Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn Gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn Gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26. 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Charlie McCoubrey gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26

Cofnod:

Bu i Cyng. Charlie McCoubrey gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC), Rhun ap Gareth (Cyngor Sir Conwy) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 204 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar  21 Mawrth, 2025 fel rhai cywir.

7.

CALENDR CYFARFODYDD pdf eicon PDF 200 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y calendr drafft ar gyfer cyfnod hyd at fis Mehefin 2026.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwywyd y calendr drafft ar gyfer cyfnod hyd at fis Mehefin 2026.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adorddiad gan nodi fod gofyniad i’r Cydbwyllgor dderbyn calendr er mwyn penderfynu ar amlder ei gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn gyngor canlynol. Amlygwyd fod dyddiadau yn ei lle ar gyfer y Cydbwyllgor ynghyd â thri o’r is bwyllgorau - sef Is-bwyllgor Lles Economaidd, Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol ac yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol.

 

Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sefydlu’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bod angen gosod rhaglen waith. Eglurwyd fod bwriad i hysbysebu am aelodau i’r Pwyllgor Safonau ar ôl yr haf, ac o ran y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu fod pump o’r awdurdodau wedi derbyn yr adroddiad i’w sefydlu ond eu bod yn parhau i ddisgwyl am benderfyniad un sir.

 

8.

CYFETHOL AELODAETH I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 217 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Bod y Swyddog Monitro yn adolygu egwyddorion cyfethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a'i is-bwyllgorau fel y nodir yn y Rheoliadau Sefydlu (fel y'u diwygiwyd) a'r canllawiau statudol.
  2. Bod yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori â'r pedwar darparwr Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn perthynas â'u haelodaeth ar yr is-bwyllgor Lles Economaidd i'w adrodd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.
  3. Mewn perthynas â llywodraethu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol, y rhoddir ystyriaeth i'r opsiynau ynghylch creu aelodaeth ymgynghorol neu grwpiau cyswllt rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur, y Trydydd Sector, Cymdeithasau Tai, y sector preifat ac iechyd, ac y byddai’r telerau hyn yn darparu ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chydweithio wrth gefnogi gwneud penderfyniadau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.
  4. Bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a Phrif Weithredwyr yr Awdurdodau Cyfansoddol gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydag argymhelliad ynghylch y model ar gyfer cyfethol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd:

                     i.         Bod y Swyddog Monitro yn adolygu egwyddorion cyfethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a'i is-bwyllgorau fel y nodir yn y Rheoliadau Sefydlu (fel y'u diwygiwyd) a'r canllawiau statudol.

 

                   ii.          Bod yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori â'r pedwar darparwr Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn perthynas â'u haelodaeth ar yr is-bwyllgor Lles Economaidd i'w adrodd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.

 

                 iii.          Mewn perthynas â llywodraethu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol, y rhoddir ystyriaeth i'r opsiynau ynghylch creu aelodaeth ymgynghorol neu grwpiau cyswllt rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur, y Trydydd Sector, Cymdeithasau Tai, y sector preifat ac iechyd, ac y byddai’r telerau hyn yn darparu ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chydweithio wrth gefnogi gwneud penderfyniadau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

                 iv.          Bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a Phrif Weithredwyr yr Awdurdodau Cyfansoddol gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydag argymhelliad ynghylch y model ar gyfer cyfethol.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen am drafodaeth ar sefydlu trefniadau llywodraethu, a bod yr adroddiad hwn yn rhan o’r broses i ddod i’r afael a’r gofynion yn y canllawiau statudol. Eglurwyd fod y canllaw yn nodi'r angen i gynnwys eraill yn weithredol yng ngwaith y Cyd-bwyllgor ar draws swyddogaethau. Amlygwyd fod trafodaeth am sedd a phleidlais i’r sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ond nodwyd yr angen i greu proses fydd yn mynd i’r afael a hyn.

 

Eglurwyd mai cam cyntaf yn y daith yw’r adroddiad hwn er mwyn cael cynllun pendant, ond nodwyd yr angen i barchu democratiaeth ond fod model ymarferol yn ei le er mwyn gwneud y gwaith.

 

9.

DIWEDDARIAD RHAGLEN WEITHREDU ÔL-DROSGLWYDDO'R CBC 2025-26 pdf eicon PDF 195 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro a David Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu’r CBC i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ôl drosglwyddo ar ddatblygiad y prosiect a pharhad cynnydd y rhaglen weithredu i gefnogi sefydliad parhau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro a David Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu’r CBC.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ôl drosglwyddo ar ddatblygiad y prosiect a pharhad cynnydd y rhaglen weithredu i gefnogi sefydliad parhau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn dilyn trosglwyddo ar 1 Ebrill 2025. Amlygwyd fod rhaglen o newid a gwelliant yn seiliedig ar flaenoriaethau a rhai ffactorau cyfyngol ar gyfer y flwyddyn. Mynegwyd fod angen rhagor o waith ar gyfer newid sydd heb ei ddatblygu eto yn y blynyddoedd dilynol. 

