Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan: ·
Cynghorydd Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint)
gyda Cynghorydd Paul Johnson yn dirprwyo ·
Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) ·
Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
gyda Matt Georgiou yn dirprwyo ·
Nia Medi Williams (Rheolwr Gweithrediadau ac
Adnoddau – Uchelgais Gogledd Cymru) ·
Adam Graham (Uwch Swyddog Trafnidiaeth –
Uchelgais Gogledd Cymru) ·
Andy Roberts (Swyddog Cynllunio Datblygu
Strategol Rhanbarthol) |
|
|
ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2026/27 I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/27. Penderfyniad: Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn Gadeirydd y
Cydbwyllgor ar gyfer 2026/27. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd
y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2026/27. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2026/27. Penderfyniad: Bu i Cyng. Jason McLellan gael ei ethol yn Is-gadeirydd y
Cydbwyllgor ar gyfer 2026/27. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Jason McLellan yn
Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2026/27. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Mawrth, 2026 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol a
gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2026 fel rhai cywir. |
|
|
RHAGLEN CYFARFODYDD AR GYFER 2026/27 Mark Watkins, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Cymeradwywyd a mabwysiadu y calendr drafft ar gyfer 2026/27. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen cyfarfodydd ar gyfer 2026/27, gan amlygu
dyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd arfaethedig ar gyfer y CBC a’i
Is-bwyllgorau. Manylwyd bod y rhaglen yn cefnogi gwneud penderfyniadau,
tryloywder, a chydymffurfiaeth, ac yn caniatáu i gynllunio gwaith o flaen llaw. |
|
|
CYNLLUNIO CORFFORAETHOL Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn cael gwell
dealltwriaeth gan Lywodraeth newydd Cymru am eu barn yn cefnogi’r model yma o
ariannu Cronfa Twf Lleol. Gofynnwyd am adroddiad yn ôl i’r cyfarfod nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan nodi mai ei bwrpas yw rhoi
fframwaith glir mewn trefn ar gyfer sut y bydd y CBC yn gweithredu,
blaenoriaethu ei adnoddau, a dangos atebolrwydd wrth symud ymlaen i’r cam nesaf
o gyflawni rhanbarthol. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bwriad i’r
Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru gymryd cyfrifoldeb rhanbarthol am
reoli’r Gronfa Twf Lleol o 2027/28. Nodwyd
bod Lywodraeth Cymru wedi darparu £200,000 i Uchelgais Gogledd Cymru i gynhyrchu’r
Cynllun Twf Rhanbarthol gan gynnwys y paratoadau cysylltiedig i’w weithredu o
fis Ebrill 2027 ymlaen. Hysbyswyd bod Uchelgais Gogledd Cymru wedi nodi’r angen am
Gynllun Corfforaethol, a fydd yn nodi’r weledigaeth, y blaenoriaethau a’r camau
gweithredu, yn ogystal â darparu’r sail i weithio ar y cyd â’r rhanbarth.
