Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Sera Jane Whitley
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd) a Dewi Aeron Morgan (Swyddog Cyllid Statudol y CBC). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MEDI 2025 Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Medi, 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 19 Medi, 2025 fel rhai cywir. |
|
|
Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd a chymeradwywyd adroddiad ISA 260 gan Archwilio
Cymru ar gyfer y BUEGC. Ystyriwyd a chymeradwywyd Datganiad o Gyfrifon terfynol y
BUEGC (ôl archwiliad) ar gyfer 2024/25). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol
Cyllid. PENDERFYNWYD: Ystyriwyd a chymeradwywyd adroddiad ISA 260 gan Archwilio
Cymru ar gyfer y BUEGC. Ystyriwyd a chymeradwywyd Datganiad o Gyfrifon terfynol y
BUEGC (ôl archwiliad) ar gyfer 2024/25). TRAFODAETH Cyflwynwyd cyfrifon terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru ar gyfer 2024/25, ynghyd ag adroddiad yr archwiliwr allanol, sef
yr adroddiad ISA260. Eglurwyd bod swyddogaethau'r Bwrdd Uchelgais Economaidd
wedi trosglwyddo i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ers 1 Ebrill 2025, a hwn
yw’r datganiad cyfrifon olaf, a bydd yn cael ei gynnwys fel rhan o Ddatganiad
Cyfrifon y Cydbwyllgor Corfforedig o 2025/26 ymlaen. Sicrhawyd bod y Datganiad Cyfrifon blynyddol wedi eu paratoi
yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gyfrifyddu mewn Awdurdodau Lleol. Amlygwyd fod yr aelodau wedi derbyn y
wybodaeth ddwy waith yn barod. . Esboniwyd bod datganiadau wedi cael eu hadolygu erbyn hyn
gan Archwilio Cymru, sef yr archwilwyr allanol.
Amlygwyd bod yr archwiliwr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar
gyfrifon eleni unwaith y byddent wedi derbyn Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar
yr hyn a nodir yn Atodiad 4 o adroddiad yr archwilwyr. Tynnwyd sylw at un camgymeriad na gafodd ei gywiro oherwydd
nad oedd modd dyrannu anfoneb gan un cyflenwr i wariant 2024/25 a 2025/26, ond
nid oedd yn cael effaith materol ar y cyfrifon. Eglurwyd bod dudalennau 86 ac
87 yn dangos crynodeb o’r cywiriadau a wnaethpwyd. Ymhelaethwyd fod y cywiriad cyntaf yn deillio o rediad taliadau
a wnaethpwyd ar 31 Mawrth; roedd wedi ei ddangos fel “credydwyr” ac arian yn y
banc gan nad oedd yr arian wedi mynd allan o’r cyfrif ond roedd yr archwilwyr
o’r farn dylid ei gynnwys fel “cash in transit” gan nad oedd ymrwymiad
presennol o ran y ddyled ar ddiwedd 31 Mawrth. Cydnabuwyd bod hyn yn fater
technegol ac nid oedd yn effeithio ar farn yr archwiliad. Roedd yr ail
gyfeiriad yn ymwneud â’r wybodaeth yn Nodyn 24, ac nid oedd yn cael effaith ar
y ffigyrau yn y cyfrifon ei hun. Nodwyd bod cynllun y
flwyddyn wedi ei gyflwyno i’r Cyd-Bwyllogr yn ôl ym mis Medi. Cyflwynwyd
canlyniad yr archwiliad, a nodwyd ei fod yn bositif ac yn cloi'r hen Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cyfeirwyd at risg annibyniaeth y tîm Archwilio oherwydd
perthynas Rheolwr Archwilio ag aelod o’r grŵp gweithredol. Cydnabuwyd bod
Archwilio Cymru yn fodlon a’r trefniadau i osgoi risg. Diolchwyd i’r tîm yn Archwilio Cymru am eu gwaith ar yr
archwiliad ac i’r tîm yn Adran Gyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn paratoi’r
Datganiad o Gyfrifon. Gofynnwyd i’r Cadeirydd, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig), arwyddo’n
