol ar bennawd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn £75,140,
oherwydd tanwariant ar wariant gweithwyr. Roedd hyn, eglurwyd o ganlyniad i
chwyddiant is ‘na beth oedd wedi ei gyllidebu ynghyd ac estyniad ar grant
Cronfa Ffyniant Cyffredin tan ddiwedd Mawrth 2025. Mynegwyd fod tanwariant o Wasanaethau Cefnogol gan y Corff
Atebol yn bennaf oherwydd tanwariant ar Gymorth y Gwasanaeth Cyllid. Amlygwyd
tanwariant terfynol y Cyd-bwyllgor ac amlygwyd y rhesymau dros danwariant ar
bob pennawd. Nodwyd fod gwariant heb ei gyllidebu o £2.8m ar Drosglwyddiadau i
Gronfeydd wrth Gefn. Amlygwyd fod y Bwrdd yn ôl ym mis Chwefror wedi cymeradwyo
defnyddio'r llog a dderbyniwyd ar Falansau Bargen Twf
o 2024-26 i ariannu rolau ychwanegol a chostau datblygu ychwanegol, ac i gadw
adnoddau cyfredol y Swyddfa Rheoli Portffolio am 2 flynedd ychwanegol tu hwnt i
fis Mawrth 2026. O ran y prif ffrydiau incwm, amlygwyd ei fod yn cynnwys
cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw grant Bargen Twf Gogledd Cymru,
cyfraniad y CBC ar gyfer secondiad staff, grant ynni Llywodraeth Cymru, Cronfa
Ffyniant Cyffredin y DU a'r gronfa wrth gefn wedi'i glustnodi. Nodwyd fod y
sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn yw tanwariant o bron i
£386k ac mae hyn yn gynnydd o beth y rhagwelwyd. Eglurwyd er mwyn gadael
sefyllfa niwtral am y flwyddyn, nodwyd y byddan yn tynnu £714k i lawr o Grant Bargen
Twf Gogledd Cymru yn hytrach nac y £1.1m oedd wedi ei nodi. Wrth amlygu y cronfeydd wrth gefn nodwyd fod cyfanswm y
gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2025 yn £211k. Bu i’r Bwrdd, yn ei gyfarfod ym
mis Chwefror ddefnyddio £61k o’r gronfa wrth gefn hon fel rhan o gyllideb
2025-26. Mynegwyd fod balans y gronfa
prosiectau yn £29k, ac eglurwyd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu
costau prosiect Ynni lleol. Amlygwyd fod balans y gronfa log yn £4.7m ac y
gronfa adnoddau yn £2.8m. Nodwyd fod adolygiad diwedd blwyddyn y rhaglen Gyfalaf yn
dangos gostyngiad net o £13.3m, a bod hyn o ganlyniad i lithro pedwar prosiect
ynghyd a chael gwared ar brosiect arall. Eglurwyd fod dechrau ar brosiectau yn
ystod y flwyddyn wedi dwyn rhywfaint o’u gwariant proffil ymlaen. Eglurwyd fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU 2024/25 Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi’r sefyllfa derfynol
ar gyfer 2024/25 i'r Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) a chael cymeradwyaeth y
Ffurflen Flynyddol swyddogol ar gyfer 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid
(Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r
adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi’r sefyllfa
derfynol ar gyfer 2024/25 i'r Cydbwyllgor Corfforedig (CBC) a chael
cymeradwyaeth y Ffurflen Flynyddol swyddogol ar gyfer 2024/25. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi gan fod trosiant y
Cyd-bwyllgor yn is ‘na £2.5m, mai ffurflen flynyddol yn hytrach na datganiad
cyfrifon llawr fydd ei angen er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol. Mynegwyd fod y sefyllfa alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn
yn danwariant o bron i £402k, ac eglurwyd fod hyn wedi cynyddu o beth ragwelwyd
yn adolygiad mis Rhagfyr. Nodwyd fod hyn yn bennaf oherwydd na fydd y gwariant
ar ymgynghorwyr allanol ar gyfer Cynllunio Strategol yn cychwyn nes 2025/26. Tywyswyd drwy benawdau’r gyllideb a amlygwyd tanwariant
terfynol o £333,674 ar bennawd Gweithwyr. Nodwyd fod gyllideb lwfans aelodau
lleyg yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bydd y
cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal o 2025/26. Mynegwyd nad oedd cyllideb teithio
a chynhaliaeth wedi ei defnyddio yn ystod y flwyddyn, a bod tanwariant o