Adroddwyd bod Datganiad Gweledigaeth a Datganiad Llesiant ac Amcanion hefyd
wedi’u creuynghyd â Chynllun Twf Rhanbarthol deng
mlynedd fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd pryder ynghylch yr amserlenni tynn wrth gyflawni’r
cynnig i ddangos bod gwaith wedi dechrau ar greu cynllun deng mlynedd erbyn mis
Ebrill 2027. Cadarnhawyd bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru
ynghylch yr amserlenni, o ystyried y bydd gwahanol gydrannau’r Cynllun yn
cymryd amser. Pwysleisiwyd bod ymgysylltu â’r awdurdodau lleol, partneriaid, a
chymunedau yn holl bwysig i sicrhau bod y Cynllun Twf Rhanbarthol yn
adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau yng ngogledd Cymru. Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru angen cynllun pontio sy’n
nodi sut y bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn newid o’r trefniadau presennol, lle
mae Cyngor Gwynedd yn cyflawni blwyddyn 1 a cychwyn blwyddyn 2, i’r CBC cymryd
cyfrifoldeb am gyflawni blwyddyn 3. Esboniwyd fod Uchelgais Gogledd Cymru yn
aros am ganllawiau ffurfiol i’w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ond eu bod yn
hyderus y byddent yn gallu bodloni’r gofynion a nodir. Bydd cynnydd yn cael ei
adrodd yn rheolaidd i’r CBC, yn enwedig os bydd unrhyw oedi neu heriau’n codi. Nodwyd bod rhai Aelodau’n anghytuno â phenderfyniad
Llywodraeth Cymru i gyfeirio cyllid ar gyfer y Gronfa Twf Lleol drwy’r CBC, yn
enwedig gan fod diffyg mewnbwn gan awdurdodau lleol i’r penderfyniad hwn. Fodd
bynnag, nodwyd nad oedd y gwrthwynebiad hwn yn adlewyrchiad negyddol o’r CBC
ond yn hytrach yn wrthwynebiad i benderfyniad y Llywodraeth. Gofynnwyd faint mwy o arian cyhoeddus fyddai ei angen i ariannu
trawsnewid y CBC i gymryd cyfrifoldeb am reoli’r Gronfa Twf Lleol. Cadarnhawyd
bod y strwythurau ar gyfer y SPF yn ei le yng Nghwynedd
ac felly yn parhau ar gyfer blwyddyn 1. Pwysleisiwyd y byddai grant Llywodraeth
Cymru o £200,000 yn cael ei ddefnyddio i sefydlu’r strwythurau a’r adnoddau ar
gyfer blwyddyn 2 a 3. Gofynnwyd am eglurhad ar gyfer yr £65,000 a gynigiwyd i gomisiynu partner strategol i gyd-ddatblygu
dogfennau. Eglurwyd bod y ffigyrau a nodir yn gynnig o sut gellir gwario’r
grant. Cadarnhawyd nad oes unrhyw waith wedi ei gomisiynu nac wedi dechrau eto
ac y byddai Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol
a phartneriaid er budd y rhanbarth. Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch capasiti rheoli prosiectau yn Uchelgais Gogledd Cymru. Eglurwyd nad oes digon ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU'R GYMRAEG Nia Medi Williams, Rheolwr Adnoddau a Gweithrediadau a Nia
Llwyd Lewis, Rheolwr Gwasanaeth y Gymraeg a Chyfieithu i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg i’w gyhoeddi. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan amlygu mai pwrpas yr adroddiad
yw dangos i ba raddau y cydymffurfiodd Uchelgais Gogledd Cymru â Safonau’r
Iaith Gymraeg rhwng y cyfnod 28 Chwefror 2025 a 31 Mawrth 2026. Eglurwyd bod yr
holl gamau a gymerwyd yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Darparwyd y cyd-destun, gan esbonio bod Uchelgais Gogledd
Cymru wedi comisiynu’r gwaith ac wedi cydweithio â swyddogion o’r Tîm Iaith a
Chyfieithu yng Nghyngor Conwy i gwblhau’r adroddiad. Diolchwyd i’r tîm am eu
cefnogaeth. Cadarnhawyd bod Uchelgais Gogledd Cymru yn sefydliad
dwyieithog balch ac eisoes yn gweithredu nifer fawr o safonau’r Gymraeg. Amlygwyd nad oedd unhryw
gwynion wedi’u derbyn gan y cyhoedd na ymchwiliadau gan Gomisiynydd y Gymraeg
dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod yr holl ddeunydd ar wefan Uchelgais Gogledd
Cymru ar gael yn ddwyieithog. Adroddwyd ar ddatblygiad cefnogi sgiliau iaith Gymraeg staff
Uchelgais Gogledd Cymru. Eglurwyd bod sgiliau iaith Gymraeg wedi’u mesur a’u
cofnodi am y tro cyntaf, gan ddefnyddio CEFR (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin
Ewrop ar gyfer Ieithoedd). Adroddwyd bod 54% o staff Uchelgais Gogledd Cymru yn
gallu siarad Cymraeg, 40% o’r staff yn dysgu Cymraeg, a bod dim ond 2 aelod o