electronig y Cyfrifon a’r Llythyr Sylwadau (Atodiad 4 i adroddiad Archwiliwr
Cyffredinol Cymru) wedi i’r Cyd-Bwyllgor ystyried yr uchod cyn eu hanfon at
Archwilio Cymru. |
|
|
FFURFLEN FLYNYDDOL CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU 2024/25 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Ffurflen Flynyddol ddiwygiedig y CBC ar gyfer
2024/25 (ar ôl archwiliad allanol). Mae wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol
gan Swyddog Cyllid Statudol y CBC (Atodiad 1). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid. PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd Ffurflen Flynyddol ddiwygiedig y CBC ar gyfer 2024/25 (ar ôl archwiliad allanol). Mae wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y CBC (Atodiad 1). TRAFODAETH Adroddwyd bod Ffurflen Flynyddol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig 2024/25 ger bron yr Aelodau, yn dilyn archwiliad gan Archwilio Cymru. Amlygwyd bod y Ffurflen yma wedi cael eu cyflwyno i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar ffurf drafft ynghyd ag adroddiad alldro ar 13eg o Fehefin. Nodwyd bod yn yr un modd â chyfrifon y Bwrdd Uchelgais Economaidd, fod newid i’r Ffurflen oherwydd y rhediad taliadau, gwerth £13 mil a redwyd ar 31 Mawrth. Eglurwyd bod y swm yma wedi ei ddangos fel “credydwyr” ac arian yn y banc gan nad oedd yr arian wedi mynd allan o’r cyfrif ond roedd yr archwilwyr eto o’r farn dylid ei gynnwys fel “cash in transit” gan nad oedd ymrwymiad presennol o ran y ddyled ar ddiwedd 31 Mawrth. Gofynnwyd i’r Cadeirydd arwyddo’r ffurflen cyn iddi gael ei hanfon i Archwilio Cymru, a gofynnwyd i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig gymeradwyo Ffurflen Flynyddol ddiwygiedig y CBC ar gyfer 2024/25 (ar ôl archwiliad allanol). Nodwyd ei fod wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y CBC Diolchwyd am y diweddariad. . |
|
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi Cyngor Gwynedd i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad er gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Delyth Jones-Thomas, Rheolwr
Buddsoddi Cyngor Gwynedd. PENDERFYNWYD: Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad er gwybodaeth. TRAFODAETH Amlygwyd fod yr aelodau wedi cymeradwyo strategaeth rheolaeth
trysorlys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig am y cyfnod 2025/26 yn y cyfarfod ym mis
Mehefin 2025. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig gael
diweddariad ar y sefyllfa yn rheolaidd, ac mae’r diweddariad yma yn edrych ar y
cyfnod hyd at 30 o Fedi 2025. Nodwyd ei bod wedi bod yn gyfnod prysur yn y marchnadoedd
ariannol. Tynnwyd sylw at adran 6, lle
adroddwyd buddsoddiadau arian ar ran y Cyd-Bwyllgor gan gynnwys:
Pwysleisiwyd ei bod yn ofynnol i fuddsoddi arian
Cyd-Bwyllgor Corfforedig fod yn ddarbodus, gan roi ystyriaeth i ddiogelwch a
hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio am y gyfradd enillion uchaf. Manylwyd bod
yr amcan wrth fuddsoddi arian yw’r taro cydbwysedd cywir rhwng risg ac
enillion, gan sicrhau bod hylifedd ar gael i dalu am weithrediadau dydd i ddydd
y Cyd-Bwyllgor. Nodwyd bod y dychweliadau dros y cyfnod wedi bod yn dderbyniol
rhwng 3.4% a 4.1%. Adroddwyd bod gan y Cyd-Bwyllgor gyfyngiadau buddsoddi ac
mae hyn er mwyn lledaenu’r risg dros wahanol sefydliadau. Cadarnhawyd y
cydymffurfiwyd yn llawn gyda’r cyfyngiadau.
