Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

·       Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd)  

·       Y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Môn) gyda’r Cynghorydd Robin Williams yn dirprwyo

·       Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) gyda Linda Roberts yn dirprwyo

  • Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych) gyda Gary Williams yn dirprwyo

·       David Hole (Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Eitem 5: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC am ran olaf o’r adroddiad oedd yn ymwneud ag ymestyn ei secondiad yn y rôl. Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y rhan yma o’r drafodaeth. 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 131 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2024 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD: SWYDDOGAETHAU BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - TROSGLWYDDO I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 214 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio a Phrif Weithredwr Dros Dro y CBC) a Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo'r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy'n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC.

 

Cytuno i dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio at y Cynllun Datblygu Strategol.

 

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda'r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 1 Ebrill, 2025.

 

Cymeradwyo estyniad o’r trefniant dros dro i Gyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd ymgymryd â rôl Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar sail dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos hyd at 31 Mawrth, 2025 neu'r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p'un fydd gyntaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC a Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo'r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy'n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC.

 

Cytuno i dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio at y Cynllun Datblygu Strategol.

 

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda'r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 1 Ebrill, 2025.

 

Cymeradwyo estyniad o’r trefniant dros dro i Gyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd ymgymryd â rôl Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar sail dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos hyd at 31 Mawrth, 2025 neu'r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p'un fydd gyntaf.

 

TRAFODAETH

 

Darparwyd crynodeb o’r adroddiad oedd yn cyflwyno diweddariad pellach ar y cynnydd i sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn y trefniant i’r Cyfarwyddwr Portffolio ymgymryd â rôl y Prif weithredwr Dros Dro am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth 2025 neu’r dyddiad trosglwyddo.

 

Atgoffwyd y Cyd-bwyllgor o’r trefniadau presennol gan amlygu fod swyddogaethau a threfniadau’r Bwrdd Uchelgais wedi eu nodi yn GA2 sy’n cynnwys trefniadau llywodraethu a chefnogaeth ariannol i’r Cynllun Twf. Eglurwyd y bydd y Cynllun Twf a’r trefniadau ariannol yn trosglwyddo i’r Cyd-bywllgor Corfforedig a phwysleisiwyd y pwysigrwydd o gydweithio rhanbarthol er mwyn i bartneriaid gytuno ar drefniadau ar gyfer gweithredu swyddogaethau rhanbarthol fel rhan o sefydlu’r CBC. Cadarnhawyd y bydd model trosglwyddo benodol yn cael ei gytuno fel rhan o’r camau nesaf gyda phartneriaid.

 

Manylwyd ar y materion cyfreithiol allweddol sy’n cael eu datblygu er mwyn gweithredu’r trosglwyddiad fel y nodwyd yn rhan 3.3 o’r adroddiad a cyfeiriwyd at y meysydd ffocws allweddol.

 

Esboniwyd pam nad oedd y dyddiad targed dros dro o’r 1af o Dachwedd a osodwyd ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn gyraeddadwy gan amlygu’r penderfyniadau allweddol sydd angen eu gwneud cyn trosglwyddo. Ymhelaethwyd ar y camau nesaf o ymdrin â threfniadau cyfreithiol, ariannol a llywodraethant i allu trosglwyddo yn llwyddiannus yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at ran 4.6 i 4.8 o’r adroddiad oedd yn crynhoi’r amserlen ddiwygiedig sydd yn cynnig trosglwyddo’r Cynllun Twf erbyn y 1af o Ebrill, 2025 fan bellaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Brif Weithredwr dros dro’r CBC am yr adroddiad cynhwysfawr a gofynnwyd a oes digon o adnoddau ar gael i gyflawni’r gofynion fel sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad erbyn yr amserlen ddiwygiedig. Mewn ymateb nodwyd nad oedd yr holl adnoddau ar gael a bod bylchau yn bodoli, yn benodol yn ymwneud â rhai o’r dyletswyddau strategol; nodwyd nad oedd adnodd wedi ei adnabod ar gyfer symud y gwaith yn ei flaen. Cyfeiriwyd at yr adnoddau sydd wedi eu hadnabod hyd yma oedd yn cynnwys Rheolwr Rhaglen dros dro a Chyfreithiwr i roi cymorth cyfreithiol ychwanegol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - DIWEDDARIAD AR GYNNYDD pdf eicon PDF 564 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Adolygu a cymeradwyo'r Safleoedd Treth a adnabuwyd (Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam) ac Ardaloedd Ardrethi a Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam).