staff heb unrhyw sgiliau Cymraeg. Cadarnhawyd fod staff yn cael eu hannog i
ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt, boed yn y Swyddfa neu mewn
cyfarfodydd. Diolchwyd i’r swyddogion am yr adroddiad, a phwysleisiwyd
pwysigrwydd parhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. |
|
|
POLISI CANMOLIAETHAU, SYLWADAU A CHWYNION Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriwyd y Polisi Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion drafft
a chymeradwyo ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan nodi ei bod yn bwysig bod dull
clir a chyson ar gyfer derbyn, rheoli a dysgu o unrhyw gwynion neu adborth yn
ei le, yn arbennig wrth i’r CBC barhau i ddatblygu ei threfniadau
llywodraethu.. Adroddwyd bod y polisi’n nodi sut y bydd canmoliaeth,
sylwadau, a chwynion yn cael eu trin. Eglurwyd bod y polisi yn cadarnhau
trefniadau datrysiad anffurfiol, ymchwiliad ffurfiol, amserlenni ar gyfer
ymateb, trefniadau uwch-gyfeirio, a sut y bydd gwersi i’w dysgu’n cael eu casglu
a chofnodi i gefnogi’r gwasanaeth. Yn ogystal, nodwyd bydd y polisi hefyd yn
helpu i leihau’r risg o: drin cwynion yn anghyson; cadw cofnodion gwael; osgoi
uwch-gyfeirio i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a difetha enw da.
Eglurwyd bod y polisi’n cefnogi tryloywder, atebolrwydd a gwelliant parhaus, ac
mae hefyd yn cyd-fynd ag egwyddorion gweinyddiaeth dda. Nodwyd fod y polisi wedi’i ystyried gan yr Is-bwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio'r CBC yn ei gyfarfod ar 4ydd Mehefin, lle cafodd ei gefnogi
a’i argymell i’w fabwysiadu gan y CBC. Amlygwyd bod dau bwynt wedi’u codi, sef
yr angen am gofnod rheoli dogfennau ar wahân ar gyfer y ffurflen adborth, a
chreu mewnflwch Cymraeg a Saesneg pwrpasol ar gyfer derbyn adborth drwy e-bost. |
|
|
DATGANIAD POLISI TAL 2026/27 Eleri Jones, Rheolwr Gwasanaeth Ymgynghorol Adnoddau Dynol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd i:
Cofnod: Cyflwynwyd y Datganiad Polisi Tal 2026/27 gan nodi ei bod yn
ddyletswydd statudol ar y CBC fel corff llywodraeth gyhoeddus i gyhoeddi
Datganiad Polisi Tal yn flynyddol. Eglurwyd bod hyn yn arfer da, ac yn sicrhau
bod y CBC yn dryloyw yn eu trefniadau talu ac wrth gyhoeddi amodau gwaith ei
staff. Hysbyswyd yr aelodau fod trafodaethau ynghylch cynnydd
cyflogau prif weithredwyr a’r holl staff eraill yn parhau. Adroddwyd y cytunwyd
i gynyddu cyflog blynyddol y Prif Weithredwr 3.2% ym mis Gorffennaf 2025, ac yn
ddiweddarach yn yr haf cytunwyd ar gynnydd o 3.2% i weddill y staff. Adroddwyd ymhellach fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
wedi cytuno ar gynnydd o 3.3% i gyflogau Prif Weithredwyr ar gyfer 2026/27, ond
eu bod yn disgwyl cadarnhad ar lefel y cynnydd i’r gweddill y staff. Eglurwyd fod cytundeb i bwynt 2 ar y strwythur cyflogau gael
ei ddileu, yn weithredol o 1 Ebrill 2026. Cydnabuwyd y byddai angen diweddaru’r Polisi Teithio, i
adlewyrchu’r addasiad diweddar gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC), lle
cynyddwyd y gyfradd i 55 ceiniog y filltir. Tynnwyd sylw bod y Polisi’n pwysleisio’r angen i ddenu a
chadw staff, gan sicrhau bod y CBC yn parhau i fod yn gystadleuol gyda’i
gyflogau. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y Polisi Tal yn
cynnwys holl staff y CBC a’i Is-bwyllgorau. Gofynnwyd a oedd angen mwy o fanylion ynghylch y graddau
cyflog a’r strwythurau cyflog, ac a fyddai’r lefel bresennol o fanylion a
adlewyrchir yn y Datganiad Polisi Tal yn cael ei derbyn gan Is-bwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio'r CBC. Eglurwyd mai man cychwyn yw’r drafft
presennol, a’i bod yn bosibl ychwanegu mwy o wybodaeth ynghylch graddau cyflog
a strwythurau cyflog wrth i’r Polisi
ddatblygu. Cadarnhawyd y byddai’r wybodaeth
yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y CBC. |
|
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF 2025/26 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Staff y CBC dros y tair blynedd diwethaf ar
cynlluniau wrth symud ymlaen, 2.