Nodwyd bod swyddogion yn mynychu hyfforddiant parhaus gyda Arlingclose, sef ymgynghorwyr ariannol, er mwyn deall
amodau’r farchnad. |
|
|
DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN TRAWSNEWID A GWELLA 2025-26 Alwen Williams, Prif Weithredwr a Dave Hole, Arweinydd Rhaglen i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodwyd diweddariad cynnydd a'r heriau cyfredol o ran
trawsnewidiad a gwelliant parhaus y CBC yn ystod 2025/26. Cyfarwyddwyd bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym
mis Mawrth 2026 i roi diweddariad ar gyflawni rhaglen 2025/26, gan gynnwys y
rhaglen arfaethedig newydd ar gyfer 2026/27. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
a Dave Hole, Arweinydd Rhaglen. PENDERFYNWYD: Nodwyd diweddariad cynnydd a'r heriau cyfredol o ran
trawsnewidiad a gwelliant parhaus y CBC yn ystod 2025/26. Cyfarwyddwyd bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym
mis Mawrth 2026 i roi diweddariad ar gyflawni rhaglen 2025/26, gan gynnwys y
rhaglen arfaethedig newydd ar gyfer 2026/27. TRAFODAETH Cyflwynwyd y Rhaglen Trawsnewid a Gwella 2025/26. Nodwyd mai
pwrpas yr adroddiad yw diweddaru Aelodau’r CBC ar gynnydd cyfredol, heriau, a’r
camau nesaf ar gyfer trawsnewid a gwella parhaus y CBC. Darparwyd cyd-destun ac atgoffwyd yr Aelodau fod y CBC
bellach yn gweithredu fel endid corfforaethol sefydledig gyda'r awdurdod i
gyflogi staff a galluogi trefniadau llywodraethu cadarn. Atgoffwyd yr Aelodau
fod y Cynllun Twf, ei chyllid, a’i gweithwyr wedi’u trosglwyddo i’r CBC a’r
brand Uchelgais Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2025, gyda lansiad rhaglen
ddiwygiedig ac uchelgeisiol ar gyfer 2025/26 sy’n adeiladu ar gynllun
gweithredu’r CBC ac yn cyflawni rhaglen o welliant parhaus. Ymhellach, nodwyd
bod y Prif Weithredwr wedi cael ei phenodi ym mis Mehefin 2025, ac yn
gweithredu fel yr uwch berchennog cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid a
Gwella. Amlygwyd bod y rhaglen yn uchelgeisiol a rhestrwyd yr heriau
allweddol, gan gynnwys y gallu i recriwtio a chadw staff medrus, cwblhau’r
cytundebau lefel gwasanaeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd gyda Chyngor
Gwynedd, rheoli capasiti adnoddau ochr yn ochr â
gweithrediad busnes arferol, a gweithredu o fewn y cyfyngiadau cyllidebol a
neilltuwyd. Rhestrwyd ymhellach ffactorau allanol sydd wedi effeithio ar
gynnydd, gan gynnwys oedi wrth lansio prosbectws Llywodraeth Cymru, a
dyraniadau grantiau. Mynegwyd fod prosiectau fel gweithredu rheolaeth
pwyllgorau a gwe-darlledu wedi cael eu gohirio oherwydd y dibyniaethau hyn, ond
bydd y rhain yn parhau i gael eu datrys yn y misoedd nesaf. Nodwyd bod datblygiad rhaglen newid newydd sy’n edrych
ymlaen ar y gweill, a bydd ‘roadmap’ ar gyfer y
blynyddoedd dilynol yn parhau i ddatblygu. Bydd y blaenoriaethau allweddol yn
dangos newid o fewn y rhaglen, ac mae’r rhain wedi’u rhestru yn adran 5.6 o’r
adroddiad. Ymhelaethwyd fod y rhaglen yn cael ei chefnogi gan adnoddau
mewnol ac allanol, o ran ystyriaethau ariannol a llywodraethu. Nodwyd mai
cyllidebau a chyllid grant wedi’u nodi, ond wrth i anghenion sefydliadol
esblygu efallai y bydd potensial i ofyn am gyllid ychwanegol. Cadarnhawyd bod
ymatebion swyddogion statudol yn cadarnhau cywirdeb y wybodaeth ac yn tynnu
sylw at yr her barhaus o gydbwyso capasiti â gofynion
trawsnewid. Hysbyswyd yr Aelodau, er mwyn sicrhau llywodraethu da ac
atebolrwydd corfforaethol, fod yn rhaid i’r CBC dderbyn diweddariadau rheolaidd
ar weithgareddau trawsnewid a gwella. Nodwyd pryderon ynghylch cadw a recriwtio staff, ac fe’i
hamlygwyd fel problem bosib ar gyfer y dyfodol. Ymhelaethwyd bod adnoddau’n
brin yng Ngogledd Cymru, yn enwedig mewn meysydd arbenigedd fel caffael a
pholisi, ac mae’n hanfodol peidio â chymryd adnoddau gan awdurdodau lleol.
