Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 143 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2025 fel rhai cywir.

5.

TROSGLWYDDO'R BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD A'R CYNLLUN TWF I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 394 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cytuno i ymrwymo i Gytundeb Cyflawni ac Ariannu ble trosglwyddir rôl corff Cyfrifol, cyfrifoldeb am gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r trefniadau ariannu ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i amnewid ac aseinio yn ôl yr angen, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r hawliau a’r rhwymedigaethau ym mhob cytundeb ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i drosglwyddo, amnewid ac/neu aseinio’r holl fuddiannau ym mhortffolio prosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i drosglwyddo a/neu aseinio’r holl falansau ariannol, arian sy’n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu’r cytundebau, gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol terfynol eraill sy’n angenrheidiol i weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 uchod erbyn neu cyn 31 Mawrth, 2025.

 

  1. Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy’n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddiadol a’r 4 parti Addysg.

 

6.

IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD pdf eicon PDF 313 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cymeradwyo penodi cynrychiolwyr o bob sefydliad partner yn Aelodau cyfetholedig (heb bleidlais) i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

 

  1. Cadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd fel y nodir yn y tabl isod:

Text Box
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7.

BWRDD BUSNES YMGYNGHOROL AC YMGYNGHORWYR ANWEITHREDOL pdf eicon PDF 214 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl a’r broses benodi ar gyfer sefydlu Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd ar ôl trosglwyddo’r Cynllun Twf a dirprwyo’r broses weithredu i’r Prif Weithredwr Dros Dro.

 

  1. Cymeradwyo’r disgrifiad rôl ar gyfer y ddwy swydd Ymgynghorydd Anweithredol newydd ac awdurdodi’r Prif Weithredwr Dros Dro i gymryd pob cam angenrheidiol i gaffael ymgeiswyr i’w hargymell i’w penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

  1. Dirprwyo i’r Prif Weithredwr Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yr awdurdod i wneud unrhyw fân newidiadau i’r Cylch Gorchwyl a disgrifiadau rôl mewn ymateb i unrhyw adborth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a’r DU cyn ei weithredu.

 

8.

RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT pdf eicon PDF 187 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Mabwysiadu’r newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contract a bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

 

  1. Dirprwyo i’r Swyddog Monitro y pŵer i wneud y mân addasiadau canlynol i’r Cyfansoddiad:
    1. Diwygiadau cyfreithiol neu dechnegol nad ydynt yn effeithio’n sylweddol ar y Cyfansoddiad.
    2. Newidiadau y mae’n ofynnol eu gwneud i gael gwared ag unrhyw anghysondeb, amwysedd neu wall teipograffeg
    3. Geiriad er mwyn i unrhyw benderfyniad gan Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd neu ei is-bwyllgorau neu swyddog sy’n arfer pwerau dirprwyedig ddod i rym.
    4. Newidiadau sy’n ofynnol i adlewyrchu unrhyw newidiadau i deitlau swyddi neu rôl

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau busnes cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a  chytuno trefniadau penodi gan gynnwys manylion swydd a amodau a thelerau cyflog  fydd yn destun proses recriwtio gystadleuol.  Nodaf hefyd y bydd y wybodaeth a gytunir yn cael ei gyhoeddi fel rhan o broses benodi agored. Gall cyhoeddi gwybodaeth drafft yma yn gynamserol danseilio y broses recriwtio.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

10.

PENODI PRIF WEITHREDWR AR GYFER Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG

Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  

 

  1. Cytuno i sefydlu swydd Prif Weithredwr ar sail llawn amser parhaol ar gyflog blynyddol o hyd at £125,000.

 

  1. Awdurdodi cychwyn proses recriwtio i benodi Prif Weithredwr.

 

3.     Mai Cymraeg yn ‘ddymunol’, gan sicrhau ymrwymiad gan yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu’r iaith (os nad yw eisoes yn medru’r Gymraeg)  fydd dynodiad iaith y swydd o fewn y Manylion Person .

 

  1. Cadarnhau bod y trefniadau dros-dro presennol yng nghyswllt cyflawni swyddogaethau Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Cyfarwyddwr Portffolio y Cynllun Twf yn cael eu hymestyn hyd nes bod Prif Weithredwr parhaol yn gallu ymgymryd a’i g/chyfrifoldebau.

 

  1. Cadarnhau bod cynnal y broses recriwtio, gan gynnwys yr hysbysebu, yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr arweiniol, mewn ymgynghoriaeth gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.