 

Nodwyd fod gwaith penodol ar gyfer prosiectau ac i ddatblygu dealltwriaeth y cyhoedd o waith y CBC. Diolchwyd am y diweddariad a nodi’r angen i dderbyn diweddariad ym mis Medi, gan fod angen i waith parhau dros fisoedd yr haf.

 

10.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM pdf eicon PDF 373 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

  • Dderbyn yr adroddiad diweddaru
  • Adolygu’r trefniadau amlinellol arfaethedig ar gyfer Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn cynghori ar y cynnig
  • Adolygu’r Fframwaith Dirprwyo a Phenderfyniad arfaethedig a chynghori ar y cynnig
  • Derbyn adroddiad pellach gyda chynigion manwl yn dilyn y Gweithdy Rhyng-Awdurdod
  • Gyflwyno adroddiad pellach os oes oediad yn un o’r cerrig milltir lefel uchel ar gyfer blwyddyn 1.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau a Iain Taylor, AMION Consulting.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytunwyd i:

·       Dderbyn yr adroddiad diweddaru

·       Adolygu’r trefniadau amlinellol arfaethedig ar gyfer Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn cynghori ar y cynnig

·       Adolygu’r Fframwaith Dirprwyo a Phenderfyniad arfaethedig a chynghori ar y cynnig

·       Derbyn adroddiad pellach gyda chynigion manwl yn dilyn y Gweithdy Rhyng-Awdurdod

·       Gyflwyno adroddiad pellach os oes oediad yn un o’r cerrig milltir lefel uchel ar gyfer blwyddyn 1.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ac yn amlygu’r fframwaith ac yr amserlen ar gyfer y dyfodol. Amlygwyd fod y cynllun wedi cyflwyno Parth 4 yn ôl ym mis Mai, a'u bod yn gobeithio derbyn adborth ym mis Mehefin, ac y bydd unrhyw newidiadau sylweddol a fydd yn ofynnol i'r ymyriadau ddod yn ôl i'r CBC I'w cytuno.

 

Eglurwyd fod y tîm yn paratoi Porth 5 I'w gyflwyno, gyda’r elfennau allweddol yn cynnwys cerrig milltir Parth Buddsoddi, Rhaglen y Parth Buddsoddi a Chofrestr Risg Parth Buddsoddi. Tynnwyd sylw at y tabl cerrig milltir allweddol sydd yn amlygu dyddiadau hyd at ddiwedd Rhagfyr.

 

Wrth symud ymlaen, amlygwyd fod gan y cynllun gyllideb o £10m, a byddant yn cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru I'w wario. Nodwyd yr angen i sefydlu’r Bwrdd Cynghori, fel y nodwyd yn Mhorth 3. Nodwyd fod Bwrdd Cynghori dros dro yn ei le ar gyfer y cyfnod interim ac amlygwyd yr angen i greu is-fwrdd sgiliau yn ychwanegol, ac ei fod yn y broses o gael ei brosesu.

 

Eglurwyd yn dilyn Galwad am Brosiectau 2024, fod ystod eang o gynlluniau buddsoddi posib a galw sylweddol am raglen cymorth wedi ei hadnabod. Eglurwyd fod y broses cyfle buddsoddi wedi adnabod yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith angenrheidiol i ddatgloi’r safleoedd datblygu mwyaf. Nodwyd y bydd angen i symud yn gyflym. Eglurwyd fod achos busnes wedi'i dderbyn ar gyfer Project Prince gan Knauf Insulation ac mae Cynllun Prosiect Amlinellol wedi'i dderbyn gan Pochin/Goodman ar gyfer eu tir yn Airfields, Glannau Dyfrdwy. Mynegwyd fod Airbus yn datblygu'r achos dros y Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch wrth ymyl eu campws yng Nglannau Dyfrdwy.