Cadarnhawyd bod y Prif Weithredwr yn bwriadau tynnu sylw at heriau recriwtio yn
yr adroddiad ar gyfer mis Mawrth 2026. Mynegwyd pryder ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
ADRODDIAD CHWARTEROL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL Adam
Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd yr adroddiad a'i atodiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Adam Graham, Uwch Swyddog
Trafnidiaeth. PENDERFYNWYD: Nodwyd yr adroddiad a’i atodiad. TRAFODAETH Adroddwyd bod yr Adroddiad Chwarterol wedi cael eu cyflwyno
i’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn y cyfarfod ar 6 Hydref. Nodwyd bod yr
Adroddiad Chwarterol yn cael ei gyflwyno i’r CBC er mwyn nodi'r gwaith a
gwblhawyd gan yr Is-bwyllgor a gan y swyddogion sy’n gweithio ar y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Eglurwyd oherwydd natur y ffordd y mae’r gwaith yn symud
ymlaen, fod rhywfaint o’r cynnwys yn yr Adroddiad Chwarterol bellach wedi
dyddio, ond tynnwyd sylw at y cynnwys oedd wedi newid ers hynny, sef: ·
Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi’i
gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ac
wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru bellach. ·
Cyflwynwyd y Rhaglen Arfaethedig o Gynlluniau,
ynghylch Cronfa Trafnidiaeth
Rhanbarthol, i Lywodraeth Cymru'r wythnos diwethaf ac felly nawr yn aros am
adborth gan Lywodraeth Cymru. Cytunwyd y byddai Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn cael ei wahodd i gyfarfodydd yn y dyfodol i gyflwyno adroddiadau chwarterol. |
|
|
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - CYNLLUN CYFLAWNI BLYNYDDOL BLWYDDYN 1 Alwen Williams, Prif Weithredwr a Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriwyd yr eitemau a ganlyn i'w cymeradwyo: • Dyraniadau buddsoddi'r Cynllun Cyflawni Blynyddol; • Rhaglenni'r Parth Buddsoddi fel y nodir yn Adran 3 yr
adroddiad hwn; • Cylch Gorchwyl Gweithgor Parth Buddsoddi Sir y Fflint a
Wrecsam (Atodiad 1); • Y caniateir i Swyddog Adran 151 y CBC lofnodi a chyhoeddi
dogfennau'r Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a
gwneud unrhyw ddiwygiadau ansylweddol pellach sy'n angenrheidiol i gytuno ar y CCB
gyda'r ddwy Lywodraeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
a Iain Taylor, AMION Consulting PENDERFYNWYD: Ystyriwyd yr eitemau a ganlyn i'w cymeradwyo: • Dyraniadau buddsoddi'r Cynllun Cyflawni Blynyddol; • Rhaglenni'r Parth Buddsoddi fel y nodir yn Adran 3 yr
adroddiad hwn; • Cylch Gorchwyl Gweithgor Parth Buddsoddi Sir y Fflint a
Wrecsam (Atodiad 1); • Y caniateir i Swyddog Adran 151 y CBC lofnodi a
chyhoeddi dogfennau'r Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw ddiwygiadau ansylweddol pellach sy'n angenrheidiol i gytuno ar y CCB
gyda'r ddwy Lywodraeth. TRAFODAETH Adroddwyd ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 1 ar
gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Nodwyd bod hwn yn gyfle cyffrous
i Sir y Fflint a Wrecsam, ac i Ogledd Cymru i gyd. Ymhelaethwyd y bydd hyn yn
cyflawni statws byd-eang gwell yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch yng Ngogledd
Cymru. Adroddwyd bod y Parth Buddsoddi bellach yn y cyfnod
cyflawni. Atgoffwyd Aelodau bod rhaid gosod cynllun cyflawni bob blwyddyn, a’r
bwriad ydi cyflawni allbwn y rhaglen ym mhob blwyddyn. Hysbyswyd yr aelodau fod
cymeradwyaeth yn cael ei geisio ar gyfer cynllun cyflawni’r flwyddyn gyfredol,
a ddechreuodd ym mis Ebrill 2025. Eglurwyd y byddai cymeradwyaeth yn galluogi’r CBC i
gyflwyno’r Cynllun Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 1, a fyddai’n sbarduno’r
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth derfynol wedi’i lofnodi a’r llythyr cynnig grant
ar gyfer cronfeydd blwyddyn un. Ymhelaethwyd y byddai gwaith paratoi yn cychwyn
ar gronfa Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 2, a bydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2026.