Darparu dadansoddiad o’r tanwariant ar defnydd o
gronfeydd wrth gefn dros y blynyddoedd nesaf ynghyd á chanran angenrheidiol y
cronfeydd wrth gefn 3.
Ac unrhyw oblygiadau ariannol o oedi’r ardoll ar
gyfer 2027-28. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan fanylu ar sefyllfa alldro
refeniw a chyfalaf y CBC ar gyfer 2025/26. Esboniwyd bod cyfanswm y sefyllfa alldro net ar gyfer yr
elfennau Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chorfforaethol eu natur wedi
tanwario £1.067 miliwn. Ymhelaethwyd bod £600 mil o’r tanwariant yma’n deillio
o grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Manylwyd ar sefyllfa alldro y Cynllun Twf fesul pennawd
gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn, gan nodi bod
cyfanswm y tanwariant yn £543mil gyda’r prif danwariant o dan y pennawd
‘gweithwyr’. Ychwanegwyd bod cronfa llog o £5m wedi’i neilltuo i ariannu
costau benthyca yn y blynyddoedd i ddod a hynny wrth i’r gwariant ar y
cynlluniau cyfalaf gychwyn cyn derbyn arian grant gan y Llywodraeth. Eglurwyd
bod balans y gronfa adnoddau ar 31 Mawrth 2026 yn £4.4m, ac mae bron i filiwn
o’r gronfa yma wedi ei chlustnodi i’w defnyddio yng nghyllideb 2026/27. Cyflwynwyd adolygiad diwedd blwyddyn rhaglen gyfalaf y
Cynllun Twf ar gyfer 2025/26 ac yna proffil gwariant o 2026/27 ymlaen. Amlygwyd
bod cyfanswm o £30.64 miliwn o wariant wedi ei wneud ar y Cynllun Twf erbyn
diwedd 2025/26. Nodwyd gostyngiad net o £14.28m yn y gwariant ar gyfer 2025/26
o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd yn Chwefror 2025 oherwydd fod
prosiectau wedi llithro. Adroddwyd ar wariant ac incwm gwirioneddol y Parth
Buddsoddi, gan nodi sefyllfa alldro niwtral ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod sefyllfa
ariannol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol hefyd yn dangos sefyllfa niwtral am
y flwyddyn, gyda’r gwariant o £290 mil yn cael ei ariannu gan grant Llywodraeth
Cymru. Mynegwyd pryder ynghylch rhoi dros £1 miliwn i’r cronfeydd
wrth gefn tra bod awdurdodau lleol mewn
sefyllfaoedd ariannol mor ddifrifol a’r angen cyson i gyfiawnhau gwariant arian
cyhoeddus. Holwyd os oes modd i’r awdurdodau lleol oedi’r ardoll ar
gyfer 2027/28, a fyddai’n dal i adael £700,000 yn y cronfeydd wrth gefn.