£129,140 yn erbyn pennawd cyflenwadau a gwasanaethau. Esboniwyd fod ffioedd
Archwilio Cymru yn dangos yn negyddol, a bod hyn oherwydd bod y ffioedd a gyfrifwyd
yn y blynyddoedd blaenorol yn uwch na’r symiau gwirionedd ac wedi eu gwrthdroi
yn 2024/25. Yn ogystal, roedd ffioedd yn is oherwydd mai Ffurflen Flynyddol yn
hytrach na set lawr o gyfrifon sydd angen eu harchwilio. Amlygwyd fod gwariant
ymgynghorwyr allanol o £222,231 o ariannwyd £180,517 gan Grant Trafnidiaeth
Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod tanwariant ar y costau yswiriant, gan mai polisi
interim oedd yn bodoli gyda’r polisi llawn yn dechrau mis Ebrill 2025. Eglurwyd fod gwariant net, o £195,753. Nodwyd fod gwariant
ar y costau cyfreithiol a democratiaeth yn cynnwys costau cwmni cyfreithiol
allanol yn ogystal ag ymgynghorydd cyfreithiol a democrataidd a gomisiynwyd i
ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar sefydlu’r CBC. Mynegwyd fod y CBC yn llwyddiannus yn ei gais i Lywodraeth
Cymru am gyllid tuag at y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, a dyfarnwyd £125k yn
2023/24 a £100k yn 2024/25. Derbyniwyd llog a dderbyniwyd ar falasnau ar gyfer 2024/25 oedd £57,723. Eglurwyd fod
cyfraniad o’r gronfa wrth gefn o £83k sy’n ymwneud â’r costau'r Parth Buddsoddi
yn cael eu had-dalu unwaith y bydd yr incwm grant yn cael ei gymeradwyo gan
Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor nodi a derbyn y gwir wariant ac
incwm ar gyfer 2024/25, ac i gymeradwyo’r tanwariant o £402k i’r gronfa wrth
gefn wedi’i glustnodi i roi cyfanswm o £1,113k. Ychwanegwyd fod £565k o hwn
wedi ei gymeradwyo i’w ddefnyddio fel rhan o gyllideb 2025/26. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid
(Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r
adroddiad. PENDERFYNWYD: Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu Datganiad
Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod penderfyniadau
rheolaeth trysorlys yn cael ei wneud yn ddyddiol, ac mae’n ofynnol i’r Adran
Gyllid yng Nghyngor Gwynedd weithredu yn unol â’r Strategaeth Rheolaeth
Trysorlys sydd wedi ei gymeradwyo. Bu i drosglwyddiad y Bwrdd Uchelgais i’r CBC
ddigwydd ar 1 Ebrill 2025, ac felly mae’r datganiad yn cynnwys balansau arian y CBC a BUEGC. Eglurwyd fod y datganiad wedi ei seilio ar Côd CIPFA a’r Canllaw ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol gan
Lywodraeth Cymru, ac felly yn cyflawni cyfrifoldeb cyfreithiol y CBC dan Ddeddf
Llywodraeth Leol 2003. Esboniwyd fod rheolaeth trysorlys yn ymwneud â chadw
digonedd ond nid gormodedd o arian parod i ddiwallu anghenion gwariant y CBC,
gan reoli risgiau cysylltiedig â tharo’r cydbwysedd cywir rhwng risg ac
enillion. Mynegwyd er mwyn ffurfio’r Strategaeth yma, eglurwyd fod yr adran
wedi derbyn cyngor arbenigol gan ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys, Arlingclose. Eglurwyd fod y buddsoddiadau yn gyson gyda
math o fuddsoddiadau mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud, a bod cyfyngiadau yn y swm
a ganiateir ar gyfer pob sefydliad er mwyn lledaenu’r risg. |
|
Eurig Huw Williams, HR Service Manager
to present the report. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd Datganiad Polisi Tal ar gyfer y Cyd-Bwyllgor ar
gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen, Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cyngor Gwynedd. PENDERFYNWYD: Mabwysiadwyd Datganiad Polisi Tal ar gyfer y Cydbwyllgor
ar gyfer 2025/26. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen mabwysiadu
Datganiad Polisi Tal ar gyfer 2025/26. Eglurwyd fod y polisi yn cael ei adolygu
yn flynyddol, a'i fod yn debyg iawn i beth a gytunwyd arno'r
llynedd. Amlygwyd fod y polisi eleni yn nodi cyflog y Prif Weithredwr. |