Eglurwyd y bydd hyn yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Gwaith Sir y Fflint a
Wrecsam ac hefyd i’r CBC. Manylwyd bod y rhaglen wedi’i hen sefydlu, a fod yn cwmpasu
sgiliau, cymorth busnes, seilwaith, ac ati. Nodwyd bwriad i gydweithio â
phartneriaid ar draws Gogledd Cymru, ac i bartneriaid gyflawni rhaglenni
datblygu arloesedd a chynigion ar gyfer
partneriaethau allweddol gyda chwmnïau gweithgynhyrchu ac ar gyfer dylunio a
datblygu'r rhaglen de-garboneiddio ymhellach. Adroddwyd bod cynigion gan Goleg Cambria a Phrifysgol
Wrecsam wedi cael eu derbyn ar gyfer y cam gyntaf o’r rhaglen sgiliau, ac mi
fydd y rhain yn cael eu rhannu gyda Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Nodwyd y
byddai'r CBC yn penderfynu ar y rhaglen sgiliau fel mai o’n dod yn ei flaen.
Ymhelaethwyd mai’r bwriad yw ymrwymo i
gytundebau ariannu i lansio rhaglen cymorth busnes yn Sir y Fflint a Wrecsam, a
fydd yn gweld busnesau yno’n gwneud cais am grant a
chymorth. Nodwyd bod yr adroddiad yn adrodd ar weithgareddau lefel
uchel a’r dyraniadau ariannol ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf. Pwysleisiwyd yr
angen i ystyried dyraniadau blwyddyn un yn y cyfarfod hwn. Ychwanegwyd y byddai penderfyniadau ynghylch y Parth Buddsoddi yn cael eu gwerthuso a’u cytuno gydag arweinwyr Sir y Fflint a Wrecsam, ond bydd yr adroddiad gyda’r CBC i’w gytuno yn derfynol. Byddai mandad yn cael eu rhoi i Swyddog Cyllid Statudol y CBC i lofnodi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol gyda’r amod bod unrhyw addasiadau ansylweddol yn cael eu gwneud yn ôl ei ddisgresiwn ac yn cael eu cyflwyno ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau busnes cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytuno trefniadau penodi gan gynnwys manylion swydd a amodau a thelerau cyflog fydd yn destun proses recriwtio gystadleuol. Cofnod: Bu I'r Cadeirydd
gynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau busnes
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â chytuno trefniadau penodi gan gynnwys
manylion swydd ac amodau a thelerau cyflog
fydd yn destun proses recriwtio gystadleuol. |
|
|
PENODI CYFARWYDDWR PORTFFOLIO AR GYFER Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Alwen
Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad: Cytunwyd i hysbysebu swydd Cyfarwyddwr Portffolio ar sail
llawn amser parhaol, ar gyflog blynyddol ar raddfa hyd at £93,163. Awdurdodwyd cychwyn proses recriwtio i benodi Cyfarwyddwr
Portffolio. Cytunwyd bod cynnal y broses recriwtio, gan gynnwys yr
hysbysebu, yn cael ei dirprwyo i’r Prif Weithredwr. Addaswyd y gofynion ieithyddol yn y Swydd Ddisgrifiad i
gynnwys fod y gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol yn hytrach
na’ hanfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr PENDERFYNWYD: Cytunwyd i hysbysebu swydd Cyfarwyddwr Portffolio ar sail
llawn amser parhaol, ar gyflog blynyddol ar raddfa hyd at £93,163. Awdurdodwyd cychwyn proses recriwtio i benodi Cyfarwyddwr
Portffolio. Cytunwyd bod cynnal y broses recriwtio, gan gynnwys yr
hysbysebu, yn cael ei dirprwyo i’r Prif Weithredwr. Addaswyd y gofynion ieithyddol yn y Swydd Ddisgrifiad i
gynnwys fod y gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol yn hytrach
na’ hanfodol. TRAFODAETH
|