 

Esboniwyd fod gweithdy rhwng y CBC a Chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd Mehefin, er mwyn gweithio drwy’r manylion sy’n ymwneud a sut y gwneir penderfyniadau a sut y bydd rhaglen yn gweithredu dan ddirprwyaethau gan y CBC. Nodwyd fod yr egwyddorion allweddol yn cynnwys fod y CBC yn dirprwyo gweithrediad cyfrifoldeb y Corff Atebol I'r Is-bwyllgor Lles Economaidd, a bod yr is-bwyllgor yn dyrannu adnoddau i gefnogi, i reoli’r broses sicrwydd ar gyfer holl brosiectau sydd uwchlaw cais grant o £5m. Mynegwyd fod goblygiadau yn ymwneud a gweinyddu £160m o Gyllid Grant Hyblyg a dyraniadau ar gyfer Rhyddhad Trethu, yn enwedig Rhyddhad Ardrethu Busnes. Eglurwyd y bydd trefniadau ariannol manwl fel y’u nodir yn y Llythyr Cyllid Grant, y Memorandwm gyda Llywodraeth Cymru a’r DU ynghyd a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Leol rhwng y CBC a’r Cynghorau Sir  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF BUEGC AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 247 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu y sefyllfa alldro terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu'r sefyllfa alldro terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro for yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd, ond yn ei gyflwyno er cymeradwyaeth. Ategwyd eu bod yn anelu i gyflwyno mewn ffurf datganiad o gyfrifon drafft ym mis Gorffennaf.

 

Eglurwyd fod y sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn danwariant o bron i £386k, a'i fod yn gynnydd o’r tanwariant a ragwelwyd yn adolygiad mis Rhagfyr. Nodwyd fod hyn yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad mewn gwariant ar sawl un o benawdau’r gyllideb. Mynegwyd fod tanwariant net terfynol ar bennawd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn £75,140, oherwydd tanwariant ar wariant gweithwyr. Roedd hyn, eglurwyd o ganlyniad i chwyddiant is ‘na beth oedd wedi ei gyllidebu ynghyd ac estyniad ar grant Cronfa Ffyniant Cyffredin tan ddiwedd Mawrth 2025.

 

Mynegwyd fod tanwariant o Wasanaethau Cefnogol gan y Corff Atebol yn bennaf oherwydd tanwariant ar Gymorth y Gwasanaeth Cyllid. Amlygwyd tanwariant terfynol y Cyd-bwyllgor ac amlygwyd y rhesymau dros danwariant ar bob pennawd. Nodwyd fod gwariant heb ei gyllidebu o £2.8m ar Drosglwyddiadau i Gronfeydd wrth Gefn. Amlygwyd fod y Bwrdd yn ôl ym mis Chwefror wedi cymeradwyo defnyddio'r llog a dderbyniwyd ar Falansau Bargen Twf o 2024-26 i ariannu rolau ychwanegol a chostau datblygu ychwanegol, ac i gadw adnoddau cyfredol y Swyddfa Rheoli Portffolio am 2 flynedd ychwanegol tu hwnt i fis Mawrth 2026.

 

O ran y prif ffrydiau incwm, amlygwyd ei fod yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw grant Bargen Twf Gogledd Cymru, cyfraniad y CBC ar gyfer secondiad staff, grant ynni Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a'r gronfa wrth gefn wedi'i glustnodi. Nodwyd fod y sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn yw tanwariant o bron i £386k ac mae hyn yn gynnydd o beth y rhagwelwyd. Eglurwyd er mwyn gadael sefyllfa niwtral am y flwyddyn, nodwyd y byddan yn tynnu £714k i lawr o Grant Bargen Twf Gogledd Cymru yn hytrach nac y £1.1m oedd wedi ei nodi.

 

Wrth amlygu y cronfeydd wrth gefn nodwyd fod cyfanswm y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2025 yn £211k. Bu i’r Bwrdd, yn ei gyfarfod ym mis Chwefror ddefnyddio £61k o’r gronfa wrth gefn hon fel rhan o gyllideb 2025-26. Mynegwyd fod  balans y gronfa prosiectau yn £29k, ac eglurwyd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu costau prosiect Ynni lleol. Amlygwyd fod balans y gronfa log yn £4.7m ac y gronfa adnoddau yn £2.8m.

 

Nodwyd fod adolygiad diwedd blwyddyn y rhaglen Gyfalaf yn dangos gostyngiad net o £13.3m, a bod hyn o ganlyniad i lithro pedwar prosiect ynghyd a chael gwared ar brosiect arall. Eglurwyd fod dechrau ar brosiectau yn ystod y flwyddyn wedi dwyn rhywfaint o’u gwariant proffil ymlaen.

 

Eglurwyd fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU 2024/25 pdf eicon PDF 219 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2024/25 i'r Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) a chael cymeradwyaeth y Ffurflen Flynyddol swyddogol ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2024/25 i'r Cydbwyllgor Corfforedig (CBC) a chael cymeradwyaeth y Ffurflen Flynyddol swyddogol ar gyfer 2024/25.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi gan fod trosiant y Cyd-bwyllgor yn is ‘na £2.5m, mai ffurflen flynyddol yn hytrach na datganiad cyfrifon llawr fydd ei angen er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol.

