Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 131 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2024 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR SEFYDLU'R CBC A MODEL LLYWODRAETHU ARFAETHEDIG PDF 385 KB Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Iwan Evans (Swyddog Monitro) i
gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Derbyn y diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud i baratoi ar gyfer
trosglwyddiad arfaethedig y Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC. 2.
Cefnogi'r
strwythur llywodraethu fel sail ar gyfer trafodaeth gyda phartneriaid hyd nes
ceir adroddiad pellach yn ddarostyngedig i addasu aelodaeth etholedig yr Is
Bwyllgor Llesiant Economaidd arfaethedig
i gynrychiolaeth Arweinyddion Cynghorau. |
|
DIWEDDARIADAU CYFANSODDIADOL PDF 217 KB Iwan Evans
(Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Mabwysiadu: i) Adrannau 1 -
3 ii) y cynllun
dirprwyo iii) rheolau
gweithdrefnol ariannol 2. Dirprwyo i'r
Swyddog Monitro'r pŵer i wneud y mân addasiadau a ganlyn i'r Cyfansoddiad:
(a) diwygiadau cyfreithiol neu
dechnegol nad ydynt yn effeithio o bwys ar y Cyfansoddiad; (b) newidiadau sy'n ofynnol
i'w gwneud er mwyn dileu unrhyw anghysondeb, amwysedd neu wall teipograffeg; (c) geiriad er mwyn rhoi ar
waith unrhyw benderfyniad gan y CBC neu ei is-bwyllgorau neu swyddog yn
defnyddio pwerau dirprwyedig; (d) newidiadau sy'n ofynnol i
adlewyrchu unrhyw newid i deitl unrhyw swydd neu rôl. |
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM PDF 231 KB Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i
gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau i gydweithio â Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid lleol
i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf drafft, o dan gyfarwyddyd a
chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth Buddsoddi, Prif Weithredwr
dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) yn cael ei
ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o law. 2.
Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu arfaethedig sy'n gosod
allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau ar gyfer y Parth
Buddsoddi. 3.
Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w chymeradwyo, gan y CBC yn
ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraethau'r DU a
Chymru. |
|
RHAGOLWG O WARIANT 2024/25 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD PDF 199 KB Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid a Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn rhagolwg o
wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024/25 fel y cyflwynir yn Atodiad 1. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: DIWEDDARIAD CYNNYDD AC ARGYMHELLION PDF 212 KB Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi, yn unol â chymeradwyaeth CBC a roddwyd ar 21 Mehefin 2024, mae
Swyddog Monitro'r CBC wedi penodi'r canlynol yn aelodau cyfetholedig o'r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth: ·
Cyng. Goronwy Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) ·
Cyng. Barry Mellor
(Cyngor Sir Ddinbych) ·
Cyng. Dave Hughes (Cyngor Sir y Fflint) ·
Cyng. Dafydd Meurig (Cyngor Gwynedd) ·
Cyng. Dafydd Rhys Thomas (Cyngor Sir Ynys Môn) ·
Cyng. David A Bithell (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) 2.
Nodi'r diweddariad a gynhwysir yn Atodiad 1 sy'n cynnwys copi o'r
drafft: • Datganiad gweledigaeth
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru • Amcanion SMART • Themâu trawsbynciol 3.
Cytuno i gam nesaf y gwaith i ddatblygu'r RTP gael ei arwain gan yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth a bydd yn cynnwys argymhellion ar yr uchod a'r
cydrannau canlynol sy'n ofynnol i ddatblygu'r RTP: ·
Cynllun prosiect manwl (adeiladu ar Gynllun Gweithredu'r RTP) ·
Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig (Asesiadau Statudol) ·
Cynllun Ymgysylltu â Rhan-ddeiliaid ·
Rhestr o bolisïau, rhaglenni a phrosiectau ·
Paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 4.
Cytuno i gynnal cyfarfod cyntaf Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CBC ar 1
Hydref. Bydd amserlen gynhwysfawr a blaengynllun yn cael eu cyflwyno i'r
Is-bwyllgor yn y cyfarfod yma. Mae'r Is-bwyllgor yn gyfrifol am ddatblygu
polisi allweddol a pharatoi'r RTP, sy'n darparu gwasanaeth cludiant strategol
cyd-gysylltiedig ac integredig yng Ngogledd Cymru. Bydd yr Is-bwyllgor yn
adrodd ei argymhellion yn rheolaidd i'r CBC ar: ·
y camau a gymerwyd i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; ·
amserlen a chynnydd tuag at ei gyflwyno i Weinidogion Cymru am
gymeradwyaeth; ·
datblygu polisi sy'n cyd-fynd â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a'r
Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol i'w weithredu gan yr awdurdodau
trafnidiaeth lleol; ·
monitro ac adolygu 'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a swyddogaethau
strategol rhanbarthol eraill, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl. |
|
SAFONAU'R GYMRAEG: HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO PDF 224 KB Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn
Safonau'r Gymraeg sydd wedi'u gosod ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
(CBC) (Atodiad 2 ). 2.
Gofyn i'r Prif Weithredwr dros dro ddatblygu cynnig
sy'n nodi'r opsiynau a'r costau i gomisiynu adnoddau swyddog sydd ei angen ar
gyfer gweithredu, monitro ac adrodd ar safonau'r Gymraeg. |
|
Iwan Evans
(Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Nodi Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). 2. Mabwysiadu cyfradd fesul awr i dalu hawliadau a
gyflwynir gan aelodau lleyg. |