 

Adolygu a cymeradwyo'r Model Llywodraethu gyffredin arfaethedig.

 

Adolygu a cymeradwyo Themâu'r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau a Thrafnidiaeth) a'r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio fel rhan o Borth 4 (Ymyriadau) ac yn ystyried cynnwys 'Cymorth Busnes' fel y pedwerydd thema, sy’n ymdrin â'r bwriad i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn busnesau gweithgynhyrchu uwch gyda chyngor a chyllid grant.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC.

 

PENDERFYNWYD

Adolygu a chymeradwyo'r Safleoedd Treth a adnabuwyd (Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall a Stad Ddiwydiannol Wrecsam) ac Ardaloedd Ardrethi a Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy a Stad Ddiwydiannol Wrecsam).

 

Adolygu a chymeradwyo'r Model Llywodraethu gyffredin arfaethedig.

 

Adolygu a chymeradwyo Themâu'r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau a Thrafnidiaeth) a'r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio fel rhan o Borth 4 (Ymyriadau) ac yn ystyried cynnwys 'Cymorth Busnes' fel y bedwaredd thema, sy’n ymdrin â'r bwriad i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn busnesau gweithgynhyrchu uwch gyda chyngor a chyllid grant.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i sicrhau dynodiad Parth Buddsoddi newydd yn Sir y Fflint a Wrecsam fydd yn canolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch.

 

Croesawyd Iain Taylor, Ymgynghorwr AMION Consulting i’r cyfarfod gan nodi bod Iain yn gweithio ar ddatblygu’r cynnig ar gyfer y parth buddsoddi. Ychwanegwyd bod gan Iain brofiad diweddar a perthnasol iawn o arwain rhanbarth dinas Lerpwl yn llwyddiannus i gyflawni eu parth buddsoddi sy’n seiliedig ar wyddorau bywyd a bod y cysylltiadau sydd gan Iain wedi bod yn amhrisiadwy i’r CBC i’w helpu i ddatblygu cynnig cadarn.

 

Ymhelaethodd yr Ymgynghorwr AMION Consulting ar y cynnydd da sy’n cael ei wneud ar ddatblygiad y cynnig a’u bod wedi dechau cadarnhau’r sail ar gyfer pam eu bod yn meddwl y gall yr ymyriadau hyn arwain at newid sylweddol yn nhwf y sector weithgynhyrchu. Credwyd y bydd hyn yn arwain at allu cyflogi tua 6,000 yn fwy o bobl erbyn diwedd y rhaglen.

 

Cyfeiriwyd at y Safleoedd Treth a adnabuwyd sef Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall a Stad Ddiwydiannol Wrecsam gan gyfeirio at fuddion y safleoedd hyn a’r awydd i symud ymlaen efo’r safleoedd ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor.

 

Amlinellwyd y Strwythur Llywodraeth arfaethedig fel sydd wedi ei nodi yn rhan 7.9 o’r adroddiad gan fanylu ar y bartneriaeth rhwng y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r ddau Gyngor sy’n hanfodol i’r strwythur yn ogystal â gwaith yr is-bwyllgor Lles Economaidd. Cyfeiriwyd at swyddogaethau'r Gweithgor Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn ogystal â Bwrdd Cynghori Cysgodol y Parth Buddsoddi.

 

Manylwyd ar y Themâu Craidd fel sydd wedi eu nodi yn rhan 8.1 o’r adroddiad gan adrodd y bydd y Parth Buddsoddi yn clystyru buddsoddiad ar draws tair thema graidd sef Sgiliau, Arloesedd a Thrafnidiaeth. Cynigir datblygu pedwaredd thema sef Cymorth Busnes i ddarparu sylfaen thematig ar gyfer cyngor a chymorth grant i gyd-fuddsoddi mewn busnesau gweithgynhyrchu uwch yn Sir y Fflint a Wrecsam.

 

Diolchwyd i’r Ymgynghorwr AMION Consulting am y cyflwyniad ac i Brif Weithredwr dros dro’r CBC am yr adroddiad. Holwyd ynghylch rhan 10.3 o’r adroddiad, y Dyraniadau Ymyriadau, gan ofyn a yw’r ffigyrau a’r canrannau sydd wedi eu nodi yn y tabl yn gywir o ran y cydbwysedd ac os bydd hyblygrwydd yn y dyfodol petai cyfle arall yn amlygu ei hun. Cadarnhawyd bod y rhaglenni fwyaf effeithiol a cyraeddadwy wedi eu darganfod a bob blwyddyn bydd y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Cyflawni  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.