 

Mynegwyd fod y sefyllfa alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn yn danwariant o bron i £402k, ac eglurwyd fod hyn wedi cynyddu o beth ragwelwyd yn adolygiad mis Rhagfyr. Nodwyd fod hyn yn bennaf oherwydd na fydd y gwariant ar ymgynghorwyr allanol ar gyfer Cynllunio Strategol yn cychwyn nes 2025/26.

 

Tywyswyd drwy benawdau’r gyllideb a amlygwyd tanwariant terfynol o £333,674 ar bennawd Gweithwyr. Nodwyd fod gyllideb lwfans aelodau lleyg yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal o 2025/26. Mynegwyd nad oedd cyllideb teithio a chynhaliaeth wedi ei defnyddio yn ystod y flwyddyn, a bod tanwariant o £129,140 yn erbyn pennawd cyflenwadau a gwasanaethau. Esboniwyd fod ffioedd Archwilio Cymru yn dangos yn negyddol, a bod hyn oherwydd bod y ffioedd a gyfrifwyd yn y blynyddoedd blaenorol yn uwch na’r symiau gwirionedd ac wedi eu gwrthdroi yn 2024/25. Yn ogystal, roedd ffioedd yn is oherwydd mai Ffurflen Flynyddol yn hytrach na set lawr o gyfrifon sydd angen eu harchwilio. Amlygwyd fod gwariant ymgynghorwyr allanol o £222,231 o ariannwyd £180,517 gan Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod tanwariant ar y costau yswiriant, gan mai polisi interim oedd yn bodoli gyda’r polisi llawn yn dechrau mis Ebrill 2025.

 

Eglurwyd fod gwariant net, o £195,753. Nodwyd fod gwariant ar y costau cyfreithiol a democratiaeth yn cynnwys costau cwmni cyfreithiol allanol yn ogystal ag ymgynghorydd cyfreithiol a democrataidd a gomisiynwyd i ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar sefydlu’r CBC.

 

Mynegwyd fod y CBC yn llwyddiannus yn ei gais i Lywodraeth Cymru am gyllid tuag at y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, a dyfarnwyd £125k yn 2023/24 a £100k yn 2024/25. Derbyniwyd llog a dderbyniwyd ar falasnau ar gyfer 2024/25 oedd £57,723. Eglurwyd fod cyfraniad o’r gronfa wrth gefn o £83k sy’n ymwneud â’r costau'r Parth Buddsoddi yn cael eu had-dalu unwaith y bydd yr incwm grant yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor nodi a derbyn y gwir wariant ac incwm ar gyfer 2024/25, ac i gymeradwyo’r tanwariant o £402k i’r gronfa wrth gefn wedi’i glustnodi i roi cyfanswm o £1,113k. Ychwanegwyd fod £565k o hwn wedi ei gymeradwyo i’w ddefnyddio fel rhan o gyllideb 2025/26.

 

13.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 pdf eicon PDF 212 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod penderfyniadau rheolaeth trysorlys yn cael ei wneud yn ddyddiol, ac mae’n ofynnol i’r Adran Gyllid yng Nghyngor Gwynedd weithredu yn unol â’r Strategaeth Rheolaeth Trysorlys sydd wedi ei gymeradwyo. Bu i drosglwyddiad y Bwrdd Uchelgais i’r CBC ddigwydd ar 1 Ebrill 2025, ac felly mae’r datganiad yn cynnwys balansau arian y CBC a BUEGC.

 

Eglurwyd fod y datganiad wedi ei seilio ar Côd CIPFA a’r Canllaw ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru, ac felly yn cyflawni cyfrifoldeb cyfreithiol y CBC dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Esboniwyd fod rheolaeth trysorlys yn ymwneud â chadw digonedd ond nid gormodedd o arian parod i ddiwallu anghenion gwariant y CBC, gan reoli risgiau cysylltiedig â tharo’r cydbwysedd cywir rhwng risg ac enillion. Mynegwyd er mwyn ffurfio’r Strategaeth yma, eglurwyd fod yr adran wedi derbyn cyngor arbenigol gan ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys, Arlingclose. Eglurwyd fod y buddsoddiadau yn gyson gyda math o fuddsoddiadau mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud, a bod cyfyngiadau yn y swm a ganiateir ar gyfer pob sefydliad er mwyn lledaenu’r risg.

 

14.

POLISI TAL 2025/26 pdf eicon PDF 175 KB

Eurig Huw Williams, HR Service Manager to present the report.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Datganiad Polisi Tal ar gyfer y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadwyd Datganiad Polisi Tal ar gyfer y Cydbwyllgor ar gyfer 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen mabwysiadu Datganiad Polisi Tal ar gyfer 2025/26. Eglurwyd fod y polisi yn cael ei adolygu yn flynyddol, a'i fod yn debyg iawn i beth a gytunwyd arno'r llynedd. Amlygwyd fod y polisi eleni yn nodi cyflog y Prif Weithredwr.