Mynegwyd y byddai unrhyw gynnig yn cael ei ystyried gan y CBC, ond na fyddai
modd darparu unrhyw gyngor ariannol heb gael cyfle i gasglu’r wybodaeth a
chostau perthnasol. Esboniwyd na fydd pob cynnig yn bosib i’w ariannu ond y
buasai cymryd seibiant o godi ardoll yn 2027/28 yn fater difrifol a fyddai’n
debygol o arwain at risg ariannol i’r CBC. Amlygwyd y byddai’r cynllun ariannol tymor canolig yn cael
ei gynhyrchu dros yr haf, gyda’r gyllideb yn dod i rym yn dilyn ei chymeradwyaeth
gan y CBC ym mis Medi 2026. Cadarnhawyd y byddai cyfran o’r cronfeydd wrth gefn
yn cael eu defnyddio i gadw’r ardoll mor isel â phosibl ar gyfer 2026/27. Nodwyd pryder am lefel uchel o gronfeydd wrth gefn,
tanwariant posib yn y dyfodol, ac y ffaith nad oes gan y CBC bolisi cronfeydd
wrth gefn. Cadarnhawyd y gellir datblygu polisi a fyddai’n amlinellu lefel y
cronfeydd wrth gefn a ystyrir yn dderbyniol. Cydnabuwyd bod lefel bresennol y cronfeydd
wrth gefn yn uwch na’r hyn a argymhellir er yr eglurwyd y dylid gostwng lefel y
cronfeydd wrth gefn yn systematig. Pwysleisiwyd bod £600mil o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan amlygu mai pwrpas yr adroddiad
yw darparu trosolwg o’r gweithgareddau rheolaeth trysorlys y CBC yn ystod y
flwyddyn ariannol 2025/26. Ategwyd fod £1.9m o log ar fuddsoddiadau o’r arian
cyfalaf wedi ei dderbyn. Cadarnhawyd bod y CBC mewn sefyllfa gryf o 31 Mawrth 2026,
gyda buddsoddiadau gwerth £56.4 miliwn. Eglurwyd mai arian cyfalaf o’r Cynllun
Twf a’r Parth Buddsoddi nad yw wedi’i wario eto yw hwn yn bennaf. Pwysleisiwyd mai pwrpas Rheolaeth Trysorlys yw gwneud y defnydd
gorau o’r balansau sydd angen eu buddsoddi, nes bod
angen yr arian ym mhwrs busnes y CBC. Eglurwyd bod y CBC yn buddsoddi mewn
banciau, cymdeithasau adeiladau, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian,
a’r swyddfa rheoli taliedion. Nodwyd mai blaenoriaeth
y buddsoddiadau hyn yw diogelwch, ac yna hylifedd a thwf. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod rhannau o naratif yr
Adroddiad Alldro Rheoli’r Trysorlys wedi’i ysgrifennu gan Arlingclose.
Cadarnhawyd ymhellach fod gan y CBC gytundeb gydag Arlingclose
bellach, sydd ar wahân i gytundeb Arlingclose gyda
Chyngor Gwynedd. Gofynnwyd am sicrwydd ynghylch pa fanciau, cronfeydd
marchnad arian, ac awdurdodau lleol y mae’r CBC yn buddsoddi ynddynt ac a yw eu
polisïau buddsoddi moesegol yn cydymffurfio ag ethos a gwerthoedd y CBC a’r
chwe awdurdod lleol. Eglurwyd bod yr holl fanciau y mae’r CBC yn buddsoddi
ynddynt wedi’u rhestru yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys pan gafodd ei
fabwysiadu gan y CBC yn 2025. Darparwyd sicrwydd nad yw’r CBC yn buddsoddi mewn unrhyw
sefydliad nad yw’n rhannu ei foeseg a gwerthoedd, a bydd yn ystyried unrhyw
bryderon a wneir gan aelodau. Cadarnhawyd y byddai’n synhwyrol i’r CBC gael
Strategaeth Buddsoddi Moesegol, a gallai’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio y CBC wthio’r gwaith yma ymlaen. Cadarnhawyd y byddai rhestr o’r banciau, cronfeydd marchnad
arian, ac awdurdodau lleol a gwmpesir o fewn y Strategaeth Rheoli Trysorlys yn
cael eu cynnwys mewn unrhyw ddiweddariad, er mwyn sicrhau tryloywder a
didwylledd. Cadarnhawyd ymhellach y bydd y diweddariadau hyn hefyd yn cael eu
cyflwyno’n rheolaidd i’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y CBC. |